Rydym yn atgoffa preswylwyr i fanteisio ar y Prydau Ysgol Am Ddim sydd ar gael i holl blant ysgol cynradd yn y Sir, cyn dechrau blwyddyn academaidd newydd.
Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gynnig prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd, mewn ymateb i bwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd, gyda’r nod erbyn Medi 2024 y bydd holl blant mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru yn derbyn prydau ysgol am ddim.
Yn gynharach eleni, roedd y cynnig Prydau Ysgol am Ddim i holl blant cynradd yn Sir Ddinbych wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus o ddosbarth derbyn i flwyddyn 6, sy’n golygu fod pob disgybl ysgol gynradd yn Sir Ddinbych wedi cael mynediad i brydau ysgol am ddim cyn dyddiad targed Llywodraeth Cymru.
Os yw rhieni neu ofalwyr yn derbyn budd-daliadau penodol neu os nad yw incwm y cartref yn cyrraedd trothwy presennol y Llywodraeth, efallai bod hawl gan eu plentyn i brydau ysgol am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae’n wych fod disgyblion mewn ysgolion cynradd ar draws Sir Ddinbych yn cael pryd cynnes am ddim a hoffwn gydnabod y gwaith gan ein staff ymroddgar i gyflawni carreg filltir o’r fath ynghynt na’r disgwyl.
“Mae darparu prydau ysgol yn hanfodol i blentyn allu dysgu a datblygu ac mae’r tîm arlwyo yn parhau i weithio gyda chyflenwyr lleol i ddarparu pryd cytbwys maethlon poeth amser cinio.
“Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i fwyta’n iach ac mae’n gweithio’n galed gydag ysgolion i hyrwyddo iechyd a lles disgyblion.”
I weld y fwydlen neu am fwy o wybodaeth ewch i wefan prydau ysgol Sir Ddinbych