llais y sir

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Sesiynau sgiliau cefn gwlad yn helpu disgyblion Llangollen

Codi waliau sych ar Fryngaer Oes yr Haearn Caer Drewyn

Yn ddiweddar, bu i ddisgyblion o Ysgol Dinas Brân dorchi eu llewys er mwyn dysgu sgiliau rheoli cefn gwlad.

Cafodd y bobl ifanc eu cefnogi gan Swyddogion Ymgysylltu Addysg o wasanaeth Llwybrau'r Cyngor i gymryd rhan mewn sesiynau addysg awyr agored a gynhaliwyd gan Geidwaid Cefn Gwlad o amgylch ardal ddeheuol y sir.

Mae ‘Prosiect Addysg Sir Ddinbych – Tîm Llwybrau’ yn cefnogi pobl ifanc yn Sir Ddinbych i leihau eu risg o ymddieithrio oddi wrth addysg, ac yn eu helpu i ail-ymgysylltu ag addysg neu symud i waith neu hyfforddiant ar ddiwedd blwyddyn 11. Cafodd y gwasanaeth arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Ceidwaid Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi helpu’r disgyblion i ddysgu sgiliau rheoli cefn gwlad a sgiliau eraill trwy’r sesiynau, yn cynnwys:

    • Clirio rhedyn yn Ninas Brân
    • Tynnu ffromlys ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr
    • Garddio yng Ngardd Gymunedol Corwen
    • Gweithgareddau crefftau yn Nhŷ a Gerddi Hanesyddol Plas Newydd gyda thîm Ein Tirlun Darluniadwy
    • Codi waliau sych ar Fryngaer Oes yr Haearn Caer Drewyn
    • Codi sbwriel ar hyd y Panorama

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Rwyf wrth fy modd yn gweld y gwaith gwych sydd wedi’i wneud gyda disgyblion Ysgol Dinas Brân, nid yn unig i gefnogi’r bobl ifanc hyn i ail-ymgysylltu gyda’u haddysg, ond hefyd i ysgogi diddordeb newydd ar gyfer sgiliau efallai na fyddent wedi’u datblygu trwy addysgu yn y brif ffrwd.

“Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth gan wasanaeth Llwybrau’r Cyngor, y mae eu Swyddogion Ymgysylltu Addysg profiadol wedi gwneud gwaith gwych i ddefnyddio sgiliau ac adnoddau o amrywiaeth o sefydliadau gwahanol er mwyn cefnogi’r disgyblion hyn i ail-ymgysylltu gyda’u haddysg a darganfod sgiliau a diddordebau newydd nad oeddent yn ymwybodol ohonynt o’r blaen.”

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r sesiynau hyn sydd wedi’u harwain gan ein Ceidwaid Cefn Gwlad wirioneddol wedi helpu’r disgyblion i fagu eu hyder a dysgu sgiliau newydd, ac maent wedi cael eu gwobrwyo gyda thystysgrifau i ddangos eu hymroddiad tuag at wirfoddoli ar y prosiect hwn.”

Rhandiroedd Prestatyn yn hafan i beillwyr

Blodyn yn y gardd

Mae rhandiroedd ym Mhrestatyn yn rhoi cefnogaeth gref i egin arddwyr a pheillwyr.

Roedd Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd ymlaen mis Awst, yn dathlu bioamrywiaeth yn holl randiroedd y DU, gan edrych ar sut y gall safleoedd helpu i feithrin sgiliau garddio a rhoi rhywbeth yn ôl i natur yn lleol hefyd.

Mae safle rhandiroedd Coed y Morfa, sy’n cael ei reoli gan Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, yn hafan nid yn unig i egin arddwyr a’r rhai sy’n frwd am arddwriaeth, ond hefyd i lu o beillwyr.

Mae’r safle, oedd yn arfer bod yn ardal gwaredu gwastraff, wedi cael ei drawsnewid i randiroedd sydd â 50 gwely plannu uchel, twnnel polythen mawr a nifer o welyau blodau, potiau a basgedi.

Bob dydd Mawrth, mae giatiau'r rhandiroedd ar agor i’r cyhoedd o 3pm - 4.30pm. Bryd hynny, mae croeso i bobl helpu â thasgau garddio, dysgu mwy am sut i dyfu planhigion y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt a chyfarfod â phobl eraill sy’n hoffi garddio.

Dywedodd y Ceidwad Cefn Gwlad, Sasha Taylor:

“Mae gennym hefyd ystod o weithgareddau gwirfoddoli yn y rhandir a’r ardal o’i amgylch. Rydym wedi hau pys gyda’r ysgol gynradd leol, Ysgol y Llys, wedi gwneud rhaffau danadl poethion, torchau Nadoligaidd ac wedi cynnal nifer o arolygon infertebratau yn cynnwys ar gyfer gwenyn, glöynnod byw a gwyfynod.

Rydym wedi cael canlyniadau gwych o’n harolygon gwyfynod dros y blynyddoedd. Cofnodwyd y Teigr Ysgarlad, Siani Flewog, Ŵylun y Derw, y Gwyfyn Mintys a’r Gwalchwyfyn. Ni roddir fawr o sylw i wyfynod yn aml, ond gall eu cofnodi ddweud llawer iawn wrthym am ein cynefinoedd lleol.

Maen nhw yr un mor bwysig â gwenyn a glöynnod byw o ran peillio planhigion ac maen nhw’n gyfrifol am draean yr holl ymweliadau gan beillwyr â blodau, coed a chnydau. Mae rhai mathau o ymchwil yn awgrymu bod gwyfynod yn beillwyr mwy effeithlon na gwenyn hyd yn oed!”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae’n wych clywed sut mae gwaith cymuned rhandiroedd Coed y Morfa yn rhoi hwb i’n peillwyr pwysig. Mae’r safleoedd hyn yn wych i natur a hefyd lles corfforol a meddyliol ein cymunedau.

Os hoffech wybod mwy am y rhandiroedd neu sesiynau gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yna anfonwch e-bost at: sasha.taylor@sirddinbych.gov.uk

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid