Casglu Cardbord
Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf fe wnaethom gasglu 289.96 tunnell o gardbord, ac rydym yn gwerthfawrogi bod preswylwyr wedi gorfod rhoi cardbord ychwanegol allan fel gwastraff ochr oherwydd yr anawsterau gyda'r cyflwyniad gan fod y bag glas yn llawn.
Fodd bynnag, o hyn ymlaen, byddwn ddim ond yn gallu casglu cardbord sydd yn y bag glas. Sicrhewch fod eich cardbord yn ffitio y tu mewn i'r bag a chau'r fflap i'w gadw mor sych â phosibl.
Os
oes gennych chi gardbord ychwanegol nad yw'n ffitio yn eich bag, rhowch ef allan yr wythnos ganlynol, neu ewch ag ef i'ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.
Gallwch wirio'r
canllaw A-Y i ddarganfod sut i ailgylchu'r rhan fwyaf o eitemau cartref ar ein gwefan.