Mae gwaith carbon isel yng nghyfleuster storio’r Cyngor wedi gostwng y defnydd o ynni yn sylweddol ar sail misol bron 75 y cant.
Mae Tîm Ynni y Cyngor wedi cwblhau prosiect i leihau’r defnydd o ynni a hefyd i leihau costau ynni yn hirdymor yn safle Storfeydd Corfforaethol y Cyngor yn Lôn Parcwr, Rhuthun.
Mae’r tîm wedi gweithio ar nifer o brosiectau i helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau’r Cyngor, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chostau ynni yn yr hirdymor.
Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon adeiladau ei hun fel rhan o’r ymateb.
Mae Storfeydd Corfforaethol yn cefnogi gwasanaethau ar draws y Cyngor drwy ddarparu cyfleusterau storio sydd eu hangen.
Gosododd y Tîm Ynni system oleuo LED newydd sy’n gallu helpu i leihau defnydd trydan i oleuo adeiladau o leiaf 50 y cant.
Ynghyd â’r system LED ac 11kW o baneli solar ffotofoltäig hefyd wedi eu gosod ar do’r adeilad i harneisio ynni’r haul i leihau’r defnydd o’r Grid Cenedlaethol. Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r rheolyddion gwresogi hefyd wedi eu cwblhau.
Mae’r gwaith cyfunol hwn wedi gweld gostyngiad o hyd at 75 y cant mewn defnydd ynni yn ystod misoedd yr haf yn y safle gan arwain at arbediad cost o £1109 y mis. Disgwylir arbedion blynyddol o dros £11,000 y flwyddyn. Bydd yr arbedion allyriadau carbon dros 11 tunnell y flwyddyn.
Dywedodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Mae storfeydd corfforaethol yn adeilad unigryw i ni roi sylw iddo gan nad oes yna lawer o ffenestri yn yr adeilad sy’n golygu bron dim golau naturiol ac mae golau yn flaenoriaeth gan ei fod y prif ddefnyddiwr ynni. Mae defnyddio system LED i fynd i’r afael â’r angen am olau rheolaidd yn yr adeilad, a gefnogir gan y paneli ffotofoltäig wedi ein helpu i gyflawni’r gostyngiad mawr hwn mewn defnydd ynni a hefyd costau ynni is dros yr hirdymor.
Mae prosiectau a gwblhawyd mewn adeiladau eraill sy’n eiddo i’r Cyngor hefyd wedi gweld y Tîm Ynni yn llwyddo i gyrraedd carreg filltir bwysig o dros fegawat o gapasiti ynni adnewyddadwy (1099kWp). Cynhyrchir y mwyafrif o’r ynni hwn drwy baneli solar ffotofoltäig ar y to. Gall pob cilowat a gynhyrchir gan baneli ffotofoltäig arbed tua 30 ceiniog.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi ymrwymo i barhau i sicrhau fod yr ôl-troed carbon yn gostwng ar draws y sir drwy edrych ar adeiladau sy’n eiddo i ni a datblygu prosiectau i helpu i dorri allyriadau ac arbed costau ynni yn yr hirdymor. Yn ogystal ag edrych ar ein hadeiladau rydym hefyd yn canolbwyntio ar brosiectau i gefnogi’r gwaith o leihau allbwn carbon o'n fflyd, cerbydau preifat yn ogystal â hybu gwytnwch bioamrywiaeth ar draws y sir.