llais y sir

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Lle mae’r holl bryfetach wedi mynd?

Efallai eich bod wedi sylwi, neu wedi darllen erthyglau newyddion, sy’n sôn am y prinder o bryfetach eleni.

Er bod gwyddonwyr yn credu mai problem dros dro yw hyn ac mai’r achos tebygol yw gwanwyn gwlyb iawn, mae’n rhoi syniad i ni o’r cydbwysedd bregus y mae ecosystemau natur yn bodoli ynddynt.  Rhychwant oes byr iawn sydd gan lawer o bryfetach ac fe gaiff eu cylch bywyd eu heffeithio gan newidiadau mewn systemau tywydd, a gall hyn fod yn broblem pan nad yw tymhorau yn aros mewn patrwm disgwyliedig.

Sut y mae pryfetach yn ein helpu ni?

Mae pryfetach yn chwarae rôl bwysig iawn yn y cylch bywyd ac atgynhyrchu blodau drwy broses o’r enw peillio.

Yn ystod y broses peillio, bydd pryfyn yn symud paill o un blodyn i’r llall, mae hyn yn caniatáu i’r blodyn gynhyrchu hadau (neu ffrwyth sydd yn cynnwys hadau). Fe wyddom ni gyd fod gwenyn yn beillyddion pwysig, ond mae pryfetach eraill yn cyfrannu at y broses hon. Mae cacwn, pryfed, chwilod a hyd yn oed gweision y neidr yn chwarae eu rhan yn peillio ein blodau, ein gwair a’n coed.  Mae rhai pryfetach yn gwneud hyn ar ddamwain, gan fod paill yn disgyn arnynt pan fyddant allan. 

Yn anffodus, gall llai o bryfetach olygu bod llai o hadau a ffrwythau’n cael eu cynhyrchu eleni. 

Mae’n bosibl y byddwn yn teimlo effaith hyn y flwyddyn nesaf hefyd. 

Mae pryfetach hefyd yn cefnogi rhywogaethau anifeiliaid eraill

Mae’r llun yma’n dangos gwe o fwyd. 

Planhigyn sydd ar y gwaelod.  Mae’r planhigyn yma’n cefnogi mamaliaid bach (megis cwningod) a rhywogaethau di-asgwrn cefn (gwlithod, malwod, morgrug a phryfetach eraill). Yna mae adar ac amffibiaid (megis brogaod, nadroedd defaid) yn bwyta’r rhywogaethau di-asgwrn cefn.  Ar ben y we, mae mamaliaid mawr ac adar a fydd yn bwyta’r mamaliaid bach.  Bydd unrhyw newidiadau yn y we yn achosi sgil effeithiau ar y rhywogaethau eraill wrth i argaeledd eu ffynonellau bwyd gynyddu neu leihau. 

Addasu i newid

Addasu ydi’r newid y mae rhywogaeth (megis pryfetach) angen ei wneud i fodoli yn ei amgylchedd.

Mae ein tymhorau wedi dechrau newid yn ddiweddar. Rydym ni’n cael gaeafau cynhesach, gwanwyn gwlyb a hafau poethach gyda thywydd ansefydlog a gwres eithafol sy’n torri pob record.  Fe fydd yn rhaid i natur a phryfetach ddechrau addasu i’r newidiadau yma, ond fe fydd rhai yn fwy cryf (fe fydd yna fwy ohonynt) am eu bod yn gallu addasu’n well. 

Ar nodyn trist, mae’n bosibl na fydd rhai rhywogaethau yn gallu addasu i’r newidiadau yma.

Beth ydym yn ei wneud i helpu?

Er mwyn rhoi’r cyfle gorau o oroesi ac addasu i bryfetach ac anifeiliaid eraill, mae angen i ni greu cynefinoedd addas iddynt. Mae ein prosiect dolydd blodau gwyllt yn enghraifft berffaith o hyn. 

Mae’r gymysgedd o flodau a gwair yn cefnogi llawer o bryfetach ac anifeiliaid. Mae gennym ni ddolydd blodau gwyllt mewn nifer o gymunedau ar draws y sir sydd yn rhoi cysylltedd iddynt.  Mae cysylltedd gyfystyr â’r A55, ond i bryfetach (!), gall pryfetach ac anifeiliaid symud rhwng y safleoedd yma heb gael eu hatal gan ardaloedd yn llawn tai neu ddiwydiant.

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

  • Mae eich gardd neu flwch ffenestr yn fan pwysig ar gyfer pryfetach ac anifeiliaid
  • Fe allech chi blannu planhigion, blodau a ffrwythau brodorol
  • Gadewch i ddarn o wair dyfu’n hir rhwng y gwanwyn a’r hydref (mae gwair yn bwysig iawn i bryfetach hefyd)
  • Ystyriwch greu pwll natur i annog amffibiaid a phryfetach y dŵr (pryfetach sy’n byw yn y dŵr neu ar y dŵr)

Am fwy o wybodaeth neu syniadau ewch i ...

Rhwydwaith darparu miloedd filltiroedd mwy gwyrdd ystod flwyddyn gyntaf

mae rhwydwaith Cyngor Sir Ddinbych o fannau gwefru cerbydau trydan

Mae rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus wedi dathlu ei ben-blwydd cyntaf drwy ddarparu miloedd o filltiroedd gwyrdd i fodurwyr i deithio o amgylch Sir Ddinbych.

Ers lansio’n swyddogol yr haf diwethaf, mae rhwydwaith y Cyngor o fannau gwefru cerbydau trydan wedi’u lleoli ar draws holl drefi’r sir wedi darparu 239,146kwh i fodurwyr yn defnyddio’r cyfleusterau.

Mae hynny gyfwerth â 837,000 milltir o deithiau carbon is mwy gwyrdd wedi’u darparu gan y rhwydwaith, sydd yr un pellter â theithio o amgylch cylchedd y byd bron i 34 gwaith.

Yn nes at adref, mae’r milltiroedd gyfwerth ag oddeutu 1,000 o deithiau o Lands End i John O’Groats a 9,300 o deithiau o Gaergybi i Wrecsam.

O ran y rhai hynny sy’n defnyddio milltiroedd mwy gwyrdd i deithio o amgylch Sir Ddinbych, mae’r swm blynyddol yn gyfwerth yn fras â 19,420 o deithiau mewn car o arfordir Prestatyn i olygfeydd yr Afon Dyfrdwy yn Llangollen.

A hithau’n wyliau’r haf, gall y rhwydwaith cerbydau trydan ddarparu cyfle ardderchog i deithio o amgylch Sir Ddinbych i fwynhau’r holl atyniadau sydd gan y sir i’w cynnig wrth wefru eich cerbyd.

Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Rheilffordd Llangollen, mae pum peiriant gwefru cerbydau trydan ar gael ger yr orsaf ym maes parcio Lôn Las, Corwen, fel rhan o brosiect ar y safle a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Yn Llangollen, mae mannau gwefru ar gael yn Heol y Farchnad a meysydd parcio’r Pafiliwn.

Mae maes parcio Cae Ddôl yn Rhuthun yn cynnig cyfleusterau gwefru cerbydau trydan i’w defnyddio ger y Carchar a’r parc ei hun os ydych yn ymweld â’r dref gyda’r teulu ac mae mannau gwefru hefyd ar gael yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Os ydych yn ymweld â’r arfordir yr haf hwn, mae gwefrwyr cyflym ar gael ym maes parcio Gorllewin Stryd Cinmel, Y Rhyl a maes parcio Rhodfa Brenin, Prestatyn.

Mae mannau gwefru eraill y rhwydwaith ym maes parcio Lôn y Post, Dinbych, maes parcio’r lawnt fowlio yn Llanelwy, maes parcio Morley Road yn Y Rhyl a maes parcio Rhodfa Rhedyn, Prestatyn.

Ategwyd y gwaith ar y rhwydwaith wefru ychwanegol ar gyfer rhai safleoedd gan gyllid grant drwy Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau Llywodraeth y DU (OZEV)

Mae'r prosiect hwn hefyd wedi'i gynnal i gefnogi pobl i drosglwyddo i gerbyd trydan lle nad oedd ganddynt fynediad i gyfleuster gwefru o'r blaen.

Mae’r rhwydwaith cerbydau trydan cyhoeddus yn rhan o gamau gweithredu cyffredinol y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 drwy leihau ôl-troed carbon y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Braf iawn yw gweld y rhwydwaith cerbydau trydan cyhoeddus yn helpu i gefnogi milltiroedd mwy gwyrdd yn ystod y flwyddyn swyddogol gyntaf. Rydym eisiau lleihau allyriadau carbon o amgylch y sir ac mae’r rhwydwaith yn helpu i symud tuag at hyn drwy gefnogi dulliau mwy gwyrdd o deithio.

“Mae’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus hefyd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n lleol i’r sir neu sy’n ymweld o bell yr haf hwn oherwydd ei fod yn darparu cefnogaeth ddelfrydol ar gyfer ymweld ag atyniadau a gwefru cerbydau wrth wneud hynny.

“Gall gyrwyr cerbydau trydan gynllunio llwybrau o amgylch y sir yn defnyddio’r rhwydwaith i fwynhau’r hyn sydd gan Sir Ddinbych i’w gynnig, a chefnogi ein busnesau lleol pan fyddant yn stopio mewn mannau gwefru a darganfod beth sydd gan y trefi i’w gynnig tra eu bod yn aros.

“Mae’r cyfleusterau hyn hefyd yn bwysig i helpu’r rhai hynny sydd eisiau newid i gerbydau trydan ond nid oes ganddynt y cyfleuster na man parcio oddi ar y ffordd i wneud hynny.”

Coeden hanesyddol yn hau bywyd newydd mewn planhigfa

Mae Coed Cerddin Gwyllt

Mae coeden brin, sydd wedi rhoi ysbrydoliaeth i enwi llawer o dafarndai yn y DU, yn hau dyfodol newydd iddi’i hun yn Sir Ddinbych.

Mae Coed Cerddin Gwyllt yn ffynnu yr haf hwn ym Mhlanhigfa y Cyngor yn Llanelwy.

Nod y blanhigfa goed yn Green Gates Farm, Llanelwy yw cynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwylltion cynhenid y flwyddyn, ynghyd â 5,000 o goed cynhenid.

Bydd coed a phlanhigion a dyfir yn y blanhigfa yn y pen draw yn mynd yn ôl i gefn gwlad i hybu bioamrywiaeth.

Dim ond mewn ychydig o leoliadau anghysbell ar draws Sir Ddinbych y mae’r gerddinen i’w gweld. Yn hanesyddol fe'i gelwir hefyd yn goeden ‘chequers’ yn Saesneg oherwydd y ffrwythau y dywedir eu bod yn blasu'n debyg i ddatys ac a roddwyd i blant yn y gorffennol fel fferins.

Yn draddodiadol, gwnaed cwrw brag alcoholig o ffrwythau’r goeden hefyd a chredir mai dyma sydd wedi arwain at enwi nifer o dafarndai yn ‘Chequers’.

Wedi egino nifer o goed Cerddin a gasglwyd yr hydref diwethaf, mae’r blanhigfa leol wedi tyfu nifer o goed iach i gefnogi’r darn hanesyddol hwn o natur.

Mae’r blanhigfa goed a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, bellach yn gartref i 240 o goed Cerddin iach sy’n tyfu.

Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Rydym yn falch iawn bod y cyfleusterau yma yn y blanhigfa goed wedi rhoi achubiaeth bwysig yn ein sir i goeden brin â chydnabyddiaeth hanesyddol.

“Ar ôl egino mewn bagiau rhewgell yn llawn compost yn yr oergell, gyda chymorth y staff a’n grŵp gwych o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r blanhigfa, symudwyd yr hadau i botiau gwreiddio, cyn cael eu plannu mewn potiau 3 litr.

“Diolch i’r holl sylw a roddwyd i warchod y Gerddinen, mae gennym 240 o goed yn yr awyr agored ar dir y blanhigfa yn mwynhau’r tywydd cynnes, ac maen nhw’n tyfu’n dda. Pan fyddant wedi tyfu digon, byddwn yn eu symud i rannau o’r sir i helpu i roi hwb i’w niferoedd.”

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae ein tîm Bioamrywiaeth yn gweithio’n galed i leihau effaith newid hinsawdd ar ein tiroedd, lle mae llawer o rywogaethau’n prinhau’n anffodus.

“Bydd yr ymdrech wych hon nid yn unig yn helpu byd natur i wella ond bydd hefyd yn rhoi darn o hanes yn ôl i’n cymunedau yn y dyfodol y gallant fynd allan i’r awyr agored i ymweld ag ef a’i fwynhau er eu lles corfforol a meddyliol eu hunain.”

Gwaith yn lleihau defnydd ynni cyfleuster storio’r Cyngor yn sylweddol

Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau prosiect i leihau’r defnydd o ynni a hefyd i leihau costau ynni yn hirdymor yn safle Storfeydd Corfforaethol y Cyngor yn Lôn Parcwr, Rhuthun.

Mae gwaith carbon isel yng nghyfleuster storio’r Cyngor wedi gostwng y defnydd o ynni yn sylweddol ar sail misol bron 75 y cant.

Mae Tîm Ynni y Cyngor wedi cwblhau prosiect i leihau’r defnydd o ynni a hefyd i leihau costau ynni yn hirdymor yn safle Storfeydd Corfforaethol y Cyngor yn Lôn Parcwr, Rhuthun.

Mae’r tîm wedi gweithio ar nifer o brosiectau i helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau’r Cyngor, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chostau ynni yn yr hirdymor.

Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon adeiladau ei hun fel rhan o’r ymateb.

Mae Storfeydd Corfforaethol yn cefnogi gwasanaethau ar draws y Cyngor drwy ddarparu cyfleusterau storio sydd eu hangen.

Gosododd y Tîm Ynni system oleuo LED newydd sy’n gallu helpu i leihau defnydd trydan i oleuo adeiladau o leiaf 50 y cant.

Ynghyd â’r system LED ac 11kW o baneli solar ffotofoltäig hefyd wedi eu gosod ar do’r adeilad i harneisio ynni’r haul i leihau’r defnydd o’r Grid Cenedlaethol. Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r rheolyddion gwresogi hefyd wedi eu cwblhau.

Mae’r gwaith cyfunol hwn wedi gweld gostyngiad o hyd at 75 y cant mewn defnydd ynni yn ystod misoedd yr haf yn y safle gan arwain at arbediad cost o £1109 y mis. Disgwylir arbedion blynyddol o dros £11,000 y flwyddyn. Bydd yr arbedion allyriadau carbon dros 11 tunnell y flwyddyn.

Dywedodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Mae storfeydd corfforaethol yn adeilad unigryw i ni roi sylw iddo gan nad oes yna lawer o ffenestri yn yr adeilad sy’n golygu bron dim golau naturiol ac mae golau yn flaenoriaeth gan ei fod y prif ddefnyddiwr ynni. Mae defnyddio system LED i fynd i’r afael â’r angen am olau rheolaidd yn yr adeilad, a gefnogir gan y paneli ffotofoltäig wedi ein helpu i gyflawni’r gostyngiad mawr hwn mewn defnydd ynni a hefyd costau ynni is dros yr hirdymor.

Mae prosiectau a gwblhawyd mewn adeiladau eraill sy’n eiddo i’r Cyngor hefyd wedi gweld y Tîm Ynni yn llwyddo i gyrraedd carreg filltir bwysig o dros fegawat o gapasiti ynni adnewyddadwy (1099kWp). Cynhyrchir y mwyafrif o’r ynni hwn drwy baneli solar ffotofoltäig ar y to. Gall pob cilowat a gynhyrchir gan baneli ffotofoltäig arbed tua 30 ceiniog.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi ymrwymo i barhau i sicrhau fod yr ôl-troed carbon yn gostwng ar draws y sir drwy edrych ar adeiladau sy’n eiddo i ni a datblygu prosiectau i helpu i dorri allyriadau ac arbed costau ynni yn yr hirdymor. Yn ogystal ag edrych ar ein hadeiladau rydym hefyd yn canolbwyntio ar brosiectau i gefnogi’r gwaith o leihau allbwn carbon o'n fflyd, cerbydau preifat yn ogystal â hybu gwytnwch bioamrywiaeth ar draws y sir.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid