llais y sir

Adolygu perfformiad y Cyngor

Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn llunio adroddiad i grynhoi ei berfformiad. Mae’r adroddiad yn rhan ganolog o’r ffordd rydym ni’n gwerthuso ein perfformiad er mwyn sicrhau ein bod yn darparu canlyniadau cadarnhaol i bobl a llefydd yn Sir Ddinbych, ac i sicrhau bod ein trefniadau llywodraethu yn effeithiol. Mae bod yn dryloyw ac agored am ein perfformiad yn rhan o’n gwerthoedd ac egwyddorion craidd fel Cyngor.

Wedi’i gyhoeddi ar-lein yma, mae ein crynodeb gweithredol am y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 yn ceisio tynnu sylw at uchafbwyntiau ein perfformiad yn erbyn ein swyddogaethau, ac mae’n edrych ymlaen at yr heriau rydym ni’n eu hwynebu. Rydym wedi amlygu meysydd y dylem ganolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau y gellir cynnal perfformiad a’i wella lle bo’r angen. Mae ein hadroddiadau perfformiad manwl bob chwe mis wedi’u cyhoeddi ar-lein hefyd.

Mae yna faterion sylweddol rydym ni’n ceisio mynd i’r afael â nhw drwy ein Cynllun Corfforaethol, ac fe fydd y rhain yn cymryd amser cyn y gwelwn ni welliant; yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd presennol.

Yn ystod blwyddyn 2023 i 2024, rydym wedi ymateb i’r pwysau ariannol mae pob Awdurdod Lleol yn eu hwynebu mewn modd cyfrifol. Rydym wedi defnyddio ein hadnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol, mae ein trefniadau llywodraethu’n gweithredu ac yn effeithiol ac mae ein ffocws ar sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n hamgylchedd a’n cymunedau yn Sir Ddinbych. Mae rhai o’r cyflawniadau ar gyfer y flwyddyn tan fis Mawrth 2024 yn cynnwys:

  • Rydym wedi sicrhau buddion i’r economi leol a’n cymunedau trwy’r gwaith caffael rydym wedi’i wneud. Roedd cyfanswm y gwariant drwy gaffael, gan gynnwys cyllid grant, yn ystod blwyddyn ariannol 2023 i 2024 yn £226,978,810; caiff £83,426,447 o’r swm hwn ei wario o fewn Sir Ddinbych (35.2%). Roedd 56% o’r caffaeliadau perthnasol yn cynnwys buddion cymunedol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i alinio’r rhain â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
  • Rydym wedi gweld twf yn ystod y flwyddyn o ran nifer y micro ddarparwyr sy’n darparu gofal a chymorth personol, o ansawdd uchel, yn y gymuned, o 30 i 57. Mae micro ddarparwyr yn cefnogi lles personol a chymunedol trwy ganiatáu mwy o fynediad at wasanaethau i breswylwyr. Mae hyn yn helpu pobl i gadw’n ddiogel ac iach adref ac mae’n rhoi dewis a rheolaeth iddynt dros eu gofal a’u cymorth. 
  • Mae’r gefnogaeth a roddir i hyrwyddo datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar wedi parhau i gryfhau, gyda chyfraddau rhagorol o blant yn cymryd rhan yn y cynnig gofal plant (772) a chefnogaeth ragorol barhaus gan Weithwyr Cyswllt Teulu i gefnogi plant i fynd i’r feithrinfa. Roedd gwasanaethau llyfrgell fel Dechrau Da yn boblogaidd hefyd, gyda 99% o rieni yn teimlo effaith gadarnhaol o fynychu Dechrau Da ac Amser Rhigwm, a chymerodd 2,478 o blant ran yn Sialens Ddarllen 2023. Cafodd Canolfan Blant Integredig Oaktree ei hymestyn yn ystod y flwyddyn ac erbyn mis Ionawr 2024, roedd y cynnig prydau ysgol am ddim ar gael i bob disgybl cynradd yn Sir Ddinbych.
  • Ar ddiwedd 2023, roedd yn flwyddyn ers sefydlu’r Canolbwynt Gwefru Cerbydau Trydan ym maes parcio Gorllewin Cinmel yn y Rhyl Ers dod yn weithredol, mae’r canolbwynt wedi darparu dros 250,000 o filltiroedd cludiant gwyrdd i fodurwyr. 
  • Parhaodd cynlluniau amddiffyn yr arfordir yn y Rhyl a Phrestatyn.
  • Mae’r tîm Ynni wedi bod yn gweithio i helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau yn ogystal â chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chostau ynni yn yr hirdymor. Mae rhan o ymgais y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019, ac i leihau ei ôl-troed carbon ei hun, yn cynnwys prosiectau sydd wedi cyflawni carreg filltir o osod mwy na megawat o gapasiti ynni adnewyddadwy (1099kWp). Cynhyrchir y mwyafrif o’r ynni hwn drwy baneli solar ffotofoltäig ar y to. Bydd y capasiti hwn yn darparu tua 1.05MWh y flwyddyn (1,056,431kW), sydd gyfwerth â darparu trydan di-garbon i redeg 364 o gartrefi. Bydd hyn hefyd yn sicrhau gostyngiad o 306 tunnell y flwyddyn mewn allyriadau carbon.
  • Rydym wedi gweld cynnydd o ran hyder ymhlith swyddogion ac Aelodau wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ffurfiol ac anffurfiol yn y Cyngor o ddydd i ddydd. Mae hyn yn rhan allweddol o’n Cynllun Corfforaethol fel ein bod yn chwarae ein rhan wrth sicrhau miliwn o Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, gan sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, ffyniannus yn y Cyngor a’n cymunedau.

Fel sy’n wir gydag unrhyw sefydliad, mae meysydd lle mae angen gwella cynnydd. Yn ystod y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, cafodd y canlynol eu hamlygu:

  • Nid yw canfyddiadau am y Cyngor a gafodd eu mynegi trwy ein harolwg blynyddol i fudd-ddeiliaid mor gadarnhaol ag a hoffem.
  • Mae nifer fawr o bobl ar y rhestr aros am dai o hyd, ac mae heriau o ran digartrefedd.
  • Mae isadeiledd ffyrdd a phontydd yn dal i fod yn faes gwaith heriol ac mae trafodaethau’n parhau gyda phartneriaid o ran gosod Pont Llannerch newydd.
  • Mae tlodi a hyfywedd ein heconomi leol yn dal i beri pryder, fel materion hirdymor. Rydym hefyd yn pryderu am nifer y rhai sy’n gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 11, nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant. Mae cefnogaeth ragorol gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn ceisio uwchsgilio a chefnogi pobl i ennill profiad a magu hyder, er enghraifft, trwy gynnig cyrsiau hyfforddi wedi’u hariannu’n llawn.

Mae adroddiadau llawn a gwybodaeth am berfformiad i’w gweld yma.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid