llais y sir

Newyddion

Mae trigolion Sir Ddinbych wedi elwa o £215,000 mewn Ymgyrch Credyd Pensiwn

Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnal ymgyrch dros y misoedd diwethaf i annog pensiynwyr i ddarganfod mwy am y Credyd Pensiwn nad ydynt o bosibl yn ei hawlio. Mae cyfanswm o £215,000 wedi’i nodi hyd yn hyn, gyda thrigolion yn cael eu cefnogi gan Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Mae dros £58,000 o’r swm hwnnw wedi bod yn hawliadau Credyd Pensiwn, fodd bynnag, mae budd-daliadau eraill gan gynnwys Lwfans Gweini, Gostyngiad Treth y Cyngor a Budd-dal Tai hefyd wedi'u nodi o ganlyniad i wiriadau budd-daliadau llawn.

Ar 29 Gorffennaf 2024, cyhoeddwyd newidiadau newydd mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer Taliadau Tanwydd y Gaeaf. Dim ond i unigolion sy'n derbyn Credyd Pensiwn y Wladwriaeth y byddant yn cael eu darparu bellach.

Yn ystod yr Wythnos Gweithredu Credyd Pensiwn, 2 - 6 Medi, mae mwy o bobl yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal sy’n werth, ar gyfartaledd, £3,900 y flwyddyn ac yn datgloi cymorth ychwanegol gan gynnwys Taliadau Tanwydd y Gaeaf, Treth y Cyngor, gofal iechyd ac os ydych yn 75 oed neu’n hŷn, trwydded deledu am ddim.

Amcangyfrifir bod gan oddeutu 80,000 o bensiynwyr ledled Cymru hawl i Gredyd Pensiwn, ond nad ydynt yn ei hawlio. Mae dau lythyr eisoes wedi'u hanfon at bensiynwyr cymwys yn Sir Ddinbych i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a’u hannog i wneud cais yn ogystal â galwadau ffôn dilynol ac ymgysylltu â phartneriaethau.

Mae Credyd Pensiwn yn darparu cymorth hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel, gan godi eu hincwm i leiafswm o £218.15 yr wythnos ar gyfer pobl sengl neu £332.95 ar gyfer cyplau. I’r bobl hynny sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, mae’n bosibl y bydd ganddynt hawl i arian ychwanegol os ydynt wedi gwneud darpariaethau tuag at eu hymddeoliad, megis cynilion neu bensiwn preifat. Gelwir hyn yn Gredyd Cynilion a gall fod hyd at £17.01 ar gyfer pobl sengl neu £19.04 ar gyfer cyplau.

Dywedodd Liz Thomas, Pennaeth Cyllid ac Archwilio, Cyngor Sir Ddinbych:

“Rwy’n falch iawn bod yr ymgyrch eisoes wedi arwain at nodi miloedd o bunnoedd o fudd-daliadau heb eu hawlio i helpu pensiynwyr yn Sir Ddinbych. Mae hyn yn newyddion i’w groesawu, a byddwn yn annog ffrindiau a pherthnasau i ddechrau sgwrs gyda phobl hŷn i ddarganfod pa gymorth ariannol a allai fod ar gael.

Mae hawlio Credyd Pensiwn yn bwysig oherwydd gall ddarparu mynediad at ystod o hawliadau eraill. Efallai mai ychydig o bunnoedd yn unig y gall rhai pobl ei hawlio mewn Credyd Pensiwn, felly gall deimlo nad yw’n werth ei hawlio, ond dylent ystyried y darlun ehangach gan ei fod yn agor y drws i lawer mwy o gymorth gan gynnwys y Taliad Tanwydd y Gaeaf. Gall sicrhau bod preswylwyr yn cynyddu incwm eu haelwydydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Gallwch ddechrau eich cais hyd at bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch hawlio unrhyw bryd ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond gall eich hawliad ond gael ei ôl-ddyddio hyd at dri mis, cyn belled a bod gennych hawl yn ystod yr amser hwnnw. Mae hyn yn golygu mai’r dyddiad olaf i wneud cais a dal i fod yn gymwys am Daliad Tanwydd y Gaeaf yw 21 Rhagfyr 2024. 

Gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn a’r swm y gallech ei hawlio gan ddefnyddio’r cyfrifiannell pensiwn - www.gov.uk/cyfrifiannell-credyd-pensiwn.

Dywedodd Graham Kendall, Prif Swyddog Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

“Mae’r ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus iawn gan ein bod wedi gallu targedu’r pensiynwyr hynny a allai fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn yn uniongyrchol drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych.

“Rydym yn delio â nifer o breswylwyr sy’n ei chael yn anodd mantoli’r cyfrifon yn sgil costau byw, ond sydd o bosibl yn teimlo’n rhy falch i ystyried edrych i mewn i’r cymorth ariannol a all fod ar gael iddynt. Rydym yn ceisio tynnu rhwystrau ac annog preswylwyr i fod yn agored a thrafod eu hamgylchiadau personol.

“Rydym yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol gan gynnwys gwiriadau budd-daliadau llawn, llenwi ffurflenni, cefnogi cwsmeriaid i reoli tlodi tanwydd a darparu cyngor tai.”

Os ydych yn ansicr o ran eich cymhwysedd, neu os hoffech help a chymorth gyda’ch cais, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar 01745 346 775 neu trwy eu ffurflen ar-lein - www.cadenbighshire.co.uk/hafan. Fel arall, gellir gwneud hawliadau ar-lein ar www.gov.uk/credyd-pensiwn neu drwy ffonio llinell hawlio Rhadffôn Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.

Defnyddwyr yn rhoi bywyd newydd i adeilad Iechyd Meddwl Cymunedol

Ystafell wedi'w addurno

Yn ddiweddar, bu trigolion lleol sydd yn derbyn Cefnogaeth Iechyd Meddwl drwy'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cymryd rhan mewn prosiect i drawsnewid eu hadeilad Iechyd Meddwl Cymunedol yn Ninbych, Tîm Dyffryn Clwyd.

Tarddiad y syniad oedd trigolion yn rhannu adborth gyda staff, a’r casgliad oedd bod yr adeilad yn rhy ffurfiol a chlinigol, gan amharu ar y ffordd yr oeddynt yn ymgysylltu â’r gwasanaeth.

Roedd y ddau wasanaeth eisiau sicrhau bod trigolion yn teimlo bod eu barn yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, ac roeddynt yn teimlo y byddai’n beth da petai trigolion yn ymgymryd â pherchnogaeth y gofod maen nhw’n ei ddefnyddio.

Yn ystod sesiynau ‘Lles drwy Gelf’ sy’n cael eu hariannu gan grant Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymunedol Cysylltu Cymunedau Llywodraeth Cymru, bu’r dinasyddion yn datblygu darnau o gelf i addurno’r ystafelloedd, gan ddefnyddio sawl cyfrwng yn cynnwys inc, cyanotype a hyd yn oed potiau planhigion oedd wedi'u gwehyddu.

Mae wal nodwedd i’w gweld mewn dwy ystafell sydd wedi’u paentio mewn lliwiau cynhesach, tawelol, a rhoddwyd cyfle i ddinasyddion ailenwi’r ystafelloedd ymgynghori yn yr adeilad hefyd, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thema natur y prosiect. Mae’r ystafelloedd bellach wedi cael eu henwi ar ôl tri mynydd lleol, sef Moel Famau, Moel Arthur a Moel Fenlli.

Fe sicrhawyd arian hefyd i brynu dodrefn newydd ar gyfer yr ystafelloedd a fydd yn help i foderneiddio’r gofod yma.

Mae’r broses o gymryd rhan yn y prosiect yma wedi galluogi trigolion i weithredu 5 Ffordd at Les, sy’n helpu iddynt gynnal Lles Meddyliol drwy gysylltu ag eraill, I Roi, I Sylwi, I fod yn Weithgar ac I Ddysgu Rhywbeth Newydd. Y gobaith yw y bydd yn helpu i newid canfyddiad trigolion o’r adeilad a’u hailgysylltu gyda’r gwasanaeth mewn modd mwy cadarnhaol.

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd Oedolion: “Mae’r trawsnewidiad o Dîm Dyffryn Clwyd dan arweiniad trigolion yn ysbrydoledig, gan ddangos effaith ryfeddol awdurdodi unigolion i helpu i lywio’r gwasanaethau lleol maen nhw’n eu defnyddio. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych arall o ymgysylltu a chydweithio yn arwain at newid cadarnhaol yn y gymuned.”

Gwaith yn dechrau i wella hen ysgol bentref ym Mryneglwys

Ysgol Bryneglwys

Mae Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) wedi penodi contractwr i ymgymryd â gwelliannau ar adeilad hen ysgol, i fod yn ganolbwynt cymunedol ym Mryneglwys.

Ar 19 Ionawr 2023, cafodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad bod £10.95 miliwn wedi’i ddyfarnu iddynt gan Llywodraeth y DU ar gyfer cyn-etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi y ddatblygiad o 10 prosiect sydd â’r nod o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, lles a’i chymunedau gwledig.

Roedd y prosiect yma yn un o’r 10 a gynhwyswyd yng nghais y Cyngor i Lywodraeth y DU, ac o ganlyniad derbyniodd Cymdeithas Canolfan Ial (CCIA) £327,000 o’r cyllid yma gan Lywodraeth y DU i adnewyddu’r hen ysgol bentref a sicrhawyd £65,000 pellach o Gronfa Fferm Wynt Clocaenog tuag at y prosiect.

Ar ôl cau Ysgol Bryneglwys yn 2014, daeth grŵp o wirfoddolwyr at ei gilydd i sicrhau y gallai ased cymunedol gwerthfawr ar un adeg ddod yn rhan annatod o’r gymuned unwaith eto.

Ffurfiodd y grŵp o breswylwyr Gymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) a derbyn statws elusen ym mis Ebrill 2020, gyda’r nod i droi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol sydd wirioneddol ei angen.

Roedd Adever Construction yn llwyddiannus yn eu tendr ar gyfer y prosiect ac mae gwaith rhagarweiniol wedi dechrau i gael gwared ar asbestos presennol o fewn yr adeilad, cynnal profion aer glân a rendro’r tu allan i’r canolbwynt cymunedol.

Bydd gwelliannau pellach y tu mewn i’r adeilad yn galluogi i ddigwyddiadau cymunedol gael eu cynnal o fewn y canolbwynt cymunedol yn y dyfodol a darparu cyfleuster canolfan glyd i breswylwyr.

Dywedodd Pat Downes, Cadeirydd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA):

“Cafodd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) ei ffurfio fel elusen un mater i droi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol sydd wir ei angen. Mae wedi bod yn lawer o waith caled ac mae cymaint o bobl wedi ein helpu ni dros y blynyddoedd. Mae yna ymdrech tîm gwirioneddol wedi bod o amgylch y prosiect hwn.

“Mae’n amser cyffrous, nid yn unig i CCIA, ond gobeithio y bydd y pentref cyfan yn edrych ymlaen at gael yr amwynder hwn. ydd yn cynnig cyfle i breswylwyr ddod ynghyd yn rheolaidd yn y caffi newydd ac yn darparu lle i gynnal digwyddiadau fel cyngherddau. Bydd hefyd ar gael i’w logi unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Rydym yn falch o glywed bod contractwr wedi’i benodi i gwblhau’r gwelliannau hyn sydd wir eu hangen i greu canolbwynt cymunedol ym Mryneglwys.

“Mae’n gyffrous bod Cyngor Sir Ddinbych wedi gallu cefnogi’r gymuned hon i gyflawni eu dyheadau. Mae hybiau fel hyn hefyd yn chwarae rôl hanfodol i ddod â’r preswylwyr ynghyd ac rydym yn gobeithio pan fydd y gwaith adfer wedi’i gwblhau y bydd yn ased gwerthfawr i bobl Bryneglwys.”

Adolygu perfformiad y Cyngor

Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn llunio adroddiad i grynhoi ei berfformiad. Mae’r adroddiad yn rhan ganolog o’r ffordd rydym ni’n gwerthuso ein perfformiad er mwyn sicrhau ein bod yn darparu canlyniadau cadarnhaol i bobl a llefydd yn Sir Ddinbych, ac i sicrhau bod ein trefniadau llywodraethu yn effeithiol. Mae bod yn dryloyw ac agored am ein perfformiad yn rhan o’n gwerthoedd ac egwyddorion craidd fel Cyngor.

Wedi’i gyhoeddi ar-lein yma, mae ein crynodeb gweithredol am y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 yn ceisio tynnu sylw at uchafbwyntiau ein perfformiad yn erbyn ein swyddogaethau, ac mae’n edrych ymlaen at yr heriau rydym ni’n eu hwynebu. Rydym wedi amlygu meysydd y dylem ganolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau y gellir cynnal perfformiad a’i wella lle bo’r angen. Mae ein hadroddiadau perfformiad manwl bob chwe mis wedi’u cyhoeddi ar-lein hefyd.

Mae yna faterion sylweddol rydym ni’n ceisio mynd i’r afael â nhw drwy ein Cynllun Corfforaethol, ac fe fydd y rhain yn cymryd amser cyn y gwelwn ni welliant; yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd presennol.

Yn ystod blwyddyn 2023 i 2024, rydym wedi ymateb i’r pwysau ariannol mae pob Awdurdod Lleol yn eu hwynebu mewn modd cyfrifol. Rydym wedi defnyddio ein hadnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol, mae ein trefniadau llywodraethu’n gweithredu ac yn effeithiol ac mae ein ffocws ar sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n hamgylchedd a’n cymunedau yn Sir Ddinbych. Mae rhai o’r cyflawniadau ar gyfer y flwyddyn tan fis Mawrth 2024 yn cynnwys:

  • Rydym wedi sicrhau buddion i’r economi leol a’n cymunedau trwy’r gwaith caffael rydym wedi’i wneud. Roedd cyfanswm y gwariant drwy gaffael, gan gynnwys cyllid grant, yn ystod blwyddyn ariannol 2023 i 2024 yn £226,978,810; caiff £83,426,447 o’r swm hwn ei wario o fewn Sir Ddinbych (35.2%). Roedd 56% o’r caffaeliadau perthnasol yn cynnwys buddion cymunedol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i alinio’r rhain â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
  • Rydym wedi gweld twf yn ystod y flwyddyn o ran nifer y micro ddarparwyr sy’n darparu gofal a chymorth personol, o ansawdd uchel, yn y gymuned, o 30 i 57. Mae micro ddarparwyr yn cefnogi lles personol a chymunedol trwy ganiatáu mwy o fynediad at wasanaethau i breswylwyr. Mae hyn yn helpu pobl i gadw’n ddiogel ac iach adref ac mae’n rhoi dewis a rheolaeth iddynt dros eu gofal a’u cymorth. 
  • Mae’r gefnogaeth a roddir i hyrwyddo datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar wedi parhau i gryfhau, gyda chyfraddau rhagorol o blant yn cymryd rhan yn y cynnig gofal plant (772) a chefnogaeth ragorol barhaus gan Weithwyr Cyswllt Teulu i gefnogi plant i fynd i’r feithrinfa. Roedd gwasanaethau llyfrgell fel Dechrau Da yn boblogaidd hefyd, gyda 99% o rieni yn teimlo effaith gadarnhaol o fynychu Dechrau Da ac Amser Rhigwm, a chymerodd 2,478 o blant ran yn Sialens Ddarllen 2023. Cafodd Canolfan Blant Integredig Oaktree ei hymestyn yn ystod y flwyddyn ac erbyn mis Ionawr 2024, roedd y cynnig prydau ysgol am ddim ar gael i bob disgybl cynradd yn Sir Ddinbych.
  • Ar ddiwedd 2023, roedd yn flwyddyn ers sefydlu’r Canolbwynt Gwefru Cerbydau Trydan ym maes parcio Gorllewin Cinmel yn y Rhyl Ers dod yn weithredol, mae’r canolbwynt wedi darparu dros 250,000 o filltiroedd cludiant gwyrdd i fodurwyr. 
  • Parhaodd cynlluniau amddiffyn yr arfordir yn y Rhyl a Phrestatyn.
  • Mae’r tîm Ynni wedi bod yn gweithio i helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau yn ogystal â chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chostau ynni yn yr hirdymor. Mae rhan o ymgais y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019, ac i leihau ei ôl-troed carbon ei hun, yn cynnwys prosiectau sydd wedi cyflawni carreg filltir o osod mwy na megawat o gapasiti ynni adnewyddadwy (1099kWp). Cynhyrchir y mwyafrif o’r ynni hwn drwy baneli solar ffotofoltäig ar y to. Bydd y capasiti hwn yn darparu tua 1.05MWh y flwyddyn (1,056,431kW), sydd gyfwerth â darparu trydan di-garbon i redeg 364 o gartrefi. Bydd hyn hefyd yn sicrhau gostyngiad o 306 tunnell y flwyddyn mewn allyriadau carbon.
  • Rydym wedi gweld cynnydd o ran hyder ymhlith swyddogion ac Aelodau wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ffurfiol ac anffurfiol yn y Cyngor o ddydd i ddydd. Mae hyn yn rhan allweddol o’n Cynllun Corfforaethol fel ein bod yn chwarae ein rhan wrth sicrhau miliwn o Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, gan sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, ffyniannus yn y Cyngor a’n cymunedau.

Fel sy’n wir gydag unrhyw sefydliad, mae meysydd lle mae angen gwella cynnydd. Yn ystod y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, cafodd y canlynol eu hamlygu:

  • Nid yw canfyddiadau am y Cyngor a gafodd eu mynegi trwy ein harolwg blynyddol i fudd-ddeiliaid mor gadarnhaol ag a hoffem.
  • Mae nifer fawr o bobl ar y rhestr aros am dai o hyd, ac mae heriau o ran digartrefedd.
  • Mae isadeiledd ffyrdd a phontydd yn dal i fod yn faes gwaith heriol ac mae trafodaethau’n parhau gyda phartneriaid o ran gosod Pont Llannerch newydd.
  • Mae tlodi a hyfywedd ein heconomi leol yn dal i beri pryder, fel materion hirdymor. Rydym hefyd yn pryderu am nifer y rhai sy’n gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 11, nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant. Mae cefnogaeth ragorol gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn ceisio uwchsgilio a chefnogi pobl i ennill profiad a magu hyder, er enghraifft, trwy gynnig cyrsiau hyfforddi wedi’u hariannu’n llawn.

Mae adroddiadau llawn a gwybodaeth am berfformiad i’w gweld yma.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk

Diwrnod Agored Heddlu Gogledd Cymru

Cynnal ail rownd o sesiynau galw heibio Cynlluniau Creu Lleoedd

Ar ôl rownd gyntaf lwyddiannus o sesiynau ymgysylltu, mae ail rownd o sesiynau galw heibio Cynlluniau Creu Lleoedd yn cael eu cynllunio ar gyfer dechrau mis Medi yn Ninbych a Chorwen.

Nod Cynlluniau Creu Lleoedd yw gwella lleoliad a sicrhau bod pob agwedd sy’n gwneud lleoliad yn lle gwych i fyw, i weithio ynddo ac ymweld ag ef yn cael eu hystyried. Mae Cynlluniau Creu Lleoedd llwyddiannus yn cael eu llywio gan wybodaeth pobl leol a sut maent yn byw eu bywydau.

CORWEN

Cynhelir sesiwn galw heibio Cynlluniau Creu Lleoedd Corwen ar 10 Medi yn Llyfrgell Corwen rhwng 12pm a 5pm ac yn Neuadd Parc Coffa Corwen rhwng 5:30pm ac 8pm, ac anogir trigolion i alw heibio ar unrhyw adeg yn ystod yr amserlen hon i ddweud eu dweud.

DINBYCH

Cynhelir sesiwn ymgysylltu Dinbych ar 11 Medi yn Llyfrgell Dinbych rhwng 2pm ac 8pm.

Bydd staff o'r Cyngor yn bresennol i gasglu barn pobl am y weledigaeth a’r ymyriadau ar gyfer Corwen a Dinbych ac rydym am sicrhau bod yr adborth a gasglwyd hyd yma yn gywir a pharhau i gasglu barn a safbwyntiau lleol am y strategaeth ddrafft a'r cynigion a baratowyd.

Yn ystod y rownd gyntaf o sesiynau a gynhaliwyd yn ôl ym mis Mehefin, daeth trigolion i leisio eu barn am ddyfodol eu trefi. Bydd y sesiynau diweddaraf hyn yn trafod y newidiadau a wnaed ac a gafodd eu llywio gan sesiynau ymgysylltu’r haf.

Meddai Jason McLellan,  Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Caiff ein trefi eu siapio gan y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw, a bydd eu barn yn helpu i ddiffinio gweledigaeth y cynlluniau hyn ar gyfer y dyfodol yn eu trefi perthnasol. Byddwn yn annog trigolion i ddod draw i leisio’u barn ar y Cynlluniau Creu Lleoedd, ac i weld sut mae adborth o’r sesiynau blaenorol wedi cyfrannu at eu siapio.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid