llais y sir

Newyddion

Mae trigolion Sir Ddinbych wedi elwa o £215,000 mewn Ymgyrch Credyd Pensiwn

Mae'r Cyngor wedi bod yn cynnal ymgyrch dros y misoedd diwethaf i annog pensiynwyr i ddarganfod mwy am y Credyd Pensiwn nad ydynt o bosibl yn ei hawlio. Mae cyfanswm o £215,000 wedi’i nodi hyd yn hyn, gyda thrigolion yn cael eu cefnogi gan Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Mae dros £58,000 o’r swm hwnnw wedi bod yn hawliadau Credyd Pensiwn, fodd bynnag, mae budd-daliadau eraill gan gynnwys Lwfans Gweini, Gostyngiad Treth y Cyngor a Budd-dal Tai hefyd wedi'u nodi o ganlyniad i wiriadau budd-daliadau llawn.

Ar 29 Gorffennaf 2024, cyhoeddwyd newidiadau newydd mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer Taliadau Tanwydd y Gaeaf. Dim ond i unigolion sy'n derbyn Credyd Pensiwn y Wladwriaeth y byddant yn cael eu darparu bellach.

Yn ystod yr Wythnos Gweithredu Credyd Pensiwn, 2 - 6 Medi, mae mwy o bobl yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal sy’n werth, ar gyfartaledd, £3,900 y flwyddyn ac yn datgloi cymorth ychwanegol gan gynnwys Taliadau Tanwydd y Gaeaf, Treth y Cyngor, gofal iechyd ac os ydych yn 75 oed neu’n hŷn, trwydded deledu am ddim.

Amcangyfrifir bod gan oddeutu 80,000 o bensiynwyr ledled Cymru hawl i Gredyd Pensiwn, ond nad ydynt yn ei hawlio. Mae dau lythyr eisoes wedi'u hanfon at bensiynwyr cymwys yn Sir Ddinbych i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a’u hannog i wneud cais yn ogystal â galwadau ffôn dilynol ac ymgysylltu â phartneriaethau.

Mae Credyd Pensiwn yn darparu cymorth hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel, gan godi eu hincwm i leiafswm o £218.15 yr wythnos ar gyfer pobl sengl neu £332.95 ar gyfer cyplau. I’r bobl hynny sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, mae’n bosibl y bydd ganddynt hawl i arian ychwanegol os ydynt wedi gwneud darpariaethau tuag at eu hymddeoliad, megis cynilion neu bensiwn preifat. Gelwir hyn yn Gredyd Cynilion a gall fod hyd at £17.01 ar gyfer pobl sengl neu £19.04 ar gyfer cyplau.

Dywedodd Liz Thomas, Pennaeth Cyllid ac Archwilio, Cyngor Sir Ddinbych:

“Rwy’n falch iawn bod yr ymgyrch eisoes wedi arwain at nodi miloedd o bunnoedd o fudd-daliadau heb eu hawlio i helpu pensiynwyr yn Sir Ddinbych. Mae hyn yn newyddion i’w groesawu, a byddwn yn annog ffrindiau a pherthnasau i ddechrau sgwrs gyda phobl hŷn i ddarganfod pa gymorth ariannol a allai fod ar gael.

Mae hawlio Credyd Pensiwn yn bwysig oherwydd gall ddarparu mynediad at ystod o hawliadau eraill. Efallai mai ychydig o bunnoedd yn unig y gall rhai pobl ei hawlio mewn Credyd Pensiwn, felly gall deimlo nad yw’n werth ei hawlio, ond dylent ystyried y darlun ehangach gan ei fod yn agor y drws i lawer mwy o gymorth gan gynnwys y Taliad Tanwydd y Gaeaf. Gall sicrhau bod preswylwyr yn cynyddu incwm eu haelwydydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Gallwch ddechrau eich cais hyd at bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch hawlio unrhyw bryd ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond gall eich hawliad ond gael ei ôl-ddyddio hyd at dri mis, cyn belled a bod gennych hawl yn ystod yr amser hwnnw. Mae hyn yn golygu mai’r dyddiad olaf i wneud cais a dal i fod yn gymwys am Daliad Tanwydd y Gaeaf yw 21 Rhagfyr 2024. 

Gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn a’r swm y gallech ei hawlio gan ddefnyddio’r cyfrifiannell pensiwn - www.gov.uk/cyfrifiannell-credyd-pensiwn.

Dywedodd Graham Kendall, Prif Swyddog Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

“Mae’r ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus iawn gan ein bod wedi gallu targedu’r pensiynwyr hynny a allai fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn yn uniongyrchol drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych.

“Rydym yn delio â nifer o breswylwyr sy’n ei chael yn anodd mantoli’r cyfrifon yn sgil costau byw, ond sydd o bosibl yn teimlo’n rhy falch i ystyried edrych i mewn i’r cymorth ariannol a all fod ar gael iddynt. Rydym yn ceisio tynnu rhwystrau ac annog preswylwyr i fod yn agored a thrafod eu hamgylchiadau personol.

“Rydym yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol gan gynnwys gwiriadau budd-daliadau llawn, llenwi ffurflenni, cefnogi cwsmeriaid i reoli tlodi tanwydd a darparu cyngor tai.”

Os ydych yn ansicr o ran eich cymhwysedd, neu os hoffech help a chymorth gyda’ch cais, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar 01745 346 775 neu trwy eu ffurflen ar-lein - www.cadenbighshire.co.uk/hafan. Fel arall, gellir gwneud hawliadau ar-lein ar www.gov.uk/credyd-pensiwn neu drwy ffonio llinell hawlio Rhadffôn Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.

Defnyddwyr yn rhoi bywyd newydd i adeilad Iechyd Meddwl Cymunedol

Ystafell wedi'w addurno

Yn ddiweddar, bu trigolion lleol sydd yn derbyn Cefnogaeth Iechyd Meddwl drwy'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cymryd rhan mewn prosiect i drawsnewid eu hadeilad Iechyd Meddwl Cymunedol yn Ninbych, Tîm Dyffryn Clwyd.

Tarddiad y syniad oedd trigolion yn rhannu adborth gyda staff, a’r casgliad oedd bod yr adeilad yn rhy ffurfiol a chlinigol, gan amharu ar y ffordd yr oeddynt yn ymgysylltu â’r gwasanaeth.

Roedd y ddau wasanaeth eisiau sicrhau bod trigolion yn teimlo bod eu barn yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, ac roeddynt yn teimlo y byddai’n beth da petai trigolion yn ymgymryd â pherchnogaeth y gofod maen nhw’n ei ddefnyddio.

Yn ystod sesiynau ‘Lles drwy Gelf’ sy’n cael eu hariannu gan grant Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymunedol Cysylltu Cymunedau Llywodraeth Cymru, bu’r dinasyddion yn datblygu darnau o gelf i addurno’r ystafelloedd, gan ddefnyddio sawl cyfrwng yn cynnwys inc, cyanotype a hyd yn oed potiau planhigion oedd wedi'u gwehyddu.

Mae wal nodwedd i’w gweld mewn dwy ystafell sydd wedi’u paentio mewn lliwiau cynhesach, tawelol, a rhoddwyd cyfle i ddinasyddion ailenwi’r ystafelloedd ymgynghori yn yr adeilad hefyd, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thema natur y prosiect. Mae’r ystafelloedd bellach wedi cael eu henwi ar ôl tri mynydd lleol, sef Moel Famau, Moel Arthur a Moel Fenlli.

Fe sicrhawyd arian hefyd i brynu dodrefn newydd ar gyfer yr ystafelloedd a fydd yn help i foderneiddio’r gofod yma.

Mae’r broses o gymryd rhan yn y prosiect yma wedi galluogi trigolion i weithredu 5 Ffordd at Les, sy’n helpu iddynt gynnal Lles Meddyliol drwy gysylltu ag eraill, I Roi, I Sylwi, I fod yn Weithgar ac I Ddysgu Rhywbeth Newydd. Y gobaith yw y bydd yn helpu i newid canfyddiad trigolion o’r adeilad a’u hailgysylltu gyda’r gwasanaeth mewn modd mwy cadarnhaol.

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd Oedolion: “Mae’r trawsnewidiad o Dîm Dyffryn Clwyd dan arweiniad trigolion yn ysbrydoledig, gan ddangos effaith ryfeddol awdurdodi unigolion i helpu i lywio’r gwasanaethau lleol maen nhw’n eu defnyddio. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych arall o ymgysylltu a chydweithio yn arwain at newid cadarnhaol yn y gymuned.”

Gwaith yn dechrau i wella hen ysgol bentref ym Mryneglwys

Ysgol Bryneglwys

Mae Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) wedi penodi contractwr i ymgymryd â gwelliannau ar adeilad hen ysgol, i fod yn ganolbwynt cymunedol ym Mryneglwys.

Ar 19 Ionawr 2023, cafodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad bod £10.95 miliwn wedi’i ddyfarnu iddynt gan Llywodraeth y DU ar gyfer cyn-etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi y ddatblygiad o 10 prosiect sydd â’r nod o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, lles a’i chymunedau gwledig.

Roedd y prosiect yma yn un o’r 10 a gynhwyswyd yng nghais y Cyngor i Lywodraeth y DU, ac o ganlyniad derbyniodd Cymdeithas Canolfan Ial (CCIA) £327,000 o’r cyllid yma gan Lywodraeth y DU i adnewyddu’r hen ysgol bentref a sicrhawyd £65,000 pellach o Gronfa Fferm Wynt Clocaenog tuag at y prosiect.

Ar ôl cau Ysgol Bryneglwys yn 2014, daeth grŵp o wirfoddolwyr at ei gilydd i sicrhau y gallai ased cymunedol gwerthfawr ar un adeg ddod yn rhan annatod o’r gymuned unwaith eto.

Ffurfiodd y grŵp o breswylwyr Gymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) a derbyn statws elusen ym mis Ebrill 2020, gyda’r nod i droi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol sydd wirioneddol ei angen.

Roedd Adever Construction yn llwyddiannus yn eu tendr ar gyfer y prosiect ac mae gwaith rhagarweiniol wedi dechrau i gael gwared ar asbestos presennol o fewn yr adeilad, cynnal profion aer glân a rendro’r tu allan i’r canolbwynt cymunedol.

Bydd gwelliannau pellach y tu mewn i’r adeilad yn galluogi i ddigwyddiadau cymunedol gael eu cynnal o fewn y canolbwynt cymunedol yn y dyfodol a darparu cyfleuster canolfan glyd i breswylwyr.

Dywedodd Pat Downes, Cadeirydd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA):

“Cafodd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) ei ffurfio fel elusen un mater i droi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol sydd wir ei angen. Mae wedi bod yn lawer o waith caled ac mae cymaint o bobl wedi ein helpu ni dros y blynyddoedd. Mae yna ymdrech tîm gwirioneddol wedi bod o amgylch y prosiect hwn.

“Mae’n amser cyffrous, nid yn unig i CCIA, ond gobeithio y bydd y pentref cyfan yn edrych ymlaen at gael yr amwynder hwn. ydd yn cynnig cyfle i breswylwyr ddod ynghyd yn rheolaidd yn y caffi newydd ac yn darparu lle i gynnal digwyddiadau fel cyngherddau. Bydd hefyd ar gael i’w logi unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Rydym yn falch o glywed bod contractwr wedi’i benodi i gwblhau’r gwelliannau hyn sydd wir eu hangen i greu canolbwynt cymunedol ym Mryneglwys.

“Mae’n gyffrous bod Cyngor Sir Ddinbych wedi gallu cefnogi’r gymuned hon i gyflawni eu dyheadau. Mae hybiau fel hyn hefyd yn chwarae rôl hanfodol i ddod â’r preswylwyr ynghyd ac rydym yn gobeithio pan fydd y gwaith adfer wedi’i gwblhau y bydd yn ased gwerthfawr i bobl Bryneglwys.”

Adolygu perfformiad y Cyngor

Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn llunio adroddiad i grynhoi ei berfformiad. Mae’r adroddiad yn rhan ganolog o’r ffordd rydym ni’n gwerthuso ein perfformiad er mwyn sicrhau ein bod yn darparu canlyniadau cadarnhaol i bobl a llefydd yn Sir Ddinbych, ac i sicrhau bod ein trefniadau llywodraethu yn effeithiol. Mae bod yn dryloyw ac agored am ein perfformiad yn rhan o’n gwerthoedd ac egwyddorion craidd fel Cyngor.

Wedi’i gyhoeddi ar-lein yma, mae ein crynodeb gweithredol am y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 yn ceisio tynnu sylw at uchafbwyntiau ein perfformiad yn erbyn ein swyddogaethau, ac mae’n edrych ymlaen at yr heriau rydym ni’n eu hwynebu. Rydym wedi amlygu meysydd y dylem ganolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau y gellir cynnal perfformiad a’i wella lle bo’r angen. Mae ein hadroddiadau perfformiad manwl bob chwe mis wedi’u cyhoeddi ar-lein hefyd.

Mae yna faterion sylweddol rydym ni’n ceisio mynd i’r afael â nhw drwy ein Cynllun Corfforaethol, ac fe fydd y rhain yn cymryd amser cyn y gwelwn ni welliant; yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd presennol.

Yn ystod blwyddyn 2023 i 2024, rydym wedi ymateb i’r pwysau ariannol mae pob Awdurdod Lleol yn eu hwynebu mewn modd cyfrifol. Rydym wedi defnyddio ein hadnoddau’n ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol, mae ein trefniadau llywodraethu’n gweithredu ac yn effeithiol ac mae ein ffocws ar sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n hamgylchedd a’n cymunedau yn Sir Ddinbych. Mae rhai o’r cyflawniadau ar gyfer y flwyddyn tan fis Mawrth 2024 yn cynnwys:

  • Rydym wedi sicrhau buddion i’r economi leol a’n cymunedau trwy’r gwaith caffael rydym wedi’i wneud. Roedd cyfanswm y gwariant drwy gaffael, gan gynnwys cyllid grant, yn ystod blwyddyn ariannol 2023 i 2024 yn £226,978,810; caiff £83,426,447 o’r swm hwn ei wario o fewn Sir Ddinbych (35.2%). Roedd 56% o’r caffaeliadau perthnasol yn cynnwys buddion cymunedol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i alinio’r rhain â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
  • Rydym wedi gweld twf yn ystod y flwyddyn o ran nifer y micro ddarparwyr sy’n darparu gofal a chymorth personol, o ansawdd uchel, yn y gymuned, o 30 i 57. Mae micro ddarparwyr yn cefnogi lles personol a chymunedol trwy ganiatáu mwy o fynediad at wasanaethau i breswylwyr. Mae hyn yn helpu pobl i gadw’n ddiogel ac iach adref ac mae’n rhoi dewis a rheolaeth iddynt dros eu gofal a’u cymorth. 
  • Mae’r gefnogaeth a roddir i hyrwyddo datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar wedi parhau i gryfhau, gyda chyfraddau rhagorol o blant yn cymryd rhan yn y cynnig gofal plant (772) a chefnogaeth ragorol barhaus gan Weithwyr Cyswllt Teulu i gefnogi plant i fynd i’r feithrinfa. Roedd gwasanaethau llyfrgell fel Dechrau Da yn boblogaidd hefyd, gyda 99% o rieni yn teimlo effaith gadarnhaol o fynychu Dechrau Da ac Amser Rhigwm, a chymerodd 2,478 o blant ran yn Sialens Ddarllen 2023. Cafodd Canolfan Blant Integredig Oaktree ei hymestyn yn ystod y flwyddyn ac erbyn mis Ionawr 2024, roedd y cynnig prydau ysgol am ddim ar gael i bob disgybl cynradd yn Sir Ddinbych.
  • Ar ddiwedd 2023, roedd yn flwyddyn ers sefydlu’r Canolbwynt Gwefru Cerbydau Trydan ym maes parcio Gorllewin Cinmel yn y Rhyl Ers dod yn weithredol, mae’r canolbwynt wedi darparu dros 250,000 o filltiroedd cludiant gwyrdd i fodurwyr. 
  • Parhaodd cynlluniau amddiffyn yr arfordir yn y Rhyl a Phrestatyn.
  • Mae’r tîm Ynni wedi bod yn gweithio i helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau yn ogystal â chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chostau ynni yn yr hirdymor. Mae rhan o ymgais y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019, ac i leihau ei ôl-troed carbon ei hun, yn cynnwys prosiectau sydd wedi cyflawni carreg filltir o osod mwy na megawat o gapasiti ynni adnewyddadwy (1099kWp). Cynhyrchir y mwyafrif o’r ynni hwn drwy baneli solar ffotofoltäig ar y to. Bydd y capasiti hwn yn darparu tua 1.05MWh y flwyddyn (1,056,431kW), sydd gyfwerth â darparu trydan di-garbon i redeg 364 o gartrefi. Bydd hyn hefyd yn sicrhau gostyngiad o 306 tunnell y flwyddyn mewn allyriadau carbon.
  • Rydym wedi gweld cynnydd o ran hyder ymhlith swyddogion ac Aelodau wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ffurfiol ac anffurfiol yn y Cyngor o ddydd i ddydd. Mae hyn yn rhan allweddol o’n Cynllun Corfforaethol fel ein bod yn chwarae ein rhan wrth sicrhau miliwn o Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, gan sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, ffyniannus yn y Cyngor a’n cymunedau.

Fel sy’n wir gydag unrhyw sefydliad, mae meysydd lle mae angen gwella cynnydd. Yn ystod y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, cafodd y canlynol eu hamlygu:

  • Nid yw canfyddiadau am y Cyngor a gafodd eu mynegi trwy ein harolwg blynyddol i fudd-ddeiliaid mor gadarnhaol ag a hoffem.
  • Mae nifer fawr o bobl ar y rhestr aros am dai o hyd, ac mae heriau o ran digartrefedd.
  • Mae isadeiledd ffyrdd a phontydd yn dal i fod yn faes gwaith heriol ac mae trafodaethau’n parhau gyda phartneriaid o ran gosod Pont Llannerch newydd.
  • Mae tlodi a hyfywedd ein heconomi leol yn dal i beri pryder, fel materion hirdymor. Rydym hefyd yn pryderu am nifer y rhai sy’n gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 11, nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant. Mae cefnogaeth ragorol gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn ceisio uwchsgilio a chefnogi pobl i ennill profiad a magu hyder, er enghraifft, trwy gynnig cyrsiau hyfforddi wedi’u hariannu’n llawn.

Mae adroddiadau llawn a gwybodaeth am berfformiad i’w gweld yma.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk

Diwrnod Agored Heddlu Gogledd Cymru

Cynnal ail rownd o sesiynau galw heibio Cynlluniau Creu Lleoedd

Ar ôl rownd gyntaf lwyddiannus o sesiynau ymgysylltu, mae ail rownd o sesiynau galw heibio Cynlluniau Creu Lleoedd yn cael eu cynllunio ar gyfer dechrau mis Medi yn Ninbych a Chorwen.

Nod Cynlluniau Creu Lleoedd yw gwella lleoliad a sicrhau bod pob agwedd sy’n gwneud lleoliad yn lle gwych i fyw, i weithio ynddo ac ymweld ag ef yn cael eu hystyried. Mae Cynlluniau Creu Lleoedd llwyddiannus yn cael eu llywio gan wybodaeth pobl leol a sut maent yn byw eu bywydau.

CORWEN

Cynhelir sesiwn galw heibio Cynlluniau Creu Lleoedd Corwen ar 10 Medi yn Llyfrgell Corwen rhwng 12pm a 5pm ac yn Neuadd Parc Coffa Corwen rhwng 5:30pm ac 8pm, ac anogir trigolion i alw heibio ar unrhyw adeg yn ystod yr amserlen hon i ddweud eu dweud.

DINBYCH

Cynhelir sesiwn ymgysylltu Dinbych ar 11 Medi yn Llyfrgell Dinbych rhwng 2pm ac 8pm.

Bydd staff o'r Cyngor yn bresennol i gasglu barn pobl am y weledigaeth a’r ymyriadau ar gyfer Corwen a Dinbych ac rydym am sicrhau bod yr adborth a gasglwyd hyd yma yn gywir a pharhau i gasglu barn a safbwyntiau lleol am y strategaeth ddrafft a'r cynigion a baratowyd.

Yn ystod y rownd gyntaf o sesiynau a gynhaliwyd yn ôl ym mis Mehefin, daeth trigolion i leisio eu barn am ddyfodol eu trefi. Bydd y sesiynau diweddaraf hyn yn trafod y newidiadau a wnaed ac a gafodd eu llywio gan sesiynau ymgysylltu’r haf.

Meddai Jason McLellan,  Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Caiff ein trefi eu siapio gan y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw, a bydd eu barn yn helpu i ddiffinio gweledigaeth y cynlluniau hyn ar gyfer y dyfodol yn eu trefi perthnasol. Byddwn yn annog trigolion i ddod draw i leisio’u barn ar y Cynlluniau Creu Lleoedd, ac i weld sut mae adborth o’r sesiynau blaenorol wedi cyfrannu at eu siapio.”

Gwastraff ac Ailgylchu

Casglu Cardbord

Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf fe wnaethom gasglu 289.96 tunnell o gardbord, ac rydym yn gwerthfawrogi bod preswylwyr wedi gorfod rhoi cardbord ychwanegol allan fel gwastraff ochr oherwydd yr anawsterau gyda'r cyflwyniad gan fod y bag glas yn llawn.
Fodd bynnag, o hyn ymlaen, byddwn ddim ond yn gallu casglu cardbord sydd yn y bag glas. Sicrhewch fod eich cardbord yn ffitio y tu mewn i'r bag a chau'r fflap i'w gadw mor sych â phosibl.
Os oes gennych chi gardbord ychwanegol nad yw'n ffitio yn eich bag, rhowch ef allan yr wythnos ganlynol, neu ewch ag ef i'ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.
Gallwch wirio'r canllaw A-Y i ddarganfod sut i ailgylchu'r rhan fwyaf o eitemau cartref ar ein gwefan.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Haf o Hwyl yn ein Llyfrgelloedd

Cawsom lond lle o hwyl yn ein llyfrgelloedd dros yr haf, gyda rhaglen amrywiol a chreadigol o weithgareddau i gyd fynd gyda thema’r Sialens Ddarllen eleni - Y Crefftwyr Campus.

Trwy gymorth cyllid a drefnwyd ar y cyd gyda Hamdden Sir Ddinbych cynhaliwyd 20 o weithdai amrywiol yn yr wyth Llyfrgell gyda’r artistiaid lleol Tara Dean, Lisa Carter, Elen Williams a Jess Balla.

Cafodd y plant gyfle i wneud gwaith clai, printio collage, creu comic ac addurno hetiau papur.

Mwynhaodd teuluoedd weithgareddau bywiog tu allan gydag amser rhigwm a mynd am dro dan ofal y tîm Dechrau Da. Roedd sesiynau crefft galw-mewn yn Llyfrgell Dinbych a gweithdai ysgrifennu creadigol yn Llyfrgell Y Rhyl.

Cawsom hefyd ymweliad ac amser stori gan yr anhygoel Mama G yn Llyfrgelloedd Llanelwy, Rhyl a Dinbych.

Diwrnod Cenedlaethol Grŵp Llyfrau

Medi 12fed yw Diwrnod Cenedlaethol Grwpiau Darllen i ddathlu ein grwpiau darllen ar draws y DU.

Cynhelir grŵp darllen yn amryw o’n llyfrgelloedd, rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg.

Os hoffech wybod mwy gwelwch y manylion ar ein gwefan neu holi yn eich Llyfrgell leol. 

Mae ymuno â grŵp darllen yn ffordd wych i gyfarfod pobl ac yn ôl ymchwil mae 91% o bobl yn mwynhau darllen mwy drwy fod yn rhan o griw darllen.

Twristiaeth

Rhaglen Twristiaeth a Lletygarwch: Dyddiadau ym mis Medi a Hydref

Nantclwyd y Dre

Gweithdy Ffotograffiaeth

Gweithdy gwydr lliw

Beth sydd ymlaen yn Nantclwyd y Dre

Cefnogaeth i drigolion

Cyngor gan ein Swyddog Digidol

Ydych chi'n dioddef o gynadleddau fideo sy’n araf a rhyngrwyd araf tra yn gweithio gartref?

Mae ein Swyddog Digidol ar gael i gynnig cyngor diduedd am ddim ar eich cysylltiad rhyngrwyd cartref, datrysiadau uwchraddio posibl a phroblemau Wi-Fi cartref.

Cysylltwch gyda Philip Burrows - philip.burrows@sirddinbych.gov.uk.

 

Cysylltedd Digidol Gwledig - cael trafferth gyda chysylltedd rhyngrwyd gartref neu yn y gwaith?  

Ewch i'r wefan www.cysylltedd.cymru i ganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i sicrhau fod gan bawb fynediad i ryngrwyd sy'n ddibynadwy.  Mae clinigau cysylltedd wedi'u trefnu yn y Sir a gellir lawrlwytho'r Canllaw Digidol yma >>> https://forms.office.com/e/DGDTzJg4zx

Sir Ddinbych yn Gweithio

Cwnsela cyflogaeth newydd i gefnogi pobl ddi-waith yn Sir Ddinbych

Mae RCS yn falch o fod wedi cael dyfarniad drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer rhaglen gwnsela newydd ar gyfer pobl ddi-waith a phobl sy’n anactif yn economaidd yn Sir Ddinbych.

Gan weithio’n agos gyda rhaglen Barod Sir Ddinbych yn Gweithio, bydd Gweithio’n Iach Sir Ddinbych yn cefnogi pobl ddi-waith a phobl sy’n anactif yn economaidd yn Sir Ddinbych, a’u prif rwystr rhag cyflogaeth yw cyflwr iechyd meddwl hirdymor.

Byddant yn derbyn hyd at naw sesiwn o gefnogaeth cwnsela gyfrinachol drwy dîm cwnsela mewnol RCS a darparwyr cysylltiedig.  Bydd y gefnogaeth yn helpu cyfranogwyr i: 

  • Ddatblygu strategaethau ymdopi
  • Gwella hunan-barch
  • Meithrin gwydnwch
  • Ymgysylltu’n effeithiol â chymorth cyflogadwyedd a symud yn nes at y farchnad lafur.

Mae adborth blaenorol wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol:

“Teimlaf fy mod wedi cael gwrandawiad a gofal ac roedd y cwnsela yn eithriadol o ddefnyddiol.”

“Cefais fwynhad mawr a dysgais ffyrdd da o ymdopi.”

“Gwnaeth wirioneddol fy helpu yn ôl i gyflogaeth ar ôl blynyddoedd o salwch meddwl.”

Mae RCS yn edrych ymlaen at weithio gyda Barod a phartneriaid eraill i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu elwa o’n cymorth arbenigol. 

Sut i gyrchu'r gwasanaeth

Os fyddech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn elwa o’r gwasanaeth hwn, cysylltwch heddiw workwell@rcs-wales.co.uk neu ffoniwch 01745 336442.

Prosiect Aspire

Y camau nesat at lesiant

Ffair Swyddi: 25 Medi

Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych ac yn chwilio am her neu yrfa newydd, dewch i gael sgwrs â chyflogwyr am gyfleoedd cyffrous ichi’n lleol!

Lleoliadau Gwaith a Hyfforddiant

 

Cwrs preswyl antur

Cynllun Dechrau Gweithio yn helpu darpar beiriannydd tuag at ei rôl

Llun o Alex

Ar ôl canlyniadau Lefel A a TGAU yn ddiweddar, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhoi sbotolau ar berson ifanc y buon nhw’n ei gefnogi’n ddiweddar ar ôl iddo adael addysg.

Mae gan Alex angerdd at Beirianneg ac fe ymhelaethodd ar hyn ymhellach trwy gynllun Dechrau Gweithio.

Mae’r Cynllun Dechrau Gweithio wedi’i ddylunio i ddarparu cyfleoedd lleoliad gwaith amhrisiadwy i bobl mewn sector maen nhw’n angerddol amdano, ac roedd yn drobwynt i Alex. Ar ôl ennill ei gymhwyster Lefel 2 mewn Peirianneg, gofynnodd am arweiniad arbenigol gan Swyddog Lleoliadau a fu’n helpu Alex i gael lleoliad 12 wythnos ym maes mecaneg ar ôl dangos sgiliau ac ymroddiad arbennig trwy gydol ei broses gyfweld. Mae posibilrwydd y bydd hon yn rôl barhaol ar ôl iddo gwblhau’r lleoliad.

Dywedodd cyn-gyfranogwr Sir Ddinbych yn Gweithio, Alex:

“Doeddwn i ddim yn siŵr lle i droi am gefnogaeth gyrfa ar ôl gadael addysg, ond cyn gynted i mi glywed am Sir Ddinbych yn Gweithio, cysylltais â nhw.

Rhoddodd y Cynllun Dechrau Gweithio gyfle i mi ennill gwybodaeth a sgiliau i gael y swydd yr oeddwn ei heisiau, a bydd y profiad hwn yn aros gyda mi wrth i mi ddatblygu ymhellach yn fy ngyrfa.

Byddwn i’n argymell Sir Ddinbych yn Gweithio i unrhyw un sydd wedi gadael yr ysgol neu addysg fel fi, heb y profiad na’r sgiliau perthnasol ar gyfer eich gyrfa ddewisol. Cefais lawer o help ganddyn nhw.”

Meddai Ross o Redstone Services, Rhuthun:

“Mae Alex wedi bod gyda ni ers rhai wythnosau bellach yn helpu o amgylch y gweithdy a’n dysgu’r broses a’r manylder rydyn ni’n rhoi i’n gwaith er mwyn gallu trwsio cerbydau i’r lefel uchaf. Mae Dechrau Gwaith wedi ein helpu i ddod o hyd i’r person iawn i’n cwmni ni. Baswn i’n argymell Sir Ddinbych yn Gweithio i unrhyw gyflogwr sydd angen help llaw wrth edrych am weithwyr.”

Dywedodd Racheal Sumner-Lewis, Rheolwr Perthnasoedd Cyflogwyr a Hyfforddiant yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Daeth Alex atom i chwilio am yrfa ddiogel ym maes mecaneg ac rydym wrth ein boddau o fod wedi gallu ei gefnogi gyda hynny.

Trwy gynnig cefnogaeth wedi’i haddasu a sicrhau eu bod yn cael eu paru â chyfleoedd am leoliadau sydd ar gael, gallwn wylio cyfranogwyr yn rhagori yn eu llwybr gyrfa dewisol.

Os oes angen cefnogaeth cyflogaeth arnoch chi, cysylltwch â Sir Ddinbych yn Gweithio i weld sut gallwn ni eich helpu chi.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Gall canfod y cam nesaf ar ôl gorffen yn yr ysgol fod yn ddryslyd i rai.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yno i sicrhau bod rhai sy’n gadael yr ysgol yn cael yr help sydd ei angen arnynt wrth gymryd y cam nesaf ar eu taith.”

Mae’r Cynllun Dechrau Gweithio yn darparu cyfleoedd am leoliadau gwaith i breswylwyr Sir Ddinbych 16 oed a hŷn, i ennill profiad mewn swydd o’u dewis.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am un o’n lleoliadau Dechrau Gweithio, anfonwch e-bost at workstart@sirddinbych.gov.uk.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’w hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu sesiynau creu ffilmiau

sesiwn creu ffilm

Mae darpar wneuthurwyr ffilmiau lleol wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau blasu am ddim a gynhelir gan arbenigwyr diwydiant dros ddwy sesiwn.

Bu Sir Ddinbych yn Gweithio yn gweithio gyda elusen Cherddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE sy’n seiliedig yn Hen Golwyn, a sefydlwyd dau weithdy am ddim yn Llyfrgell y Rhyl, gan roi cyfle i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau lleol ddefnyddio offer ffilmio a golygu o safon broffesiynol.

Gwnaeth cyfranogwyr Sir Ddinbych yn Gweithio, busnesau a gwasanaethau lleol wirfoddoli i fod ar gamera yn rhannu eu profiadau cadarnhaol a phersonol o ddefnyddio’r gwasanaeth cyflogadwyedd a sgiliau a ddarperir gan Sir Ddinbych yn Gweithio, a bu cyfranogwyr newydd yn cydweithio i gofnodi eu stori.

Niall Jones o TAPE fu’n arwain y ddwy sesiwn, ac eglurodd hanfodion creu ffilmiau, gan rannu technegau a sgiliau allweddol yn ystod sesiwn awr a hanner.

Dywedodd Niall Jones, gwneuthurwr ffilmiau yng Ngherddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE:

“Mae rhannu sgiliau ac angerdd creadigol mewn ffordd sy’n cynnwys pawb wrth wraidd ethos TAPE. Diolch i Sir Ddinbych yn Gweithio am ganiatáu i ni gysylltu ymhellach â phreswylwyr Sir Ddinbych, a diolch i bawb a ddaeth i’r sesiynau i sicrhau ei fod yn brofiad mor ddifyr!”

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr ac Arweinydd Strategol Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Mae digwyddiadau fel hyn yn amlygu pwysigrwydd y gwasanaeth hwn a’r amrywiaeth eang o gefnogaeth cyflogaeth a sgiliau sydd ar gael i’n pobl ifanc yn y sir.

Rydym yn ddiolchgar o fod wedi gallu cydweithio â TAPE i ddarparu’r sesiynau hyn am ddim. Mae’r math hwn o broffesiynoldeb yn darparu profiad i breswylwyr gan ddefnyddio offer o ansawdd uchel, a fydd yn ychwanegu gwerth at eu CV.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Bydd y wybodaeth a gafwyd o’r sesiynau hyn yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau lleol o’r maes maen nhw am weithio ynddo.

Mae gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn caniatáu twf a dealltwriaeth ac mae’n ffordd wych o greu CV.”

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Lle mae’r holl bryfetach wedi mynd?

Efallai eich bod wedi sylwi, neu wedi darllen erthyglau newyddion, sy’n sôn am y prinder o bryfetach eleni.

Er bod gwyddonwyr yn credu mai problem dros dro yw hyn ac mai’r achos tebygol yw gwanwyn gwlyb iawn, mae’n rhoi syniad i ni o’r cydbwysedd bregus y mae ecosystemau natur yn bodoli ynddynt.  Rhychwant oes byr iawn sydd gan lawer o bryfetach ac fe gaiff eu cylch bywyd eu heffeithio gan newidiadau mewn systemau tywydd, a gall hyn fod yn broblem pan nad yw tymhorau yn aros mewn patrwm disgwyliedig.

Sut y mae pryfetach yn ein helpu ni?

Mae pryfetach yn chwarae rôl bwysig iawn yn y cylch bywyd ac atgynhyrchu blodau drwy broses o’r enw peillio.

Yn ystod y broses peillio, bydd pryfyn yn symud paill o un blodyn i’r llall, mae hyn yn caniatáu i’r blodyn gynhyrchu hadau (neu ffrwyth sydd yn cynnwys hadau). Fe wyddom ni gyd fod gwenyn yn beillyddion pwysig, ond mae pryfetach eraill yn cyfrannu at y broses hon. Mae cacwn, pryfed, chwilod a hyd yn oed gweision y neidr yn chwarae eu rhan yn peillio ein blodau, ein gwair a’n coed.  Mae rhai pryfetach yn gwneud hyn ar ddamwain, gan fod paill yn disgyn arnynt pan fyddant allan. 

Yn anffodus, gall llai o bryfetach olygu bod llai o hadau a ffrwythau’n cael eu cynhyrchu eleni. 

Mae’n bosibl y byddwn yn teimlo effaith hyn y flwyddyn nesaf hefyd. 

Mae pryfetach hefyd yn cefnogi rhywogaethau anifeiliaid eraill

Mae’r llun yma’n dangos gwe o fwyd. 

Planhigyn sydd ar y gwaelod.  Mae’r planhigyn yma’n cefnogi mamaliaid bach (megis cwningod) a rhywogaethau di-asgwrn cefn (gwlithod, malwod, morgrug a phryfetach eraill). Yna mae adar ac amffibiaid (megis brogaod, nadroedd defaid) yn bwyta’r rhywogaethau di-asgwrn cefn.  Ar ben y we, mae mamaliaid mawr ac adar a fydd yn bwyta’r mamaliaid bach.  Bydd unrhyw newidiadau yn y we yn achosi sgil effeithiau ar y rhywogaethau eraill wrth i argaeledd eu ffynonellau bwyd gynyddu neu leihau. 

Addasu i newid

Addasu ydi’r newid y mae rhywogaeth (megis pryfetach) angen ei wneud i fodoli yn ei amgylchedd.

Mae ein tymhorau wedi dechrau newid yn ddiweddar. Rydym ni’n cael gaeafau cynhesach, gwanwyn gwlyb a hafau poethach gyda thywydd ansefydlog a gwres eithafol sy’n torri pob record.  Fe fydd yn rhaid i natur a phryfetach ddechrau addasu i’r newidiadau yma, ond fe fydd rhai yn fwy cryf (fe fydd yna fwy ohonynt) am eu bod yn gallu addasu’n well. 

Ar nodyn trist, mae’n bosibl na fydd rhai rhywogaethau yn gallu addasu i’r newidiadau yma.

Beth ydym yn ei wneud i helpu?

Er mwyn rhoi’r cyfle gorau o oroesi ac addasu i bryfetach ac anifeiliaid eraill, mae angen i ni greu cynefinoedd addas iddynt. Mae ein prosiect dolydd blodau gwyllt yn enghraifft berffaith o hyn. 

Mae’r gymysgedd o flodau a gwair yn cefnogi llawer o bryfetach ac anifeiliaid. Mae gennym ni ddolydd blodau gwyllt mewn nifer o gymunedau ar draws y sir sydd yn rhoi cysylltedd iddynt.  Mae cysylltedd gyfystyr â’r A55, ond i bryfetach (!), gall pryfetach ac anifeiliaid symud rhwng y safleoedd yma heb gael eu hatal gan ardaloedd yn llawn tai neu ddiwydiant.

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

  • Mae eich gardd neu flwch ffenestr yn fan pwysig ar gyfer pryfetach ac anifeiliaid
  • Fe allech chi blannu planhigion, blodau a ffrwythau brodorol
  • Gadewch i ddarn o wair dyfu’n hir rhwng y gwanwyn a’r hydref (mae gwair yn bwysig iawn i bryfetach hefyd)
  • Ystyriwch greu pwll natur i annog amffibiaid a phryfetach y dŵr (pryfetach sy’n byw yn y dŵr neu ar y dŵr)

Am fwy o wybodaeth neu syniadau ewch i ...

Rhwydwaith darparu miloedd filltiroedd mwy gwyrdd ystod flwyddyn gyntaf

mae rhwydwaith Cyngor Sir Ddinbych o fannau gwefru cerbydau trydan

Mae rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus wedi dathlu ei ben-blwydd cyntaf drwy ddarparu miloedd o filltiroedd gwyrdd i fodurwyr i deithio o amgylch Sir Ddinbych.

Ers lansio’n swyddogol yr haf diwethaf, mae rhwydwaith y Cyngor o fannau gwefru cerbydau trydan wedi’u lleoli ar draws holl drefi’r sir wedi darparu 239,146kwh i fodurwyr yn defnyddio’r cyfleusterau.

Mae hynny gyfwerth â 837,000 milltir o deithiau carbon is mwy gwyrdd wedi’u darparu gan y rhwydwaith, sydd yr un pellter â theithio o amgylch cylchedd y byd bron i 34 gwaith.

Yn nes at adref, mae’r milltiroedd gyfwerth ag oddeutu 1,000 o deithiau o Lands End i John O’Groats a 9,300 o deithiau o Gaergybi i Wrecsam.

O ran y rhai hynny sy’n defnyddio milltiroedd mwy gwyrdd i deithio o amgylch Sir Ddinbych, mae’r swm blynyddol yn gyfwerth yn fras â 19,420 o deithiau mewn car o arfordir Prestatyn i olygfeydd yr Afon Dyfrdwy yn Llangollen.

A hithau’n wyliau’r haf, gall y rhwydwaith cerbydau trydan ddarparu cyfle ardderchog i deithio o amgylch Sir Ddinbych i fwynhau’r holl atyniadau sydd gan y sir i’w cynnig wrth wefru eich cerbyd.

Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Rheilffordd Llangollen, mae pum peiriant gwefru cerbydau trydan ar gael ger yr orsaf ym maes parcio Lôn Las, Corwen, fel rhan o brosiect ar y safle a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Yn Llangollen, mae mannau gwefru ar gael yn Heol y Farchnad a meysydd parcio’r Pafiliwn.

Mae maes parcio Cae Ddôl yn Rhuthun yn cynnig cyfleusterau gwefru cerbydau trydan i’w defnyddio ger y Carchar a’r parc ei hun os ydych yn ymweld â’r dref gyda’r teulu ac mae mannau gwefru hefyd ar gael yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Os ydych yn ymweld â’r arfordir yr haf hwn, mae gwefrwyr cyflym ar gael ym maes parcio Gorllewin Stryd Cinmel, Y Rhyl a maes parcio Rhodfa Brenin, Prestatyn.

Mae mannau gwefru eraill y rhwydwaith ym maes parcio Lôn y Post, Dinbych, maes parcio’r lawnt fowlio yn Llanelwy, maes parcio Morley Road yn Y Rhyl a maes parcio Rhodfa Rhedyn, Prestatyn.

Ategwyd y gwaith ar y rhwydwaith wefru ychwanegol ar gyfer rhai safleoedd gan gyllid grant drwy Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau Llywodraeth y DU (OZEV)

Mae'r prosiect hwn hefyd wedi'i gynnal i gefnogi pobl i drosglwyddo i gerbyd trydan lle nad oedd ganddynt fynediad i gyfleuster gwefru o'r blaen.

Mae’r rhwydwaith cerbydau trydan cyhoeddus yn rhan o gamau gweithredu cyffredinol y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 drwy leihau ôl-troed carbon y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Braf iawn yw gweld y rhwydwaith cerbydau trydan cyhoeddus yn helpu i gefnogi milltiroedd mwy gwyrdd yn ystod y flwyddyn swyddogol gyntaf. Rydym eisiau lleihau allyriadau carbon o amgylch y sir ac mae’r rhwydwaith yn helpu i symud tuag at hyn drwy gefnogi dulliau mwy gwyrdd o deithio.

“Mae’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus hefyd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n lleol i’r sir neu sy’n ymweld o bell yr haf hwn oherwydd ei fod yn darparu cefnogaeth ddelfrydol ar gyfer ymweld ag atyniadau a gwefru cerbydau wrth wneud hynny.

“Gall gyrwyr cerbydau trydan gynllunio llwybrau o amgylch y sir yn defnyddio’r rhwydwaith i fwynhau’r hyn sydd gan Sir Ddinbych i’w gynnig, a chefnogi ein busnesau lleol pan fyddant yn stopio mewn mannau gwefru a darganfod beth sydd gan y trefi i’w gynnig tra eu bod yn aros.

“Mae’r cyfleusterau hyn hefyd yn bwysig i helpu’r rhai hynny sydd eisiau newid i gerbydau trydan ond nid oes ganddynt y cyfleuster na man parcio oddi ar y ffordd i wneud hynny.”

Coeden hanesyddol yn hau bywyd newydd mewn planhigfa

Mae Coed Cerddin Gwyllt

Mae coeden brin, sydd wedi rhoi ysbrydoliaeth i enwi llawer o dafarndai yn y DU, yn hau dyfodol newydd iddi’i hun yn Sir Ddinbych.

Mae Coed Cerddin Gwyllt yn ffynnu yr haf hwn ym Mhlanhigfa y Cyngor yn Llanelwy.

Nod y blanhigfa goed yn Green Gates Farm, Llanelwy yw cynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwylltion cynhenid y flwyddyn, ynghyd â 5,000 o goed cynhenid.

Bydd coed a phlanhigion a dyfir yn y blanhigfa yn y pen draw yn mynd yn ôl i gefn gwlad i hybu bioamrywiaeth.

Dim ond mewn ychydig o leoliadau anghysbell ar draws Sir Ddinbych y mae’r gerddinen i’w gweld. Yn hanesyddol fe'i gelwir hefyd yn goeden ‘chequers’ yn Saesneg oherwydd y ffrwythau y dywedir eu bod yn blasu'n debyg i ddatys ac a roddwyd i blant yn y gorffennol fel fferins.

Yn draddodiadol, gwnaed cwrw brag alcoholig o ffrwythau’r goeden hefyd a chredir mai dyma sydd wedi arwain at enwi nifer o dafarndai yn ‘Chequers’.

Wedi egino nifer o goed Cerddin a gasglwyd yr hydref diwethaf, mae’r blanhigfa leol wedi tyfu nifer o goed iach i gefnogi’r darn hanesyddol hwn o natur.

Mae’r blanhigfa goed a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, bellach yn gartref i 240 o goed Cerddin iach sy’n tyfu.

Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Rydym yn falch iawn bod y cyfleusterau yma yn y blanhigfa goed wedi rhoi achubiaeth bwysig yn ein sir i goeden brin â chydnabyddiaeth hanesyddol.

“Ar ôl egino mewn bagiau rhewgell yn llawn compost yn yr oergell, gyda chymorth y staff a’n grŵp gwych o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r blanhigfa, symudwyd yr hadau i botiau gwreiddio, cyn cael eu plannu mewn potiau 3 litr.

“Diolch i’r holl sylw a roddwyd i warchod y Gerddinen, mae gennym 240 o goed yn yr awyr agored ar dir y blanhigfa yn mwynhau’r tywydd cynnes, ac maen nhw’n tyfu’n dda. Pan fyddant wedi tyfu digon, byddwn yn eu symud i rannau o’r sir i helpu i roi hwb i’w niferoedd.”

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae ein tîm Bioamrywiaeth yn gweithio’n galed i leihau effaith newid hinsawdd ar ein tiroedd, lle mae llawer o rywogaethau’n prinhau’n anffodus.

“Bydd yr ymdrech wych hon nid yn unig yn helpu byd natur i wella ond bydd hefyd yn rhoi darn o hanes yn ôl i’n cymunedau yn y dyfodol y gallant fynd allan i’r awyr agored i ymweld ag ef a’i fwynhau er eu lles corfforol a meddyliol eu hunain.”

Gwaith yn lleihau defnydd ynni cyfleuster storio’r Cyngor yn sylweddol

Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau prosiect i leihau’r defnydd o ynni a hefyd i leihau costau ynni yn hirdymor yn safle Storfeydd Corfforaethol y Cyngor yn Lôn Parcwr, Rhuthun.

Mae gwaith carbon isel yng nghyfleuster storio’r Cyngor wedi gostwng y defnydd o ynni yn sylweddol ar sail misol bron 75 y cant.

Mae Tîm Ynni y Cyngor wedi cwblhau prosiect i leihau’r defnydd o ynni a hefyd i leihau costau ynni yn hirdymor yn safle Storfeydd Corfforaethol y Cyngor yn Lôn Parcwr, Rhuthun.

Mae’r tîm wedi gweithio ar nifer o brosiectau i helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau’r Cyngor, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chostau ynni yn yr hirdymor.

Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon adeiladau ei hun fel rhan o’r ymateb.

Mae Storfeydd Corfforaethol yn cefnogi gwasanaethau ar draws y Cyngor drwy ddarparu cyfleusterau storio sydd eu hangen.

Gosododd y Tîm Ynni system oleuo LED newydd sy’n gallu helpu i leihau defnydd trydan i oleuo adeiladau o leiaf 50 y cant.

Ynghyd â’r system LED ac 11kW o baneli solar ffotofoltäig hefyd wedi eu gosod ar do’r adeilad i harneisio ynni’r haul i leihau’r defnydd o’r Grid Cenedlaethol. Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r rheolyddion gwresogi hefyd wedi eu cwblhau.

Mae’r gwaith cyfunol hwn wedi gweld gostyngiad o hyd at 75 y cant mewn defnydd ynni yn ystod misoedd yr haf yn y safle gan arwain at arbediad cost o £1109 y mis. Disgwylir arbedion blynyddol o dros £11,000 y flwyddyn. Bydd yr arbedion allyriadau carbon dros 11 tunnell y flwyddyn.

Dywedodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Mae storfeydd corfforaethol yn adeilad unigryw i ni roi sylw iddo gan nad oes yna lawer o ffenestri yn yr adeilad sy’n golygu bron dim golau naturiol ac mae golau yn flaenoriaeth gan ei fod y prif ddefnyddiwr ynni. Mae defnyddio system LED i fynd i’r afael â’r angen am olau rheolaidd yn yr adeilad, a gefnogir gan y paneli ffotofoltäig wedi ein helpu i gyflawni’r gostyngiad mawr hwn mewn defnydd ynni a hefyd costau ynni is dros yr hirdymor.

Mae prosiectau a gwblhawyd mewn adeiladau eraill sy’n eiddo i’r Cyngor hefyd wedi gweld y Tîm Ynni yn llwyddo i gyrraedd carreg filltir bwysig o dros fegawat o gapasiti ynni adnewyddadwy (1099kWp). Cynhyrchir y mwyafrif o’r ynni hwn drwy baneli solar ffotofoltäig ar y to. Gall pob cilowat a gynhyrchir gan baneli ffotofoltäig arbed tua 30 ceiniog.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi ymrwymo i barhau i sicrhau fod yr ôl-troed carbon yn gostwng ar draws y sir drwy edrych ar adeiladau sy’n eiddo i ni a datblygu prosiectau i helpu i dorri allyriadau ac arbed costau ynni yn yr hirdymor. Yn ogystal ag edrych ar ein hadeiladau rydym hefyd yn canolbwyntio ar brosiectau i gefnogi’r gwaith o leihau allbwn carbon o'n fflyd, cerbydau preifat yn ogystal â hybu gwytnwch bioamrywiaeth ar draws y sir.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Hanes Animeiddiedig Llangollen

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Sesiynau sgiliau cefn gwlad yn helpu disgyblion Llangollen

Codi waliau sych ar Fryngaer Oes yr Haearn Caer Drewyn

Yn ddiweddar, bu i ddisgyblion o Ysgol Dinas Brân dorchi eu llewys er mwyn dysgu sgiliau rheoli cefn gwlad.

Cafodd y bobl ifanc eu cefnogi gan Swyddogion Ymgysylltu Addysg o wasanaeth Llwybrau'r Cyngor i gymryd rhan mewn sesiynau addysg awyr agored a gynhaliwyd gan Geidwaid Cefn Gwlad o amgylch ardal ddeheuol y sir.

Mae ‘Prosiect Addysg Sir Ddinbych – Tîm Llwybrau’ yn cefnogi pobl ifanc yn Sir Ddinbych i leihau eu risg o ymddieithrio oddi wrth addysg, ac yn eu helpu i ail-ymgysylltu ag addysg neu symud i waith neu hyfforddiant ar ddiwedd blwyddyn 11. Cafodd y gwasanaeth arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Ceidwaid Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi helpu’r disgyblion i ddysgu sgiliau rheoli cefn gwlad a sgiliau eraill trwy’r sesiynau, yn cynnwys:

    • Clirio rhedyn yn Ninas Brân
    • Tynnu ffromlys ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr
    • Garddio yng Ngardd Gymunedol Corwen
    • Gweithgareddau crefftau yn Nhŷ a Gerddi Hanesyddol Plas Newydd gyda thîm Ein Tirlun Darluniadwy
    • Codi waliau sych ar Fryngaer Oes yr Haearn Caer Drewyn
    • Codi sbwriel ar hyd y Panorama

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Rwyf wrth fy modd yn gweld y gwaith gwych sydd wedi’i wneud gyda disgyblion Ysgol Dinas Brân, nid yn unig i gefnogi’r bobl ifanc hyn i ail-ymgysylltu gyda’u haddysg, ond hefyd i ysgogi diddordeb newydd ar gyfer sgiliau efallai na fyddent wedi’u datblygu trwy addysgu yn y brif ffrwd.

“Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth gan wasanaeth Llwybrau’r Cyngor, y mae eu Swyddogion Ymgysylltu Addysg profiadol wedi gwneud gwaith gwych i ddefnyddio sgiliau ac adnoddau o amrywiaeth o sefydliadau gwahanol er mwyn cefnogi’r disgyblion hyn i ail-ymgysylltu gyda’u haddysg a darganfod sgiliau a diddordebau newydd nad oeddent yn ymwybodol ohonynt o’r blaen.”

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r sesiynau hyn sydd wedi’u harwain gan ein Ceidwaid Cefn Gwlad wirioneddol wedi helpu’r disgyblion i fagu eu hyder a dysgu sgiliau newydd, ac maent wedi cael eu gwobrwyo gyda thystysgrifau i ddangos eu hymroddiad tuag at wirfoddoli ar y prosiect hwn.”

Rhandiroedd Prestatyn yn hafan i beillwyr

Blodyn yn y gardd

Mae rhandiroedd ym Mhrestatyn yn rhoi cefnogaeth gref i egin arddwyr a pheillwyr.

Roedd Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd ymlaen mis Awst, yn dathlu bioamrywiaeth yn holl randiroedd y DU, gan edrych ar sut y gall safleoedd helpu i feithrin sgiliau garddio a rhoi rhywbeth yn ôl i natur yn lleol hefyd.

Mae safle rhandiroedd Coed y Morfa, sy’n cael ei reoli gan Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, yn hafan nid yn unig i egin arddwyr a’r rhai sy’n frwd am arddwriaeth, ond hefyd i lu o beillwyr.

Mae’r safle, oedd yn arfer bod yn ardal gwaredu gwastraff, wedi cael ei drawsnewid i randiroedd sydd â 50 gwely plannu uchel, twnnel polythen mawr a nifer o welyau blodau, potiau a basgedi.

Bob dydd Mawrth, mae giatiau'r rhandiroedd ar agor i’r cyhoedd o 3pm - 4.30pm. Bryd hynny, mae croeso i bobl helpu â thasgau garddio, dysgu mwy am sut i dyfu planhigion y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt a chyfarfod â phobl eraill sy’n hoffi garddio.

Dywedodd y Ceidwad Cefn Gwlad, Sasha Taylor:

“Mae gennym hefyd ystod o weithgareddau gwirfoddoli yn y rhandir a’r ardal o’i amgylch. Rydym wedi hau pys gyda’r ysgol gynradd leol, Ysgol y Llys, wedi gwneud rhaffau danadl poethion, torchau Nadoligaidd ac wedi cynnal nifer o arolygon infertebratau yn cynnwys ar gyfer gwenyn, glöynnod byw a gwyfynod.

Rydym wedi cael canlyniadau gwych o’n harolygon gwyfynod dros y blynyddoedd. Cofnodwyd y Teigr Ysgarlad, Siani Flewog, Ŵylun y Derw, y Gwyfyn Mintys a’r Gwalchwyfyn. Ni roddir fawr o sylw i wyfynod yn aml, ond gall eu cofnodi ddweud llawer iawn wrthym am ein cynefinoedd lleol.

Maen nhw yr un mor bwysig â gwenyn a glöynnod byw o ran peillio planhigion ac maen nhw’n gyfrifol am draean yr holl ymweliadau gan beillwyr â blodau, coed a chnydau. Mae rhai mathau o ymchwil yn awgrymu bod gwyfynod yn beillwyr mwy effeithlon na gwenyn hyd yn oed!”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae’n wych clywed sut mae gwaith cymuned rhandiroedd Coed y Morfa yn rhoi hwb i’n peillwyr pwysig. Mae’r safleoedd hyn yn wych i natur a hefyd lles corfforol a meddyliol ein cymunedau.

Os hoffech wybod mwy am y rhandiroedd neu sesiynau gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yna anfonwch e-bost at: sasha.taylor@sirddinbych.gov.uk

Addysg

Prydau ysgol am ddim ar gael i holl blant ysgolion cynradd y Sir

 Prydau ysgol yn cael eu gweini mewn ffreutur ysgol

Rydym yn atgoffa preswylwyr i fanteisio ar y Prydau Ysgol Am Ddim sydd ar gael i holl blant ysgol cynradd yn y Sir, cyn dechrau blwyddyn academaidd newydd.

Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gynnig prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd, mewn ymateb i bwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd, gyda’r nod erbyn Medi 2024 y bydd holl blant mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru yn derbyn prydau ysgol am ddim.

Yn gynharach eleni, roedd y cynnig Prydau Ysgol am Ddim i holl blant cynradd yn Sir Ddinbych wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus o ddosbarth derbyn i flwyddyn 6, sy’n golygu fod pob disgybl ysgol gynradd yn Sir Ddinbych wedi cael mynediad i brydau ysgol am ddim cyn dyddiad targed Llywodraeth Cymru.

Os yw rhieni neu ofalwyr yn derbyn budd-daliadau penodol neu os nad yw incwm y cartref yn cyrraedd trothwy presennol y Llywodraeth, efallai bod hawl gan eu plentyn i brydau ysgol am ddim.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’n wych fod disgyblion mewn ysgolion cynradd ar draws Sir Ddinbych yn cael pryd cynnes am ddim a hoffwn gydnabod y gwaith gan ein staff ymroddgar i gyflawni carreg filltir o’r fath ynghynt na’r disgwyl.

“Mae darparu prydau ysgol yn hanfodol i blentyn allu dysgu a datblygu ac mae’r tîm arlwyo yn parhau i weithio gyda chyflenwyr lleol i ddarparu pryd cytbwys maethlon poeth amser cinio.

“Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i fwyta’n iach ac mae’n gweithio’n galed gydag ysgolion i hyrwyddo iechyd a lles disgyblion.”

I weld y fwydlen neu am fwy o wybodaeth ewch i wefan prydau ysgol Sir Ddinbych

Sir Ddinbych yn llongyfarch disgyblion ar ganlyniadau Safon Uwch a TGAU

Mae'r Cyngor wedi llongyfarch disgyblion Sir Ddinbych yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch a TGAU yn ystod mis Awst.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Ar ran y Cyngor hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion sydd wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch a TGAU. Mae nhw wedi gwneud ymdrech aruthrol i lwyddo ac wedi gweithio’n galed iawn i orchfygu nifer o rwystrau.

“Mae gwaith partneriaeth wych wedi digwydd i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo ac yn cyflawni’r canlyniadau gorau bosibl ac mae disgyblion wedi derbyn cefnogaeth gan eu teuluoedd a’u hysgolion.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ein myfyrwyr gweithgar dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydym yn dymuno’r gorau i’r holl ddysgwyr ar eu camau nesaf.”

System derbyniadau newydd i Ysgolion Sir Ddinbych yn newid

O fis Medi, bydd rhieni a gofalwyr bellach yn gallu gwneud ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd sy’n dechrau ym mis Medi 2025, gan ddefnyddio system Hunanwasanaeth Addysg newydd.

Bydd y system newydd yn cynnwys lleoedd mewn dosbarthiadau Meithrin, Derbyn, adrannau iau a Blwyddyn 7, a bydd yn helpu i symleiddio’r broses ymgeisio, gan ddarparu ffordd ganolog a hygyrch i rieni a gwarcheidwaid weld ceisiadau’n hawdd.

Er mwyn gallu defnyddio'r system hon, bydd angen i ddefnyddwyr sefydlu cyfrif diogel a darparu manylion perthnasol megis: 

  • Eu manylion.
  • Manylion eu plant.
  • Yr ysgol yr hoffent eu dewis. 

Bydd y newid hwn yn ei gwneud yn haws i rieni a gofalwyr olrhain eu ceisiadau o'r dechrau i'r diwedd, gyda hysbysiadau am ganlyniadau hefyd yn cael eu darparu yn y system.

Cyfnod

Derbyn

Ffurflenni Derbyn ar gael o

Cyfnod ystyried

Dyddiad cau

Dyddiad y Cynnig

Uwchradd

02/09/2024

02/09/2024   -   04/11/2024

04/11/2024

03/03/2025

Iau

23/09/2024

23/09/2024  –  18/11/2024

18/11/2024

16/04/2025

Derbyn

23/09/2024

23/09/2024  –  18/11/2024

18/11/2024

16/04/2025

Meithrin

23/09/2024

23/09/2024  –  17/02/2025

17/02/2025

06/05/2025

 

Rhaid derbyn ceisiadau cyn y dyddiadau cau a ddangosir uchod er mwyn cael eu hystyried. 

Ar gyfer ceisiadau mis Medi 2025, rhaid i ddisgyblion fod o'r oedran canlynol:

Rhaid bod y plentyn wedi’i eni rhwng:

Meithrin

1 Medi 2021 a 31 Awst 2022

Derbyn

1 Medi 2020 a 31 Awst 2021

Iau (blwyddyn 3)

1 Medi 2017 a 31 Awst 2018

Uwchradd (Blwyddyn 7)

1 Medi 2013 a 31 Awst 2014

Gall rhieni a gwarcheidwaid sefydlu cyfrif drwy’r ddolen hon >>> Gallwch wybod mwy am yr Hunanwasanaeth Addysg yma.

Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

“Bydd y cyfleuster ar-lein newydd hwn yn galluogi rhieni a gofalwyr i gyrchu ac olrhain eu ceisiadau o’r dechrau i’r diwedd yn haws. Mae cael y ceisiadau mewn un lle hefyd yn helpu os oes nifer o geisiadau yn yr arfaeth ar yr un pryd.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’n wych ein bod yn gwneud ein system derbyniadau ysgolion yn haws i’w defnyddio ac yn fwy hygyrch. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu holl waith caled yn datblygu a gweithredu’r system newydd hon.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid