llais y sir

Sir Ddinbych yn Gweithio

Cwnsela cyflogaeth newydd i gefnogi pobl ddi-waith yn Sir Ddinbych

Mae RCS yn falch o fod wedi cael dyfarniad drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer rhaglen gwnsela newydd ar gyfer pobl ddi-waith a phobl sy’n anactif yn economaidd yn Sir Ddinbych.

Gan weithio’n agos gyda rhaglen Barod Sir Ddinbych yn Gweithio, bydd Gweithio’n Iach Sir Ddinbych yn cefnogi pobl ddi-waith a phobl sy’n anactif yn economaidd yn Sir Ddinbych, a’u prif rwystr rhag cyflogaeth yw cyflwr iechyd meddwl hirdymor.

Byddant yn derbyn hyd at naw sesiwn o gefnogaeth cwnsela gyfrinachol drwy dîm cwnsela mewnol RCS a darparwyr cysylltiedig.  Bydd y gefnogaeth yn helpu cyfranogwyr i: 

  • Ddatblygu strategaethau ymdopi
  • Gwella hunan-barch
  • Meithrin gwydnwch
  • Ymgysylltu’n effeithiol â chymorth cyflogadwyedd a symud yn nes at y farchnad lafur.

Mae adborth blaenorol wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol:

“Teimlaf fy mod wedi cael gwrandawiad a gofal ac roedd y cwnsela yn eithriadol o ddefnyddiol.”

“Cefais fwynhad mawr a dysgais ffyrdd da o ymdopi.”

“Gwnaeth wirioneddol fy helpu yn ôl i gyflogaeth ar ôl blynyddoedd o salwch meddwl.”

Mae RCS yn edrych ymlaen at weithio gyda Barod a phartneriaid eraill i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu elwa o’n cymorth arbenigol. 

Sut i gyrchu'r gwasanaeth

Os fyddech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn elwa o’r gwasanaeth hwn, cysylltwch heddiw workwell@rcs-wales.co.uk neu ffoniwch 01745 336442.

Prosiect Aspire

Y camau nesat at lesiant

Ffair Swyddi: 25 Medi

Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych ac yn chwilio am her neu yrfa newydd, dewch i gael sgwrs â chyflogwyr am gyfleoedd cyffrous ichi’n lleol!

Lleoliadau Gwaith a Hyfforddiant

 

Cwrs preswyl antur

Cynllun Dechrau Gweithio yn helpu darpar beiriannydd tuag at ei rôl

Llun o Alex

Ar ôl canlyniadau Lefel A a TGAU yn ddiweddar, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhoi sbotolau ar berson ifanc y buon nhw’n ei gefnogi’n ddiweddar ar ôl iddo adael addysg.

Mae gan Alex angerdd at Beirianneg ac fe ymhelaethodd ar hyn ymhellach trwy gynllun Dechrau Gweithio.

Mae’r Cynllun Dechrau Gweithio wedi’i ddylunio i ddarparu cyfleoedd lleoliad gwaith amhrisiadwy i bobl mewn sector maen nhw’n angerddol amdano, ac roedd yn drobwynt i Alex. Ar ôl ennill ei gymhwyster Lefel 2 mewn Peirianneg, gofynnodd am arweiniad arbenigol gan Swyddog Lleoliadau a fu’n helpu Alex i gael lleoliad 12 wythnos ym maes mecaneg ar ôl dangos sgiliau ac ymroddiad arbennig trwy gydol ei broses gyfweld. Mae posibilrwydd y bydd hon yn rôl barhaol ar ôl iddo gwblhau’r lleoliad.

Dywedodd cyn-gyfranogwr Sir Ddinbych yn Gweithio, Alex:

“Doeddwn i ddim yn siŵr lle i droi am gefnogaeth gyrfa ar ôl gadael addysg, ond cyn gynted i mi glywed am Sir Ddinbych yn Gweithio, cysylltais â nhw.

Rhoddodd y Cynllun Dechrau Gweithio gyfle i mi ennill gwybodaeth a sgiliau i gael y swydd yr oeddwn ei heisiau, a bydd y profiad hwn yn aros gyda mi wrth i mi ddatblygu ymhellach yn fy ngyrfa.

Byddwn i’n argymell Sir Ddinbych yn Gweithio i unrhyw un sydd wedi gadael yr ysgol neu addysg fel fi, heb y profiad na’r sgiliau perthnasol ar gyfer eich gyrfa ddewisol. Cefais lawer o help ganddyn nhw.”

Meddai Ross o Redstone Services, Rhuthun:

“Mae Alex wedi bod gyda ni ers rhai wythnosau bellach yn helpu o amgylch y gweithdy a’n dysgu’r broses a’r manylder rydyn ni’n rhoi i’n gwaith er mwyn gallu trwsio cerbydau i’r lefel uchaf. Mae Dechrau Gwaith wedi ein helpu i ddod o hyd i’r person iawn i’n cwmni ni. Baswn i’n argymell Sir Ddinbych yn Gweithio i unrhyw gyflogwr sydd angen help llaw wrth edrych am weithwyr.”

Dywedodd Racheal Sumner-Lewis, Rheolwr Perthnasoedd Cyflogwyr a Hyfforddiant yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Daeth Alex atom i chwilio am yrfa ddiogel ym maes mecaneg ac rydym wrth ein boddau o fod wedi gallu ei gefnogi gyda hynny.

Trwy gynnig cefnogaeth wedi’i haddasu a sicrhau eu bod yn cael eu paru â chyfleoedd am leoliadau sydd ar gael, gallwn wylio cyfranogwyr yn rhagori yn eu llwybr gyrfa dewisol.

Os oes angen cefnogaeth cyflogaeth arnoch chi, cysylltwch â Sir Ddinbych yn Gweithio i weld sut gallwn ni eich helpu chi.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Gall canfod y cam nesaf ar ôl gorffen yn yr ysgol fod yn ddryslyd i rai.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yno i sicrhau bod rhai sy’n gadael yr ysgol yn cael yr help sydd ei angen arnynt wrth gymryd y cam nesaf ar eu taith.”

Mae’r Cynllun Dechrau Gweithio yn darparu cyfleoedd am leoliadau gwaith i breswylwyr Sir Ddinbych 16 oed a hŷn, i ennill profiad mewn swydd o’u dewis.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am un o’n lleoliadau Dechrau Gweithio, anfonwch e-bost at workstart@sirddinbych.gov.uk.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’w hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu sesiynau creu ffilmiau

sesiwn creu ffilm

Mae darpar wneuthurwyr ffilmiau lleol wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau blasu am ddim a gynhelir gan arbenigwyr diwydiant dros ddwy sesiwn.

Bu Sir Ddinbych yn Gweithio yn gweithio gyda elusen Cherddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE sy’n seiliedig yn Hen Golwyn, a sefydlwyd dau weithdy am ddim yn Llyfrgell y Rhyl, gan roi cyfle i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau lleol ddefnyddio offer ffilmio a golygu o safon broffesiynol.

Gwnaeth cyfranogwyr Sir Ddinbych yn Gweithio, busnesau a gwasanaethau lleol wirfoddoli i fod ar gamera yn rhannu eu profiadau cadarnhaol a phersonol o ddefnyddio’r gwasanaeth cyflogadwyedd a sgiliau a ddarperir gan Sir Ddinbych yn Gweithio, a bu cyfranogwyr newydd yn cydweithio i gofnodi eu stori.

Niall Jones o TAPE fu’n arwain y ddwy sesiwn, ac eglurodd hanfodion creu ffilmiau, gan rannu technegau a sgiliau allweddol yn ystod sesiwn awr a hanner.

Dywedodd Niall Jones, gwneuthurwr ffilmiau yng Ngherddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE:

“Mae rhannu sgiliau ac angerdd creadigol mewn ffordd sy’n cynnwys pawb wrth wraidd ethos TAPE. Diolch i Sir Ddinbych yn Gweithio am ganiatáu i ni gysylltu ymhellach â phreswylwyr Sir Ddinbych, a diolch i bawb a ddaeth i’r sesiynau i sicrhau ei fod yn brofiad mor ddifyr!”

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr ac Arweinydd Strategol Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Mae digwyddiadau fel hyn yn amlygu pwysigrwydd y gwasanaeth hwn a’r amrywiaeth eang o gefnogaeth cyflogaeth a sgiliau sydd ar gael i’n pobl ifanc yn y sir.

Rydym yn ddiolchgar o fod wedi gallu cydweithio â TAPE i ddarparu’r sesiynau hyn am ddim. Mae’r math hwn o broffesiynoldeb yn darparu profiad i breswylwyr gan ddefnyddio offer o ansawdd uchel, a fydd yn ychwanegu gwerth at eu CV.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Bydd y wybodaeth a gafwyd o’r sesiynau hyn yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau lleol o’r maes maen nhw am weithio ynddo.

Mae gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn caniatáu twf a dealltwriaeth ac mae’n ffordd wych o greu CV.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid