Mae darpar wneuthurwyr ffilmiau lleol wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau blasu am ddim a gynhelir gan arbenigwyr diwydiant dros ddwy sesiwn.

Bu Sir Ddinbych yn Gweithio yn gweithio gyda elusen Cherddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE sy’n seiliedig yn Hen Golwyn, a sefydlwyd dau weithdy am ddim yn Llyfrgell y Rhyl, gan roi cyfle i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau lleol ddefnyddio offer ffilmio a golygu o safon broffesiynol.

Gwnaeth cyfranogwyr Sir Ddinbych yn Gweithio, busnesau a gwasanaethau lleol wirfoddoli i fod ar gamera yn rhannu eu profiadau cadarnhaol a phersonol o ddefnyddio’r gwasanaeth cyflogadwyedd a sgiliau a ddarperir gan Sir Ddinbych yn Gweithio, a bu cyfranogwyr newydd yn cydweithio i gofnodi eu stori.

Niall Jones o TAPE fu’n arwain y ddwy sesiwn, ac eglurodd hanfodion creu ffilmiau, gan rannu technegau a sgiliau allweddol yn ystod sesiwn awr a hanner.

Dywedodd Niall Jones, gwneuthurwr ffilmiau yng Ngherddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE:

“Mae rhannu sgiliau ac angerdd creadigol mewn ffordd sy’n cynnwys pawb wrth wraidd ethos TAPE. Diolch i Sir Ddinbych yn Gweithio am ganiatáu i ni gysylltu ymhellach â phreswylwyr Sir Ddinbych, a diolch i bawb a ddaeth i’r sesiynau i sicrhau ei fod yn brofiad mor ddifyr!”

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr ac Arweinydd Strategol Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Mae digwyddiadau fel hyn yn amlygu pwysigrwydd y gwasanaeth hwn a’r amrywiaeth eang o gefnogaeth cyflogaeth a sgiliau sydd ar gael i’n pobl ifanc yn y sir.

Rydym yn ddiolchgar o fod wedi gallu cydweithio â TAPE i ddarparu’r sesiynau hyn am ddim. Mae’r math hwn o broffesiynoldeb yn darparu profiad i breswylwyr gan ddefnyddio offer o ansawdd uchel, a fydd yn ychwanegu gwerth at eu CV.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Bydd y wybodaeth a gafwyd o’r sesiynau hyn yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau lleol o’r maes maen nhw am weithio ynddo.

Mae gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn caniatáu twf a dealltwriaeth ac mae’n ffordd wych o greu CV.”