llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Catrin ar frig y dosbarth mewn anrhydeddau addysg

Mae'r Cyngor wedi llongyfarch aelod o staff Ysgol Glan Clwyd ar dderbyn anrhydedd genedlaethol ym myd addysg.  Enillodd Catrin Rhys Williams wobr Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yng nghategori Rheolwr Busnes Ysgol/ Bwrsar y Flwyddyn yn ddiweddar.

Mae Catrin yn darparu cymorth busnes i Ysgol Glan Clwyd, yn ogystal â chlwstwr o ysgolion cynradd yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: "Hoffwn ganmol a llongyfarch Catrin ar y llwyddiant aruthrol hwn, gan guro cystadleuaeth gref o bob rhan o Gymru i dderbyn yr anrhydedd.

"Mae rheolwyr busnes ysgolion yn rhoi cymorth mawr i'r ysgol ac yn gyfrifol am amrywiaeth o wasanaethau cymorth, gan gynnwys cyllid, adeiladu, cludiant i enwi ond ychydig. Maent yn asgwrn cefn go iawn i'w hysgolion ac yn ategu'r ymdrechion addysgol sy'n digwydd.

"Mae cael anrhydedd genedlaethol yn adlewyrchiad clir o ymrwymiad, ymroddiad a phroffesiynoldeb Catrin. Llongyfarchiadau mawr !"

Dywedodd Gwyn Tudur, Pennaeth Ysgol Glan Clwyd: “Mae Catrin Williams yn gwbl broffesiynol yn ei gwaith gan sicrhau fod tîm busnes Ysgol Glan Clwyd a’r Clwstwr yn gwbl effeithiol ac yn effeithlon.

“Ond yr hyn sy’n rhagorol am Catrin Williams yw nad rheolwr busnes cul mohoni. Ei phwyslais bob amser yw safonau’r addysg a gynigir yn ein hysgolion,  a gweithia’n ddiflino i sicrhau’r deilliannau gorau posib i holl ddysgwyr Ysgol Glan Clwyd a’r clwstwr.

“Mae holl ysgolion y clwstwr yn ymfalchïo yn y llwyddiant hwn, ac yn ei llongyfarch yn wresog ar y wobr haeddiannol hon”.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...