llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Adfer y Glyn ym Mhlas Newydd

Mae Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy newydd ddod i ddiwedd ei ail flwyddyn, a dyna flwyddyn ryfedd a gawsom! Yn anffodus bu’n rhaid gohirio llawer o’r digwyddiadau a gynlluniwyd, ond mae’r prosiect wedi parhau i wneud gwaith i warchod a gwella mynediad at dirlun Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.

Rhan o’r gwaith hwn oedd gosod rheiliau newydd yn Rhaeadr Y Bedol, sydd wedi agor golygfan newydd ar gyfer ymwelwyr. Mae gwaith wedi dechrau hefyd i greu maes parcio ger hen safle tirlenwi Wenffrwd, a’r bwriad yw trawsnewid y safle i greu ‘parc poced’ dros y blynyddoedd nesaf.

Fodd bynnag, mae’r newidiadau mwyaf wedi digwydd yn y Glyn ym Mhlas Newydd, lle mae’r prosiect yn mynd ati i adfer y dyffryn darluniadwy hwnnw a fwynhawyd gan Ferched Llangollen. Ar ddechrau’r flwyddyn helpodd gwirfoddolwyr i greu dros 50 metr o waliau cerrig, ac ym mis Awst gosodwyd cerrig camu yn yr afon i greu nodwedd ddeniadol i'w mwynhau ac i atal erydiad glan yr afon.

Yn fwy diweddar mae’r rheiliau ar rai o’r llwybrau troed a’r ffensys ar y grisiau i fyny i’r tŷ haf wedi cael eu hadfer er mwyn iddynt edrych yn fwy fel y nodweddion pren gwledig a fyddai wedi bod yno pan oedd y Merched yn byw ym Mhlas Newydd.  

Mae’r nodweddion deniadol newydd hyn, ynghyd â’r llwybrau hygyrch a grëwyd gan y prosiect Ein Tirlun Darluniadwy yn y flwyddyn gyntaf, yn gwneud y Glyn yn lle perffaith i fynd am dro hamddenol y Gaeaf hwn. Mae’r caffi ym Mhlas Newydd ar agor o ddydd Mercher tan ddydd Sul bob wythnos, 10am-4pm, felly gallwch alw draw am ddiod poeth neu rywbeth i’w fwyta ar ôl bod am dro.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...