llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Fy wythnos gyntaf fel Ceidwad Cynorthwyol Wrth Gefn

Ar ddiwedd mis Gorffennaf, dechreuais weithio yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyda thîm cefn gwlad Sir Ddinbych. Mae’n cael ei adnabod fel porth i Gymru, does dim ardal mor brydferth ac amrywiol i dreulio fy niwrnodau gwaith ac i feddu ar sgiliau newydd.

Yn ystod yr wythnosau olaf yn cael gwared ar Jac Y Neidiwr, dangoswyd i mi maint y broblem ar rai o’n safleoedd a sut i gael gwared ohonynt yn gywir - roedd y gwaith ei hun yn foddhaol ond weithiau roedd cyrraedd y ‘coedwigoedd’ hyn o Jac y Neidiwr yn fwy o waith nag oedd rhywun yn feddwl i ddechrau. Roedd rhaid gwisgo esgidiau glaw ac roedd sicrwydd y byddem yn mynd yn wlyb, ond yng ngwres yr haf a dilyn cyfnod clo ledled y wlad, doedd unlle gwell i dreulio’r diwrnodau. Roedd y gweithgaredd penodol hwn yn gyfle gwych i ddod i adnabod fy nghydweithwyr newydd ac roedd hi bob amser yn dawel gan nad oedd angen unrhyw beiriannau. Yr ardaloedd a dargedwyd oedd ar hyd Afon Dyfrdwy, golygfa hyfryd ar ôl diwrnod hir, ar un ddiwrnod poeth gwelsom blanhigyn Jac Y Neidiwr unigol ar ynys, ac mi wnaeth fy nghydweithiwr dynnu ei esgidiau a'i ‘sanau, ac i ffwrdd ag o drwy'r dŵr bas i dynnu'r planhigyn olaf.

Wrth reoli lledaeniad o rywogaeth planhigion ymledol iawn, roedd rhaid i ni ofalu a rheoli ein safleoedd prysurach, megis Rhaeadr Y Bedol tu allan i Langollen sydd yn safle treftadaeth y byd UNESCO. Mae'r Gored yn cyfarwyddo 12 miliwn tunnell o ddŵr o Afon Dyfrdwy i greu dechrau’r gamlas sydd yn mynd yr holl ffordd i’r Waun dros ddwy ddyfrbont, adeiladwyd y rhain i gyd gan Thomas Telford. Er ei fod yn fach i gyd, mae’r safle ei hun yn hafan ar gyfer gweithgareddau chwaraeon dŵr, cerddwyr yn mynd â'u cŵn am dro, a phobl yn cerdded ar hyd y gamlas. Roedd rheoli’r safle yn ystod y penwythnosau a diwrnodau poeth yn gyfle i gyfarfod â phobl leol a chynorthwyo ymwelwyr. Yn nodweddiadol ni ellir rhagweld y tywydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a chan mai’r swydd hon oedd fy mhrofiad cyntaf o weithio y tu allan bob dydd ym mhob tywydd, roedd paratoi at bopeth yn rhan arferol i mi - dillad glaw, dillad ychwanegol, digon o ddŵr ac eli haul wrth law hefyd.

Yr hyn yr wyf wedi mwynhau fwyaf hyd yma yw teimlo cyflawniad a fy mod yn gwneud gwahaniaeth mewn ardal yr wyf wedi cael fy magu. Mae un diwrnod sy’n adlewyrchu hyn dwy flynedd yn ôl, pan welais y tân yn lledaenu ar fynydd Llantysilio a fu’n llosgi am dros fis a dinistrio tua 250 hectarau o grug, llus ac eithin. Yn ystod fy wythnos gyntaf roeddwn yn cael cynorthwyo i adfer y mynydd, gan ledaenu pentyrrau o grug i daenu’r hadau - roedd y pentyrrau hyn mor fawr fe gymerodd dros 2 awr i ddau ohonom i wasgaru lledaeniad tenau dros yr ardal yr effeithiwyd yn llawn. Bob dydd rwy’n falch o allu treulio fy amser yn helpu tuag at reoli ardal mor wych.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...