llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Prosiect Pori Datrysiadau Tirlun

Mae’r prosiect Pori Datrysiadau Tirlun wedi dechrau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Ariennir y prosiect gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gynnal gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth draws gwlad gyda 10 o sefydliadau partner, rhai yn berchnogion tir, elusennau cadwraeth ac awdurdodau lleol. Nod y prosiect yw dod a 40 o safleoedd allweddol ar draws yr ardal prosiect i arferion rheoli cynaliadwy. Mae mwyafrif y safleoedd allweddol wedi cael eu dynodi ar gyfer pwysigrwydd ecolegol gyda nifer ohonynt yn SoDdGA, ACA, Ramsar, Parciau Gwledig, gwarchodfeydd natur lleol neu’n disgyn o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac mae un yn cyrraedd ffin Parc Cenedlaethol Eryri. Mae cynefinoedd y safleoedd yn cynnwys twyni arfordirol, rhostir, glaswelltir calchaidd ac yn cefnogi rhywogaethau megis grugiar ddu, llyffant cefnfelyn a madfallod dŵr cribog.

Nod y prosiect yw defnyddio atebion yn seiliedig ar natur i fynd i’r afael â nifer o broblemau y mae Rheolwyr Tir yn ei wynebu heddiw ac i gyflwyno dull mwy cynaliadwy i’r ffordd y mae safleoedd allweddol yn cael eu rheoli. Y canolbwynt yw pori anifeiliaid gan mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol a naturiol o gynnal cynefinoedd penodol. Mae pori er lles cadwraeth yn golygu defnyddio da byw i reoli safleoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac i hyrwyddo bioamrywiaeth. Gellir cynnal hyn ar nifer o fathau o dir gan gynnwys coetir, prysgwydd, gwlyptiroedd a glaswelltir. Mae anifeiliaid pori wedi siapio ein tirlun am ganrifoedd a gall fod y ffordd fwyaf effeithiol a chynaliadwy o gynnal cynefinoedd. Mae da byw a ddefnyddir ar gyfer pori er lles cadwraeth fel arfer yn fridiau brodorol a byddwn yn ceisio defnyddio defaid, gwartheg a merlod ar gyfer ein safleoedd. Rydym hefyd wedi defnyddio moch Du ac Oxford Sandy ar un o’n safleoedd yn llwyddiannus. Caiff yr anifeiliaid hyn eu bridio am eu gwytnwch ac maent yn barod i bori ar y rhywogaethau o blanhigion mwyaf dominyddol, a bydd hyn yn caniatáu i amrywiaeth o rywogaethau eraill gael eu sefydlu.

Yn ogystal â phori ar rywogaethau o lystyfiant dominyddol sy’n tyfu’n gyflym, mae anifeiliaid pori hefyd yn helpu i agor y llystyfiant trwy symud o amgylch y safleoedd gan greu llwybrau a thraciau cerdded ar draws y tir. Mae hyn yn darparu cynefinoedd ar gyfer ymlusgiaid ac infertebrat ac yn creu mannau i eginblanhigion newydd flodeuo. Mae’r bridiau traddodiadol yn fwy gwydn na’r bridiau eraill sy’n cael eu ffermio’n fwy dwys, ac mae hyn yn golygu y gallent ymdopi â’r amodau caled, yn ogystal â phorfa o ansawdd is o’i gymharu â’r glaswelltir mae da byw masnachol yn ei gael. Mae tail yr anifeiliaid o fantais gyda mwy na 250 o rywogaethau o bryfaid wedi’i cofnodi mewn baw gwartheg, sydd yn ei dro yn darparu ffynhonnell hanfodol o fwyd ar gyfer ein hadar.

Ar hyn o bryd mae gennym wartheg Cenglog Galloway, merlod y Carneddau ac rydym ar fin cyflwyno defaid Soay mewn rhai o’r safleoedd. Mae’r gwartheg Cenglog Galloway yn frîd bychain a thawel sy’n berffaith ar gyfer pori mewn rhai o’n safleoedd, ac oherwydd eu hymddangosiad trawiadol a harddwch merlod y Carneddau, maent wedi dod yn atyniad poblogaidd ar gyfer cerddwyr lleol. Mae merlod y Carneddau wedi arfer byw yn y mynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi gyda chlogwyni, llethrau creigiog a llynnoedd, ac felly’n frîd gwydn iawn sydd wedi arfer bwyta brwyn, eithin a glaswellt y mynydd. Maent wedi bod yn ddigon tawel fel nad ydynt yn dychryn defnyddwyr lleol a’u hatal rhag defnyddio’r safleoedd, ond maent yn symud i ffwrdd o gerddwyr pan fyddent yn dod rhy agos, felly nid ydynt yn rhy gyfeillgar nac yn dilyn cerddwyr.

Bydd y prosiect yn buddsoddi mewn isadeiledd fel ffensio a mynediad i’r safleoedd a darparu dŵr, yn ogystal â chael gwared ar rwystrau fel rheoli prysgwydd a rhedyn a fydd yn helpu i wneud yr ardaloedd hyn yn fwy deniadol i borwyr ac i ddod â stoc addas ar y safleoedd. Bydd perchnogion tir a staff y prosiect yn gweithio gyda phorwyr i ddatblygu cynlluniau pori i sicrhau fod yr holl weithgareddau pori o fudd i’r safle a’r cynefin amgylchynol ac i sicrhau fod y tir ddim yn cael ei bori’n ormodol neu fel arall.

Rhan allweddol arall o’r prosiect yw ymgysylltu gyda’r cymunedau sy’n amgylchynu’r safleoedd hyn a darparu cyfle i wirfoddoli mewn cadwraeth a lles anifeiliaid. Bydd cyfleoedd i ysgolion a grwpiau cymunedol gymryd rhan i edrych ar ôl y stoc. Darperir hyfforddiant mewn sgiliau traddodiadol megis codi waliau cerrig a phlygu gwrych i geisio helpu i leihau’r bwlch mewn sgiliau yn y sector ffermio a chadwraeth a llwybrau i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol i gyflogaeth.

Rydym yn gweithio gyda chynhyrchwyr lleol i greu cynnyrch wedi’i brandio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt er mwyn cynyddu cynaliadwyedd economaidd y cynllun pori er lles cadwraeth ar ddiwedd y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys cynnyrch cig, mêl a chynnyrch gwlân gan gynhyrchwyr lleol.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...