llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Sesiynau celf amgylcheddol

Mae celf yn beth pwerus. Gall gysylltu â phobl o bob oedran o unrhyw gefndir, gellir ei ddefnyddio i gadw negeseuon, a rhoi’r gofod a’r modd i fynegi pethau. Yn gynharach eleni defnyddiom ni gelf fel modd o gysylltu cymunedau’r Rhyl, Prestatyn, a Gallt Melyd gyda’u tirlun, fel rhan o’r prosiect Cysylltiad Da drwy ddod â’r artist amgylcheddol adnabyddus Tim Pugh i redeg gweithdai celf.

Yn gyntaf fe wnaethom gynnal cyfres o sesiynau celf cyhoeddus o baentio cerrig crynion yn ystod gwyliau’r haf er mwyn parhau â’r traddodiad a gychwynnwyd gan aelodau o’r gymuned yn ystod cyfnod COVID o greu nadroedd cerrig ar Lwybr Prestatyn i Dyserth ac o amgylch pwll Brickfields. Tri diwrnod cyfan o baentio cerrig crynion mewn haul crasboeth (gyda pheryg o stormydd!) ym Mhrestatyn a’r Rhyl, yn gweithio o fewn canllawiau’r llywodraeth i gynnal digwyddiadau cyhoeddus yr oedd cymaint o’u hangen. Roedd yr holl sesiynau’n llawn, cafodd yr holl deuluoedd amser gwych, a diolchwyd yn fawr i ni am gynnal sesiynau i gadw’r plant yn ddiwyd am gyfnod! Ar y pryd doedd dim digwyddiadau cyhoeddus eraill yn cael eu cynnal yn yr ardal, oedd yn golygu fod yn rhaid i rieni adlonni eu plant yn llawn amser. Roedd y sesiynau yn ychydig o saib i’r rhieni, ac yn bwysicach fe wnaeth annog y plant a’r rhieni ymweld â’u mannau gwyrdd agored a ffurfio perthynas â nhw.  

Bu’r sesiynau hyn mor llwyddiannus, nes i ni fynd ymlaen i drefnu gweithdai celf amgylcheddol mwy cyffredinol gyda sawl ysgol leol. Roedd rhain yn cynnwys Ysgol Christchurch yn Y Rhyl, Ysgol Melyd yng Ngallt Melyd ac Ysgol y Llys ym Mhrestatyn. Gan fod yr ysgolion yn gyfyngedig iawn o ran beth mae nhw’n gallu ei wneud ar hyn o bryd, mae bywyd wedi bod yn weddol ddiflas i’r plant, a dim byd cyffrous i edrych ymlaen ato. Roedd y sesiynau hyn yn bendant yn werth edrych ymlaen atynt! Roedd yr holl ddosbarthiadau o’r holl ysgolion yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y gweithdai hyn, fe wnaethon nhw ymroi iddyn nhw’n llwyr. O’r plant tawelaf i’r rhai mwyaf bywiog, roedden nhw i gyd yn canolbwyntio ar y celf ac fe wnaethon nhw fwynhau eu hunain, gan brofi bod celf yn un o’r ffyrdd gorau i ymgysylltu gyda phlant o bob oed a phob math o bersonoliaeth. Roedd negeseuon amgylcheddol wedi eu plethu yn ysgafn ym mhob gweithdy, a fydd gobeithio yn ffurfio’r hedyn fod angen gofalu am, a chysylltu â’r tirlun. Dydy llawer o’r plant yma ddim yn cael cyfle i ymweld ac ymgysylltu â’i tirlun naturiol lleol, fel Bryniau Clwyd, y traethau, y gwarchodfeydd natur, sydd yn anffodus ofnadwy gan fod y pethau hyn yn eu hamgylchynu ac mae mor hawdd eu cyrraedd! Fel cenedlaethau’r dyfodol fydd â chyfrifoldeb dros y tirlun hwn, rhaid iddynt gael cysylltiad â fo a gofalu amdano.

Dyna yw nod y prosiect Cysylltiadau Da. Drwy ymgysylltu gyda’ch tirlun a chael profiadau oddi mewn a gyda’r tirlun, rydych yn ffurfio perthynas, a drwy wneud hyn rydych yn meithrin gofal drosto. Allwch chi ddim gofalu am rywbeth nad ydych yn ei adnabod, ac felly drwy gydol y prosiect drwy waith fel hyn rydym yn gobeithio sicrhau ein bod i gyd yn ei adnabod, ein bod i gyd yn poeni, a’n bod yn trin ein tirlun fel rhan o’n cymuned.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...