llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Neges gan y Prif Weithredwr a'r Arweinydd

Helo bawb,

Gobeithiwn eich bod chi, eich teuluoedd a’ch anwyliaid yn ddiogel ac yn iach wrth i ni barhau i fyw trwy bandemig Covid-19.

Rydym yn ysgrifennu heddiw i ddiolch a thalu teyrnged i’n holl staff, trigolion a gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio’n galed i’n cynorthwyo trwy argyfwng cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd mwyaf ein hoes.

Ar ddechrau’r cyfnod clo Covid yn y DU, wrth i’n gwasanaethau a busnesau yn Sir Ddinbych gau am gyfnod o fisoedd yn hytrach nag wythnosau, trodd ein holl weithrediadau fel Cyngor tuag at gadw ein trigolion yn ddiogel, diogelu ein hunigolion mwyaf diamddiffyn, cefnogi busnesau a chymunedau a chadw ein gwasanaethau hanfodol i redeg.

Cafodd nifer o’n staff eu hadleoli i’n cynllun galw cymunedol, gan ffonio pawb ar restr gwarchod Llywodraeth Cymru, yn ogystal â nifer o drigolion hŷn a diamddiffyn eraill, gan sicrhau eu bod yn ymdopi ac i gynnig cymorth gyda siopa a chasglu meddyginiaeth, a ddarparwyd gan grwpiau gwirfoddol lleol. Dechreuodd nifer o bobl eraill rolau oedd tu allan i’w swyddi arferol, megis gweithio yng ngofal cymdeithasol neu ein cynorthwyo i ddod o hyd i gyfarpar diogelu personol ar gyfer gweithwyr y rheng flaen, a gweinyddu a thalu grantiau i fusnesau. Roedd nifer o’n staff hefyd yn parhau i wneud eu swyddi arferol, ar y rheng flaen ac yn gweithio o gartref, ac oll yn canolbwyntio ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud orau – cefnogi ein trigolion a chymunedau. Wrth i’r cyfnod clo ddechrau llacio, sefydlwyd gwasanaeth profi, olrhain a diogelu, gyda gwirfoddolwyr o fewn y Cyngor i ddechrau, ac mae’r gwasanaeth yn dal i berfformio’n dda. Rydym ym hynod o falch o’r hyn mae’r Cyngor wedi’i gyflawni yn ystod y cyfnod glo gwanwyn/haf, y cyfnod atal byr diweddar a thrwy gydol y cyfnod hwn. Hoffem ddiolch iddynt a chydnabod eu holl waith caled, waeth beth oedd eu rôl.

Hefyd, diolch i’r rhai yn ein cymunedau a gamodd i’r adwy i gynorthwyo ein trigolion mwyaf diamddiffyn. Mae grwpiau cymunedol cyfredol wedi dod ymlaen i gynorthwyo pobl a oedd yn hunan-ynysu, gyda siopa a chymorth a chefnogaeth hanfodol, gan gynnwys banciau bwyd a pharseli bwyd. Gwirfoddolodd nifer o’n trigolion i gynorthwyo. Mae ein gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn wedi bod yn lwyddiant ysgubol ac yn agwedd yr hoffem barhau, lle roedd gwirfoddolwyr, gan gynnwys rhai o’n aelodau etholedig a staff yn rhoi o’u hamser eu hunain i estyn allan i’r rhai oedd wedi’u hynysu yn sgil Covid. Rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn am ein gwaith cymunedol ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud gwahaniaeth.

Yn anffodus, nid ydym yn gweld diwedd y pandemig eto; fodd bynnag, nid yw’n rhy gynnar i ystyried sut fydd y Cyngor yn edrych ar yr ‘ochr arall’. Blaenoriaethau pwysig i ni fydd cynorthwyo ein busnesau a chymunedau i adfer a dysgu gwersi o’r ffordd wnaethom ymateb i Covid, gan edrych ar y ffordd allwn weithio’n agosach ac ar y cyd â chymunedau a thrigolion. Rydym hefyd wedi dysgu y gall nifer ohonom weithio mewn ffordd gwbl wahanol a mwy hyblyg, a bydd hyn yn cyd-fynd â’n Strategaeth Newid Hinsawdd sydd ar y gweill, lle byddwn yn nodi sut fydd y Cyngor yn mynd i’r afael â’r pwnc pwysig hwn a chynnal harddwch ein Sir am genedlaethau i ddod.

Hoffem gloi trwy ddiolch i chi gyd unwaith eto gan ddymuno Nadolig a Blwyddyn Newydd heddychlon i chi, a gobeithiwn bydd y flwyddyn newydd yn dod a therfyn i bandemig Covid.

Judith Greenhalgh: Prif Weithredwr     Hugh Evans, OBE: Arweinydd

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...