llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Annog trigolion gwledig i wneud cais am gyllid ar gyfer cyflymder band

Mae trigolion a busnesau gwledig yn Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa i wneud cais am gyllid tuag at y gost o osod band eang gigabit.

Mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn gweithio gyda’i gilydd ar y Cynllun Taleb Band Eang Gigabit sy’n talu am rhan o’r gost o osod cysylltiadau rhyngrwyd gigabit newydd.

O dan bartneriaeth newydd mae £7,000 ar gael ar gyfer busnesau bach a chanolig ac mae hyd at £3,000 ar gael ar gyfer eiddo preswyl.

Mae cysylltiadau band eang gigabit yn cynnig y cyflymderau gorau a mwyaf dibynadwy sydd ar gael, ac mae’r cynllun ar agor i eiddo gwledig gyda chyflymderau band eang sy’n llai na 100Mbps.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Bydd y cynllun hwn yn sicrhau y bydd gan fwy o bobl a busnesau fynediad at gyflymderau band eang dibynadwy. Rwy’n annog trigolion Sir Ddinbych mewn lleoliadau gwledig gyda band eang gwael i wirio i weld os ydynt yn gymwys ar gyfer y talebau hyn.

“Mae cysylltu cymunedau yn flaenoriaeth i’r Cyngor o dan ein Cynllun Corfforaethol ac mae cysylltiadau rhyngrwyd gwell yn sicrhau bod gan gymunedau fynediad da at wasanaethau ac yn helpu busnesau’r sir i ddarparu gwasanaethau ar-lein.

“Mae posib i drigolion neu grwpiau cymunedol gydweithio ar geisiadau ac mae’r Cyngor yn gweithio er mwyn eu cynghori a’u cynorthwyo gyda’u ceisiadau.”

Mae’r Cyngor hefyd wedi cyflogi swyddog digidol i gynorthwyo trigolion gyda’u problemau cysylltedd am ddim, fel rhan o’i waith i greu cymunedau cysylltiedig.

Yn ogystal â chynnig cynllun talebau Band Eang Gigabit, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido Cynllun Cyflwyno Ffeibr a fydd yn golygu bydd 1,862 o eiddo ychwanegol yn Sir Ddinbych yn gallu cael Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad erbyn Mehefin 2022 ac mae Openreach eisoes wedi galluogi 201 o eiddo yn y sir.

Os ydych chi’n pryderu am eich cysylltiad rhyngrwyd neu os hoffech drafod y dewisiadau sydd ar gael, gallwch gysylltu â swyddog digidol y Cyngor ar datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk ac er mwyn gwirio eich cymhwysedd ar gyfer Taleb Band Eang Gigabit, ewch i https://gigabitvoucher.culture.gov.uk

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...