llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Cyllid ychwanegol i helpu preswylwyr Sir Ddinbych gyda’r cynllun Rhentu i Brynu

Mae £5 miliwn ychwanegol wedi’i ddiogelu ar gyfer cynllun cymorth i brynu yn Sir Ddinbych.

Mae'r Cyngor yn gweinyddu grant Rhentu i Brynu Llywodraeth Cymru, cynllun sy’n cynorthwyo ymgeiswyr sydd heb flaendal o 5% i brynu cartref ond sydd, fel arall, yn gallu cael morgais.

Yn wreiddiol cafodd y cynllun yn Sir Ddinbych, sy’n cael ei redeg drwy Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, £1.8 miliwn dros gyfnod o dair blynedd (2018-2021) ond oherwydd llwyddiant y cynllun yn y sir mae £5.8 miliwn arall wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru.

Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn defnyddio’r arian i godi tai newydd yn benodol ar gyfer y cynllun Rhentu i Brynu ac ar hyn o bryd mae’n cynnwys safleoedd tai newydd yn y Rhyl, Rhuddlan, Gallt Melyd, Llanelwy, Dinbych a Llanfair DC.

Meddai’r Cyng. Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r Cyngor: “Mae Rhentu i Brynu yn gyfle gwych i breswylwyr Sir Ddinbych gamu ar yr ysgol dai ac mae hefyd yn cyfrannu at ein blaenoriaeth o ddarparu cartrefi sy’n diwallu anghenion ein preswylwyr.

“Mae diogelu £5.8 miliwn yn ychwanegol i ddatblygu’r cynllun yn dyst i’w lwyddiant yn y sir ac mae’n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i nifer y tai y mae modd eu codi.

“Mae’r Cyngor hefyd yn parhau i weithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a datblygwyr preifat i sicrhau bod yna dai fforddiadwy addas yn y sir, yn ogystal â bwrw ymlaen efo’r rhaglen i godi tai cyngor.”

Mae ymgeiswyr yn rhentu un o'r tai newydd ac yna, ar ôl cyfnod o hyd at bum mlynedd, maen nhw'n prynu'r tŷ gyda 25% o’r rhent a dalwyd yn cael ei roi yn ôl i’r ymgeisydd fel blaendal. 

Mae’r cynllun wedi bod yn boblogaidd iawn yn Sir Ddinbych, gyda chyfanswm o 99 o gartrefi yn cael eu codi rhwng 2018 a 2022.

Mae’r tai hyn yn ychwanegol at y tai sydd wedi’i dyrannu’n dai fforddiadwy neu’n dai cymdeithasol drwy’r broses gynllunio a hefyd yn ategu’r 24 tŷ cyngor sy’n cael eu codi ar dir uwchlaw Tan y Sgubor, Dinbych - y tai cyngor cyntaf i gael eu dylunio a’u codi ar gyfer Sir Ddinbych ers 30 o flynyddoedd.

Hefyd, rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, mae 139 o dai fforddiadwy wedi’u darparu yn y sir gan ddatblygwyr preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gan gynnwys Cartrefi Conwy, Grŵp Cynefin, Clwyd Alyn a Wales & West.

Mae yna dai dwy a thair ystafell wely ar gael drwy’r cynllun Rhentu i Brynu, ac mae’n rhaid i ymgeiswyr fod ag incwm aelwyd rhwng £18,000 a £60,000 i fod yn gymwys.

Dylai’r rheiny sydd â diddordeb yn y cynllun cysylltu â Thai Teg ar 03456 015 605 neu info@taiteg.org.uk.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...