llais y sir

Newyddion

Neges gan y Prif Weithredwr a'r Arweinydd

Helo bawb,

Gobeithiwn eich bod chi, eich teuluoedd a’ch anwyliaid yn ddiogel ac yn iach wrth i ni barhau i fyw trwy bandemig Covid-19.

Rydym yn ysgrifennu heddiw i ddiolch a thalu teyrnged i’n holl staff, trigolion a gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio’n galed i’n cynorthwyo trwy argyfwng cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd mwyaf ein hoes.

Ar ddechrau’r cyfnod clo Covid yn y DU, wrth i’n gwasanaethau a busnesau yn Sir Ddinbych gau am gyfnod o fisoedd yn hytrach nag wythnosau, trodd ein holl weithrediadau fel Cyngor tuag at gadw ein trigolion yn ddiogel, diogelu ein hunigolion mwyaf diamddiffyn, cefnogi busnesau a chymunedau a chadw ein gwasanaethau hanfodol i redeg.

Cafodd nifer o’n staff eu hadleoli i’n cynllun galw cymunedol, gan ffonio pawb ar restr gwarchod Llywodraeth Cymru, yn ogystal â nifer o drigolion hŷn a diamddiffyn eraill, gan sicrhau eu bod yn ymdopi ac i gynnig cymorth gyda siopa a chasglu meddyginiaeth, a ddarparwyd gan grwpiau gwirfoddol lleol. Dechreuodd nifer o bobl eraill rolau oedd tu allan i’w swyddi arferol, megis gweithio yng ngofal cymdeithasol neu ein cynorthwyo i ddod o hyd i gyfarpar diogelu personol ar gyfer gweithwyr y rheng flaen, a gweinyddu a thalu grantiau i fusnesau. Roedd nifer o’n staff hefyd yn parhau i wneud eu swyddi arferol, ar y rheng flaen ac yn gweithio o gartref, ac oll yn canolbwyntio ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud orau – cefnogi ein trigolion a chymunedau. Wrth i’r cyfnod clo ddechrau llacio, sefydlwyd gwasanaeth profi, olrhain a diogelu, gyda gwirfoddolwyr o fewn y Cyngor i ddechrau, ac mae’r gwasanaeth yn dal i berfformio’n dda. Rydym ym hynod o falch o’r hyn mae’r Cyngor wedi’i gyflawni yn ystod y cyfnod glo gwanwyn/haf, y cyfnod atal byr diweddar a thrwy gydol y cyfnod hwn. Hoffem ddiolch iddynt a chydnabod eu holl waith caled, waeth beth oedd eu rôl.

Hefyd, diolch i’r rhai yn ein cymunedau a gamodd i’r adwy i gynorthwyo ein trigolion mwyaf diamddiffyn. Mae grwpiau cymunedol cyfredol wedi dod ymlaen i gynorthwyo pobl a oedd yn hunan-ynysu, gyda siopa a chymorth a chefnogaeth hanfodol, gan gynnwys banciau bwyd a pharseli bwyd. Gwirfoddolodd nifer o’n trigolion i gynorthwyo. Mae ein gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn wedi bod yn lwyddiant ysgubol ac yn agwedd yr hoffem barhau, lle roedd gwirfoddolwyr, gan gynnwys rhai o’n aelodau etholedig a staff yn rhoi o’u hamser eu hunain i estyn allan i’r rhai oedd wedi’u hynysu yn sgil Covid. Rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn am ein gwaith cymunedol ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud gwahaniaeth.

Yn anffodus, nid ydym yn gweld diwedd y pandemig eto; fodd bynnag, nid yw’n rhy gynnar i ystyried sut fydd y Cyngor yn edrych ar yr ‘ochr arall’. Blaenoriaethau pwysig i ni fydd cynorthwyo ein busnesau a chymunedau i adfer a dysgu gwersi o’r ffordd wnaethom ymateb i Covid, gan edrych ar y ffordd allwn weithio’n agosach ac ar y cyd â chymunedau a thrigolion. Rydym hefyd wedi dysgu y gall nifer ohonom weithio mewn ffordd gwbl wahanol a mwy hyblyg, a bydd hyn yn cyd-fynd â’n Strategaeth Newid Hinsawdd sydd ar y gweill, lle byddwn yn nodi sut fydd y Cyngor yn mynd i’r afael â’r pwnc pwysig hwn a chynnal harddwch ein Sir am genedlaethau i ddod.

Hoffem gloi trwy ddiolch i chi gyd unwaith eto gan ddymuno Nadolig a Blwyddyn Newydd heddychlon i chi, a gobeithiwn bydd y flwyddyn newydd yn dod a therfyn i bandemig Covid.

Judith Greenhalgh: Prif Weithredwr     Hugh Evans, OBE: Arweinydd

Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Am y holl wybodaeth am ein gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ewch i'n gwefan.

Sir Ddinbych yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn

Goleuwyd dau dirnod yn Sir Ddinbych ym mis Tachwedd i gefnogi ymgyrch i roi diwedd ar drais yn erbyn merched.

Roedd Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi goleuo Pafiliwn y Rhyl a Thŵr Awyr y Rhyl yn wyn i'r Cyngor i gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn, y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod.

Cynhaliwyd Diwrnod y Rhuban Gwyn ar ddydd Mercher 25 Tachwedd, a goleuwyd y tirnodau’n wyn fel rhan o waith y Cyngor i godi ymwybyddiaeth a lleihau’r achosion o drais domestig.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: "Mae cefnogi Cyngor Sir Ddinbych yn eu gwaith yn erbyn cam-drin domestig yn bwysig iawn i ni fel cwmni. Rydym yn falch o oleuo ein cyfleusterau gwych ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn ac i roi ein cefnogaeth yn llwyr i'r ymgyrch hon i newid bywyd."

Dywedodd y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel y Cyngor: “Mae rhoi terfyn ar gam-drin domestig yn un o flaenoriaethau’r Cyngor yn ein Cynllun Corfforaethol, ac felly rydym yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn drwy oleuo’r tirnodau hyn yn Sir Ddinbych i godi ymwybyddiaeth.

“Mae Sir Ddinbych yn falch o gefnogi gwisgo’r rhuban gwyn, sy’n dynodi peidio cymryd rhan mewn, caniatáu nac aros yn ddistaw am drais yn erbyn merched.

"Ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, roeddem yn anogi dynion i wisgo’r rhuban gwyn i gefnogi a thynnu sylw at yr addewid hwnnw."

Bwriad Diwrnod y Rhuban Gwyn yw codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched, gan annog dynion i gefnogi grwpiau merched a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a gweithleoedd o drais yn erbyn merched.

Mae’r Cyngor wrthi’n datblygu ymagwedd sir gyfan tuag at leihau achosion o drais domestig yn erbyn merched a dynion fel rhan o’i Gynllun Corfforaethol, yn ogystal ag yn cefnogi strategaeth Gogledd Cymru i fynd i’r afael â phob agwedd ar drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Young: “Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth ddomestig ymysg staff a defnyddwyr gwasanaethau, gan ddarparu hyfforddiant a datblygiad i staff allu adnabod arwyddion camdriniaeth ddomestig, a chymorth i blant a effeithir gan gamdriniaeth ddomestig. Mae disgwyl i’r prosiect barhau dros y ddwy flynedd nesaf, a’i nod yw cyfrannu at leihau’r achosion o gamdriniaeth ddomestig ar hyd a lled y sir.”

Symiau Gohiriedig Mannau Agored 2020-2021

Gallwch wneud cais am Symiau Cymudol rwan. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 12:00 (hanner dydd) 29 Ionawr 2021.

Taliad yw Swm Gohiriedig gan ddatblygwyr i awdurdod lleol pan nad yw'n briodol i ddarparu'r man agored sy'n ofynnol yn ystod datblygiad. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i wella mannau agored a mannau chwarae, fel rheol yn yr un dref neu gyngor cymuned â’r datblygiad.

Mae rhagor o wybodaeth, canllawiau a ffurflenni cais am y Symiau Gohiriedig Mannau Agored ar gael ar ein gwefan.  

Mae’r cyllid sydd ar gael, ac ym mha ardaloedd yn cael eu rhestru isod:

Bodelwyddan £2,542
Cynwyd £2,890
Trefnant £800
Llangollen £16,673
Rhewl £10,223
Llanferres £1,249
Y Rhyl £31,004
Dinbych £46,789
Rhuthun £3,729
Prestatyn £16,351
Llanbedr Dyffryn Clwyd £27,687

Bydd y sawl sydd â diddordeb mewn gwneud cais yn gallu gofyn am apwyntiadau unigol dros y ffôn neu dros fideo gyda’r Tîm Datblygu Cymunedol i drafod prosiectau yn fanylach.

Cysylltwch â datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Annog trigolion gwledig i wneud cais am gyllid ar gyfer cyflymder band

Mae trigolion a busnesau gwledig yn Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa i wneud cais am gyllid tuag at y gost o osod band eang gigabit.

Mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn gweithio gyda’i gilydd ar y Cynllun Taleb Band Eang Gigabit sy’n talu am rhan o’r gost o osod cysylltiadau rhyngrwyd gigabit newydd.

O dan bartneriaeth newydd mae £7,000 ar gael ar gyfer busnesau bach a chanolig ac mae hyd at £3,000 ar gael ar gyfer eiddo preswyl.

Mae cysylltiadau band eang gigabit yn cynnig y cyflymderau gorau a mwyaf dibynadwy sydd ar gael, ac mae’r cynllun ar agor i eiddo gwledig gyda chyflymderau band eang sy’n llai na 100Mbps.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Bydd y cynllun hwn yn sicrhau y bydd gan fwy o bobl a busnesau fynediad at gyflymderau band eang dibynadwy. Rwy’n annog trigolion Sir Ddinbych mewn lleoliadau gwledig gyda band eang gwael i wirio i weld os ydynt yn gymwys ar gyfer y talebau hyn.

“Mae cysylltu cymunedau yn flaenoriaeth i’r Cyngor o dan ein Cynllun Corfforaethol ac mae cysylltiadau rhyngrwyd gwell yn sicrhau bod gan gymunedau fynediad da at wasanaethau ac yn helpu busnesau’r sir i ddarparu gwasanaethau ar-lein.

“Mae posib i drigolion neu grwpiau cymunedol gydweithio ar geisiadau ac mae’r Cyngor yn gweithio er mwyn eu cynghori a’u cynorthwyo gyda’u ceisiadau.”

Mae’r Cyngor hefyd wedi cyflogi swyddog digidol i gynorthwyo trigolion gyda’u problemau cysylltedd am ddim, fel rhan o’i waith i greu cymunedau cysylltiedig.

Yn ogystal â chynnig cynllun talebau Band Eang Gigabit, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido Cynllun Cyflwyno Ffeibr a fydd yn golygu bydd 1,862 o eiddo ychwanegol yn Sir Ddinbych yn gallu cael Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad erbyn Mehefin 2022 ac mae Openreach eisoes wedi galluogi 201 o eiddo yn y sir.

Os ydych chi’n pryderu am eich cysylltiad rhyngrwyd neu os hoffech drafod y dewisiadau sydd ar gael, gallwch gysylltu â swyddog digidol y Cyngor ar datblygiadcymunedol@sirddinbych.gov.uk ac er mwyn gwirio eich cymhwysedd ar gyfer Taleb Band Eang Gigabit, ewch i https://gigabitvoucher.culture.gov.uk

Cylchlythyr a rhestr bostio newydd y Tîm Datblygu Cymunedol

Mae'r tîm datblygu cymunedol yn gweithio ar draws y Sir yn gefnogi cymunedau i ddatblygu prosiectau lleol, canfod cyfleoedd cyllido a chysylltu â’r rhai sy’n gweithio tuag at nodau tebyg. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae’r tîm wedi darparu cefnogaeth i dros 200 o grwpiau/prosiectau cymunedol.

Fe fydd y cylchlythyr newydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gan ein galluogi i ddweud mwy wrthych chi ynglŷn â’r hyn mae’r tîm wedi bod yn ei wneud a beth sy’n digwydd mewn cymunedau ar hyd a lled y Sir. Fe fyddwn ni hefyd yn rhannu newyddion diweddaraf datblygu cymunedol yn cynnwys cyfleoedd cyllido sydd ar y gweill, digwyddiadau a dyddiadau/canllawiau pwysig i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw.

Peidiwch â cholli allan! Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i danysgrifio a derbyn newyddion diweddaraf a cylchlythyr y tîm datblygu cymunedol yn syth i’ch mewnflwch.

Fe hoffem gadw mewn cysylltiad gyda chi yn y dyfodol ynglŷn â digwyddiadau/gweithdai sy’n ymwneud â datblygu cymunedol, newyddion am gyllid a gwybodaeth rydym ni’n meddwl allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Os ydych chi’n hapus i ni gysylltu â chi, cofrestrwch i danysgrifio i rhestr bostio Tîm Datblygu Cymunedol y Cyngor trwy ateb yr e-bost yma gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Enw’r grŵp cymunedol/sefydliad (os yw’n berthnasol)
  • Cyfeiriad e-bost dewisol
  • Dewis eich iaith (Cymraeg/Saesneg)

Bydd modd i chi ddatdanysgrifio o rhestr bostio datblygu cymunedol y Cyngor unrhyw adeg drwy e-bostio: datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.

Mae copi o hysbysiad preifatrwydd y Cyngor ar gael yma: www.sirddinbych.gov.uk/cy/preswyliwr/cyfreithiol/preifatrwydd.aspx

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Datblygu Lleol

Y cynlluniau gorau........!!!

Nid yw'r cynnydd o ran y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd wedi dianc rhag effaith Covid-19 ond mae’r gwaith wedi parhau. Bydd yr amserlen wreiddiol ar gyfer mabwysiadu'r CDLl newydd yn cael ei hoedi ond bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i chi am bob cam ar hyd y ffordd.

Mae Covid-19 wedi effeithio ar y ffordd rydym i gyd yn byw ein bywydau ac mae angen i'r Cyngor sicrhau bod y CDLl yn ymateb i hyn. Mae angen gwaith ychwanegol ar bethau fel faint a pha fath o gartrefi newydd y gallai fod eu hangen arnom, faint o dir fydd yna ar gyfer swyddfeydd a busnesau eraill a pha rôl fydd gan ganol ein trefi yn y dyfodol.

Bydd yn rhaid i'r Cyngor adolygu'r amserlen; a elwir yn Gytundeb Cyflawni, ar gyfer paratoi'r CDLl newydd. Bydd hyn yn digwydd pan fydd syniad cliriach o bryd y gellir datblygu'r CDLl, ac ymgynghorir arno.

Mae gan lawer o breswylwyr ddiddordeb mewn pa safleoedd sy'n ymgeiswyr y gellir eu datblygu yn y cynllun terfynol. Nid oes unrhyw argymhellion wedi'u gwneud eto ar unrhyw un o'r safleoedd ac nid yw hyn yn debygol o ddigwydd am o leiaf y 6 mis nesaf. Mae hyn yn rhwystredig i'r Cyngor yn ogystal â thrigolion, ond mae'n bwysig bod yn onest am yr amserlen debygol.

Bydd y CDLl presennol 2006 - 2021 yn parhau i gael ei ddefnyddio ar ôl dyddiad gorffen 2021. Bydd hyn yn sicrhau bod polisïau lleol yn cael ei defnyddio i asesu ceisiadau cynllunio hyd nes y caiff y CDLl newydd ei fabwysiadu.

Rhoddir cyhoeddusrwydd da i bob cam ymgynghori ond y ffordd orau o sicrhau eich bod yn cadw mewn cysylltiad â'r hyn sy'n digwydd gyda'r CDLl yw gofyn am gael eich cynnwys ar gronfa ddata'r CDLl. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio planningpolicy@denbighshire.gov.uk neu drwy ysgrifennu at Y Tîm CDLl, Blwch 62, Rhuthun, LL15 9AZ.

Tai Fforddiadwy i'w hadeiladu yn Ninbych

Cyllid ychwanegol i helpu preswylwyr Sir Ddinbych gyda’r cynllun Rhentu i Brynu

Mae £5 miliwn ychwanegol wedi’i ddiogelu ar gyfer cynllun cymorth i brynu yn Sir Ddinbych.

Mae'r Cyngor yn gweinyddu grant Rhentu i Brynu Llywodraeth Cymru, cynllun sy’n cynorthwyo ymgeiswyr sydd heb flaendal o 5% i brynu cartref ond sydd, fel arall, yn gallu cael morgais.

Yn wreiddiol cafodd y cynllun yn Sir Ddinbych, sy’n cael ei redeg drwy Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, £1.8 miliwn dros gyfnod o dair blynedd (2018-2021) ond oherwydd llwyddiant y cynllun yn y sir mae £5.8 miliwn arall wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru.

Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn defnyddio’r arian i godi tai newydd yn benodol ar gyfer y cynllun Rhentu i Brynu ac ar hyn o bryd mae’n cynnwys safleoedd tai newydd yn y Rhyl, Rhuddlan, Gallt Melyd, Llanelwy, Dinbych a Llanfair DC.

Meddai’r Cyng. Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r Cyngor: “Mae Rhentu i Brynu yn gyfle gwych i breswylwyr Sir Ddinbych gamu ar yr ysgol dai ac mae hefyd yn cyfrannu at ein blaenoriaeth o ddarparu cartrefi sy’n diwallu anghenion ein preswylwyr.

“Mae diogelu £5.8 miliwn yn ychwanegol i ddatblygu’r cynllun yn dyst i’w lwyddiant yn y sir ac mae’n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i nifer y tai y mae modd eu codi.

“Mae’r Cyngor hefyd yn parhau i weithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a datblygwyr preifat i sicrhau bod yna dai fforddiadwy addas yn y sir, yn ogystal â bwrw ymlaen efo’r rhaglen i godi tai cyngor.”

Mae ymgeiswyr yn rhentu un o'r tai newydd ac yna, ar ôl cyfnod o hyd at bum mlynedd, maen nhw'n prynu'r tŷ gyda 25% o’r rhent a dalwyd yn cael ei roi yn ôl i’r ymgeisydd fel blaendal. 

Mae’r cynllun wedi bod yn boblogaidd iawn yn Sir Ddinbych, gyda chyfanswm o 99 o gartrefi yn cael eu codi rhwng 2018 a 2022.

Mae’r tai hyn yn ychwanegol at y tai sydd wedi’i dyrannu’n dai fforddiadwy neu’n dai cymdeithasol drwy’r broses gynllunio a hefyd yn ategu’r 24 tŷ cyngor sy’n cael eu codi ar dir uwchlaw Tan y Sgubor, Dinbych - y tai cyngor cyntaf i gael eu dylunio a’u codi ar gyfer Sir Ddinbych ers 30 o flynyddoedd.

Hefyd, rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, mae 139 o dai fforddiadwy wedi’u darparu yn y sir gan ddatblygwyr preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gan gynnwys Cartrefi Conwy, Grŵp Cynefin, Clwyd Alyn a Wales & West.

Mae yna dai dwy a thair ystafell wely ar gael drwy’r cynllun Rhentu i Brynu, ac mae’n rhaid i ymgeiswyr fod ag incwm aelwyd rhwng £18,000 a £60,000 i fod yn gymwys.

Dylai’r rheiny sydd â diddordeb yn y cynllun cysylltu â Thai Teg ar 03456 015 605 neu info@taiteg.org.uk.

Siarter Gofalwyr

Mae'r Cyngor wedi lansio ei Siarter Gofalwyr. Mae’r Siarter, a luniwyd trwy ymgynghori ag oedolion a phobl ifanc lleol sy’n ofalwyr a Grŵp Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych, yn amlinellu ymrwymiad y Cyngor i ofalwyr.

Mae’n amlinellu addewid y Cyngor i ofalwyr i gael yr hawl i gael eu trin yn gwrtais, gyda pharch ac urddas yn ogystal â’r hawl am asesiad unigol er mwyn i anghenion y gofalwr gael eu nodi ar wahân i’r unigolyn y maent yn gofalu amdano. Hefyd mae’n rhoi llais i ofalwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Mae gofalwyr yn chwarae rhan ganolog yn ein cymdeithas ac mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi’r cyfraniad pwysig mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud fel rhan o'n gweithlu, gwasanaethau a chymunedau.

“Y siarter hon yw ein datganiad cyhoeddus o ymrwymiad i ofalwyr ac rydym yn gobeithio y bydd busnesau lleol, y trydydd sector a sefydliadau cymunedol yn cofrestru gan sicrhau fod copïau ar gael yn eu mannau gwaith a'u swyddfeydd i sicrhau fod rôl y gofalwyr di-dâl anffurfiol yn cael ei gydnabod a'i barchu.

“Mae’n nodi hawliau gofalwyr sy'n oedolion a gofalwyr o dan 18 oed, gan gydnabod mai plant a phobl ifanc ydynt yn gyntaf ac y byddant yn cael eu cefnogi’n llawn drwy eu haddysg.”

Mae tua 370,000 o bobl ledled Cymru yn ofalwyr, yn rhoi cymorth i rywun annwyl sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael, ac mae 11,600 o’r gofalwyr hynny yn byw yn Sir Ddinbych.

Fel rhan o’i Gynllun Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr drwy wella’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes a sicrhau bod gofalwyr ifanc, rhieni ac oedolion yn ymwybodol o’r  gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Mae’r Cyngor wedi llunio taflen wybodaeth gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru i ddarparu ystod o wybodaeth i ofalwyr.

Carers UK sy’n trefnu Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2020 a chaiff ei gynnal ddydd Iau, Tachwedd 26 i sicrhau fod gofalwyr yn ymwybodol o’u hawliau a rhoi gwybod iddynt lle i gael cymorth a chefnogaeth.

Gallwch ddod o hyd i'r Siarter Gofalwyr yn  www.denbighshire.gov.uk/cy/iechyd-a-gofal-cymdeithasol/gofalwyr/siarter-gofalwyr-sir-ddinbych.aspx

Cadwch yn Iach, Cadwch yn Gynnes y Gaeaf Hwn

Gyda dyfodiad y gaeaf, rydym yn annog pobl i fod yn gymdogion da a chadw golwg ar yr henoed a phobl sy’n agored i niwed.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Lles ac Annibyniaeth: “Rydyn ni’n gofyn i bobl ofalu am y rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy gadw llygad arnyn nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn.

“Os oes gan bobl gymdogion, ffrindiau neu berthnasau sy'n wael, rydyn ni'n eu hannog i ymweld â nhw, gan ofalu bod ganddyn nhw bopeth maent ei angen a chynnig help gyda phethau fel siopa. Mae hi hefyd yn bwysig gweld a ydyn nhw’n bwyta’n iawn ac yn cadw eu cartref yn gynnes.

“Efallai mai chi fydd yr unig ymwelydd fydd ganddyn nhw, felly mae’n fater o fod yn glên ac ystyriol. Mae'r tywydd garw yn agosáu ac mae'n debygol o bara am ddeuddydd neu dri arall, felly rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo'n agored i niwed nac yn unig.

“Bydd dangos gofal a thrugaredd tuag at yr henoed neu bobl sy’n agored i niwed wir yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.”

“Mae’r neges hon yn ingol iawn yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig wrth i’r Nadolig agosáu, gall fod yn amser unig iawn i’r unigolion hynny sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Os ydych chi’n pryderu am unigolyn sy’n agored i niwed, ffoniwch y Tîm Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1000, neu’r Tîm Dyletswydd Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa ar 0345 0533116. 

Atgoffa trigolion am daliadau cymorth hunan-ynysu

Mae'r Cyngor yn atgoffa trigolion y cysylltwyd â hwy gan wasanaeth Prawf, Olrhain a Diogelu GIG Cymru y gallant fod yn gymwys ar gyfer arian a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r taliad Cymorth Hunan-Ynysu yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol ac mae'r broses ymgeisio bellach wedi'i rhoi ar waith.

Mae gan bobl hawl i Daliad Hunan-Ynysu o £500 os ydynt yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:

  • Dywedwyd wrthynt am hunan-ynysu gan wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru ar neu ar ôl 23 Hydref 2020
  • Maent yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig
  • Ni allant weithio o gartref a byddant yn colli incwm o ganlyniad
  • Ar hyn o bryd, maent hwy neu'ch partner yn cael o leiaf un o'r budd-daliadau canlynol:
    • Credyd Cynhwysol
    • Credyd Treth Gwaith
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail Incwm
    • Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Incwm
    • Cymhorthdal Incwm
    • Budd-dal Tai
    • Credyd Pensiwn

Efallai y bydd taliad dewisol o £500 ar gael os yw pobl yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:
• Rydych yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig
• Ni allwch weithio o gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
Nid ydych chi na'ch partner yn derbyn ar hyn o bryd:
• Credyd Cynhwysol
• Credyd Treth Gwaith
• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm
• Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
• Cymhorthdal Incwm
• Budd-dal Tai
• Credyd Pensiwn
• Byddwch yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i beidio â gallu gweithio tra byddwch yn hunan-ynysu.

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid ac Asedau: "Rydym yn cydnabod yn llawn y bydd rhai pobl wedi dioddef caledi ariannol o ganlyniad i'r cyfyngiadau ac mae poeni am gyllid ond yn ychwanegu at bryderon pobl.

"Mae'r Taliad Hunan- Ynysu ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo'r rhai sydd wedi dioddef yn ariannol ac ar agor tan y flwyddyn newydd.  Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi’r wybodaeth ar ei wefan, ar gyfryngau cymdeithasol a thrwy’r wasg leol, yn y gobaith y bydd pobl sydd yn gymwys yn gwneud cais.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am weinyddu'r cynllun yn Sir Ddinbych ac mae gwybodaeth am y meini prawf, yn ogystal â sut i wneud cais ar gael ar wefan y Cyngor a byddem yn annog pobl i edrych ac ystyried a ydynt yn gymwys i gael y taliadau".

Am wybodaeth, cliciwch yma.

 

Llyn Morol yn cadw statws y Faner Werdd

Mae Llyn Morol y Rhyl wedi cadw ei Gwobr Y Faner Werdd Gymunedol am y nawfed flwyddyn yn olynol, ac mae’n un o’r saith lleoliad yn Sir Ddinbych i gael ei anrhydeddu eleni.

Mae’r Fforwm Defnyddwyr Llyn Morol (MLUF) wedi bod yn llwyddiannus yn cadw’r wobr ryngwladol sydd yn adnabod safleoedd sydd yn hyrwyddo iechyd a lles, sydd yn ddiogel, yn lân a chyda phrosesau rheoli da mewn lle ar gyfer bioamrywiaeth a thirlun gyda phwyslais ar ymgysylltu â'r gymuned.

Dywedodd Bill Newton, y cadeirydd “Mae cyflawni’r statws y Faner Werdd Cymru wedi bod ym ymdrech gan y tîm, rydym eisiau diolch i'r gwirfoddolwyr a Chyngor Sir Ddinbych sydd yn berchen â'r safle."

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae’r Llyn Morol yn atyniad hyfryd yn y Rhyl. Mae’r gwirfoddolwyr yn y Fforwm Defnyddwyr Llyn Morol yn treulio llawer o oriau yn cadw’r ased hwn mewn cyflwr dda a mae Gwobr y Faner Werdd yn cyfiawnhau eu hymdrechion. Mae nifer o bobl yn defnyddio’r ardal i wneud ymarfer corff yn ddyddiol, ac mae cadw’n iach yn gorfforol a meddyliol yn bwysig iawn y dyddiau hyn. Mae’n wych bod yr ardal hyfryd hon yn cael ei gofalu amdani mor dda.”

Roedd nifer o brosiectau llwyddiannus eraill yn Sir Ddinbych:

  • Tir Comin Ffrith, Prestatyn
  • Canolfan Sgiliau Coetir, Bodfari
  • Gardd Gymunedol Maes Derwen, Llanbedr Dyffryn Clwyd
  • Maes Ysgawen, Llanferres
  • Meysydd Chwarae Llanferres
Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid