llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Sir Ddinbych yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn

Goleuwyd dau dirnod yn Sir Ddinbych ym mis Tachwedd i gefnogi ymgyrch i roi diwedd ar drais yn erbyn merched.

Roedd Hamdden Sir Ddinbych Cyf wedi goleuo Pafiliwn y Rhyl a Thŵr Awyr y Rhyl yn wyn i'r Cyngor i gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn, y diwrnod rhyngwladol ar gyfer dileu trais yn erbyn menywod.

Cynhaliwyd Diwrnod y Rhuban Gwyn ar ddydd Mercher 25 Tachwedd, a goleuwyd y tirnodau’n wyn fel rhan o waith y Cyngor i godi ymwybyddiaeth a lleihau’r achosion o drais domestig.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: "Mae cefnogi Cyngor Sir Ddinbych yn eu gwaith yn erbyn cam-drin domestig yn bwysig iawn i ni fel cwmni. Rydym yn falch o oleuo ein cyfleusterau gwych ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn ac i roi ein cefnogaeth yn llwyr i'r ymgyrch hon i newid bywyd."

Dywedodd y Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel y Cyngor: “Mae rhoi terfyn ar gam-drin domestig yn un o flaenoriaethau’r Cyngor yn ein Cynllun Corfforaethol, ac felly rydym yn cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn drwy oleuo’r tirnodau hyn yn Sir Ddinbych i godi ymwybyddiaeth.

“Mae Sir Ddinbych yn falch o gefnogi gwisgo’r rhuban gwyn, sy’n dynodi peidio cymryd rhan mewn, caniatáu nac aros yn ddistaw am drais yn erbyn merched.

"Ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, roeddem yn anogi dynion i wisgo’r rhuban gwyn i gefnogi a thynnu sylw at yr addewid hwnnw."

Bwriad Diwrnod y Rhuban Gwyn yw codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched, gan annog dynion i gefnogi grwpiau merched a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a gweithleoedd o drais yn erbyn merched.

Mae’r Cyngor wrthi’n datblygu ymagwedd sir gyfan tuag at leihau achosion o drais domestig yn erbyn merched a dynion fel rhan o’i Gynllun Corfforaethol, yn ogystal ag yn cefnogi strategaeth Gogledd Cymru i fynd i’r afael â phob agwedd ar drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Young: “Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth ddomestig ymysg staff a defnyddwyr gwasanaethau, gan ddarparu hyfforddiant a datblygiad i staff allu adnabod arwyddion camdriniaeth ddomestig, a chymorth i blant a effeithir gan gamdriniaeth ddomestig. Mae disgwyl i’r prosiect barhau dros y ddwy flynedd nesaf, a’i nod yw cyfrannu at leihau’r achosion o gamdriniaeth ddomestig ar hyd a lled y sir.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...