llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Making an Entrance: Addurniadau Nadoligaidd unigryw wedi’u creu’n ofalus â llaw

Efallai bod torch ar y drws neu eitem flodeuog ar fwrdd y cinio Nadolig yn rhan o syniad rhamantaidd am Nadolig teuluol traddodiadol, ac i un pâr busnes o Sir Ddinbych, mae harddwch y wlad sydd o gwmpas eu cartref yn rhoi ysbrydoliaeth i’w creadigaethau artistig.

Mae Making an Entrance yn gwmni sy’n cael ei redeg gan Wendy ac Andy Radley o’u cartref ym Mryniau Clwyd ger Llanarmon-yn-Iâl. Mae popeth yn cael ei wneud yn unigryw ar gyfer pob archeb mewn stiwdio flodau, sef stabl wedi’i throsi fel caban coed yng ngwaelod yr ardd.


Yn wreiddiol o Warrington, fe symudodd y pâr i Lanarmon ddiwedd mis Hydref 2019 ac maen nhw wedi mynd ati i fod yn rhan o fywyd y gymuned, gan gynnwys gwirfoddoli yn y siop leol a chanu yn y côr cymunedol. Maen nhw hefyd wedi bod yn brysur â’u siop ar-lein:  www.makinganentranceuk.co.uk, siop Etsy a gyda’i gilydd mae ganddyn nhw gyfanswm o dros 8,000 o ddilynwyr ar eu tudalennau Facebook ac Instagram Making An Entrance U.K.

Mae’r cwmni’n un o nifer o fusnesau ar draws Sir Ddinbych sy’n cefnogi ymgyrch Siopa’r Gaeaf sy’n cael ei chydlynu gan Gyngor Sir Ddinbych ac sy’n annog trigolion y sir i gefnogi busnesau lleol y gaeaf hwn.

Dywedodd Wendy: “Fe wnaethom ni symud i Gymru flwyddyn yn ôl o Warrington i ddechrau ar bennod newydd gan mai ond y ddau ohonom ni oedd adref bellach a dyma’r peth gorau rydyn ni wedi’i wneud.  Roedd gen i fusnes blodau ar-lein ac rydyn ni wedi defnyddio’r newid i greu cyfleoedd busnes newydd. Yn anffodus, mi gollodd Andy ei swydd fel rheolwr mewn cwmni adeiladu mawr yn ystod y cyfnod clo felly rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn gyda’n gilydd i greu cyfleoedd busnes newydd, creu mwy o werthiant a thyfu enw da ein cwmni, yn enwedig yma yng Nghymru. 


“Mae Andy bellach yn gweithio yn llawn amser yn y busnes. Rydyn ni’n dîm da: mae o wedi ysgwyddo llawer o’r tasgau (llai creadigol) oeddwn i’n eu gwneud fy hun o’r blaen, fel danfon archebion at gleientiaid lleol (yn dilyn canllawiau diogelwch Covid). Mae hynny’n caniatáu i mi gwblhau mwy o archebion ac, felly, yn cynyddu ein gwerthiant. 

“Fel busnes bach, cyllideb fechan sydd gennym ni i hysbysebu felly rydyn ni’n dibynnu ar bobl i’n canmol ni a hyrwyddo ein busnes ar grwpiau Facebook lleol. Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael wedi bod yn anhygoel.  Dwi’n falch iawn o ddweud bod gwerthiant wedi cynyddu o un wythnos i’r llall, hyd yn oed yn ystod y pandemig, ac mae Andy a minnau’n ddiolchgar iawn am hynny. 

“Mae’r cleientiaid yn aml yn rhannu’r ‘straeon’ sydd y tu cefn i’w harchebion gyda mi.  Mae’n braf ac yn galonogol gallu gweld y cariad sydd rhwng teuluoedd a ffrindiau sy’n cael eu gwahanu gan Covid a gallu cyfleu eu caredigrwydd at ei gilydd trwy greu’r anrhegion blodeuog maen nhw wedi’u harchebu a’u danfon at stepen drws eu hanwyliaid ar eu rhan.  Mae gen i gwsmeriaid sy’n prynu torchau i’w rhoi ar feddi eu hanwyliaid, ac eraill yn archebu torchau i’w rhoi ar ddrysau/waliau i godi calon a gwneud y lle’n braf, yn enwedig y rhai sydd bellach yn gweithio gartref sydd yn aml wedi dweud eu bod yn teimlo’n unig ac fel charcharorion yn eu cartrefi eu hunain.


“Dwi wedi creu torchau blodau siâp calon i gael eu danfon at berthnasau hŷn mewn cartrefi gofal er mwyn i’r rhai sydd y tu allan allu dangos eu cariad tuag atyn nhw a’u hatgoffa y byddan nhw gyda’i gilydd eto cyn hir.  Dwi wedi creu torchau blodau i barau sy’n priodi, sydd wedi gorfod newid eu cynlluniau priodi a chwtogi’r niferoedd ond sy’n dal yn benderfynol o gael gwneud. Dwi wedi creu torchau i gael eu hanfon fel anrhegion gan fy nghwsmeriaid at nyrsys ac athrawon i ddiolch am y gwaith arbennig maen nhw’n ei wneud.

“Yn ddiweddar hefyd, i ymateb i alw gan y cwsmeriaid, rydw i wedi creu torch bersonol siâp calon ar gyfer drws / wal gyda thlws siâp calon yn y canol ac arno’r geiriau ‘A Hug In A Heart’ i’r rheiny sydd eisiau dangos i’w teulu a’u ffrindiau faint maen nhw’n colli eu gweld oherwydd y cyfyngiadau teithio lleol a mesurau cadw pellter cymdeithasol. Dyma i chi lond llaw o enghreifftiau pam mae pob archeb yn cael ei chreu’n ofalus â llaw.

“Rydw i’n ofnadwy o falch o’n busnes bach ac yn ddiolchgar iawn i’n cwsmeriaid triw, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd yma’n ariannol.  Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn o gael gwneud beth ydw i’n ei fwynhau fel gwaith i gwsmeriaid sydd wir yn gwerthfawrogi ymdrechion fy ngŵr a minnau i gynnig crefftau o safon gyda gwasanaeth arbennig.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...