llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Morgan’s Hair and Beauty: Triniwr gwallt yn annog trigolion i siopa’n lleol dros y gaeaf

Mae siop trin gwallt llwyddiannus sy'n cefnogi ymgyrch siopa’n lleol yn dweud y gall torri gwallt neu gael triniaeth harddwch roi hwb mawr ei angen i drigolion Sir Ddinbych y gaeaf hwn.

Agorodd Rebecca Morgan Brennan Morgan’s Hair and Beauty ym Mhrestatyn yn 2013 ac yna ymgorfforodd Morgan’s Wigs ym mis Ionawr 2014, gan gynnig cymorth i’r rhai â chyflyrau meddygol sydd wedi arwain at golli gwallt.

Mae hi'n cefnogi ymgyrch siopa gaeaf #CaruBusnesauLleol y Cyngor i annog pobl i gefnogi busnesau Sir Ddinbych a siopa'n lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig a thu hwnt.

Meddai Mrs Morgan, 51, sydd wedi bod yn driniwr gwallt ers 17 o flynyddoedd: “Mae’n bwysicach nag erioed i gefnogi busnesau lleol ar ôl popeth sydd wedi digwydd eleni.

“Mae gwario arian yn lleol yn diogelu swyddi ac yn helpu’r economi leol. Mae gennym bobl sy'n dod atom o bob rhan o Ogledd Cymru, yna maen nhw wedyn yn gwario arian ym Mhrestatyn, rydyn ni'n eu cyfeirio at lefydd i siopa ym Mhrestatyn.

“Rydyn ni'n salon mawr, ac rydyn ni'n dilyn rheolau Covid-19 yn ddiogel iawn, gan wisgo'r holl gyfarpar diogelu personol angenrheidiol. Gallwn ni deilwra'r profiad i gwsmeriaid i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu, rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o driniaethau harddwch yma. Mae cael torri gwallt neu driniaeth harddwch yn grêt ar gyfer codi calon. Mae’n ffordd wych o wneud i chi eich hun deimlo’n well, yn enwedig yn ystod yr amser hwn.”

Mae Mrs Morgan, sy'n cyflogi 11 o bobl, hefyd yn rhedeg Morgan's Wigs sy'n darparu wigiau a gwasanaeth ffitio wigiau i bobl ledled Gogledd Cymru sydd wedi colli gwallt oherwydd cyflwr neu driniaeth feddygol.

Mae hi'n gweithio gyda nifer o elusennau, gan gynnwys Look Good Feel Better, Cymorth Canser Macmillan ac Ymddiriedolaeth Little Princess, a hi sy’n cyflenwi wigiau i gleifion y GIG ledled Gogledd Cymru.

Mae Morgan's Hair and Beauty a Morgan's Wigs wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys cael eu henwi'n Enillydd Pencampwr Cymunedol y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch Prydain 2020, Gwobr Safon Aur Ymddiriedolaeth Little Princess yn ogystal ag ennill Gwobr Menter Gymdeithasol Cymru yng Ngwobrau Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru 2020.

Ychwanegodd Mrs Morgan: “Mae mwy i’w gynnig yn lleol na’r hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl, rwyf wedi gweld Prestatyn yn tyfu ac wedi gweld busnesau newydd yn agor ar ôl y cyfnod clo. Bydd mwy o fusnesau yn agor hefyd. Os na fydd pobl leol yn cefnogi busnesau lleol, byddan nhw’n diflannu. Mae’n rhaid i bobl roi amser ac arian i gadw eu strydoedd mawr lleol. Mae’n rhaid i bobl gefnogi eu stryd fawr.

“Mae busnesau lleol yn darparu cymuned ac yn cefnogi ei gilydd. Rwy’n argymell busnesau lleol eraill i’m cwsmeriaid ac rwy’n defnyddio busnesau lleol ar gyfer popeth y gallaf. Rwyf o’r farn y dylai busnesau helpu busnesau eraill hefyd, yn enwedig rŵan.

“Y peth gwych am fasnachwyr annibynnol yw y gallwn deilwra ein gwasanaeth. Er enghraifft, os bydd pobl yn nerfus am fod yn y salon gyda phobl eraill, gallwn ddarparu ystafell un i un er mwyn gwneud i bobl deimlo’n ddiogel.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...