llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Myrtle House: Oriel anrhegion Sir Ddinbych yn cefnogi cynnyrch Cymreig a siopa lleol

Mae perchennog oriel anrhegion sy'n hyrwyddo 'gwnaethpwyd yng Nghymru' y Nadolig hwn yn annog siopwyr i wneud yr un peth.

Sefydlodd Pippa McGrevy Oriel Anrhegion Myrtle House yn Llanelwy ym mis Rhagfyr 2017 gan werthu eitemau celf, crefft a chrefftwyr a wnaed gan gynhyrchwyr creadigol annibynnol bach o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt.

Mae'n cefnogi ymgyrch siopa gaeaf Cyngor Sir Ddinbych #CaruBusnesauLleol i annog pobl i gefnogi busnesau Sir Ddinbych a siopa'n lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig ac wedi hynny.

Meddai Pippa: "Rwy'n hyrwyddo 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ac rwy'n cefnogi'r ymgyrch hon gan fod prynu pethau hyfryd gan eich busnesau annibynnol lleol yn cadw eich arian yn yr economi leol, mae'n dda i ni i gyd a'n hardal.

"Mae cymuned fusnes gref yn Llanelwy, rwyf wedi canfod bod busnesau eraill yn gefnogol iawn ohonof ac rwy'n gwneud fy ngorau i'w cefnogi hefyd.

"Fel busnes annibynnol lleol rwy'n ceisio mynd y tu hwnt i wasanaeth personol i'm cyflenwyr a'm cwsmeriaid. Fy nod yw gwasanaeth cyfeillgar, prydlon a rhagorol drwy drefnu comisiynau, cynnig lapio anrhegion am ddim, gwasanaeth postio a danfon yn lleol am ddim. Nid oes dim yn ormod i'm cwsmeriaid. Y cyffyrddiad personol hwn yw'r hyn y gall busnesau lleol ei gynnig i'w cwsmeriaid."

Mae Oriel Anrhegion Myrtle House yn gwerthu ystod eang o eitemau wedi'u paentio â llaw, wedi'u gwneud â llaw a'u saernïo â llaw a rhoddion boutique gan gynnwys celf gwych a thecstilau, gemwaith arian, llyfrau wedi’u rhwymo â llaw, cerameg, cynnyrch gofal corff, cynhyrchion bath a chawod, cardiau cyfarch Cymraeg a Saesneg, a llawer mwy.

Mae'r busnes wedi'i leoli yn Myrtle House sydd â hanes hir o fasnachu, yn dŷ tafarn yn wreiddiol, yna yn siop bysgod a sglodion yn y 1950au.

Agorodd Pippa, sy’n rhwymwr llyfrau creadigol, a'i gŵr Miles, sy’n artist, y siop yn wreiddiol i arddangos eu gwaith eu hunain.

Dywedodd: "Cyfarfûm â chymaint o bobl greadigol mewn marchnadoedd a ffeiriau fel bod y busnes newydd yn tyfu'n organig wrth i mi eu gwahodd i ymuno â ni. Mae dwy ardal fach y siop bellach yn llawn i’w hymylon.

"Rwyf wrth fy modd yn dod o hyd i eitemau anarferol ac yn cefnogi crefftwyr nad ydynt yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol neu wefannau. Gan nad yw gwneuthurwyr wedi cael ffeiriau na marchnadoedd oherwydd Covid-19 eleni, mae'n golygu bod gennym stoc unigryw o eitemau gwahanol a gwreiddiol, sydd ar gael yn unig i'n cwsmeriaid y gaeaf hwn."

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...