llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Pethau Tlws: Busnes yn ‘rhoi yn ôl’ i’r gymuned ar ôl cefnogaeth yn ystod y cyfnod clo

Mae perchennog busnes o Ddyffryn Dyfrdwy yn dweud fod y gefnogaeth gan y gymuned leol a’i chwsmeriaid ffyddlon wedi eu cadw nhw i fynd trwy amseroedd heriol a’u bod nhw wedi addasu eu busnes fel ffordd o ddweud “diolch yn fawr iawn.”

Sefydlodd Pam Morris ei busnes yng Nghorwen gyda’i chwaer Lynne Davies Hocking gan ddechrau masnachu ym mis Gorffennaf 2012. Yn y lle cyntaf y bwriad oedd agor ystafell de ond gan fod llawer o gystadleuaeth yng Nghorwen dyma nhw’n penderfynu prynu siop wag yn y dref a sefydlu’r siop rhoddion Pethau Tlws.

Mae’r siop yn gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch yn cynnwys sgarffiau, dillad, cardiau, gemwaith a chanhwyllau, gyda ffocws ar gynnyrch wedi’u creu gan Gymry dawnus. Er eu bod nhw wedi bod yn ddibynnol ar gefnogaeth y gymuned leol maen nhw hefyd wedi denu cwsmeriaid o ardal ehangach yn cynnwys Y Bala, Rhuthun, Llangollen a Llanrwst.

Mae Pethau Tlws yn cefnogi’r ymgyrch Siopa’r Gaeaf dan arweiniad y Cyngor Sir gyda’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol.

Meddai Pam: “Mae’n anodd credu bod y siop wedi’i sefydlu ers mwy na 8 mlynedd bellach, yn enwedig mewn tref mor fach. Rydym yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch hyfryd ac mae’n bwysig iawn a ninnau’n ferched Cymraeg lleol ein bod yn gwerthu cymaint o eitemau Cymraeg ag sy’n bosib. Rydym wastad yn cadw llygad am Gymry dawnus sy’n gallu llenwi ein siop gyda’u cynnyrch hyfryd.

“Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i fusnesau bach oherwydd y pandemig. Rydym yn ffodus i fyw mewn ardal mor anhygoel lle mae ein pobl leol mor gefnogol ac wedi ein cadw ni i fynd yn ystod yr amseroedd anodd hyn.  Hebddyn nhw ni fyddem ni yma – mae eu cefnogaeth nhw wedi bod yn eithriadol yn enwedig eleni. 

“Un peth ‘da ni wedi bod yn ei wneud ers y cyfnod clo yw cynnig apwyntiadau gyda’r nos i’r cwsmeriaid hynny sydd wedi gorfod hunanynysu neu’n llawn gofid am fentro allan. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae’n bwysig ein bod yn edrych ar ôl ein cwsmeriaid gan eu bod nhw wedi edrych ar ein holau ni. Maen nhw’n gallu bwcio slot lle mae ganddyn nhw’r siop i gyd i’w hunain am 30-40 munud heb unrhyw bwysau ac yn bwysicach na hynny eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel. Hefyd rydym wedi bod yn cludo pethau yn lleol i’r rheiny sy’n methu mentro allan.

“Teimlwn ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ felly rydym wedi cyflwyno cynllun ffyddlondeb lle unwaith y byddwch wedi gwario £100 (sydd yn cael ei gario drosodd) rydych yn cael £10 oddi ar eich pryniant nesaf. Mae hyn wedi mynd i lawr yn dda.

“Mae hi mor bwysig siopa a chefnogi ein busnesau lleol, dyma enaid unrhyw dref. Mae cymuned wych yma yng Nghorwen a dyna pam rydym wedi gallu dal i fynd am 8 mlynedd..... felly, gobeithio y byddwn ni’n gallu dathlu eto wedi 8 mlynedd arall.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...