llais y sir

Siopa'n Lleol: #CaruBusnesauLleol

Hyrwyddo busnesau Sir Ddinbych mewn ymgyrch siopa’r gaeaf

Mae ymgyrch sydd yn amlygu gwerth busnesau, nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael yn Sir Ddinbych wedi ei lansio ac mae’r sir yn apelio i bobl siopa’n lleol ac i wario’n lleol y gaeaf hwn.

Mae’r ymgyrch Siopa'r Gaeaf newydd hwn yn estyniad i'r fenter #carubusnesaulleol, gyda gwthiad i annog pobl i wario eu harian yn y sir, i annog busnesau i ddangos eu cynnyrch neu wasanaethau ac i ddenu hen gwsmeriaid a rhai newydd i ganolfannau tref.

Yn ogystal mae’r ymgyrch yn edrych ar fanteisio ar y cynnig o barcio am ddim sydd ar gael mewn meysydd parcio ar draws y sir a'r fenter i wneud ein canolfannau trefn yn fannau diogel i ymweld ac i wneud busnes yn ystod covid.

Dywedodd Arweinydd y Sir, y Cynghorydd Hugh Evans OBE, sydd hefyd yn Aelod Arweiniol dros yr Economi: “Mae ein cwmnïau lleol angen ein cefnogaeth yn ystod yr amseroedd sy’n anodd yn ariannol.

“Roedd hi’n anodd yn ariannol cyn i covid effeithio ar ein cymunedau ac mae rhai busnesau wedi cael trafferth i ymdopi. Dyma pam rydym yn meddwl ei bod yn bwysicach nag erioed i hybu’r neges #carubusensaulleol.

“Mae nifer o siopau yn ein trefi a phentrefi sydd yn cynnig ystod eang o gynnyrch, o fwyd a diod i harddwch a ffasiwn, o’r celfyddydau a chrefft i wasanaethau proffesiynol.

“Byddwch yn cael syrpreis wrth gerdded drwy'r trefi a phentrefi. Mae gennym drysorau cudd manwerthu yn ein sir a rydym eisiau helpu busnesau i ddangos eu cynnyrch, i annog pobl i ymweld ac i roi syrpreis a chyffroi’r prynwyr o’r hyn sydd i’w cynnig.

“Rhowch gynnig ar fusnesau Sir Ddinbych ac ewch a chefnogi busnesau lleol.”

Ffilm fer am siopa'n lleol

Diolch am eich cefnogaeth barhaus i siopa'n lleol y gaeaf hwn. 

Goleuo tirnodau lleol i gefnogi #carubusnesaulleol

Mae nifer o safleoedd ar draws trefi Sir Ddinbych yn cael eu goleuo ym mis Rhagfyr fel rhan o ymgyrch farchnata Siopa’r Gaeaf i gefnogi busnesau lleol.

Gan nad yw rhai o’r gweithgareddau Nadoligaidd arferol yn nhrefi’r sir yn cael eu cynnal eleni, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’i bartneriaid ar ddull amgen i roi hwb i ganol trefi, er mwyn cefnogi ymgyrch Siopa’r Gaeaf sydd eisoes ar waith.

Bydd prosiect Goleuo Sir Ddinbych yn anelu at roi hwb i nifer y bobl sy’n ymweld â chanol trefi a gwella’r gwaith sydd eisoes wedi’i gwblhau gan y Cyngor i sicrhau fod canolfannau masnachol yn ddiogel i bobl siopa a mwynhau lletygarwch.

Disgwylir y byddwn yn troi’r goleuadau ymlaen ar 4 Rhagfyr ac yn eu cadw ymlaen am fis, er mwyn gwneud y mwyaf o ymwelwyr ychwanegol, nid yn unig yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, ond ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd yn ogystal.

Dyma’r lleoliadau y byddwn yn eu goleuo:

  • Prestatyn – Eglwysi a chapeli
  • Rhuddlan – Castell Rhuddlan (Ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd)
  • Y Rhyl - Neuadd y Dref
  • Dinbych - Castell Dinbych (Gwybodaeth ar amseroedd agor: cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-dinbych)
  • Rhuthun, Sgwâr Sant Pedr, Eglwys Sant Pedr
  • Llanelwy – Cadeirlan Llanelwy
  • Llangollen – Prif bont y dref
  • Corwen – Y Sgwar

Ariennir y cynllun gan y Cyngor.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Bydd y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig ychydig yn wahanol eleni, gan nad oes modd cynnal y digwyddiadau mawr sydd fel arfer yn cael eu cynnal pan fydd y trefi wedi’u goleuo eleni.

“Er y bydd gan drefi eu goleuadau Nadolig traddodiadol eu hunain, mae’r Cyngor wedi penderfynu ychwanegu mwy o oleuadau a rhoi hwb i ysbryd yr ŵyl drwy oleuo rhai o’r adeiladau a’r strwythurau hanesyddol ac eiconig yn ein prif drefi. Rydym wedi dotio at yr holl gefnogaeth yr ydym wedi’i derbyn gan gynghorau dinas a thref ar draws Sir Ddinbych i ymgymryd â’r prosiect hwn.

“Ein nod yw denu pobl i’r dref a hyrwyddo ein hymgyrch marchnata Siopa’r Gaeaf, a gafodd ei lunio er mwyn annog trigolion i gefnogi eu siopau lleol yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. Bydd yr ymgyrch yn ystyried cefnogi ystod eang o weithgareddau busnes, gan gynnwys bargeinion ar-lein, fel rhan o’r fenter #carubusnesaulleol.

“Gobeithiwn y bydd pobl yn mwynhau’r goleuadau ac yn awyddus i ymweld â chanol y dref i weld beth sydd ar gael ac i fwynhau hwyl yr ŵyl”.

Gwên o glust i glust wrth i berchennog busnes fynd â busnes caws i lefel arall

Mae gwraig fusnes o Ruddlan yn gobeithio dod yn enw mawr yn y diwydiant busnes drwy ehangu i dref gyfagos.

Mae Gemma Williams, sylfaenydd 'The Little Cheesemonger' yn brysur iawn yn rhedeg ei busnes arobryn, tra hefyd wrthi'n sefydlu siop fawr arall y mae'n ei disgrifio fel 'y siop gaws lefel nesaf'.

Mae The Little Cheese Company wedi bod yn gweithredu yn Rhuddlan ers bron i bedair blynedd. Mae llawer o gynhyrchion i ddewis ohonynt gan gynnwys cacennau priodas caws, platiau rhannu yn ogystal â jîns a hamperi.

Mae The Little Cheesemonger yn un o nifer o fusnesau sy'n cefnogi Ymgyrch Siopa Gaeaf Cyngor Sir Ddinbych a sefydlwyd i annog pobl i gefnogi busnesau lleol dros y misoedd nesaf.

Dywedodd Gemma: "Rwy'n angerddol ac yn benderfynol o werthu caws gwych! Mae'n fy ngwneud yn hapus i weld pobl yn gwirioni ar gaws nad ydynt erioed wedi'u trio o'r blaen.

"Pan fydda i'n cael cyfle i adeiladu tyrau priodas caws ar gyfer priodas fy nghleientiaid, mae'n anrhydedd. Dwi wrth fy modd yn gwneud ceuled ac rwy'n mwynhau rhannu fy angerdd a'm cyffro gyda phobl eraill sydd hefyd yn caru caws gymaint â fi".

Esboniodd Gemma sut yr oedd hi'n teimlo bod y pandemig wedi dod â'r gymuned yn nes at ei gilydd a bod pobl yn amlwg yn mynd allan i gefnogi busnesau lleol yn fwy nag erioed.

Dywedodd: "Rwy'n credu bod pobl yn deall yn fwy nag erioed bod y pŵer yn eu pyrsiau. Bydd lle mae pobl yn dewis siopa yn cael effaith enfawr o ran helpu busnesau lleol. Bydd siopa'n lleol a chefnogi eich cymuned yn helpu i osgoi cau mwy o siopau.

"Mae busnesau bach yn rhoi eu calon a'u henaid. Rydym yn croesawu'r henoed a’r unig ac yn cofio enwau ein cwsmeriaid yn pryderu amdanynt os nad ydynt yn galw. Nid dim ond cynnyrch neu wasanaeth ydym ni, ni yw sylfaen y gymuned, y strydoedd mawr a'r economi leol.

Ychwanegodd Gemma: "Mae gennym berthynas wych gyda'r gymuned leol a dyna'n bennaf pam y penderfynwyd cadw siop Rhuddlan ar agor a masnachu wrth i ni ehangu i siop fwy newydd ym Mhrestatyn.

'Mae gen i gynlluniau epig ar gyfer y dyfodol. Bydd ystafell aeddfedu caws a ffenestri i gwsmeriaid weld ein "cafn caws" a phlymio i fyd ‘affinage’ caws.

'Rydym wedi buddsoddi mewn offer arbenigol wedi'i deilwra'n bwrpasol i roi'r storfa berffaith ar y cownter yn y siop. Yn 2021 byddwn yn datblygu menyn a chaws ar y safle a chyn gynted ag y gallwn, byddwn yn cynnal digwyddiadau blasu caws a gwin.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, dilynwch gyfrifon Facebook a Twitter Cyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â'r #carubusnesaulleol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Pethau Tlws: Busnes yn ‘rhoi yn ôl’ i’r gymuned ar ôl cefnogaeth yn ystod y cyfnod clo

Mae perchennog busnes o Ddyffryn Dyfrdwy yn dweud fod y gefnogaeth gan y gymuned leol a’i chwsmeriaid ffyddlon wedi eu cadw nhw i fynd trwy amseroedd heriol a’u bod nhw wedi addasu eu busnes fel ffordd o ddweud “diolch yn fawr iawn.”

Sefydlodd Pam Morris ei busnes yng Nghorwen gyda’i chwaer Lynne Davies Hocking gan ddechrau masnachu ym mis Gorffennaf 2012. Yn y lle cyntaf y bwriad oedd agor ystafell de ond gan fod llawer o gystadleuaeth yng Nghorwen dyma nhw’n penderfynu prynu siop wag yn y dref a sefydlu’r siop rhoddion Pethau Tlws.

Mae’r siop yn gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch yn cynnwys sgarffiau, dillad, cardiau, gemwaith a chanhwyllau, gyda ffocws ar gynnyrch wedi’u creu gan Gymry dawnus. Er eu bod nhw wedi bod yn ddibynnol ar gefnogaeth y gymuned leol maen nhw hefyd wedi denu cwsmeriaid o ardal ehangach yn cynnwys Y Bala, Rhuthun, Llangollen a Llanrwst.

Mae Pethau Tlws yn cefnogi’r ymgyrch Siopa’r Gaeaf dan arweiniad y Cyngor Sir gyda’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol.

Meddai Pam: “Mae’n anodd credu bod y siop wedi’i sefydlu ers mwy na 8 mlynedd bellach, yn enwedig mewn tref mor fach. Rydym yn gwerthu amrywiaeth o gynnyrch hyfryd ac mae’n bwysig iawn a ninnau’n ferched Cymraeg lleol ein bod yn gwerthu cymaint o eitemau Cymraeg ag sy’n bosib. Rydym wastad yn cadw llygad am Gymry dawnus sy’n gallu llenwi ein siop gyda’u cynnyrch hyfryd.

“Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i fusnesau bach oherwydd y pandemig. Rydym yn ffodus i fyw mewn ardal mor anhygoel lle mae ein pobl leol mor gefnogol ac wedi ein cadw ni i fynd yn ystod yr amseroedd anodd hyn.  Hebddyn nhw ni fyddem ni yma – mae eu cefnogaeth nhw wedi bod yn eithriadol yn enwedig eleni. 

“Un peth ‘da ni wedi bod yn ei wneud ers y cyfnod clo yw cynnig apwyntiadau gyda’r nos i’r cwsmeriaid hynny sydd wedi gorfod hunanynysu neu’n llawn gofid am fentro allan. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae’n bwysig ein bod yn edrych ar ôl ein cwsmeriaid gan eu bod nhw wedi edrych ar ein holau ni. Maen nhw’n gallu bwcio slot lle mae ganddyn nhw’r siop i gyd i’w hunain am 30-40 munud heb unrhyw bwysau ac yn bwysicach na hynny eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel. Hefyd rydym wedi bod yn cludo pethau yn lleol i’r rheiny sy’n methu mentro allan.

“Teimlwn ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ felly rydym wedi cyflwyno cynllun ffyddlondeb lle unwaith y byddwch wedi gwario £100 (sydd yn cael ei gario drosodd) rydych yn cael £10 oddi ar eich pryniant nesaf. Mae hyn wedi mynd i lawr yn dda.

“Mae hi mor bwysig siopa a chefnogi ein busnesau lleol, dyma enaid unrhyw dref. Mae cymuned wych yma yng Nghorwen a dyna pam rydym wedi gallu dal i fynd am 8 mlynedd..... felly, gobeithio y byddwn ni’n gallu dathlu eto wedi 8 mlynedd arall.”

Siop flodau ‘Flower Tops’ yn y Rhyl wedi ehangu yn ddiweddar

Mae siop flodau ‘Flower Tops’ yn y Rhyl sydd wedi ennill sawl gwobr wedi ehangu yn ddiweddar, ac fe fuom ni’n siarad gyda Carol Parr, y perchennog i gael gwybod mwy.

Mae Flower Tops wedi bod yn weithredol ers 10 mlynedd, gan gynnig tuswau o flodau hyfryd ar gyfer busnesau ac achlysuron megis priodasau ac angladdau. Mae ehangu’r siop wedi rhoi rhagor o ofod i ni ymestyn yr hyn rydym ni’n ei werthu yn cynnwys cardiau cyfarch, balŵns, cynnyrch i’r cartref a llawer mwy o eitemau i gwsmeriaid eu dewis.

Dywedodd Carol: “Dwi wrth fy modd yn rhedeg Flower Tops. Dwi’n meddwl bod y mwyafrif o’n cwsmeriaid yn ymweld â’r siop i gael profiad nad ydynt yn ei gael wrth brynu ar-lein. Yn ogystal â gweld y cynnyrch, mae cwsmeriaid wrth eu bodd yn gallu teimlo ansawdd y cynnyrch, ac rydym ni’n gadael iddynt! Rydym ni wrth ein bodd yn siarad gyda nhw a rhoi cyngor arbenigol ar gyfer pob archeb.’

‘Mae yna ymdeimlad o gymuned wrth siopa’n lleol, mae pobl wrth eu bodd yn cefnogi eu gilydd, mae’n wych. Heb gefnogaeth gan y gymuned, mae busnesau lleol yn cau eu drysau ac unwaith y maent wedi mynd, mae pobl yn eu methu.

Mae nifer o fusnesau yn dod at eu gilydd i gefnogi Ymgyrch Siopa y Gaeaf y Cyngor Sir, yn cynnwys Flower Tops. Fe sefydlwyd yr ymgyrch yma i annog pobl i gefnogi busnesau lleol dros y misoedd nesaf.

Mynegodd Carol ei hangerdd dros gefnogi busnesau lleol ac aeth ymlaen i egluro sut mae hi’n teimlo bod Flower Tops yn mynd yr ail filltir i ddarparu gwasanaethau wedi’u personoli.

‘Mae siopau lleol yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid. Rydym ni’n cynnig llawer o gyffyrddiadau wedi’u personoli i’n cwsmeriaid ni, yn cynnwys darparu addurniadau ychwanegol i’n tuswau yn rhad ac am ddim. Ar gyfer anrhegion sensitif, rydym ni hyd yn oed yn anfon lluniau at gwsmeriaid sydd methu teithio i’r siop, i’w cadw fel atgof.’

Fe ychwanegodd Carol: ‘Dw i wrth fy modd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a chydnabod y bobl dda sydd yno. Rydw i’n cynnal cystadlaethau i roi anrhegion am ddim, ac weithiau dwi’n gwahodd y maer i gyflwyno’r gwobrau yma i’r enillwyr arbennig.’

Cadwch lygad ar sianeli cymdeithasol Flower Tops, mae’n swnio fel bod yna nifer o bethau cyffrous ar y gweill!

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, dilynwch gyfrifon Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook a Twitter, yn ogystal â chyfrif cyfryngau cymdeithasol #CaruBusnesauLleol

State of Distress: Llwyddiant i berchennog busnes Rhuthun y gaeaf hwn

Mae Bernadette O’Malley yn ddynes brysur iawn yn rhedeg dau fusnes yn Nyffryn Clwyd – gan sefydlu cwmni newydd sbon ar ddechrau’r prif gyfnod clo yng Ngwanwyn 2020.

Sefydlodd y ferch fusnes entrepreneuraidd ‘State of Distress’, ei phrif fusnes yn Rhuthun yn 2013, ac yn ddiweddar cymerodd y cyfle i sefydlu Marchnadoedd Artisian Rhuthun CIC, cwmni digwyddiadau marchnad.

Mae State of Distress yn gwerthu celf a chrefft leol, Paent Sialc Annie Sloan, ac mae Stiwdio Paentio Crochenwaith a gweithdy crefftau yno hefyd.

Mae Marchnadoedd Artisian Rhuthun CIC yn cynnal marchnadoedd lle mae pobl yn gwerthu cynnyrch lleol, gan gynnwys celf a chrefft, bwyd a diodydd lleol.

Mae Bernadette yn un o nifer o fusnesau sy’n cefnogi ymgyrch Siopa dros y Gaeaf y Cyngor, a sefydlwyd er mwyn annog pobl i gefnogi busnesau lleol dros y misoedd nesaf.

Dywedodd Bernadette: “Mae gennym dros 40 o fusnesau o dan un to, mae mwyafrif yr eitemau wedi’u personoli heb unrhyw gost ychwanegol ac mae mwyafrif yr eitemau yn hollol unigryw. Mae ein Stiwdio Paentio Crochenwaith wedi’i anelu at bob oed, ac rydym hefyd yn rhoi ôl traed a bysedd ar grochenwaith ar gyfer babanod. Rydym yn cynnig gwasanaeth danfon lleol am ddim, ac ym mwyafrif yr achosion rydym yn danfon ar yr un diwrnod. Mae gennym enw da am ein dull cyfeillgar a chyngor pan fo angen.

“Mae Marchnadoedd Artisan Rhuthun yn grŵp buddiannau cymunedol. Rydym yma i gynorthwyo busnesau lleol i sefydlu sylfaen o gwsmeriaid a thyfu eu busnes a chynnal digwyddiadau awyr agored diogel i aelodau’r gymuned lle gallent ddod i siopa a chyfarfod ffrindiau a theulu yn ddiogel yn yr awyr agored. Rydym hefyd yn gweithio ar geisio cynyddu ymwybyddiaeth pobl o’n hatyniadau ac adeiladau hanesyddol yn y dref. Bydd unrhyw elw dros ben yn cael ei ail-fuddsoddi yn ein cymuned fel y gallwn roi yn ôl hefyd.

“Mae’n hanfodol i fusnesau lleol bychain gael eich cefnogaeth eleni yn fwy nac erioed. Mae nifer o fusnesau bychain, fel fy musnes i, wedi mynd tu hwnt i’r disgwyliadau eleni er mwyn darparu anghenion cwsmeriaid i’w drysau a’u helpu i barhau i fyw eu bywydau yn haws.

Mae Bernadette yn credu bod gan Rhuthun gymuned fusnes cryf a chefnogol a phwynt gwerthu unigryw.

Ychwanegodd: “Mae busnesau yn y dref yn cynnig gwasanaeth wedi’i bersonoli, cysylltiad gyda’r cynnyrch a wneir yn ein hardal a’r ffaith bod arian sy’n cael ei wario yn ein hardal yn aros yn yr ardal wrth i fusnesau bychain lleol ail-fuddsoddi mewn busnesau bychain eraill a darparu swyddi ar gyfer pobl leol.

“Mae busnesau wedi cynnig helpu ei gilydd gyda gwasanaeth danfon, maent yn argymell busnesau eraill i’w cwsmeriaid ac maent yn gwario arian ym musnesau ei gilydd.

“Gallwch brynu pethau ar stryd fawr Rhuthun na fyddech yn gweld mewn strydoedd fawr eraill yn y DU, a gan fod mwyafrif y busnesau yn cael eu rhedeg gan y perchennog, byddwch yn derbyn gwasanaeth gan rhywun sydd wir yn malio eich bod yn dewis gwario eich arian gyda nhw ac nid yn unrhyw le arall.

“Rydym yn darparu gofod yn ein siop ar gyfer busnesau sydd methu fforddio costau cyffredinol staff a siop, yn ogystal â’r biliau ynghlwm. Rwy’n creu mygiau, arwyddion ac eitemau eraill ar y safle, yr un diwrnod fel arfer. Rwyf hefyd yn cynnig gwasanaeth paentio dodrefn lle gallwch ddod a dodrefn mewn a gallaf eu paentio mewn unrhyw liw a steil yr hoffech.

“Mae Marchnadoedd Artisian Rhuthun CIC yn sefydliad gwirfoddol a grëwyd er mwyn dod a phobl i’n dref a chynnal digwyddiadau er mwyn cyfarfod â ffrindiau a theulu yn ogystal a chodi ymwybyddiaeth o’n busnesau bychain lleol, na fyddent wedi darganfod fel arall, am brisiau fforddiadwy ar gyfer y busnesau”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, dilynwch gyfrifon Facebook a Twitter y Cyngor, yn ogystal â chyfrif cyfryngau cymdeithasol #carubusnesaulleol 

Morgan’s Hair and Beauty: Triniwr gwallt yn annog trigolion i siopa’n lleol dros y gaeaf

Mae siop trin gwallt llwyddiannus sy'n cefnogi ymgyrch siopa’n lleol yn dweud y gall torri gwallt neu gael triniaeth harddwch roi hwb mawr ei angen i drigolion Sir Ddinbych y gaeaf hwn.

Agorodd Rebecca Morgan Brennan Morgan’s Hair and Beauty ym Mhrestatyn yn 2013 ac yna ymgorfforodd Morgan’s Wigs ym mis Ionawr 2014, gan gynnig cymorth i’r rhai â chyflyrau meddygol sydd wedi arwain at golli gwallt.

Mae hi'n cefnogi ymgyrch siopa gaeaf #CaruBusnesauLleol y Cyngor i annog pobl i gefnogi busnesau Sir Ddinbych a siopa'n lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig a thu hwnt.

Meddai Mrs Morgan, 51, sydd wedi bod yn driniwr gwallt ers 17 o flynyddoedd: “Mae’n bwysicach nag erioed i gefnogi busnesau lleol ar ôl popeth sydd wedi digwydd eleni.

“Mae gwario arian yn lleol yn diogelu swyddi ac yn helpu’r economi leol. Mae gennym bobl sy'n dod atom o bob rhan o Ogledd Cymru, yna maen nhw wedyn yn gwario arian ym Mhrestatyn, rydyn ni'n eu cyfeirio at lefydd i siopa ym Mhrestatyn.

“Rydyn ni'n salon mawr, ac rydyn ni'n dilyn rheolau Covid-19 yn ddiogel iawn, gan wisgo'r holl gyfarpar diogelu personol angenrheidiol. Gallwn ni deilwra'r profiad i gwsmeriaid i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu, rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o driniaethau harddwch yma. Mae cael torri gwallt neu driniaeth harddwch yn grêt ar gyfer codi calon. Mae’n ffordd wych o wneud i chi eich hun deimlo’n well, yn enwedig yn ystod yr amser hwn.”

Mae Mrs Morgan, sy'n cyflogi 11 o bobl, hefyd yn rhedeg Morgan's Wigs sy'n darparu wigiau a gwasanaeth ffitio wigiau i bobl ledled Gogledd Cymru sydd wedi colli gwallt oherwydd cyflwr neu driniaeth feddygol.

Mae hi'n gweithio gyda nifer o elusennau, gan gynnwys Look Good Feel Better, Cymorth Canser Macmillan ac Ymddiriedolaeth Little Princess, a hi sy’n cyflenwi wigiau i gleifion y GIG ledled Gogledd Cymru.

Mae Morgan's Hair and Beauty a Morgan's Wigs wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys cael eu henwi'n Enillydd Pencampwr Cymunedol y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch Prydain 2020, Gwobr Safon Aur Ymddiriedolaeth Little Princess yn ogystal ag ennill Gwobr Menter Gymdeithasol Cymru yng Ngwobrau Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru 2020.

Ychwanegodd Mrs Morgan: “Mae mwy i’w gynnig yn lleol na’r hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl, rwyf wedi gweld Prestatyn yn tyfu ac wedi gweld busnesau newydd yn agor ar ôl y cyfnod clo. Bydd mwy o fusnesau yn agor hefyd. Os na fydd pobl leol yn cefnogi busnesau lleol, byddan nhw’n diflannu. Mae’n rhaid i bobl roi amser ac arian i gadw eu strydoedd mawr lleol. Mae’n rhaid i bobl gefnogi eu stryd fawr.

“Mae busnesau lleol yn darparu cymuned ac yn cefnogi ei gilydd. Rwy’n argymell busnesau lleol eraill i’m cwsmeriaid ac rwy’n defnyddio busnesau lleol ar gyfer popeth y gallaf. Rwyf o’r farn y dylai busnesau helpu busnesau eraill hefyd, yn enwedig rŵan.

“Y peth gwych am fasnachwyr annibynnol yw y gallwn deilwra ein gwasanaeth. Er enghraifft, os bydd pobl yn nerfus am fod yn y salon gyda phobl eraill, gallwn ddarparu ystafell un i un er mwyn gwneud i bobl deimlo’n ddiogel.”

Making an Entrance: Addurniadau Nadoligaidd unigryw wedi’u creu’n ofalus â llaw

Efallai bod torch ar y drws neu eitem flodeuog ar fwrdd y cinio Nadolig yn rhan o syniad rhamantaidd am Nadolig teuluol traddodiadol, ac i un pâr busnes o Sir Ddinbych, mae harddwch y wlad sydd o gwmpas eu cartref yn rhoi ysbrydoliaeth i’w creadigaethau artistig.

Mae Making an Entrance yn gwmni sy’n cael ei redeg gan Wendy ac Andy Radley o’u cartref ym Mryniau Clwyd ger Llanarmon-yn-Iâl. Mae popeth yn cael ei wneud yn unigryw ar gyfer pob archeb mewn stiwdio flodau, sef stabl wedi’i throsi fel caban coed yng ngwaelod yr ardd.


Yn wreiddiol o Warrington, fe symudodd y pâr i Lanarmon ddiwedd mis Hydref 2019 ac maen nhw wedi mynd ati i fod yn rhan o fywyd y gymuned, gan gynnwys gwirfoddoli yn y siop leol a chanu yn y côr cymunedol. Maen nhw hefyd wedi bod yn brysur â’u siop ar-lein:  www.makinganentranceuk.co.uk, siop Etsy a gyda’i gilydd mae ganddyn nhw gyfanswm o dros 8,000 o ddilynwyr ar eu tudalennau Facebook ac Instagram Making An Entrance U.K.

Mae’r cwmni’n un o nifer o fusnesau ar draws Sir Ddinbych sy’n cefnogi ymgyrch Siopa’r Gaeaf sy’n cael ei chydlynu gan Gyngor Sir Ddinbych ac sy’n annog trigolion y sir i gefnogi busnesau lleol y gaeaf hwn.

Dywedodd Wendy: “Fe wnaethom ni symud i Gymru flwyddyn yn ôl o Warrington i ddechrau ar bennod newydd gan mai ond y ddau ohonom ni oedd adref bellach a dyma’r peth gorau rydyn ni wedi’i wneud.  Roedd gen i fusnes blodau ar-lein ac rydyn ni wedi defnyddio’r newid i greu cyfleoedd busnes newydd. Yn anffodus, mi gollodd Andy ei swydd fel rheolwr mewn cwmni adeiladu mawr yn ystod y cyfnod clo felly rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn gyda’n gilydd i greu cyfleoedd busnes newydd, creu mwy o werthiant a thyfu enw da ein cwmni, yn enwedig yma yng Nghymru. 


“Mae Andy bellach yn gweithio yn llawn amser yn y busnes. Rydyn ni’n dîm da: mae o wedi ysgwyddo llawer o’r tasgau (llai creadigol) oeddwn i’n eu gwneud fy hun o’r blaen, fel danfon archebion at gleientiaid lleol (yn dilyn canllawiau diogelwch Covid). Mae hynny’n caniatáu i mi gwblhau mwy o archebion ac, felly, yn cynyddu ein gwerthiant. 

“Fel busnes bach, cyllideb fechan sydd gennym ni i hysbysebu felly rydyn ni’n dibynnu ar bobl i’n canmol ni a hyrwyddo ein busnes ar grwpiau Facebook lleol. Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael wedi bod yn anhygoel.  Dwi’n falch iawn o ddweud bod gwerthiant wedi cynyddu o un wythnos i’r llall, hyd yn oed yn ystod y pandemig, ac mae Andy a minnau’n ddiolchgar iawn am hynny. 

“Mae’r cleientiaid yn aml yn rhannu’r ‘straeon’ sydd y tu cefn i’w harchebion gyda mi.  Mae’n braf ac yn galonogol gallu gweld y cariad sydd rhwng teuluoedd a ffrindiau sy’n cael eu gwahanu gan Covid a gallu cyfleu eu caredigrwydd at ei gilydd trwy greu’r anrhegion blodeuog maen nhw wedi’u harchebu a’u danfon at stepen drws eu hanwyliaid ar eu rhan.  Mae gen i gwsmeriaid sy’n prynu torchau i’w rhoi ar feddi eu hanwyliaid, ac eraill yn archebu torchau i’w rhoi ar ddrysau/waliau i godi calon a gwneud y lle’n braf, yn enwedig y rhai sydd bellach yn gweithio gartref sydd yn aml wedi dweud eu bod yn teimlo’n unig ac fel charcharorion yn eu cartrefi eu hunain.


“Dwi wedi creu torchau blodau siâp calon i gael eu danfon at berthnasau hŷn mewn cartrefi gofal er mwyn i’r rhai sydd y tu allan allu dangos eu cariad tuag atyn nhw a’u hatgoffa y byddan nhw gyda’i gilydd eto cyn hir.  Dwi wedi creu torchau blodau i barau sy’n priodi, sydd wedi gorfod newid eu cynlluniau priodi a chwtogi’r niferoedd ond sy’n dal yn benderfynol o gael gwneud. Dwi wedi creu torchau i gael eu hanfon fel anrhegion gan fy nghwsmeriaid at nyrsys ac athrawon i ddiolch am y gwaith arbennig maen nhw’n ei wneud.

“Yn ddiweddar hefyd, i ymateb i alw gan y cwsmeriaid, rydw i wedi creu torch bersonol siâp calon ar gyfer drws / wal gyda thlws siâp calon yn y canol ac arno’r geiriau ‘A Hug In A Heart’ i’r rheiny sydd eisiau dangos i’w teulu a’u ffrindiau faint maen nhw’n colli eu gweld oherwydd y cyfyngiadau teithio lleol a mesurau cadw pellter cymdeithasol. Dyma i chi lond llaw o enghreifftiau pam mae pob archeb yn cael ei chreu’n ofalus â llaw.

“Rydw i’n ofnadwy o falch o’n busnes bach ac yn ddiolchgar iawn i’n cwsmeriaid triw, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd yma’n ariannol.  Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn o gael gwneud beth ydw i’n ei fwynhau fel gwaith i gwsmeriaid sydd wir yn gwerthfawrogi ymdrechion fy ngŵr a minnau i gynnig crefftau o safon gyda gwasanaeth arbennig.”

Myrtle House: Oriel anrhegion Sir Ddinbych yn cefnogi cynnyrch Cymreig a siopa lleol

Mae perchennog oriel anrhegion sy'n hyrwyddo 'gwnaethpwyd yng Nghymru' y Nadolig hwn yn annog siopwyr i wneud yr un peth.

Sefydlodd Pippa McGrevy Oriel Anrhegion Myrtle House yn Llanelwy ym mis Rhagfyr 2017 gan werthu eitemau celf, crefft a chrefftwyr a wnaed gan gynhyrchwyr creadigol annibynnol bach o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt.

Mae'n cefnogi ymgyrch siopa gaeaf Cyngor Sir Ddinbych #CaruBusnesauLleol i annog pobl i gefnogi busnesau Sir Ddinbych a siopa'n lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig ac wedi hynny.

Meddai Pippa: "Rwy'n hyrwyddo 'gwnaethpwyd yng Nghymru' ac rwy'n cefnogi'r ymgyrch hon gan fod prynu pethau hyfryd gan eich busnesau annibynnol lleol yn cadw eich arian yn yr economi leol, mae'n dda i ni i gyd a'n hardal.

"Mae cymuned fusnes gref yn Llanelwy, rwyf wedi canfod bod busnesau eraill yn gefnogol iawn ohonof ac rwy'n gwneud fy ngorau i'w cefnogi hefyd.

"Fel busnes annibynnol lleol rwy'n ceisio mynd y tu hwnt i wasanaeth personol i'm cyflenwyr a'm cwsmeriaid. Fy nod yw gwasanaeth cyfeillgar, prydlon a rhagorol drwy drefnu comisiynau, cynnig lapio anrhegion am ddim, gwasanaeth postio a danfon yn lleol am ddim. Nid oes dim yn ormod i'm cwsmeriaid. Y cyffyrddiad personol hwn yw'r hyn y gall busnesau lleol ei gynnig i'w cwsmeriaid."

Mae Oriel Anrhegion Myrtle House yn gwerthu ystod eang o eitemau wedi'u paentio â llaw, wedi'u gwneud â llaw a'u saernïo â llaw a rhoddion boutique gan gynnwys celf gwych a thecstilau, gemwaith arian, llyfrau wedi’u rhwymo â llaw, cerameg, cynnyrch gofal corff, cynhyrchion bath a chawod, cardiau cyfarch Cymraeg a Saesneg, a llawer mwy.

Mae'r busnes wedi'i leoli yn Myrtle House sydd â hanes hir o fasnachu, yn dŷ tafarn yn wreiddiol, yna yn siop bysgod a sglodion yn y 1950au.

Agorodd Pippa, sy’n rhwymwr llyfrau creadigol, a'i gŵr Miles, sy’n artist, y siop yn wreiddiol i arddangos eu gwaith eu hunain.

Dywedodd: "Cyfarfûm â chymaint o bobl greadigol mewn marchnadoedd a ffeiriau fel bod y busnes newydd yn tyfu'n organig wrth i mi eu gwahodd i ymuno â ni. Mae dwy ardal fach y siop bellach yn llawn i’w hymylon.

"Rwyf wrth fy modd yn dod o hyd i eitemau anarferol ac yn cefnogi crefftwyr nad ydynt yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol neu wefannau. Gan nad yw gwneuthurwyr wedi cael ffeiriau na marchnadoedd oherwydd Covid-19 eleni, mae'n golygu bod gennym stoc unigryw o eitemau gwahanol a gwreiddiol, sydd ar gael yn unig i'n cwsmeriaid y gaeaf hwn."

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid