llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Siop flodau ‘Flower Tops’ yn y Rhyl wedi ehangu yn ddiweddar

Mae siop flodau ‘Flower Tops’ yn y Rhyl sydd wedi ennill sawl gwobr wedi ehangu yn ddiweddar, ac fe fuom ni’n siarad gyda Carol Parr, y perchennog i gael gwybod mwy.

Mae Flower Tops wedi bod yn weithredol ers 10 mlynedd, gan gynnig tuswau o flodau hyfryd ar gyfer busnesau ac achlysuron megis priodasau ac angladdau. Mae ehangu’r siop wedi rhoi rhagor o ofod i ni ymestyn yr hyn rydym ni’n ei werthu yn cynnwys cardiau cyfarch, balŵns, cynnyrch i’r cartref a llawer mwy o eitemau i gwsmeriaid eu dewis.

Dywedodd Carol: “Dwi wrth fy modd yn rhedeg Flower Tops. Dwi’n meddwl bod y mwyafrif o’n cwsmeriaid yn ymweld â’r siop i gael profiad nad ydynt yn ei gael wrth brynu ar-lein. Yn ogystal â gweld y cynnyrch, mae cwsmeriaid wrth eu bodd yn gallu teimlo ansawdd y cynnyrch, ac rydym ni’n gadael iddynt! Rydym ni wrth ein bodd yn siarad gyda nhw a rhoi cyngor arbenigol ar gyfer pob archeb.’

‘Mae yna ymdeimlad o gymuned wrth siopa’n lleol, mae pobl wrth eu bodd yn cefnogi eu gilydd, mae’n wych. Heb gefnogaeth gan y gymuned, mae busnesau lleol yn cau eu drysau ac unwaith y maent wedi mynd, mae pobl yn eu methu.

Mae nifer o fusnesau yn dod at eu gilydd i gefnogi Ymgyrch Siopa y Gaeaf y Cyngor Sir, yn cynnwys Flower Tops. Fe sefydlwyd yr ymgyrch yma i annog pobl i gefnogi busnesau lleol dros y misoedd nesaf.

Mynegodd Carol ei hangerdd dros gefnogi busnesau lleol ac aeth ymlaen i egluro sut mae hi’n teimlo bod Flower Tops yn mynd yr ail filltir i ddarparu gwasanaethau wedi’u personoli.

‘Mae siopau lleol yn mynd y tu hwnt i’r disgwyl i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid. Rydym ni’n cynnig llawer o gyffyrddiadau wedi’u personoli i’n cwsmeriaid ni, yn cynnwys darparu addurniadau ychwanegol i’n tuswau yn rhad ac am ddim. Ar gyfer anrhegion sensitif, rydym ni hyd yn oed yn anfon lluniau at gwsmeriaid sydd methu teithio i’r siop, i’w cadw fel atgof.’

Fe ychwanegodd Carol: ‘Dw i wrth fy modd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a chydnabod y bobl dda sydd yno. Rydw i’n cynnal cystadlaethau i roi anrhegion am ddim, ac weithiau dwi’n gwahodd y maer i gyflwyno’r gwobrau yma i’r enillwyr arbennig.’

Cadwch lygad ar sianeli cymdeithasol Flower Tops, mae’n swnio fel bod yna nifer o bethau cyffrous ar y gweill!

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, dilynwch gyfrifon Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook a Twitter, yn ogystal â chyfrif cyfryngau cymdeithasol #CaruBusnesauLleol

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...