llais y sir

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Mwynhewch Eco-Nadolig Llawen

Mae hi’n adeg honno o’r flwyddyn eto! Mae Nadolig yn amser ar gyfer teulu, ffrindiau a gweithgareddau hwyliog, ac i lawer mae’n ddirfawr ei angen ar ôl ansicrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn ymdopi â phandemig Covid-19.

Yn dilyn Cynhadledd COP26 eleni, mae pawb ohonom yn fwy ymwybodol nag erioed o pa mor bwysig yw bod yn gynaliadwy ag y gallwn, a gwneud y Nadolig hwn yn ecogyfeillgar.

Felly sut allwn ni fwynhau tymor y Nadolig a pheidio cael effaith negyddol ar y blaned?

Mae’r tîm Newid Hinsawdd wedi llunio’r awgrymiadau cyfleus yma i helpu gydag agweddau amrywiol – o’r diwrnod mawr ei hun i brynu anrhegion.

Mae popeth bychan rydym ni’n ei wneud yn helpu, ac fe allai’r newidiadau syml yma dros gyfnod y Nadolig wneud gwahaniaeth mawr i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd a sicrhau ein bod yn amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau i ddod

Gan y tîm Newid Hinsawdd, rydym ni’n dymuno Eco-Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Y Goeden Nadolig

  1. Os nad oes gennych chi goeden artiffisial yn barod, ceisiwch osgoi plastig. Mae coed Nadolig go iawn yn llawer mwy cynaliadwy na rhai artiffisial. Daeth un astudiaeth i’r casgliad y byddai angen i chi ddefnyddio coeden ffug am 20 mlynedd iddi fod yn fwy “gwyrdd”.
  2. Wedi dweud hynny, cofiwch ailgylchu eich coeden go iawn ar ôl cyfnod y Nadolig. Mae tua saith miliwn o goed go iawn yn debygol o gael eu taflu ym mis Ionawr! Os oes gennych chi gasgliad gwastraff gwyrdd fe fydd y Cyngor yn casglu eich coeden ac yn ei hailgylchu i chi, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi. Fe allwch chi drefnu i fynd â’ch coeden i’r gwastraff gwyrdd yn eich depo gwastraff, neu fel arall, gallwch ei thorri i fyny a phentyrru’r coed yn eich gardd er mwyn i’r adar a’r trychfilod eu mwynhau.

Cardiau Nadolig

  1. Mae swm anhygoel o 1.5biliwn o gardiau Nadolig yn cael eu taflu gan aelwydydd y DU bob blwyddyn (yn ôl ymchwilwyr o Imperial College). Pam na wnewch chi anfon e-gerdyn at deulu a ffrindiau eleni, neu fel arall gallech anfon cardiau Nadolig y gellir eu plannu y gall eich anwyliaid sy’n eu derbyn eu hau yn y gwanwyn a mwynhau llysiau neu flodau gwyllt yn eu gardd y flwyddyn nesaf.

Prynu anrhegion

  1. Mae prynu anrhegion rydych chi’n gwybod y bydd pobl yn eu mwynhau a’u defnyddio am gyfnod hir ymddangos yn amlwg, ond trwy beidio â phrynu’r anrhegion gwirion nad ydynt yn para ar ôl wythnos y Nadolig, rydyhc yn arbed gwastraff.
  2. Cadwch lygad am siopau a cwmnïau sy’n gwerthu anrhegion ecogyfeillgar. Efallai y gallech chi brynu potel y gellir ei hailddefnyddio, mabwysiadu anifail, prynu aelodaeth ar gyfer yr RSPB neu’r Ymddiriedolaeth Bwyd Gwyllt neu ddod o hyd i anrhegion mwy gwyrdd megis dillad, esgidiau, pethau ymolchi moesegol a llawer o bethau eraill.
  3. Siopa'n Lleol! Cefnogwch y siopau annibynnol yn eich ardal leol a lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.
  4. Cael Nadolig crefftus. Mae anrhegion cartref bob amser yn cael eu croesawu a’u trysori. Mae troch Nadolig naturiol, danteithion i’w bwyta neu galendr Adfent cartref i’w mwynhau dros y Nadolig i ddod yn syniadau carbon isel.
  5. Ceisiwch lapio’r anrhegion gyda phapur wedi’i ailgylchu neu mewn ffabrig lliwgar y gellir ei ailddefnyddio – fe allai hyn fod yn anrheg yn ei hun, yn ogystal ag edrych yn hardd!

Y Cinio Nadolig

  1. Ceisiwch brynu yr hyn rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n eu fwyta’n unig a dewiswch eitemau sydd heb lawer o ddeunydd pacio. Os y bydd gennych chi fwyd dros ben, fe ellir eu defnyddio i greu prydau bwyd ar gyfer rhywbryd eto er mwyn arbed arian a lleihau gwastraff. Tarwch olwg ar ryseitiau bwyd dros ben BBC Good Food i gael syniadau gwych..
  2. Yn ôl Cymdeithas Y Pridd, “bwyd yw’r dull dyddiol mwyaf pwysig y gall pobl leihau eu heffaith amgylcheddol”. Tarwch olwg ar y danteithion Nadoligaidd yma ar wefan Vegan Society.
  3. Os ydych chi’n prynu cig, ceisiwch ddewis fwyd organig a chrwydro’n rhydd, a ffermydd lleol bychan lle bo hynny’n bosibl – mae’n well i’r amgylchedd na chig wedi’i ffermio’n ddwys.

Cynlluniau ar gyfer datblygu Peilot Cyngor Sir Ddinbych ar Wefru Cerbydau Trydanol i’r Cyhoedd

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid grant gwerth £57,400 gan Swyddfa Llywodraeth Y DU i Gerbydau Di-Allyriadau gyda chefnogaeth Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, i gefnogi’r gwaith o gyflenwi’r Cynllun Peilot Gwefru Cerbydau Trydanol i’r Cyhoedd.

Bydd y cynllun peilot yn darparu pwyntiau gwefru cyflym mewn wyth maes parcio ceir cyhoeddus ar draws Sir Ddinbych i’w defnyddio gan y cyhoedd. 

Mae’r lleoliadau’n cynnwys:

Maes Parcio Ward y Ffatri

Dinbych

2 x 22 cilowat (KW) newid pwyntiau gwefru bob yn ail (AC)  (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Grîn Bowlio

Llanelwy

1 x 22kW AC (gallu gwefru 2 cerbyd)

Maes Parcio Heol y Farchnad

Llangollen

2 x 22 kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Pafiliwn

Llangollen

2 x 22 kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Cae Ddôl

Rhuthun

2 x 7Kw AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Ganolfan Grefft

Rhuthun

2 x 22 kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Fern Ave

Prestatyn

2 x 7Kw AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Ffordd Morley

Y Rhyl,

2 x 22kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Mae lleoliadau wedi’u dewis yn defnyddio ystod o feini prawf yn cynnwys lleoliad a hygyrchedd a chynnwys cymysgedd o lwybrau allweddol a meysydd parcio yn agos i eiddo preswyl heb fynediad i barcio oddi ar y ffordd.

Y nod yw cynnig posibiliadau i bobl newid i gerbydau trydan lle nad oedd mynediad i gyfleuster gwefru yn y gorffennol.

Mae’r prosiect yn rhan o gamau gweithredu’r Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadu’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn 2021.

Mae mentrau cerbydau trydan eraill yn rhan o’r gwaith er mwyn cyrraedd nod y cyngor o fod yn gyngor di-garbon net erbyn 2030. 

Mae prosiectau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn cynnwys ehangu ar isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor a chynyddu’r nifer o gerbydau trydan sydd yn ei Fflyd i gyflenwi gwasanaethau’r Cyngor.

Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i weithio ar brosiect sy’n cael ei beilota i annog cwmnïau tacsi i newid i ddefnyddio cerbydau trydan.

Cynhelir y broses caffael ar gyfer y pwyntiau gwefru yn yr hydref gyda’r bwriad o’i gosod nhw a chael nhw’n gweithredu erbyn Gwanwyn 2022. 

Meddai’r Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant ac Amgylchedd y Cyngor: “Mae’n wych i’r Cyngor gael bod yn rhan o brosiect mor bwysig sy’n chwarae rôl hanfodol o fewn ein nod i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol.

 “Mae cerbydau trydan yn rhan fawr o’n dyfodol felly dyma gam pwysig i’r sir.

 “Mi fyddan nhw’n creu amgylchiadau iachach ac yn gyfleus i’r cymunedau hynny ac i’r ymwelwyr sy’n dewis defnyddio cerbydau trydan.

“Mae’r pwyntiau gwefru yn rhoi mantais wirioneddol i Sir Ddinbych gyfan ond rydym yn gobeithio fod rhai o’r lleoliadau hyn o fudd yn benodol i aelwydydd cyfagos heb gyfleusterau gwefru oddi ar y ffordd. Mi fyddan nhw’n darparu data defnyddiol i ddadansoddi ehangiad posib yn y dyfodol ar gyfer Gwefru CT.

Mae’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan i’w cael ar ddau safle Hamdden Sir Ddinbych yn cynnwys Pafiliwn Llangollen a Chanolfan Grefft Rhuthun.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Fel cwmni rydym wedi ymrwymo i wella’r amgylchedd i’n preswylwyr sy’n cyfrannu at well Iechyd a Lles. Rydym yn falch iawn o gael cefnogi’r Cyngor a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol a gafodd ei ddatgan yn 2019, a thu hwnt i’r prosiect hwn byddwn yn parhau i weithio gyda’r Cyngor ar nifer o brosiectau tuag at yr agenda newid hinsawdd.”

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â strategaeth ar newid hinsawdd a newid ecolegol ewch i'n gwefan.

Disgyblion ysgol yn helpu i roi hwb i safle blodau gwyllt lleol

Mae disgyblion ysgol wedi helpu i roi hwb i safle Blodau Gwyllt lleol a’u helpu i flodeuo’n iach am y tymor nesaf.

Yn dilyn datganiad y Cyngor o argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella bioamrywiaeth ar draws y sir, mae bron 60 o safleoedd, gan gynnwys ymylon priffyrdd, ymylon llwybrau troed, llwybrau beiciau a glaswelltiroedd amwynder, yn cael eu rheoli i greu dolydd blodau gwyllt.

Mae’r safleoedd hyn, ynghyd â’r 11 o warchodfeydd natur ar ochr y ffordd, yn gyfystyr â 30 o gaeau pêl-droed a reolir fel dolydd blodau gwyllt brodorol.

Yn ogystal â diogelu blodau gwyllt, mae’r dolydd hefyd yn cefnogi lles pryfaid sy’n frodorol i ardal y sir.

Er mwyn rhoi hwb i’r ardaloedd hyn dros y gaeaf a darparu bwyd uniongyrchol i fywyd gwyllt yn y flwyddyn nesaf, mae’r tîm wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Sgiliau Coedwig Bodfari i dyfu blodau gwyllt gan ddefnyddio hadau a gasglwyd yn lleol.

I helpu i blannu’r blodau gwyllt hyn mewn llain ymyl ffordd yn Llanrhaeadr, ymunodd disgyblion Ysgol Bro Cinmeirch â thîm y Cyngor i ychwanegu dros 500 o blanhigion i’r safle. Mae’r blodau gwyllt y mae’r plant wedi’u plannu’n cynnwys Bysedd y Cŵn, Blodyn Neidr a‘r Bengaled, sy’n blanhigion poblogaidd ar gyfer gwenyn a gloÿnnod byw.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r Cyngor: “Mae ein dolydd blodau gwyllt yn rhan bwysig o ymrwymiad y Cyngor i fioamrywiaeth a chadw ein blodau brodorol a’n poblogaeth o bryfaid ar draws y sir. Mae’n bwysig nodi bod y prosiectau hyn yn cymryd amser wrth i’r blodau sefydlu eu hunain ar y safleoedd. Fodd bynnag, fel y gwelwyd ar draws y sir gyda’r prosiect, mae’r canlyniadau wirioneddol yn cefnogi bioamrywiaeth lleol.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i ddisgyblion Ysgol Bro Cinmeirch am ein helpu i roi hwb i’r safle lleol hwn ac edrychwn ymlaen at weld y planhigion newydd yn blodeuo flwyddyn nesaf. Bydd y blodau hyn yn lledaenu ac yn denu ystod o bryfaid i’r llain ymyl ffordd.”

Mae holl safleoedd blodau gwyllt y Cyngor wedi eu rheoli yn unol â chanllawiau Rheoli Glaswelltir ar Ymyl Ffyrdd Plantlife sy’n golygu bod torri gwair yn y safleoedd hyn wedi’i wahardd rhwng mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn, gan roi digon o amser i’r blodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.

Yna caiff y safle ei dorri ar ôl mis Awst, a chaiff toriadau eu casglu i leihau ffrwythlondeb y pridd a darparu’r amodau gorau posibl i’r blodau gwyllt.

Mae’r prosiect hefyd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Partneriaethau Natur lleol Cymru ENRaW.

Er mwyn darganfod mwy am y dolydd blodau gwyllt ar draws Sir Ddinbych, ewch i’n gwefan.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid