llais y sir

Newyddion

Gwybodaeth dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, cliciwch YMA.  

Cynllun gwirfoddoli digidol yn apelio am siaradwyr Cymraeg

Mae cynllun cyfaill i helpu pobl sydd angen help â’u dyfeisiau digidol yn chwilio am siaradwyr Cymraeg.

Daeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Cymunedau Digidol Cymru a'r Cyngor ynghyd yn gynharach eleni i lansio cynllun Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych i helpu’r rhai sydd angen cymorth â’u dyfeisiau.

Yn awr, gofynnir i siaradwyr Cymraeg ddod ymlaen i fod yn ‘gyfeillion digidol’ i roi cefnogaeth dros y ffôn.

Mae’r pandemig wedi amlygu fwy nag erioed mor hanfodol bwysig yw cynhwysiant digidol, a heb dechnoleg byddai’n anodd iawn cadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau ac anwyliaid.

Mae pobl nad ydynt yn hyderus i ddefnyddio cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar, a nod y cynllun yw cyrraedd y rhai sy’n teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl a’u helpu i ddysgu sgiliau digidol. 

Dywedodd Gareth Jones o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych: “Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru ac yn arbennig yn Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig, ac mae ein cynllun cyfeillion digidol wedi cysylltu â’r egni positif hwn yn ein cymunedau i gefnogi’r naill a’r llall, ond hoffem annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ymuno.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Mae’r pandemig hwn wedi dangos yn fwy nag erioed bod ar rai angen cymorth digidol.

“Mae cefnogi’r cynllun hwn yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae’n cefnogi ein blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol i greu cymunedau cryf sydd wedi eu cysylltu’n dda er mwyn i’n preswylwyr gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau ar-lein. 

“Rydym yn annog siaradwyr Cymraeg i ddod ymlaen a gwirfoddoli fel rhan o’r cynllun hwn a helpu’r rhai sydd angen ychydig mwy o gefnogaeth i ddatblygu sgiliau digidol.”

Dywedodd Deian ad Rhisiart o Gymunedau Digidol Cymru: “Rydym wedi bod yn gweithio ym maes cynhwysiant digidol am dros ddegawd ledled Cymru ac mae hwn yn ymateb amserol i fynd i’r afael â’r bwlch mewn sgiliau digidol. Mae ar bobl angen gallu aros mewn cysylltiad, i allu defnyddio gwasanaethau digidol, cynnal eu iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo ac mae technoleg yn rhan annatod o’r datrysiad. Gan fod Dyffryn Clwyd yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, rydym yn apelio am gyfeillion digidol sy’n siarad Cymraeg i helpu yn eu bro.”

Dywedodd y gwirfoddolwr Keith Jones: “Mae perygl y bydd rhai pobl mewn cymdeithas yn cael eu gadael ar ôl. Mae hyn wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Hoffwn ddefnyddio fy sgiliau i helpu.”

Os oes gennych berthynas neu ffrind, neu os gwyddoch am rywun sydd angen help digidol ac angen gwybod sut i’w ddefnyddio, hoffai’r cynllun glywed gennych. Gellir eu paru â Chyfaill Digidol, neu os ydych yn siarad Cymraeg ac os hoffech ddod yn gyfaill digidol a helpu yn eich cymuned, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â Rhys Hughes ar 01824 702441 am fwy o wybodaeth neu e-bostiwch office@dvsc.co.uk.

Mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Mae Urdd Gobaith Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, a gynhelir rhwng 30 Mai – 4 Mehefin 2022.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil cadarnhad y bydd yr Urdd yn derbyn £527,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, er mwyn darparu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022, yng nghanol blwyddyn canmlwyddiant y mudiad.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Rwy’n falch iawn o gefnogi’r ŵyl wych hon drwy gyhoeddi y bydd mynediad i Eisteddfod yr Urdd 2022 am ddim. Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cyfle i fynychu a dathlu canfed blwyddyn y mudiad.

“Mae’n dyst i waith yr Urdd bod cymaint o oedolion ag atgofion melys o’u profiad o fynychu'r Eisteddfod a chystadlu pan oedden nhw’n iau. Mae Eisteddfod yr Urdd nid yn unig yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ond hefyd yn ffordd wych i'n plant a’n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael.”

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Jeremy Miles AS am gadarnhau y bydd hi’n bosibl i ni gynnig mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022. Hwn fydd y digwyddiad celfyddydol cenedlaethol mwyaf i blant a phobl ifanc Cymru ers cychwyn y pandemig, a bydd cynnig mynediad am ddim yn ei gwneud yn ŵyl i bawb.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn sefydliad cynhwysol sy’n agored i blant a phobol ifanc o bob cefndir. Ein gobaith yw denu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru gan gynnwys o ardaloedd difreintiedig.”

Yn ôl Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Heddiw (7 Rhagfyr 2022) mae cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2022 yn agor ac felly mae’r cyhoeddiad yma’n un amserol iawn, ac yn golygu gall unigolion, ysgolion ac Aelwydydd fynd ati i ddechrau trefnu a phenderfynu ar gystadlaethau.

“Mae plant a phobl ifanc wedi colli allan ar gymaint o brofiadau celfyddydol oherwydd Covid, felly mae hen edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ar ôl gorfod gohirio ers dwy flynedd. Mae’r gefnogaeth gan wirfoddolwyr lleol a Chyngor Sir Ddinbych wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda’r cydweithio dros y misoedd nesaf i wneud Eisteddfod y canmlwyddiant yn un i’w chofio.”

O ganlyniad i’r sefyllfa bresennol yng Nghymru a thu hwnt o ran Covid-19, mae trefnwyr yr Eisteddfod yn bwriadu cynnal cyfanswm o dros 220 o Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth di-gynulleidfa yn y gwanwyn, a bydd cystadlaethau llwyfan i’r aelodau sydd rhwng 19 a 25 oed yn mynd yn syth i’r Genedlaethol yn Ninbych.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf.

“Yn sicr, bydd yn gyfle i ymuno a dathlu blwyddyn canmlwyddiant y sefydliad ar ôl cyfnod anodd yn ystod y pandemig.

“Bydd mynediad am ddim yn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl ddod i weld ein pobl ifanc dalentog yn perfformio ar y lefel uchaf a byddwn yn annog pawb i fanteisio ar y cynnig hwn a phrofi diwylliant Cymru ar ei orau.”

Mae canllawiau pellach ar gyfer cystadlaethau unigol a thorfol a threfn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth bellach ar gael ar wefan yr Eisteddfod.

Cynnig Gofal Plant Cymru

Yma i helpu: Cynnig Gofal Plant Cymru yn helpu teuluoedd ar draws y wlad gyda chostau gofal plant

Rhieni sy’n gweithio ledled Cymru – ydych chi’n gwybod am Gynnig Gofal Plant Cymru?

Os na, mae’n hen bryd. Mae arian o’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi helpu llawer o rieni a gwarcheidwaid plant 3 a 4 oed ledled Cymru i ddychwelyd i weithio, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg.

Ar ben hynny, mae eraill wedi gallu manteisio ar gyfleoedd prentisiaeth, datblygu eu sgiliau, newid eu swydd, neu hyd yn oed ddechrau eu busnes eu hunain – a’r cyfan diolch i Gynnig Gofal Plant Cymru.

Beth yw Cynnig Gofal Plant Cymru?

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn rhoi arian gan y llywodraeth ar gyfer hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni sy’n gweithio yng Nghymru, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.

Yn ystod tymor yr ysgol, mae’r 30 awr yn cael ei rhannu’n ddwy ran: lleiafswm o 10 awr o ddarpariaeth addysg gynnar, ac uchafswm o 20 awr o ofal plant gan ddarparwr sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Yn ogystal â 39 wythnos o gyllid yn ystod y tymor, mae’r Cynnig hefyd ar gael ar gyfer hyd at naw wythnos o wyliau’r ysgol bob blwyddyn, a gall rhieni hawlio tair wythnos am bob tymor ysgol maen nhw’n manteisio ar y Cynnig. Bydd union nifer yr wythnosau gwyliau y gallwch eu cael yn dibynnu ar bethau fel pen-blwydd eich plentyn a’r dyddiad y dechreuwch fanteisio ar y Cynnig. Gallwch gysylltu â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gael gwybodaeth leol fanylach, i sicrhau eich bod yn defnyddio’r Cynnig yn y ffordd orau.

Byddwch yn synnu faint o wahanol fathau o ofal plant sy’n rhan o’r Cynnig. Gallwch gael gofal plant wedi’i ariannu trwy unrhyw feithrinfa breifat, Cylch Meithrin, lleoliad gofal sesiynol, cylch chwarae neu warchodwr plant sydd wedi cytuno i ddarparu’r Cynnig yn eich ardal ac sydd wedi’i gofrestru gydag AGC, a gallwch gael addysg gynnar mewn meithrinfa ysgol neu leoliad gofal plant sydd wedi’i gymeradwyo i ddarparu addysg gynnar gan eich Awdurdod Lleol. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gael gwybod pa leoliadau yn eich ardal sy’n darparu pob elfen o’r Cynnig.

Sut gall fy helpu i?

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael i helpu rhieni sy’n gweithio’n galed yng Nghymru; gallai ychydig o arian ychwanegol bob wythnos fynd ymhell tuag at ddarparu pethau pwysig i’ch teulu, a gallai ychydig o amser ychwanegol roi cyfle i chi ddychwelyd i weithio neu gynyddu’ch oriau. Bydd y Cynnig wedi gwella bywydau rhieni sydd eisoes wedi’i ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd.

Un ohonyn nhw yw Matt, tad o Rondda Cynon Taf. Wrth sôn am y Cynnig, dywedodd: “Roedd yr arian yn golygu y gallai fy ngwraig fynd yn ôl i weithio am bedwar diwrnod o’r wythnos yn lle tri, a oedd o gymorth mawr ac wedi ysgafnhau’r pwysau mewn llawer o ffyrdd, nid dim ond yn ariannol.

“Yna, fe argymhelles i’r Cynnig i fy nheulu a ffrindiau, ac fe fanteision nhw arno hefyd.”

Yn ogystal â’r manteision di-ri i rieni, yn ariannol ac fel arall, rhaid peidio ag anghofio am y buddion a gaiff eich un bach trwy fynd i ofal plant ac addysg gynnar. Gan fod y Cynnig yn lleihau pryderon ynglŷn â fforddiadwyedd, gall rhieni fod yn sicr bod eu plentyn yn datblygu ac yn ffynnu gyda’i gyfoedion, yn gwneud ffrindiau ac yn cael hyd i’w ffordd yn y byd. A hynny ar yr un pryd ag arbed amser ac arian.

Ychwanegodd ei wraig, Sarah: “Dywedodd ein gwarchodwr plant wrthym am y Cynnig – fe wnaeth gymaint o wahaniaeth i ni ac roeddwn i mor ddiolchgar am gael gwybod amdano. Fe arbedon ni lawer – fe ddefnyddion ni’r arian i brynu dillad, mynd ar ddiwrnodau allan a chynilo. Penderfynais gynyddu fy oriau yn y gwaith, a oedd yn rhwydd oherwydd roedden ni’n arbed costau gofal plant. Rydw i mor ddiolchgar am y cymorth a gawson ni a byddwn yn annog pobl eraill i wneud y mwyaf ohono.”

Sut galla’ i wybod a ydw i’n gymwys?

Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio sy’n byw yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y Cynnig. Edrychwch ar y prif feini prawf isod, a ddylai roi syniad i chi ynghylch p’un a ddylech chi wneud cais:

  • Mae’n rhaid bod eich plentyn yn 3 neu’n 4 oed
  • Mae’n rhaid eich bod yn gweithio ac yn ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i’r isafswm cyflog cenedlaethol am 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd – mae hyn yn berthnasol i rieni sengl a’r ddau riant mewn teuluoedd â dau riant
  • Mae’n rhaid eich bod yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn

Os ydych eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd, mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Cofiwch – mae Cynnig Gofal Plant Cymru yma i helpu. Beth fyddech chi’n ei wneud gydag ychydig o gymorth ariannol ychwanegol tuag at ofal plant? Efallai ei bod hi’n bryd darganfod.

I weld manylion llawn Cynnig Gofal Plant Cymru, cliciwch yma.

Mae’r pigiad atgyfnerthu’n bwysig – derbyniwch y cynnig os gewch chi un

Mae pobl sy’n gymwys ledled gogledd Cymru’n cael llythyrau’n cynnig pigiad atgyfnerthu ac mae’n bwysig ichi beidio ag oedi cyn derbyn eich apwyntiad pan gewch chi un.

Pam fod arnaf angen pigiad atgyfnerthu?

Fel sy’n digwydd gyda brechlynnau eraill, mae’r amddiffyniad a gewch chi gan y brechlyn rhag Covid-19 yn dechrau pylu dros amser. Drwy gael dos atgyfnerthu byddwch yn ymestyn yr amddiffyniad a gawsoch chi o’ch dau ddos cyntaf.

Ac yn bwysicaf oll mae’n helpu i leihau’r perygl y bydd angen ichi fynd i’r ysbyty gyda Covid-19 y gaeaf hwn.

Sut ydym yn gwybod ei fod yn gweithio?

Mae tystiolaeth o raglen yn Israel a ddechreuodd yn gynharach eleni’n awgrymu’n gryf bod yno gyfraddau is o salwch difrifol ymysg y rhai hynny sy’n cael pigiad atgyfnerthu o gymharu â’r rhai hynny nad ydynt yn ei gael.

Roedd llai o heintiau wedi’u cadarnhau ymysg y grŵp a gafodd bigiadau atgyfnerthu na’r rhai na’u cafodd.

Yr hyn y dylem oll ei gadw mewn cof yw bod y pandemig yn dal yma, er bod bywyd wedi mynd yn ôl i’r arfer i raddau helaeth; mae pobl yn dal i gael profion positif ac yn anffodus, mae pobl yn dal i farw ar ôl cael Covid-19.

Oes modd imi gael y pigiad rhag y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu ar yr un pryd?

Oes, mae’n ddiogel ichi gael y ddau ar yr un pryd neu’n agos at ei gilydd. Peidiwch ag oedi cyn derbyn os cewch chi gynnig y naill bigiad neu’r llall.

Meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’n destun pryder bod cyfraddau COVID-19 yn dal mor uchel, ac mae’r GIG yng Nghymru ar fin wynebu cyfnod mwyaf heriol y pandemig

“Mae’n bwysig iawn cael y pigiad atgyfnerthu wrth inni geisio sicrhau ein bod yn gwarchod cymaint o bobl â phosib yn ein cymunedau dros y gaeaf, a helpu gwasanaethau hanfodol ein GIG yn eu tro.”

Helpwch i gadw gogledd Cymru’n ddiogel a gwarchod y GIG dros y gaeaf drwy:

Dderbyn y cynnig o bigiad rhag y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu cyn gynted ag y cewch chi un.

Dal i ddilyn y canllawiau coronafeirws: https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/

Os oes arnoch angen gofal gan y GIG, dewiswch y gwasanaeth mwyaf perthnasol i’ch anghenion drwy fynd i wefan GIG 111 Cymru neu’r Bwrdd Iechyd.

Torri trosglwyddiad Covid-19

Taliad tuag at gostau tanwydd gaeaf

Y mae bellach yn bosibl gwneud cais ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf.

Mae'r Cyngor yn gweinyddu Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru, sydd yn rhoi’r cynnig i aelwydydd cymwys wneud cais am un taliad o £100 tuag at gostau tanwydd gaeaf.

Gellir gwneud cais ar gyfer y cynllun o 13 Rhagfyr ymlaen.

Y mae ar gael i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Incwm, Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith, ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.

Bydd y taliad hwn ar gael i bob aelwyd gymwys, ni waeth ba ffordd y telir am danwydd. Mae hyn yn cynnwys taliadau wedi eu gwneud ar fesurydd rhagdaliad, trwy ddebyd uniongyrchol, neu drwy dalu bil bob chwarter.

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor: “Byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau nesaf i sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei weithredu mor ddidrafferth â phosibl i breswylwyr Sir Ddinbych.

“’Rydym yn annog pawb sy’n gymwys i wneud cais ar gyfer y cynllun hwn, a byddwn yn prosesu taliadau cyn gynted â phosibl i’n preswylwyr.”

Rhaid i bob cais ddod i law erbyn 18 Chwefror 2022.

Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais ar gyfer y cynllun, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau

Grŵp Cynefin yn adeiladu cymuned arbennig yng nghanol Dinbych

Gyda chynllun tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn Dinbych wedi ei gwblhau, mae staff y prosiect gwerth £12 miliwn yn edrych ymlaen at groesawu trigolion newydd yn y flwyddyn newydd.

Awel y Dyffryn yw prosiect mwyaf uchelgeisiol Grŵp Cynefin hyd yma, ac yn cynnwys 42 o fflatiau dwy ystafell wely a 24 fflat un ystafell wely ar gyfer pobl hŷn sydd eisiau byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ond gyda gofal a chefnogaeth ar gael pe bai ei angen arnynt.

Dydd Iau (Ionawr 20, 2022) bydd cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun ar eu cyfer nhw, aelod o’u teulu neu ffrind ddod i weld y cyfleusterau. Os oes diddordeb, rhaid archebu slot amser trwy gysylltu â Grwp Cynefin ar post@grwpcynefin.org neu 0300 111 2122.

Mae Awel y Dyffryn yn ganlyniad cydweithredu rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Dinbych, gyda'r contractwr lleol, R L Davies o Fae Colwyn, yn gyfrifol am yr adeiladu ar hen safle ysgol Middle Lane yng nghanol tref Dinbych.

Mae'r adeilad wedi'i ddylunio o amgylch gerddi wedi'u tirlunio, gydag ardaloedd braf ar gyfer cymdeithasu, salon trin gwallt, ystafell olchi dillad, bwyty a fflatiau modern cyfforddus y gall trigolion eu haddurno a'u dodrefnu at eu chwaeth eu hunain.

Dywedodd Noela Jones, Pennaeth Cymdogaethau Grŵp Cynefin: "Rydyn ni'n falch iawn o'n cynlluniau tai gofal ychwanegol. Nid yw cynlluniau tai gofal ychwanegol yr un peth â chartrefi gofal. Yn lle, yr hyn rydyn ni'n ei gynnig yw fflatiau i un, i gwpl neu ddau o bobl greu cartref iddyn nhw eu hunain â'u drws ffrynt eu hunain ac annibyniaeth llwyr.

“Gall y trigolion fynd a dod fel y mynnant a rhyddid i ffrindiau a theulu ymweld yn ôl eu dymuniad. Mae yna hefyd ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol os ydyn nhw am gymryd rhan, ac mae cinio dyddiol yn y bwyty yn gyfle i ddal i fyny, cymdeithasu a mwynhau pryd maethlon.”

Gyda'r rheolwr newydd Manon Jones yn ei lle, mae disgwyl i Awel y Dyffryn sefydlu ei hun fel canolbwynt bywiog yng nghymuned Dinbych, gyda gweithgareddau rheolaidd rhwng y preswylwyr a'r gymuned, ysgolion a chlybiau lleol.

Mae Manon yn awyddus i glywed gan bobl sydd â diddordeb mewn rhentu fflat yno iddyn nhw eu hunain, aelodau o'r teulu neu ffrindiau.

“Y peth pwysicaf os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n elwa o fyw yn rhywle fel Awel y Dyffryn, yw gwneud cais,” meddai. “Gallwn drafod unrhyw anghenion gofal, helpu gyda threfnu gwasanaethau a hefyd helpu i ddod o hyd i fudd-daliadau sydd ar gael os oes angen.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld cymuned glos, fywiog yn ffynnu.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth y Cyngor Sir:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect pwysig hwn i’n trigolion gyda Grŵp Cynefin.

“Bydd Awel y Dyffryn yn darparu ystod o gyfleusterau a chefnogaeth a fydd yn helpu preswylwyr hŷn Sir Ddinbych i gynnal a gwella eu hannibyniaeth, tra hefyd yn cefnogi ein cymunedau i fod yn fwy gwydn.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu'r tenantiaid cyntaf i'w cartrefi newydd yn y flwyddyn newydd.”

Dylai'r rhai sydd â diddordeb gysylltu â Grwp Cynefin ar post@grwpcynefin.org neu 0300 111 2122. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ei gwefan.

Swyddi gyda'r Cyngor

Mae nifer fawr o swyddi newydd yn cael ei hysbysebu'n dyddiol.

Am y gwybodaeth diweddaraf, ewch i'n gwefan.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid