llais y sir

Newyddion

Gwybodaeth dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, cliciwch YMA.  

Cynllun gwirfoddoli digidol yn apelio am siaradwyr Cymraeg

Mae cynllun cyfaill i helpu pobl sydd angen help â’u dyfeisiau digidol yn chwilio am siaradwyr Cymraeg.

Daeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Cymunedau Digidol Cymru a'r Cyngor ynghyd yn gynharach eleni i lansio cynllun Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych i helpu’r rhai sydd angen cymorth â’u dyfeisiau.

Yn awr, gofynnir i siaradwyr Cymraeg ddod ymlaen i fod yn ‘gyfeillion digidol’ i roi cefnogaeth dros y ffôn.

Mae’r pandemig wedi amlygu fwy nag erioed mor hanfodol bwysig yw cynhwysiant digidol, a heb dechnoleg byddai’n anodd iawn cadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau ac anwyliaid.

Mae pobl nad ydynt yn hyderus i ddefnyddio cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar, a nod y cynllun yw cyrraedd y rhai sy’n teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl a’u helpu i ddysgu sgiliau digidol. 

Dywedodd Gareth Jones o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych: “Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru ac yn arbennig yn Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig, ac mae ein cynllun cyfeillion digidol wedi cysylltu â’r egni positif hwn yn ein cymunedau i gefnogi’r naill a’r llall, ond hoffem annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ymuno.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Mae’r pandemig hwn wedi dangos yn fwy nag erioed bod ar rai angen cymorth digidol.

“Mae cefnogi’r cynllun hwn yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae’n cefnogi ein blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol i greu cymunedau cryf sydd wedi eu cysylltu’n dda er mwyn i’n preswylwyr gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau ar-lein. 

“Rydym yn annog siaradwyr Cymraeg i ddod ymlaen a gwirfoddoli fel rhan o’r cynllun hwn a helpu’r rhai sydd angen ychydig mwy o gefnogaeth i ddatblygu sgiliau digidol.”

Dywedodd Deian ad Rhisiart o Gymunedau Digidol Cymru: “Rydym wedi bod yn gweithio ym maes cynhwysiant digidol am dros ddegawd ledled Cymru ac mae hwn yn ymateb amserol i fynd i’r afael â’r bwlch mewn sgiliau digidol. Mae ar bobl angen gallu aros mewn cysylltiad, i allu defnyddio gwasanaethau digidol, cynnal eu iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo ac mae technoleg yn rhan annatod o’r datrysiad. Gan fod Dyffryn Clwyd yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, rydym yn apelio am gyfeillion digidol sy’n siarad Cymraeg i helpu yn eu bro.”

Dywedodd y gwirfoddolwr Keith Jones: “Mae perygl y bydd rhai pobl mewn cymdeithas yn cael eu gadael ar ôl. Mae hyn wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Hoffwn ddefnyddio fy sgiliau i helpu.”

Os oes gennych berthynas neu ffrind, neu os gwyddoch am rywun sydd angen help digidol ac angen gwybod sut i’w ddefnyddio, hoffai’r cynllun glywed gennych. Gellir eu paru â Chyfaill Digidol, neu os ydych yn siarad Cymraeg ac os hoffech ddod yn gyfaill digidol a helpu yn eich cymuned, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â Rhys Hughes ar 01824 702441 am fwy o wybodaeth neu e-bostiwch office@dvsc.co.uk.

Mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Mae Urdd Gobaith Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, a gynhelir rhwng 30 Mai – 4 Mehefin 2022.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil cadarnhad y bydd yr Urdd yn derbyn £527,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, er mwyn darparu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022, yng nghanol blwyddyn canmlwyddiant y mudiad.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Rwy’n falch iawn o gefnogi’r ŵyl wych hon drwy gyhoeddi y bydd mynediad i Eisteddfod yr Urdd 2022 am ddim. Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cyfle i fynychu a dathlu canfed blwyddyn y mudiad.

“Mae’n dyst i waith yr Urdd bod cymaint o oedolion ag atgofion melys o’u profiad o fynychu'r Eisteddfod a chystadlu pan oedden nhw’n iau. Mae Eisteddfod yr Urdd nid yn unig yn un o uchafbwyntiau diwylliannol ein calendr Cymreig, ond hefyd yn ffordd wych i'n plant a’n pobl ifanc weld a chlywed ein hiaith, ei siarad eu hunain, a chymryd rhan yn y digwyddiadau cystadleuol a chymdeithasol niferus sydd ar gael.”

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Jeremy Miles AS am gadarnhau y bydd hi’n bosibl i ni gynnig mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022. Hwn fydd y digwyddiad celfyddydol cenedlaethol mwyaf i blant a phobl ifanc Cymru ers cychwyn y pandemig, a bydd cynnig mynediad am ddim yn ei gwneud yn ŵyl i bawb.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn sefydliad cynhwysol sy’n agored i blant a phobol ifanc o bob cefndir. Ein gobaith yw denu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru gan gynnwys o ardaloedd difreintiedig.”

Yn ôl Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Heddiw (7 Rhagfyr 2022) mae cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2022 yn agor ac felly mae’r cyhoeddiad yma’n un amserol iawn, ac yn golygu gall unigolion, ysgolion ac Aelwydydd fynd ati i ddechrau trefnu a phenderfynu ar gystadlaethau.

“Mae plant a phobl ifanc wedi colli allan ar gymaint o brofiadau celfyddydol oherwydd Covid, felly mae hen edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ar ôl gorfod gohirio ers dwy flynedd. Mae’r gefnogaeth gan wirfoddolwyr lleol a Chyngor Sir Ddinbych wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda’r cydweithio dros y misoedd nesaf i wneud Eisteddfod y canmlwyddiant yn un i’w chofio.”

O ganlyniad i’r sefyllfa bresennol yng Nghymru a thu hwnt o ran Covid-19, mae trefnwyr yr Eisteddfod yn bwriadu cynnal cyfanswm o dros 220 o Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth di-gynulleidfa yn y gwanwyn, a bydd cystadlaethau llwyfan i’r aelodau sydd rhwng 19 a 25 oed yn mynd yn syth i’r Genedlaethol yn Ninbych.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf.

“Yn sicr, bydd yn gyfle i ymuno a dathlu blwyddyn canmlwyddiant y sefydliad ar ôl cyfnod anodd yn ystod y pandemig.

“Bydd mynediad am ddim yn rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosibl ddod i weld ein pobl ifanc dalentog yn perfformio ar y lefel uchaf a byddwn yn annog pawb i fanteisio ar y cynnig hwn a phrofi diwylliant Cymru ar ei orau.”

Mae canllawiau pellach ar gyfer cystadlaethau unigol a thorfol a threfn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth bellach ar gael ar wefan yr Eisteddfod.

Cynnig Gofal Plant Cymru

Yma i helpu: Cynnig Gofal Plant Cymru yn helpu teuluoedd ar draws y wlad gyda chostau gofal plant

Rhieni sy’n gweithio ledled Cymru – ydych chi’n gwybod am Gynnig Gofal Plant Cymru?

Os na, mae’n hen bryd. Mae arian o’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi helpu llawer o rieni a gwarcheidwaid plant 3 a 4 oed ledled Cymru i ddychwelyd i weithio, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg.

Ar ben hynny, mae eraill wedi gallu manteisio ar gyfleoedd prentisiaeth, datblygu eu sgiliau, newid eu swydd, neu hyd yn oed ddechrau eu busnes eu hunain – a’r cyfan diolch i Gynnig Gofal Plant Cymru.

Beth yw Cynnig Gofal Plant Cymru?

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn rhoi arian gan y llywodraeth ar gyfer hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni sy’n gweithio yng Nghymru, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.

Yn ystod tymor yr ysgol, mae’r 30 awr yn cael ei rhannu’n ddwy ran: lleiafswm o 10 awr o ddarpariaeth addysg gynnar, ac uchafswm o 20 awr o ofal plant gan ddarparwr sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Yn ogystal â 39 wythnos o gyllid yn ystod y tymor, mae’r Cynnig hefyd ar gael ar gyfer hyd at naw wythnos o wyliau’r ysgol bob blwyddyn, a gall rhieni hawlio tair wythnos am bob tymor ysgol maen nhw’n manteisio ar y Cynnig. Bydd union nifer yr wythnosau gwyliau y gallwch eu cael yn dibynnu ar bethau fel pen-blwydd eich plentyn a’r dyddiad y dechreuwch fanteisio ar y Cynnig. Gallwch gysylltu â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gael gwybodaeth leol fanylach, i sicrhau eich bod yn defnyddio’r Cynnig yn y ffordd orau.

Byddwch yn synnu faint o wahanol fathau o ofal plant sy’n rhan o’r Cynnig. Gallwch gael gofal plant wedi’i ariannu trwy unrhyw feithrinfa breifat, Cylch Meithrin, lleoliad gofal sesiynol, cylch chwarae neu warchodwr plant sydd wedi cytuno i ddarparu’r Cynnig yn eich ardal ac sydd wedi’i gofrestru gydag AGC, a gallwch gael addysg gynnar mewn meithrinfa ysgol neu leoliad gofal plant sydd wedi’i gymeradwyo i ddarparu addysg gynnar gan eich Awdurdod Lleol. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i gael gwybod pa leoliadau yn eich ardal sy’n darparu pob elfen o’r Cynnig.

Sut gall fy helpu i?

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael i helpu rhieni sy’n gweithio’n galed yng Nghymru; gallai ychydig o arian ychwanegol bob wythnos fynd ymhell tuag at ddarparu pethau pwysig i’ch teulu, a gallai ychydig o amser ychwanegol roi cyfle i chi ddychwelyd i weithio neu gynyddu’ch oriau. Bydd y Cynnig wedi gwella bywydau rhieni sydd eisoes wedi’i ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd.

Un ohonyn nhw yw Matt, tad o Rondda Cynon Taf. Wrth sôn am y Cynnig, dywedodd: “Roedd yr arian yn golygu y gallai fy ngwraig fynd yn ôl i weithio am bedwar diwrnod o’r wythnos yn lle tri, a oedd o gymorth mawr ac wedi ysgafnhau’r pwysau mewn llawer o ffyrdd, nid dim ond yn ariannol.

“Yna, fe argymhelles i’r Cynnig i fy nheulu a ffrindiau, ac fe fanteision nhw arno hefyd.”

Yn ogystal â’r manteision di-ri i rieni, yn ariannol ac fel arall, rhaid peidio ag anghofio am y buddion a gaiff eich un bach trwy fynd i ofal plant ac addysg gynnar. Gan fod y Cynnig yn lleihau pryderon ynglŷn â fforddiadwyedd, gall rhieni fod yn sicr bod eu plentyn yn datblygu ac yn ffynnu gyda’i gyfoedion, yn gwneud ffrindiau ac yn cael hyd i’w ffordd yn y byd. A hynny ar yr un pryd ag arbed amser ac arian.

Ychwanegodd ei wraig, Sarah: “Dywedodd ein gwarchodwr plant wrthym am y Cynnig – fe wnaeth gymaint o wahaniaeth i ni ac roeddwn i mor ddiolchgar am gael gwybod amdano. Fe arbedon ni lawer – fe ddefnyddion ni’r arian i brynu dillad, mynd ar ddiwrnodau allan a chynilo. Penderfynais gynyddu fy oriau yn y gwaith, a oedd yn rhwydd oherwydd roedden ni’n arbed costau gofal plant. Rydw i mor ddiolchgar am y cymorth a gawson ni a byddwn yn annog pobl eraill i wneud y mwyaf ohono.”

Sut galla’ i wybod a ydw i’n gymwys?

Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio sy’n byw yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y Cynnig. Edrychwch ar y prif feini prawf isod, a ddylai roi syniad i chi ynghylch p’un a ddylech chi wneud cais:

  • Mae’n rhaid bod eich plentyn yn 3 neu’n 4 oed
  • Mae’n rhaid eich bod yn gweithio ac yn ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i’r isafswm cyflog cenedlaethol am 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd – mae hyn yn berthnasol i rieni sengl a’r ddau riant mewn teuluoedd â dau riant
  • Mae’n rhaid eich bod yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn

Os ydych eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd, mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Cofiwch – mae Cynnig Gofal Plant Cymru yma i helpu. Beth fyddech chi’n ei wneud gydag ychydig o gymorth ariannol ychwanegol tuag at ofal plant? Efallai ei bod hi’n bryd darganfod.

I weld manylion llawn Cynnig Gofal Plant Cymru, cliciwch yma.

Mae’r pigiad atgyfnerthu’n bwysig – derbyniwch y cynnig os gewch chi un

Mae pobl sy’n gymwys ledled gogledd Cymru’n cael llythyrau’n cynnig pigiad atgyfnerthu ac mae’n bwysig ichi beidio ag oedi cyn derbyn eich apwyntiad pan gewch chi un.

Pam fod arnaf angen pigiad atgyfnerthu?

Fel sy’n digwydd gyda brechlynnau eraill, mae’r amddiffyniad a gewch chi gan y brechlyn rhag Covid-19 yn dechrau pylu dros amser. Drwy gael dos atgyfnerthu byddwch yn ymestyn yr amddiffyniad a gawsoch chi o’ch dau ddos cyntaf.

Ac yn bwysicaf oll mae’n helpu i leihau’r perygl y bydd angen ichi fynd i’r ysbyty gyda Covid-19 y gaeaf hwn.

Sut ydym yn gwybod ei fod yn gweithio?

Mae tystiolaeth o raglen yn Israel a ddechreuodd yn gynharach eleni’n awgrymu’n gryf bod yno gyfraddau is o salwch difrifol ymysg y rhai hynny sy’n cael pigiad atgyfnerthu o gymharu â’r rhai hynny nad ydynt yn ei gael.

Roedd llai o heintiau wedi’u cadarnhau ymysg y grŵp a gafodd bigiadau atgyfnerthu na’r rhai na’u cafodd.

Yr hyn y dylem oll ei gadw mewn cof yw bod y pandemig yn dal yma, er bod bywyd wedi mynd yn ôl i’r arfer i raddau helaeth; mae pobl yn dal i gael profion positif ac yn anffodus, mae pobl yn dal i farw ar ôl cael Covid-19.

Oes modd imi gael y pigiad rhag y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu ar yr un pryd?

Oes, mae’n ddiogel ichi gael y ddau ar yr un pryd neu’n agos at ei gilydd. Peidiwch ag oedi cyn derbyn os cewch chi gynnig y naill bigiad neu’r llall.

Meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’n destun pryder bod cyfraddau COVID-19 yn dal mor uchel, ac mae’r GIG yng Nghymru ar fin wynebu cyfnod mwyaf heriol y pandemig

“Mae’n bwysig iawn cael y pigiad atgyfnerthu wrth inni geisio sicrhau ein bod yn gwarchod cymaint o bobl â phosib yn ein cymunedau dros y gaeaf, a helpu gwasanaethau hanfodol ein GIG yn eu tro.”

Helpwch i gadw gogledd Cymru’n ddiogel a gwarchod y GIG dros y gaeaf drwy:

Dderbyn y cynnig o bigiad rhag y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu cyn gynted ag y cewch chi un.

Dal i ddilyn y canllawiau coronafeirws: https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/

Os oes arnoch angen gofal gan y GIG, dewiswch y gwasanaeth mwyaf perthnasol i’ch anghenion drwy fynd i wefan GIG 111 Cymru neu’r Bwrdd Iechyd.

Torri trosglwyddiad Covid-19

Taliad tuag at gostau tanwydd gaeaf

Y mae bellach yn bosibl gwneud cais ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf.

Mae'r Cyngor yn gweinyddu Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru, sydd yn rhoi’r cynnig i aelwydydd cymwys wneud cais am un taliad o £100 tuag at gostau tanwydd gaeaf.

Gellir gwneud cais ar gyfer y cynllun o 13 Rhagfyr ymlaen.

Y mae ar gael i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Incwm, Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith, ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.

Bydd y taliad hwn ar gael i bob aelwyd gymwys, ni waeth ba ffordd y telir am danwydd. Mae hyn yn cynnwys taliadau wedi eu gwneud ar fesurydd rhagdaliad, trwy ddebyd uniongyrchol, neu drwy dalu bil bob chwarter.

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor: “Byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau nesaf i sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei weithredu mor ddidrafferth â phosibl i breswylwyr Sir Ddinbych.

“’Rydym yn annog pawb sy’n gymwys i wneud cais ar gyfer y cynllun hwn, a byddwn yn prosesu taliadau cyn gynted â phosibl i’n preswylwyr.”

Rhaid i bob cais ddod i law erbyn 18 Chwefror 2022.

Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais ar gyfer y cynllun, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau

Grŵp Cynefin yn adeiladu cymuned arbennig yng nghanol Dinbych

Gyda chynllun tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn Dinbych wedi ei gwblhau, mae staff y prosiect gwerth £12 miliwn yn edrych ymlaen at groesawu trigolion newydd yn y flwyddyn newydd.

Awel y Dyffryn yw prosiect mwyaf uchelgeisiol Grŵp Cynefin hyd yma, ac yn cynnwys 42 o fflatiau dwy ystafell wely a 24 fflat un ystafell wely ar gyfer pobl hŷn sydd eisiau byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ond gyda gofal a chefnogaeth ar gael pe bai ei angen arnynt.

Dydd Iau (Ionawr 20, 2022) bydd cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun ar eu cyfer nhw, aelod o’u teulu neu ffrind ddod i weld y cyfleusterau. Os oes diddordeb, rhaid archebu slot amser trwy gysylltu â Grwp Cynefin ar post@grwpcynefin.org neu 0300 111 2122.

Mae Awel y Dyffryn yn ganlyniad cydweithredu rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Dinbych, gyda'r contractwr lleol, R L Davies o Fae Colwyn, yn gyfrifol am yr adeiladu ar hen safle ysgol Middle Lane yng nghanol tref Dinbych.

Mae'r adeilad wedi'i ddylunio o amgylch gerddi wedi'u tirlunio, gydag ardaloedd braf ar gyfer cymdeithasu, salon trin gwallt, ystafell olchi dillad, bwyty a fflatiau modern cyfforddus y gall trigolion eu haddurno a'u dodrefnu at eu chwaeth eu hunain.

Dywedodd Noela Jones, Pennaeth Cymdogaethau Grŵp Cynefin: "Rydyn ni'n falch iawn o'n cynlluniau tai gofal ychwanegol. Nid yw cynlluniau tai gofal ychwanegol yr un peth â chartrefi gofal. Yn lle, yr hyn rydyn ni'n ei gynnig yw fflatiau i un, i gwpl neu ddau o bobl greu cartref iddyn nhw eu hunain â'u drws ffrynt eu hunain ac annibyniaeth llwyr.

“Gall y trigolion fynd a dod fel y mynnant a rhyddid i ffrindiau a theulu ymweld yn ôl eu dymuniad. Mae yna hefyd ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol os ydyn nhw am gymryd rhan, ac mae cinio dyddiol yn y bwyty yn gyfle i ddal i fyny, cymdeithasu a mwynhau pryd maethlon.”

Gyda'r rheolwr newydd Manon Jones yn ei lle, mae disgwyl i Awel y Dyffryn sefydlu ei hun fel canolbwynt bywiog yng nghymuned Dinbych, gyda gweithgareddau rheolaidd rhwng y preswylwyr a'r gymuned, ysgolion a chlybiau lleol.

Mae Manon yn awyddus i glywed gan bobl sydd â diddordeb mewn rhentu fflat yno iddyn nhw eu hunain, aelodau o'r teulu neu ffrindiau.

“Y peth pwysicaf os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n elwa o fyw yn rhywle fel Awel y Dyffryn, yw gwneud cais,” meddai. “Gallwn drafod unrhyw anghenion gofal, helpu gyda threfnu gwasanaethau a hefyd helpu i ddod o hyd i fudd-daliadau sydd ar gael os oes angen.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld cymuned glos, fywiog yn ffynnu.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth y Cyngor Sir:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect pwysig hwn i’n trigolion gyda Grŵp Cynefin.

“Bydd Awel y Dyffryn yn darparu ystod o gyfleusterau a chefnogaeth a fydd yn helpu preswylwyr hŷn Sir Ddinbych i gynnal a gwella eu hannibyniaeth, tra hefyd yn cefnogi ein cymunedau i fod yn fwy gwydn.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu'r tenantiaid cyntaf i'w cartrefi newydd yn y flwyddyn newydd.”

Dylai'r rhai sydd â diddordeb gysylltu â Grwp Cynefin ar post@grwpcynefin.org neu 0300 111 2122. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ei gwefan.

Swyddi gyda'r Cyngor

Mae nifer fawr o swyddi newydd yn cael ei hysbysebu'n dyddiol.

Am y gwybodaeth diweddaraf, ewch i'n gwefan.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Ffair Swyddi

Cynhaliodd Sir Ddinbych yn Gweithio Ffair Swyddi ym mis Tachwedd a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref y Rhyl.

Dyma'r digwyddiad cyntaf i Sir Ddinbych yn Gweithio ei gynnal ers cyn pandemig Covid. Roedd mesurau diogelwch Covid llym ar waith ym maes y lleoliad.

Fe wnaeth llawer o bobl ddod i’r Ffair gyda nhw i gyd wedi ei gael yn fuddiol gweld pa swyddi gwag oedd ar gael, ac i allu trafod gyda'r gweithwyr proffesiynol a oedd yn bresennol, i gael teimlad o'r hyn a ddisgwylid ganddynt pe baent yn dod o hyd i waith.

Roedd ystod eang o gyflogwyr yn bresennol, gyda'u harddangosfeydd naid, taflenni gwybodaeth a nwyddau am ddim. Roedd ffocws penodol ar y sectorau gofal, lletygarwch a manwerthu, er bod cynrychiolaeth o sectorau eraill hefyd. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau, 2 Sisters Food Group, McDonald's, Highbury Support Services, Premier Inn, y Cyngor a llawer o rai eraill. Roedd yr adborth gan gyflogwyr yn gadarnhaol iawn ac roedd llawer o ddiddordeb mewn mynychu digwyddiadau yn y dyfodol.

Drwy sgwrs gyffredinol, dywedodd llawer o weithwyr proffesiynol eraill mai hwn hefyd oedd eu digwyddiad cyhoeddus cyntaf ers cyn Covid, felly roedd pobl yn falch o fynd yn ôl i'r ffordd roedd pethau'n arfer bod.

O ganlyniad i'r digwyddiad, enillodd Sir Ddinbych 5 atgyfeiriad newydd am gymorth i helpu i oresgyn eu rhwystrau o ran sicrhau dyfodol gwell.

Hoffai tîm Sir Ddinbych sy'n Gweithio ddiolch i'r rhai a oedd naill ai yn y digwyddiad neu a helpodd i'w hyrwyddo.

Mi fyddwn yn cynnal Ffair Swyddi arall yn gynnar yn 2022 felly cadwch lygad am y dyddiad! Byddai'n wych eich gweld yno!

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Gwelliannau i gyfleusterau cyfrifiadurol cyhoeddus yn llyfrgelloedd Sir Ddinbych

Mae rhaglen wedi dechrau i uwchraddio a gwella mynediad cyhoeddus at gyfleusterau technoleg ym mhob llyfrgell yn Sir Ddinbych.

Dechreuodd y gwaith ddydd Sadwrn, 20 Tachwedd a disgwylir iddo gymryd 6-8 wythnos i’w gwblhau.

Fel rhan o’r prosiect bydd cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus newydd yn cael eu gosod, system rheoli cyfrifiaduron newydd, hunanwasanaeth argraffu, system archebu ar-lein ac argraffu trwy Wi-Fi.

Bob wythnos bydd un neu ddwy lyfrgell yn cael eu huwchraddio ac yn ystod yr wythnos honno, ni fydd modd i gwsmeriaid ddefnyddio cyfrifiaduron na pheiriannau argraffu yn y llyfrgell benodol honno.

Caiff cwsmeriaid eu hysbysu gan staff a hysbysiadau ym mhob llyfrgell a thrwy gyfryngau cymdeithasol a gofynnir iddynt ystyried ymweld â llyfrgell arall i ddefnyddio cyfrifiaduron.

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau y Cyngor: “Bydd y gwaith uwchraddio hwn yn fuddiol iawn i gwsmeriaid llyfrgelloedd ac yn darparu gwell gwasanaeth i’r rheiny sy’n defnyddio cyfleusterau technoleg cyhoeddus.

“Mae ein llyfrgelloedd yn darparu ystod eang o wasanaethau i’n trigolion gan gynnwys mynediad am ddim at lyfrau, llyfrau a phapurau newydd y gellir eu lawrlwytho am ddim, rhyngrwyd trwy gyfrifiaduron a mynediad Wi-Fi am ddim, a lle a rennir ar gyfer gweithgareddau cymunedol.

“Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir i gwsmeriaid yn ystod y gwelliannau hyn a diolch iddyn nhw am eu hamynedd yn ystod yr amser hwn.”

Dechreuodd y rhaglen yn Llyfrgell y Rhyl a bydd yn cael ei chyflwyno ledled y sir dros yr wythnosau nesaf.

Cynghorir cwsmeriaid i wirio gyda’u llyfrgell leol cyn gwneud siwrnai arbennig i ddefnyddio eu cyfrifiaduron neu beiriannau argraffu.

Bydd Wi-Fi ar gael am ddim i’r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn.

Gwobr chwenychedig i raglen hyfforddiant digidol llyfrgelloedd

Mae tîm sydd y tu ôl i raglen hyfforddiant digidol a arweinir gan Brif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn gwobr chwenychedig.

Mae’r rhaglen hyfforddiant a datblygu, Estyn Allan, wedi cael cydnabyddiaeth gan CILIP Cymru Wales am ei gwaith arloesi a meithrin hyder yn 2021 ac mae wedi ennill Gwobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn Cymru gan CILIP Cymru Wales.

Ariannwyd Estyn Allan gan grant gwerth £169,950 o Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru a sicrhawyd gan Gymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru.  Daeth Estyn Allan i fodolaeth ym mis Ionawr 2021 ac mae wedi datblygu 33 o hyfforddeion o bob un o’r 22 o wasanaethau llyfrgell cyhoeddus yng Nghymru.

Oherwydd effaith pandemig Covid-19, teimlai Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru bod creu rhaglen hyfforddiant a datblygu yn hanfodol er mwyn datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder staff llyfrgelloedd i ddarparu gwasanaethau digidol dwyieithog a hybu cynigion a gwasanaethau'r llyfrgell er mwyn galluogi llyfrgelloedd i gyflawni eu potensial o ran ymgysylltu â darllenwyr a defnyddwyr llyfrgelloedd ar-lein.

Enwebwyd Estyn Allan gan Helen Pridham o Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ac mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych ac yn cael ei drefnu, ei gynllunio a’i ddarparu gan Kerry Pillai o Lyfrgelloedd Abertawe. Rhwng mis Ionawr a Mawrth 2021, datblygodd yr hyfforddeion sgiliau digidol newydd a buont yn cydweithio i greu cynnwys ar gyfer y cyhoedd, gan drawsnewid y gweithgareddau digidol a gynigir gan lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Roedd dau aelod o staff Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ymysg yr hyfforddeion sef Mathew Baker a Lois Jones.

Dywedodd Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych, Bethan Hughes: “Rydw i’n falch iawn o’r tîm am eu cefnogaeth lawn i Estyn Allan ac rydw i mor falch bod eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod trwy’r wobr hon. Mae Estyn Allan wedi gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i alluoedd digidol llyfrgelloedd ar-lein yn Sir Ddinbych a ledled Cymru. Roedd yn wych gweld staff o wahanol wasanaethau yn cydweithio a chefnogi ei gilydd. Dysgodd y tîm Estyn Allan sut i gyfweld, ffilmio, recordio, golygu, cyhoeddi, dylunio a rhoi cyhoeddusrwydd. Cawsant ymddangos o flaen y camera yn cyfweld ag awduron, cynnal grwpiau darllen a digwyddiadau byw, canu rhigymau ac adrodd storïau. 

“Roeddwn i mor falch o ddarllen sylwadau’r beirniaid a ddywedodd mai cryfder yr enwebiad oedd ei fod yn dathlu dewrder ac ymrwymiad y staff a gymerodd ran yn y rhaglen a’r rheiny a arweiniodd y tîm yn y grŵp llywio. Mae’r rhaglen wedi arwain at fwy o gydweithio ar draws llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, lansio gwasanaethau a nwyddau dwyieithog digidol newydd yn ogystal â rhai Cymraeg penodol, uwchsgilio'r staff, ac wedi adeiladu momentwm ar gyfer prosiectau yn y dyfodol."

Dywedodd y Cyng. Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Rydym yn falch iawn bod gwaith Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych o arwain y tîm y tu ôl i’r rhaglen Estyn Allan wedi cael ei gydnabod. Mae’r rhaglen hon wedi rhoi hwb cadarnhaol i’r gwasanaethau digidol ar-lein yr ydym yn eu darparu mewn llyfrgelloedd ledled y sir a diolchwn i Bethan am ei holl waith i wireddu hyn yn ystod misoedd anodd y pandemig."

Cyflwynwyd Gwobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn Cymru gan Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn Niwrnod Agored a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CILIP Cymru Wales i ddathlu cyflawniadau proffesiynol rhagorol gan dimau sy’n gweithio yn y gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth yng Nghymru.

Fel cyflwynydd Gwobr Tîm Llyfrgell y Flwyddyn Cymru, dywedodd y Gweinidog: “Mae rhaglen hyfforddiant Estyn Allan yn enghraifft ardderchog o'r ffordd mae llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru yn gallu cydweithio i wella gwasanaethau. Datblygodd sgiliau, gwybodaeth a hyder staff i ddarparu gweithgareddau digidol dwyieithog a hyrwyddo cynigion a gwasanaethau llyfrgelloedd. Roedd nifer fawr o enwebiadau ardderchog a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb yn ein llyfrgelloedd sy'n gweithio mor galed i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mor hanfodol."

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Mwynhewch Eco-Nadolig Llawen

Mae hi’n adeg honno o’r flwyddyn eto! Mae Nadolig yn amser ar gyfer teulu, ffrindiau a gweithgareddau hwyliog, ac i lawer mae’n ddirfawr ei angen ar ôl ansicrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn ymdopi â phandemig Covid-19.

Yn dilyn Cynhadledd COP26 eleni, mae pawb ohonom yn fwy ymwybodol nag erioed o pa mor bwysig yw bod yn gynaliadwy ag y gallwn, a gwneud y Nadolig hwn yn ecogyfeillgar.

Felly sut allwn ni fwynhau tymor y Nadolig a pheidio cael effaith negyddol ar y blaned?

Mae’r tîm Newid Hinsawdd wedi llunio’r awgrymiadau cyfleus yma i helpu gydag agweddau amrywiol – o’r diwrnod mawr ei hun i brynu anrhegion.

Mae popeth bychan rydym ni’n ei wneud yn helpu, ac fe allai’r newidiadau syml yma dros gyfnod y Nadolig wneud gwahaniaeth mawr i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd a sicrhau ein bod yn amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau i ddod

Gan y tîm Newid Hinsawdd, rydym ni’n dymuno Eco-Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Y Goeden Nadolig

  1. Os nad oes gennych chi goeden artiffisial yn barod, ceisiwch osgoi plastig. Mae coed Nadolig go iawn yn llawer mwy cynaliadwy na rhai artiffisial. Daeth un astudiaeth i’r casgliad y byddai angen i chi ddefnyddio coeden ffug am 20 mlynedd iddi fod yn fwy “gwyrdd”.
  2. Wedi dweud hynny, cofiwch ailgylchu eich coeden go iawn ar ôl cyfnod y Nadolig. Mae tua saith miliwn o goed go iawn yn debygol o gael eu taflu ym mis Ionawr! Os oes gennych chi gasgliad gwastraff gwyrdd fe fydd y Cyngor yn casglu eich coeden ac yn ei hailgylchu i chi, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi. Fe allwch chi drefnu i fynd â’ch coeden i’r gwastraff gwyrdd yn eich depo gwastraff, neu fel arall, gallwch ei thorri i fyny a phentyrru’r coed yn eich gardd er mwyn i’r adar a’r trychfilod eu mwynhau.

Cardiau Nadolig

  1. Mae swm anhygoel o 1.5biliwn o gardiau Nadolig yn cael eu taflu gan aelwydydd y DU bob blwyddyn (yn ôl ymchwilwyr o Imperial College). Pam na wnewch chi anfon e-gerdyn at deulu a ffrindiau eleni, neu fel arall gallech anfon cardiau Nadolig y gellir eu plannu y gall eich anwyliaid sy’n eu derbyn eu hau yn y gwanwyn a mwynhau llysiau neu flodau gwyllt yn eu gardd y flwyddyn nesaf.

Prynu anrhegion

  1. Mae prynu anrhegion rydych chi’n gwybod y bydd pobl yn eu mwynhau a’u defnyddio am gyfnod hir ymddangos yn amlwg, ond trwy beidio â phrynu’r anrhegion gwirion nad ydynt yn para ar ôl wythnos y Nadolig, rydyhc yn arbed gwastraff.
  2. Cadwch lygad am siopau a cwmnïau sy’n gwerthu anrhegion ecogyfeillgar. Efallai y gallech chi brynu potel y gellir ei hailddefnyddio, mabwysiadu anifail, prynu aelodaeth ar gyfer yr RSPB neu’r Ymddiriedolaeth Bwyd Gwyllt neu ddod o hyd i anrhegion mwy gwyrdd megis dillad, esgidiau, pethau ymolchi moesegol a llawer o bethau eraill.
  3. Siopa'n Lleol! Cefnogwch y siopau annibynnol yn eich ardal leol a lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.
  4. Cael Nadolig crefftus. Mae anrhegion cartref bob amser yn cael eu croesawu a’u trysori. Mae troch Nadolig naturiol, danteithion i’w bwyta neu galendr Adfent cartref i’w mwynhau dros y Nadolig i ddod yn syniadau carbon isel.
  5. Ceisiwch lapio’r anrhegion gyda phapur wedi’i ailgylchu neu mewn ffabrig lliwgar y gellir ei ailddefnyddio – fe allai hyn fod yn anrheg yn ei hun, yn ogystal ag edrych yn hardd!

Y Cinio Nadolig

  1. Ceisiwch brynu yr hyn rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n eu fwyta’n unig a dewiswch eitemau sydd heb lawer o ddeunydd pacio. Os y bydd gennych chi fwyd dros ben, fe ellir eu defnyddio i greu prydau bwyd ar gyfer rhywbryd eto er mwyn arbed arian a lleihau gwastraff. Tarwch olwg ar ryseitiau bwyd dros ben BBC Good Food i gael syniadau gwych..
  2. Yn ôl Cymdeithas Y Pridd, “bwyd yw’r dull dyddiol mwyaf pwysig y gall pobl leihau eu heffaith amgylcheddol”. Tarwch olwg ar y danteithion Nadoligaidd yma ar wefan Vegan Society.
  3. Os ydych chi’n prynu cig, ceisiwch ddewis fwyd organig a chrwydro’n rhydd, a ffermydd lleol bychan lle bo hynny’n bosibl – mae’n well i’r amgylchedd na chig wedi’i ffermio’n ddwys.

Cynlluniau ar gyfer datblygu Peilot Cyngor Sir Ddinbych ar Wefru Cerbydau Trydanol i’r Cyhoedd

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid grant gwerth £57,400 gan Swyddfa Llywodraeth Y DU i Gerbydau Di-Allyriadau gyda chefnogaeth Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, i gefnogi’r gwaith o gyflenwi’r Cynllun Peilot Gwefru Cerbydau Trydanol i’r Cyhoedd.

Bydd y cynllun peilot yn darparu pwyntiau gwefru cyflym mewn wyth maes parcio ceir cyhoeddus ar draws Sir Ddinbych i’w defnyddio gan y cyhoedd. 

Mae’r lleoliadau’n cynnwys:

Maes Parcio Ward y Ffatri

Dinbych

2 x 22 cilowat (KW) newid pwyntiau gwefru bob yn ail (AC)  (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Grîn Bowlio

Llanelwy

1 x 22kW AC (gallu gwefru 2 cerbyd)

Maes Parcio Heol y Farchnad

Llangollen

2 x 22 kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Pafiliwn

Llangollen

2 x 22 kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Cae Ddôl

Rhuthun

2 x 7Kw AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Ganolfan Grefft

Rhuthun

2 x 22 kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Fern Ave

Prestatyn

2 x 7Kw AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Ffordd Morley

Y Rhyl,

2 x 22kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Mae lleoliadau wedi’u dewis yn defnyddio ystod o feini prawf yn cynnwys lleoliad a hygyrchedd a chynnwys cymysgedd o lwybrau allweddol a meysydd parcio yn agos i eiddo preswyl heb fynediad i barcio oddi ar y ffordd.

Y nod yw cynnig posibiliadau i bobl newid i gerbydau trydan lle nad oedd mynediad i gyfleuster gwefru yn y gorffennol.

Mae’r prosiect yn rhan o gamau gweithredu’r Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadu’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn 2021.

Mae mentrau cerbydau trydan eraill yn rhan o’r gwaith er mwyn cyrraedd nod y cyngor o fod yn gyngor di-garbon net erbyn 2030. 

Mae prosiectau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn cynnwys ehangu ar isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor a chynyddu’r nifer o gerbydau trydan sydd yn ei Fflyd i gyflenwi gwasanaethau’r Cyngor.

Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i weithio ar brosiect sy’n cael ei beilota i annog cwmnïau tacsi i newid i ddefnyddio cerbydau trydan.

Cynhelir y broses caffael ar gyfer y pwyntiau gwefru yn yr hydref gyda’r bwriad o’i gosod nhw a chael nhw’n gweithredu erbyn Gwanwyn 2022. 

Meddai’r Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant ac Amgylchedd y Cyngor: “Mae’n wych i’r Cyngor gael bod yn rhan o brosiect mor bwysig sy’n chwarae rôl hanfodol o fewn ein nod i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol.

 “Mae cerbydau trydan yn rhan fawr o’n dyfodol felly dyma gam pwysig i’r sir.

 “Mi fyddan nhw’n creu amgylchiadau iachach ac yn gyfleus i’r cymunedau hynny ac i’r ymwelwyr sy’n dewis defnyddio cerbydau trydan.

“Mae’r pwyntiau gwefru yn rhoi mantais wirioneddol i Sir Ddinbych gyfan ond rydym yn gobeithio fod rhai o’r lleoliadau hyn o fudd yn benodol i aelwydydd cyfagos heb gyfleusterau gwefru oddi ar y ffordd. Mi fyddan nhw’n darparu data defnyddiol i ddadansoddi ehangiad posib yn y dyfodol ar gyfer Gwefru CT.

Mae’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan i’w cael ar ddau safle Hamdden Sir Ddinbych yn cynnwys Pafiliwn Llangollen a Chanolfan Grefft Rhuthun.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Fel cwmni rydym wedi ymrwymo i wella’r amgylchedd i’n preswylwyr sy’n cyfrannu at well Iechyd a Lles. Rydym yn falch iawn o gael cefnogi’r Cyngor a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol a gafodd ei ddatgan yn 2019, a thu hwnt i’r prosiect hwn byddwn yn parhau i weithio gyda’r Cyngor ar nifer o brosiectau tuag at yr agenda newid hinsawdd.”

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â strategaeth ar newid hinsawdd a newid ecolegol ewch i'n gwefan.

Disgyblion ysgol yn helpu i roi hwb i safle blodau gwyllt lleol

Mae disgyblion ysgol wedi helpu i roi hwb i safle Blodau Gwyllt lleol a’u helpu i flodeuo’n iach am y tymor nesaf.

Yn dilyn datganiad y Cyngor o argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella bioamrywiaeth ar draws y sir, mae bron 60 o safleoedd, gan gynnwys ymylon priffyrdd, ymylon llwybrau troed, llwybrau beiciau a glaswelltiroedd amwynder, yn cael eu rheoli i greu dolydd blodau gwyllt.

Mae’r safleoedd hyn, ynghyd â’r 11 o warchodfeydd natur ar ochr y ffordd, yn gyfystyr â 30 o gaeau pêl-droed a reolir fel dolydd blodau gwyllt brodorol.

Yn ogystal â diogelu blodau gwyllt, mae’r dolydd hefyd yn cefnogi lles pryfaid sy’n frodorol i ardal y sir.

Er mwyn rhoi hwb i’r ardaloedd hyn dros y gaeaf a darparu bwyd uniongyrchol i fywyd gwyllt yn y flwyddyn nesaf, mae’r tîm wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Sgiliau Coedwig Bodfari i dyfu blodau gwyllt gan ddefnyddio hadau a gasglwyd yn lleol.

I helpu i blannu’r blodau gwyllt hyn mewn llain ymyl ffordd yn Llanrhaeadr, ymunodd disgyblion Ysgol Bro Cinmeirch â thîm y Cyngor i ychwanegu dros 500 o blanhigion i’r safle. Mae’r blodau gwyllt y mae’r plant wedi’u plannu’n cynnwys Bysedd y Cŵn, Blodyn Neidr a‘r Bengaled, sy’n blanhigion poblogaidd ar gyfer gwenyn a gloÿnnod byw.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r Cyngor: “Mae ein dolydd blodau gwyllt yn rhan bwysig o ymrwymiad y Cyngor i fioamrywiaeth a chadw ein blodau brodorol a’n poblogaeth o bryfaid ar draws y sir. Mae’n bwysig nodi bod y prosiectau hyn yn cymryd amser wrth i’r blodau sefydlu eu hunain ar y safleoedd. Fodd bynnag, fel y gwelwyd ar draws y sir gyda’r prosiect, mae’r canlyniadau wirioneddol yn cefnogi bioamrywiaeth lleol.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i ddisgyblion Ysgol Bro Cinmeirch am ein helpu i roi hwb i’r safle lleol hwn ac edrychwn ymlaen at weld y planhigion newydd yn blodeuo flwyddyn nesaf. Bydd y blodau hyn yn lledaenu ac yn denu ystod o bryfaid i’r llain ymyl ffordd.”

Mae holl safleoedd blodau gwyllt y Cyngor wedi eu rheoli yn unol â chanllawiau Rheoli Glaswelltir ar Ymyl Ffyrdd Plantlife sy’n golygu bod torri gwair yn y safleoedd hyn wedi’i wahardd rhwng mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn, gan roi digon o amser i’r blodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.

Yna caiff y safle ei dorri ar ôl mis Awst, a chaiff toriadau eu casglu i leihau ffrwythlondeb y pridd a darparu’r amodau gorau posibl i’r blodau gwyllt.

Mae’r prosiect hefyd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Partneriaethau Natur lleol Cymru ENRaW.

Er mwyn darganfod mwy am y dolydd blodau gwyllt ar draws Sir Ddinbych, ewch i’n gwefan.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Gwobr Gwirfoddolwyr i Grŵp Celf Sir Ddinbych

Mae grŵp celf wedi cael gwobr arbennig am eu gwaith i wella’r amgylchedd.

Mae Gwobrau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cydnabod grŵp celf Llanferres, Peintwyr y Parc Gwledig gyda’u Gwobr Gwirfoddolwyr.

Cyflwynwyd y wobr i’r grŵp gan Gadeirydd Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, y Cynghorydd Tony Thomas ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Mae’r grŵp wedi cynorthwyo’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol dros nifer o flynyddoedd wrth arddangos eu gwaith ym Mharc Gwledig Loggerheads ers 2005, gyda chanran o werthiant paentiadau yn cael ei roi i elusennau gan gynnwys Ymchwil Canser, Ymchwil Diabetes, Eglwys Llanferres, Help for Heroes, African Water Aid, Cŵn Cymorth a Hosbis Tŷ Gobaith.

Bu i’r grŵp baentio’r piler triongli ar gopa Moel Famau, gan fynd yn groes i’r lliw gwyn plaen traddodiadol y rhan fwyaf o bileri triongli, gan ei drawsnewid yn ddarn o gelf, yn dangos y byd naturiol, gyda bob aelod o’r grŵp yn cynhyrchu silwét o anifail, aderyn neu bryf.

Dros y blynyddoedd mae’r grŵp hefyd wedi cynnal gweithgareddau codi arian yn ystafell gyfarfod Parc Gwledig Loggerheads, a nifer o stondinau yn gwerthu gwaith celf a chrefft, planhigion, llyfrau ac eitemau eraill gan godi mwy na £4,000 i elusennau.

Dywedodd Pat Armstrong, aelod o Beintwyr y Parc Gwledig: “Roedd y grŵp yn falch iawn o gael y wobr hon. Rydym yn ei ystyried yn fraint bod yn rhan o le mor ysbrydoledig sydd ar ein carreg drws.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau y Cyngor a chadeirydd Cyd-bwyllgor Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: “Hoffwn longyfarch Peintwyr y Parc Gwledig ar y wobr hon a diolch iddynt am eu holl waith dros y blynyddoedd yn cefnogi’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ogystal â nifer o elusennau.

“Mae Moel Famau a AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn adnodd gwych i breswylwyr ac ymwelwyr gan ddarparu mannau awyr agored gwych ac mae gwaith celf Peintwyr y Parc Gwledig yn helpu i gyfoethogi’r profiad.

“Hoffwn annog cerddwyr ym Moel Famau i edrych ar y piler triongli wrth ymweld â’r copa.”

Cyflwynwyd y wobr i’r grŵp gan Gadeirydd Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, y Cynghorydd Tony Thomas ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Cerbydau Trydan

Ym mis Hydref 2021, cafodd tîm AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyfle i roi cynnig ar gerbyd trydan sy’n addas ar gyfer pob math o dir, er mwyn canfod a fyddai'r cerbyd yn addas ar gyfer rhai o'r tasgau y mae tîm y ceidwaid angen eu gwneud o amgylch yr AHNE. Ar hyn o bryd, ar gyfer unrhyw dasg sy'n golygu mynd i rannau anghysbell o'r AHNE, symud cyfarpar neu gasglu sbwriel, mae angen tryc 4x4 diesel i helpu’r ceidwaid i wneud y gwaith. Ond gyda’n dyhead ni i leihau allyriadau carbon a bod yn ddi-garbon net, rydym yn awyddus i archwilio dewisiadau amgen ymarferol.

Mae cerbydau pob pwrpas (UTVs), a elwir hefyd yn gerbydau ‘ochr yn ochr’, yn gerbydau bychain sy’n addas ar gyfer pob math o dir ac sy’n gallu cario dau berson a llwyth bychan o offer, cyfarpar neu adnoddau. Fel arfer, mae gan y cerbydau hyn injan diesel neu betrol, ond yn yr un modd â cherbydau ffordd, mae’r duedd tuag at gerbydau trydan ac allyriadau isel iawn yn cynyddu’n gyflym.

Ymysg manteision UTV trydan dros gerbyd petrol neu ddiesel, mae’n gwneud llai o sŵn, yn achosi llai o lygredd aer wrth ei ddefnyddio, yn amharu llai ar fywyd gwyllt a defnyddwyr yr awyr agored, ac mae posib pweru’r cerbyd gyda 100% o ynni adnewyddadwy, gan leihau cryn dipyn ar yr allyriadau CO2 sy’n gysylltiedig â defnyddio cerbydau. Rhai o anfanteision cerbyd trydan yw’r amser y mae’n ei gymryd i’w hailwefru a’r ffaith na ellir ymestyn taith y cerbydau drwy gludo can llawn petrol i ail-lenwi’r tanc, yn ogystal â’r problemau gyda gweithgynhyrchu ac ailgylchu batris.

Er mwyn gallu asesu’n well a fyddai UTV trydan yn ychwanegiad addas i fflyd y ceidwaid, bu i ni ofyn i Clwyd Agri ddod â cherbyd draw i Barc Gwledig Loggerheads i ni gael gweld sut y byddai’n gweithio yn y byd go iawn. Fe aethom ni â'r cerbyd arddangos ar ddwy daith waith nodweddiadol y mae'n rhaid i'n ceidwaid ni ddefnyddio cerbyd 4x4 diesel i'w gwneud ar hyn o bryd. Un o'r rhain oedd taith casglu sbwriel i Dŵr y Jiwbilî ar Moel Famau, a’r llall oedd taith i weld yr anifeiliaid sy’n pori er lles cadwraeth i wirio eu lles a’u clostir drwy’r coetir ar ochrau dwyreiniol Moel Famau.

Polaris Ranger Ev oedd y cerbyd a gawsom ni gan Clwyd Agri i roi cynnig arno, a hwnnw ar fenthyg gan ei berchnogion, sef Brighter Green Engineering. Mae gan y cerbyd fatris asid plwm safonol, er bod posib uwchraddio i gael batri lithiwm-ïon er mwyn lleihau'r pwysau, ymestyn y pellter teithio a gwella’r perfformiad ailwefru.

Gwnaeth gallu ac ystod y cerbyd argraff dda iawn ar ein ceidwaid, gan iddo gwblhau taith i gopa Moel Famau ac yn ôl i’r maes parcio yn hawdd gan ddefnyddio dim ond 10% o’r batri. Hefyd, dangosodd y dull gyrru pedair olwyn dewisol bod y cerbyd yn fwy na chymwys i gwblhau'r daith arw a serth i’r copa gan gario dau o bobl a llwyth o offer.

Rydyn ni bellach wrthi’n canfod cerbydau addas i’w caffael, yn y gobaith y bydd ychwanegu UTV trydan at fflyd cerbydau ein ceidwaid yn golygu y byddwn ni’n dibynnu llai ar ein cerbydau diesel i wneud teithiau byr (dyma pryd maen nhw’n perfformio ar eu gwaethaf o ran allyriadau gronynnol), ac yn y pen draw, yn lleihau ein dibyniaeth ar gerbydau tanwydd ffosil sy’n drwm ar CO2.

Gweithio gyda Gwlân

Mae cynaliadwyedd yn bwysig iawn ir Prosiect Pori Datrysiadau Tirlun, trwy weithio mewn partneriaeth a Chronfa Datblygu Cynaliadwy yr Ardal o Harddwch Eithiradol Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryd Ddyfrdwy, mae’r prosiect Gweithio gyda Gwlân wedi cae ei sefydlu er mwyn codi ymwybyddiaeth a chreu cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr gwlân a chrefftwyr trwy ddilyn cylchred cnu dafad, or cneifio i wneud wahnaol crefftau gyda gwlân.

Cafodd y prosiect ei rhannu yn ddau ran sef y cneifio ac ochr y crefftau. Y sesiwn gyntaf oedd cyflwyniad i gneifio a chafodd ei gynal gan gneifwraig profiadol, fe ddaeth pump i’r sessiwn. Er mor annodd oedd y cneifio fe lwyddodd pawb i gneifio cwpwl o ddefid yr un gyda un neu ddau yn gneud rhai ychwanegol.

 

Cafodd yr ail ran or prosiect ei redeg gan Gwlangollen, cwmni lleol sy’n gweithio i hyrwyddo sgiliau treftadaeth gwlân. Y sesiwn gyntaf oedd paratoi y gwlân amrwd yn barod i gael ei ddefnyddio, felly roedd rhaid dysgu sut i sgertio y gwlân amrwd, profi ei stwffwl a dysgu sut i’w olchi. Fe adawyd y gwlân i sychu’n naturiol tan y sesiwn nesaf, ble cafodd ei cardio, cafodd y gwrp gynnig ar cardio gyda llaw yn ogystal a rhoi cynnig ar y peiriant cardio.

 

Roedd mwyafrif o aelodau’r grwp yn gynhyrchwyr gwlân ac yn ystod y sesiynau hyn fe ddysgwyd beth sydd angen ei wneud i’r cnu er mwyn ei wneud yn barod i werthu. Rydym yn gobeithio fod y prosiect Gweithio Gyda Gwlân wedi agor cyfleoedd newydd i’r cynhyrchwyr werthu eu cynnyrch. Wedi i’r gwlân gael ei olchi a’i gardio, yna gellir ei werthu i grefftwyr.

Nawr fod y cnu wedi ei gardio, roedd yn barod i’w ddefnyddio, y sesiwn grefftau cyntaf oedd cyflwyniau i nyddu, ble cafodd yr aelodau i gyd roi cynnig ar yr olwyn nyddu i droelli’r gwlân a oedd wedi ei gardio o’r sesiwn flaenorol i greu edafedd. Defnyddwyd yr edafedd yma yn y sesiwn nesaf a gafwyd sef cyflwyniad i wehyddu. Mae dau sesiwn arall wedi ei drefnu i’r grŵp yn y flwydyn newydd ble byddant yn cael rhoi cynnig ar wahanol fathau o ffeltio.

 

Fe ddilynodd mwyafrif o’r grŵp y broses or dechrau i’r diwedd. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn wedi dylanwadu a chodi ymwybyddiaeth o’r posibiliadau ar gyfer eu cynnyrch eu hunanin yn y dyfodol.

Llwyddiant Straeon y Sêr

Cynhaliwyd prynhawn a noswaith fendigedig o adrodd straeon ym Mryniau Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel rhan o’n rhaglen Awyr Dywyll.

Bu’r storïwr lleol arobryn Fiona Collins o Garrog a Dani Robertson o Brosiect NOS, Partneriaeth Awyr Dywyll Gogledd Cymru, yn arwain dau sesiwn difyr ac addysgiadol o straeon am y sêr, a daeth mwy na hanner cant o bobl i gymryd rhan yng Nghoed Llangwyfan.

Un o’r hanesion lu a adroddodd Fiona oedd un am y cytser rydyn ni’n ei alw yn yr Efeilliaid.

Roedd y Celtiaid yn gweld cytser yr Efeilliaid (Gemini) nid fel gefeilliaid, ond fel dau frawd, Gwyn a Gwyrthur, yn brwydro am gariad Creuddylad, y ferch brydferthaf - sy’n aml yn cael ei phortreadu yn gwisgo coch. Yn wahanol i’r amser modern lle’r edrychir yn fwy amheus ar ferched sy’n gwisgo coch, roedd coch yn y byd Celtaidd yn cynrychioli  morwyndod a rhinwedd, a dyma’r lliw a wisgai merched ar ddiwrnod eu priodas. Roedd Gwyrthur wedi mopio’n lân am Creuddylad. Fodd bynnag, daeth Gwyn, brawd cenfigennus a chas Gwyrthur, a dwyn Creuddylad oddi arno, a thorrodd Gwyrthur ei galon. Nid oedd Gwyrthur yn fodlon gollwng gafael ar ei gariad, a chyrchodd fyddin i’w dwyn yn ôl. Bu brwydr chwyrn a gwaedlyd. Curodd Gwyn ei frawd ac ailymuno â’i gariad a chymryd y penaethiaid yn gaeth fel dialedd. Dywedir fod y ddau frawd yn dal i ymladd yn y nen am law’r Ferch mewn Coch bob Calan Mai, ac y byddant yn parhau i wneud hynny tan Ddydd y Farn pan fydd yr enillydd yn cael ei chadw iddo’i hun am byth. Cymerwyd eu cystadleuaeth fel cynrychiolaeth o’r gystadleuaeth rhwng haf a'r gaeaf, ac mae thema cariad, colled a brwydr rhwng da a drwg yn dal i fod yn amlwg iawn mewn storïau a hanesion yr amser modern.

Mae cynnal digwyddiadau cyhoeddus yn un o blith nifer o ffyrdd y mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn amlygu mor bwysig yw Awyr Dywyll y Nos a’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud i’w diogelu. Ddechrau 2022 bydd tîm yr AHNE yn cyflwyno cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol am gydnabyddiaeth ffurfiol o rinweddau awyr y nos yma. I ddysgu mwy am Awyr Dywyll Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ewch i https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/dark-skies/?lang=cy

Gwirfoddoli

Gofynnwch i chi’ch hunan: A ydw i’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored? A hoffwn i gysylltu mwy gyda natur a bod yn fwy egnïol? A ydw i’n chwilio am ffordd i gyfarfod pobl newydd a dysgu sgiliau newydd?

Fel gwirfoddolwr gydag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy y, gallwch wneud pob un o’r pethau hynny a mwy. Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, rydym yn gweithio yma yng ardal hardd Dyffryn Dyfrdwy ac yn gofalu am ystod hyfryd o gynefinoedd a bywyd gwyllt. Mae arnom ni angen eich cymorth chi i gadw ein hafan fel y dylai fod er mwyn i’n rhywogaethau cynhenid fedru goroesi ac er mwyn i’n cymunedau fedru ei fwynhau.

Fel Ceidwaid yn AHNE Dyffryn Dyfrdwy, rydym yn gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd i reoli cynefinoedd, cynnal arolygon bywyd gwyllt, helpu i reoli ymwelwyr, cynnal ein llwybrau troed a llawer mwy. P’un a fyddai gennych ddiddordeb mewn gwneud ychydig o waith rheoli cynefinoedd ymarferol, dysgu sgiliau traddodiadol megis codi waliau cerrig a plannu gwrychoedd, garddio, gwaith celf a chrefft a chwblhau arolygon bywyd gwyllt amrywiol, neu ymuno â ni am daith gerdded wedi’i thywys, mae gennym rywbeth at ddant pawb.

Felly pam na ddewch chi draw ar ddydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau am ddiwrnod gwych yn yr awyr agored. Byddwn yn darparu hyfforddiant llawn yn ogystal â’r offer angenrheidiol. Y cwbl fydd arnoch chi ei angen yw esgidiau cryf, dillad addas ar gyfer y tywydd, pecyn cinio a brwdfrydedd! Gellir dod o hyd i’n hamserlenni digwyddiadau ar wefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ein digwyddiadau, cysylltwch â ni am sgwrs ar 07384248361 neu anfonwch neges at dudalen Facebook Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. https://www.facebook.com/ClwydDeeAONB

 

Adfer tirwedd a natur mewn hinsawdd sy'n newid

Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd ac mae'n effeithio ar bob un ohonom i raddau llai neu fwy. Boed hynny drwy danau gwyllt sy'n achosi llygredd aer, llifogydd o dywydd eithafol neu glefydau sy'n effeithio ar y planhigion yr ydym yn eu hamgylchynu ein hunain ar gyfer ein mannau byw neu ein mannau hamdden. Yn yr AHNE mae gennym fosaig o dirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau, y mae llawer ohonynt yn cael eu hystyried fel y rhinweddau arbennig sy'n rhoi'r dynodiad sydd ganddo i'n tirwedd fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Felly, mae'r tirweddau hyn nid yn unig yn bwysig i ni fel mannau hardd a phleserus i fyw a gweithio ynddynt, ond maent yn agwedd hanfodol ar fywoliaeth y rhan fwyaf ohonom sy'n byw yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

P'un a yw eich cyflogaeth wedi'i chysylltu'n uniongyrchol â ffermio neu dwristiaeth, neu os nad oes a wnelo hyn ddim â'r sectorau hyn, mae llawer o economi Gogledd-ddwyrain Cymru yn dibynnu ar gefn gwlad. Boed hynny drwy gynhyrchu, dosbarthu a gwerthu bwydydd, neu a yw hynny drwy gefnogi'r nifer fawr o dwristiaid sy'n ymweld â'r ardal bob blwyddyn, mae ein AHNE yn cyfrannu at lawer o'n bywoliaeth.

Felly, o gofio ein bod yn gwybod bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd, a'n bod yn gwerthfawrogi tirweddau'r AHNE er mwyn i ni eu mwynhau, eu bioamrywiaeth a'u gwerth naturiol ac am eu gwerth economaidd i'r rhanbarth, sut i reoli'r tirweddau hyn yn well o ystyried effeithiau tebygol newid yn yr hinsawdd?

Yn ein hadroddiad newydd, Tirwedd ac Adferiad Natur mewn Hinsawdd sy'n Newid, gofynnwn yn union hynny. I'w gyhoeddi'n ddiweddarach y mis hwn, mae'r adroddiad yn edrych ar chwe math gwahanol o dirwedd ar draws yr AHNE ac yn nodi'r risgiau mwyaf a achosir iddynt gan newid yn yr hinsawdd, a'r hyn y gallwn ei wneud i liniaru neu reoli'r risgiau hynny. O danau gwyllt a llifogydd i glefydau a sychder, edrychwn ar y risgiau a achosir a'r camau y gallwn eu cymryd yn awr i ffynnu mewn hinsawdd sy'n newid. P'un a ydych yn rheolwr tir, yn gwnselydd, yn ffermwr neu'n aelod o'r gymuned leol, mae'r ddogfen yn nodi'r risgiau mwyaf a achosir i bob math o dirwedd ac amrywiaeth o gamau lliniaru sydd ar gael i ni.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am gopi o'r adroddiad ar gyhoeddi, cysylltwch â'n Swyddog Newid Hinsawdd yn uniongyrchol; tom.johnstone@sirddinbych.gov.uk

Twristiaeth

Taith ymgyfarwyddo â Sir y Fflint

Ym mis Tachwedd arweiniodd Tîm Twristiaeth Sir Ddinbych grŵp o fusnesau twristiaeth lleol o Ogledd Ddwyrain Cymru ar daith ymgyfarwyddo â Sir y Fflint ar thema'r Celfyddydau a Diwylliant.

Yn gyntaf ar y rhestr roedd Bailey Hill, safle Castell Normanaidd ers 1100. Yn dilyn Brwydr Hastings, cychwynnodd y Normaniaid anheddiad yn 1086 ar domen rhewlifol a ddaeth yn Bailey Hill oherwydd ei farn gorchymyn am yr ardal y tyfodd iddi i fod yn dref yr Wyddgrug.

Yna rhoddwyd taith tu ôl i'r llenni i'r grŵp o Theatr Clwyd. Roedd y theatr yng nghanol adeiladu'r setiau, yn cynllunio'r goleuadau a'r synau ac yn ymarfer Panto'r Nadolig sef ‘Beauty and the Beast’ Roedd yn agoriad llygad go iawn i weld faint yn union o waith paratoi a aeth i mewn i gynhyrchiad mor fawr, ac roedd elfen o gyffro ynglŷn â'r gwaith adnewyddu a gynlluniwyd i foderneiddio a gwella ar y gofod sydd bron yn 50 mlwydd oed.

Roedd yn ôl ar y bws wedyn i ymweld â safle llawer mwy tawel o Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. Mae hwn yn lle gwirioneddol hudolus i unrhyw un nad yw erioed wedi bod. Mae'n serth yn hanes y Pererinion Brenhinol ac mae'r dyfroedd yn enwog am eu pwerau iacháu hudol. Mwyaf ingol oedd pentwr o hen grwydrau yn yr amgueddfa a adawyd gan y rhai a oedd dros  y blynyddoedd wedi ymdrochi yn y dyfroedd ac wedi'u gwella'n wyrthiol ac nad oedd eu hangen mwyach. Gallwch ddal i ymdrochi am awr a hanner bob dydd os ydych yn ddigon dewr ym misoedd y gaeaf yn y pwll Allanol.

Ein man galw olaf oedd Castell y Fflint yr un mor hudolus. Mae'r castell yn arbennig iawn ac roeddem yn ddigon ffodus i ymweld yn hwyr y prynhawn pan gafodd yr awyr sglein pinc. Fflint oedd y castell cyntaf o'r hyn a fyddai'n cael ei alw'n ddiweddarach yn "Iron Ring" Edward I.

Credwn y byddwch yn cytuno ein bod mor ffodus i fyw a gweithio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gyda'i hanes cyfoethog aml-haenog yn gosod ei ffordd i drysorau cudd ym mhob cornel yn aros i gael eu harchwilio.

Ariannwyd y prosiect drwy Gynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam (Gogledd Ddwyrain Cymru) a Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae pedair taith arall ar y gweill ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â twristiaeth@sirddinbych.gov.uk.

Arwyddion twristiaeth i hyrwyddo Dyffryn Clwyd

Bydd gwaith yn cael ei gyflawni’r flwyddyn nesaf i osod arwyddion twristiaeth brown ar yr A55 i hyrwyddo Dyffryn Clwyd.

Bydd yr arwyddion dwyieithog yn cael eu gosod cyn Cyffyrdd 27/27a ar gyfer traffig tua’r gorllewin a chyn Cyffordd 27 ar gyfer traffig tua’r dwyrain ddiwedd Chwefror / dechrau Mawrth 2022. 

Bydd yr arwyddion yn cynnwys Castell Dinbych, Castell Rhuddlan a Chadeirlan Llanelwy dan bennawd ‘Dyffryn Clwyd’.

Bydd arwyddion brown ychwanegol yn cael eu gosod yn Ninbych, Rhuddlan a Llanelwy i arwain traffig i’r atyniadau hynny.

Mae’r arwyddion yn cael eu hariannu ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Dinas Llanelwy, Cyngor Tref Dinbych, Cyngor Tref Rhuddlan, CADW a Chadeirlan Llanelwy.

Meddai’r Cyng. Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Bydd yr arwyddion newydd yn  tynnu sylw at dri atyniad gwych yma yn Sir Ddinbych ac yn annog mwy o ymwelwyr i ddod a chrwydro yn ein sir hyfryd.

“Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i annog twristiaeth yn yr ardal a fydd yn cefnogi busnesau Sir Ddinbych a diogelu a chreu swyddi ar gyfer ein preswylwyr.

“Bydd gosod yr arwyddion yn ategu at y gwaith a wnaed gan Dîm Twristiaeth y Cyngor i hyrwyddo’r sir fel cyrchfan drwy gydol y flwyddyn i gyd-fynd â’r ymagwedd gynaliadwy a fydd yn tyfu twristiaeth er budd Sir Ddinbych.”

Siopa'n Lleol: #CaruBusnesauLleol

Cefnogwch fasnachwyr Sir Ddinbych dros y gaeaf a #carubusnesaulleol

Mae trigolion Sir Ddinbych yn cael eu hannog i gefnogi masnachwyr lleol y gaeaf hwn.

Mae ymgyrch sy’n amlygu’r cyfoeth o fusnesau, nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael yn Sir Ddinbych yn cael ei lansio wrth i’r sir alw ar bobl i siopa’n lleol a gwario’n lleol dros y gaeaf.

Mae’r ymgyrch yn estyniad i fenter #carubusnesaulleol, gyda phwyslais ar annog pobl i wario eu harian yn y sir, annog busnesau i ddangos eu cynnyrch neu wasanaethau ar y cyfryngau cymdeithasol a denu cwsmeriaid, hen a newydd, i ganol ein trefi.

Yn ogystal â chefnogi busnesau a’r economi leol, mae’r ymgyrch yn ceisio annog siopa cynaliadwy trwy brynu cynnyrch yn lleol a lleihau teithiau hir yn y car.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Economi:”Pwrpas yr ymgyrch ydi atgoffa pobl am yr holl fusnesau gwych sydd gennym ni yn Sir Ddinbych, a’u hannog i siopa a defnyddio gwasanaethau’n lleol lle bo modd er mwyn sicrhau bod economi Sir Ddinbych yn ffynnu ac ein bod yn lleihau ein hôl-troed carbon.

“Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd i fusnesau ac rydym ni wedi bod yn cefnogi masnachwyr trwy gyllid Llywodraeth Cymru a thrwy ein tîm Datblygu’r Economi a Busnesau.

“Rydym ni’n meddwl ei bod hi’n bwysicach nag erioed hybu neges #carubusnesaulleol i’n trigolion ac atgoffa pawb bod llawer o siopau yn ein trefi a’n pentrefi sy’n cynnig ystod eang o gynnyrch, o fwyd a diod i harddwch a ffasiwn, o gelf a chrefft i wasanaethau proffesiynol.

 “Gall mynd am dro i’n trefi a’n pentrefi ddatgelu perlau bach. Rydym ni eisiau helpu busnesau i ddangos eu cynnyrch, annog pobl i fynd atynt a chyffroi a syfrdanu cwsmeriaid ynglŷn â’r hyn sydd ar gael.

“Rhowch gynnig ar fusnesau Sir Ddinbych a #carubusnesaulleol.”

Yn rhan o’r ymgyrch, mae’r Cyngor yn rhannu ei asedau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda masnachwyr ac yn eu hannog i floeddio am eu busnesau ar-lein.

Gall siopwyr helpu trwy rannu profiadau a chynnyrch gwych ar y cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod i bobl eich bod chi wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn, ac annog eraill fel eu bod nhw’n #carubusnesaulleol hefyd.

Gallwch gymryd rhan trwy fynd i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

Cynllun parcio am ddim ar ôl tri o’r gloch yn dychwelyd

Mae cynllun parcio am ddim y Cyngor yn dychwelyd dros gyfnod y Nadolig rhwng 21 Tachwedd a 31 Rhagfyr.

Er mwyn annog mwy o bobl i siopa yn eu siopau stryd fawr lleol, bydd modd i bobl barcio am ddim ar ôl 3pm ym meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Bydd y fenter Am Ddim Ar ôl Tri ar gael yn y meysydd parcio canlynol:

  • Corwen: Green Lane
  • Dinbych: Maes Parcio Aml-lawr; Lôn Crown, Factory Ward, Lôn y Post
  • Llangollen: Stryd y Neuadd; Heol Y Farchnad; Heol y Felin
  • Prestatyn: Stryd Fawr Isaf; yr Orsaf Drenau
  • Rhuddlan: Stryd y Senedd
  • Y Rhyl: Canolog; Morley Road; Heol y Frenhines; Tŵr Awyr; Gorllewin Kinmel Street, Gorsaf Drenau y Rhyl; Llyfrgell y Rhyl (lleoedd parcio i’r anabl yn unig)
  • Rhuthun: Crispin Yard; Dog Lane; Heol y Parc; Stryd y Rhos; Sgwâr Sant Pedr; Troed y Rhiw

Nid yw maes parcio preifat Neuadd Y Morfa, Y Rhyl yn gynwysedig yn y fenter.

Yn ogystal â'r cynllun Am Ddim ar ôl Tri, mae'r Cyngor yn parhau i gynnig dwy awr o barcio am ddim ar unrhyw adeg yn ystod y dydd tan 31 Rhagfyr yn y meysydd parcio canlynol, Stryd Y Dyffryn, Dinbych; East Street Llangollen; King’s Avenue, Prestatyn; Stryd y Farchnad, Rhuthun; Lawnt Fowlio, Llanelwy a Maes Parcio Neuadd y Dref, y Rhyl.

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd y Cyngor: “Mae’r fenter parcio Am Ddim Ar Ôl Tri wedi’i sefydlu ers sawl blwyddyn bellach ac mae’n cyd-fynd â’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r stryd fawr i wneud eu siopa Nadolig. Rydym yn deall ei bod wedi bod yn amser anodd i fusnesau ac rydym yn annog siopwyr i ddefnyddio’r cyfle hwn. Mae cyfoeth o siopau a busnesau annibynnol ar gael ledled y sir sy’n cynnig ystod eang o nwyddau a gwasanaethau.

“Rydym hefyd am atgoffa trigolion o’r cynllun parcio am ddim am ddwy awr a ddaeth i rym dros yr haf, er mwyn helpu busnesau y mae pandemig Covid-19 wedi effeithio arnyn nhw. Gyda’n dwy fenter parcio am ddim, gobeithiwn y bydd mwy o bobl yn dod i mewn i’n prif drefi i weld beth sydd ganddyn nhw i'w gynnig. Rwy’n siŵr na chânt eu siomi.”

SUP Paddle Adventures - Loggerheads

Rhowch brofiad yn anrheg y Nadolig hwn

Gallai ‘tocyn rhodd profiad’ fod yn anrheg berffaith i rywun arbennig sydd gan bopeth y Nadolig hwn.

Mae gan Sir Ddinbych ystod o chwaraeon antur a gweithgareddau awyr agored i’w cynnig a’r gaeaf hwn gallwch roi anrheg wahanol i rywun neu gael yr holl offer maent ei angen ar gyfer y flwyddyn newydd. 

Mae Caroline Dawson, wnaeth sefydlu SUP Paddle Adventures,  ysgol SUP Academi Sgiliau Dŵr achrededig a leolir yn Loggerheads, yn cynnig tiwtoriaeth sefyll i fyny ar badlfwrdd, teithiau arfordirol a sesiynau diogelwch.

Caroline Dawson (ar y dde) o SUP Lass Paddle Adventures gyda Jo Moseley

Mae hi hefyd yn padlo’n gystadleuol ac yn ddiweddar daeth yn ail yn Her Great Glen Cyfres SUP Prydain Fawr yn yr Alban.

Dywedodd Caroline: “Fy angerdd yw antur a hoffwn gynnig mwy na gwers sylfaenol yn unig i gwsmeriaid, rwy’n cynnig siocled poeth neu fwg o gawl wrth y dŵr yn aml.  Mae wedi bod yn wych gweld pobl yn dod i sesiynau, yn arbennig yn dilyn y pandemig, mae gweld padlwyr yn chwerthin a chael hwyl unwaith eto yn wych.”

Mae padlfyrddio yn cynnwys cyfranogwyr yn defnyddio padl wrth sefyll neu’n penlinio ar badlfwrdd.

SUP Lass Paddle Adventures

Dywedodd Caroline: “Mae padlfyrddio wedi tyfu’n sylweddol dros y 12 mis diwethaf, mae’n boblogaidd iawn.  Mae Sir Ddinbych yn ardal dda iawn ar gyfer chwaraeon antur, maent yn boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr ac mae yna gymaint o fusnesau yn cynnig ystod eang o chwaraeon antur.

“Mae’n bwysig iawn cefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y Nadolig hwn, mae’n helpu i gefnogi’r economi yn Sir Ddinbych ac mae yna gymaint i’w gynnig.”

Ychwanegodd: “Mae hwn yn amser perffaith o’r flwyddyn i gael rhywbeth gwahanol i rywun arbennig sydd gan bopeth. Allwch chi ddim rhoi pris ar atgof gyda rhywun arbennig, profiad newydd neu ddysgu sgil newydd.  Mae’n rhywbeth arbennig a hudol. Fel llawer o fusnesau antur rydym yn gwerthu tocynnau rhodd ar ein gwefan ac yn gallu eu haddasu ar gyfer unrhyw un o’n sesiynau.”

Mae Caroline a ProAdventure Llangollen ymysg nifer o fusnesau annibynnol sy’n cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol a gynhelir gan Gyngor Sir Ddinbych i annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Agorodd ProAdventure yn 1991 ac mae’n fanwerthwr antur awyr agored arbenigol sy’n gwerthu popeth o bebyll tipi, offer byw yn y gwyllt, dillad ac offer awyr agored ar gyfer coginio a byw’n gyfforddus yn yr awyr agored anhygoel.

Mae Peter Carol yn rhedeg y busnes gyda’i wraig Lesley sy’n arweinydd mynydd hyfforddedig, arweinydd canŵ cymwys a hyfforddwr Cerdded Nordig.

Peter Carol o ProAdventure

Dywedodd Peter sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn hyfforddiant antur awyr agored a gwyliau: “Mae Chwaraeon Antur yn boblogaidd iawn yn Sir Ddinbych ac rydym yn ei weld yn tyfu. Mae yna hefyd gefn gwlad godidog i bobl fynd i fforio.

“Mae nawr yn amser gwych i baratoi ar gyfer y flwyddyn newydd, neu i’r sawl sy’n brofiadol yn yr awyr agored, gallwch drwsio, golchi neu baratoi offer gyda’r cyflenwadau sydd gennym yn y siop. Mae’r cynnyrch rydym yn eu gwerthu yn dangos ein cariad at gerdded, gwersylla, diwylliant Sgandinafaidd a byw yn yr ardd gefn. 

“Rydym hefyd yn gwneud dewisiadau prynu gofalus tra’n cymryd effaith amgylcheddol a wneir gan gynnyrch ac mae hyn yn cynnwys dewisiadau ar yr hyn rydym yn ei werthu ac o ble rydym yn ei brynu, dod o hyd i drydan adnewyddadwy a defnyddio golau LED drwy’r siop.

“Mae gennym gymuned fusnes sy’n cefnogi chwaraeon yma yn Llangollen a byddem yn annog siopwyr i edrych ar eu stryd fawr leol y Nadolig hwn a meddwl y tu allan i’r blwch wrth chwilio am anrhegion.”

Gall siopwyr helpu drwy rannu profiadau a chynnyrch da ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn ac yn argymell fod pobl eraill hefyd yn #CaruBusnesauLleol.

Gallwch gymryd rhan drwy fynd i www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

Ystafell de yn arllwys cefnogaeth i fusnesau lleol

Mae sefydliad yn Sir Ddinbych yn cynnig y cyfuniad perffaith o ddanteithion Cymreig ar gyfer bwydgarwyr ac anrhegion gan grefftwyr gydag elfen o gefnogaeth a chynaliadwyedd lleol. 

Dywed Jackie Feak, Swyddog Gweinyddol a Busnes Ystafell De’r Cyfieithwyr yng Nghadeirlan Llanelwy, fod y sefydliad yn gweithio’n galed i gynnig a chefnogi cynnyrch lleol ochr yn ochr â gofalu am yr amgylchedd gyda’r gwasanaeth y maent yn ei gynnig.

Agorodd Ystafell De’r Cyfieithwyr, sy’n swatio yng ngwaelodion y gadeirlan, am y tro cyntaf ym Mai 2018 ac mae’n prysur ddod yn un o brif fannau cyfarfod trigolion lleol ac ymwelwyr, oherwydd ei ymrwymiad cadarn i gynaliadwyedd lleol.

Mae’r sefydliad yn Llanelwy yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau a siopau lleol y gaeaf hwn.

Bydd cwsmeriaid sy’n camu trwy ddrysau’r ystafell de yn cael eu temtio gan ddewis o ginio ysgafn, teisennau cartref, diodydd ysgafn a diodydd poethion. Mae’r rhan fwyaf o’r fwydlen yn cael ei pharatoi yn ffres ar y safle.

Eglurodd Jackie: “Mae’n holl deisennau, cawliau a brechdanau yn rhai cartref, cawn ein hatgoffa’n gyson rhai cystal yw’r sgons! Rydym yn ceisio cael gafael ar gymaint ag y gallwn o gynnyrch yn lleol ac yn foesol. Rydym wedi ein lleoli yng ngwaelodion y gadeirlan, felly mae’r olygfa trwy’r ffenestri yn un unigryw.

Mae Ystafell De’r Cyfieithwyr yn cael gafael ar nifer o gynnyrch lleol o Sir Ddinbych. Mae’r iogwrt sydd ar werth o Llaeth y Llan, rydym yn gwerthu hufen iâ Chilly Cow a ham sy’n cael ei gyflenwi gan y cigydd Daniel Jones yn Llanelwy.

Daw’r bara o Fecws Tan Lan, sydd ond ar draws y ffordd yng Nghonwy ynghyd â chyflenwad o Goffi Heartland a chreision a phopgorn gan Jones o Gymru ym Mhwllheli.

Ac nid bwyd gan gynhyrchwyr y sir a Gogledd Cymru yn unig sydd ar gael, mae Ystafell De’r Cyfieithwyr hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer crefftwyr yr ardal, trwy greu estyniad yn ardal y siop ar y safle.

Dywedodd Jackie: “Mae gennym siop fechan yr ydym yn gobeithio ehangu cyn y Nadolig. Mae gennym eisoes nwyddau masnach Cadeirlan Llanelwy, gan gynnwys cylchau allweddi a magnedau oergell wedi eu gwneud gan Bryn Jones o Fetws y Coed, cardiau Cymraeg gan Nansi Nudd, cardiau eraill gan y ffotograffydd lleol Chris Wilkinson (Special Sightings) o Brestatyn, amrediad o jamiau wedi eu brandio gan y Gadeirlan, siytni gan Welsh Lady Preserves, a gwaith celf gan Miles o oriel Myrtle House ar odre’r ddinas.” 

“Rydym yn aelod o Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd (CRTG) ac yn gweithio tuag at gynnig hyd yn oed mwy o gynnyrch lleol- pan fydd yr ardal siop newydd yn barod, byddwn yn edrych am gyflenwyr newydd.”

Mae Ystafell De’r Cyfieithwyr yn edrych ymlaen at brosiect cynaliadwyedd yn y dyfodol, diolch i dalp o’r gorffennol ar y tir maent wedi eu lleoli arno.

Eglurodd Jackie: “Rydym hefyd yn gobeithio dechrau gwerthu planhigion o’r ardd dreftadaeth newydd yng ngwaelodion y gadeirlan fel modd o gadw ardal yr ardd i fynd.”

Mae gwarchod yr amgylchedd y maent yn gweithio ac yn byw ynddo hefyd yn hynod bwysig i staff Ystafell De’r Cyfieithwyr.

Dywedodd Jackie: “Mae ein holl ddeunydd pacio yn ailgylchadwy ac/ neu mae modd ei gompostio megis ein cynhwyswyr cludfwyd. Mae Cadeirlan Llanelwy newydd ennill gwobr efydd ‘Eglwys Eco’ ac rydym yn gweithio tuag at gael ein cynnwys yn y wobr arian hefyd.

Mae Ystafell De’r Cyfieithwyr yn annog siopwyr i arllwys eu cefnogaeth i’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol a chyffroi masnach gadarnhaol i fusnesau lleol yn eu trefi sirol priodol.

Ychwanegodd Jackie: “Y mwyaf o bobl sy’n siopa’n lleol y cryfaf fydd yr hyn sy’n cael ei gynnig yn lleol, a bydd mwy o ddewis ar gael. Er bod siopa ar-lein yn haws, mae’r cysylltiadau personol yn sicr yn gwneud gwahaniaeth, ac yn golygu mwy.” 

Gall siopwyr helpu trwy rannu eu profiadau a chynnyrch gwych ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gadael i bobl wybod eu bod yn siopa’n lleol y gaeaf hwn ac annog eraill i #GaruBusnesauLleol hefyd.

Gallwch gymryd rhan trwy ymweld â www.sirddinbych.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

Cyngor yn agor canolbwynt cymorth busnes fel rhan o ymgyrch #CaruBusnesauLleol

Mae siop dros dro wedi agor i dynnu sylw pobl at fusnesau annibynnol y Nadolig hwn.

Mae LoveLiveLocal@Rhyl bellach ar agor ac yn cynnig cymorth ar lawr gwlad i fusnesau lleol, wedi’i drefnu gan y Cyngor ac Antur Cymru y partner darparu.

Bydd y siop dros dro yng Nghanolfan Siopa’r Rhosyn Gwyn yn y Rhyl yn llwyfan i fusnesau newydd a busnesau bach sydd eisiau treialu menter newydd heb y risg arferol.

Bydd cynhyrchwyr sy'n cymryd rhan yn derbyn ystod amrywiol o gefnogaeth a ariennir yn llawn gan ein tîm cynghori Busnes Cymru. Bydd y gefnogaeth a gynigir yn cynnwys Cynllunio Busnes a Marchnata, ystwythder digidol, adnoddau dynol a chymorth tendro, i gefnogi busnesau bach o'r cychwyn i dwf parhaus.

Yn ogystal â chynnig cymorth i fusnesau bydd y canolbwynt yn darparu cynnig manwerthu newydd ar gyfer Sir Ddinbych ac yn annog ymwelwyr i ddod i’r dref.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Rydym yn falch iawn o agor drysau’r prosiect newydd cyffrous hwn sy’n canolbwyntio ar gefnogi busnesau bach i fasnachu yn Sir Ddinbych.

“Bydd y siop dros dro o fudd i ganol tref y Rhyl drwy ddarparu canolbwynt cymorth i fusnesau, ychwanegu at y cynnig manwerthu yng nghanol y dref a rhoi defnydd dros dro i uned fanwerthu wag.

“Bydd ar fusnesau lleol angen ein holl gefnogaeth y gaeaf hwn – gyda’n gilydd gallwn gefnogi ein trefi drwy siopa’n lleol a defnyddio’r hashnod #CaruBusnesauLleol i annog eraill i wneud yr un fath.”

Bydd chwe busnes yn meddiannu'r gofod gan gynnwys Royle Bakes, Del Creations, Blooming Brownies, Ivy Bank Honey Bees, Crafty Creations a Greener Beings ac mae lle i fusnesau eraill hefyd.

Meddai Debbie Rowley, perchennog Royle Bakes: “Fel perchennog busnes newydd rydw i'n edrych ymlaen at y cyfle hwn efo Antur Cymru.

“Mae’n gyfle i mi arddangos y cacennau y gallwch chi eu harchebu a darparu lle i gwsmeriaid posibl flasu fy nghynnyrch a ddylai helpu i dyfu fy musnes."

Mae’r dull newydd hwn yn cael ei roi ar brawf gydag arian gan Gyngor Sir Ddinbych a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae’n rhan o ymgyrch #CaruBusnesauLleol y Cyngor sy’n codi ymwybyddiaeth pobl o bwysigrwydd cefnogi busnesau lleol.

Bydd y partner darparu, Antur Cymru, yn rheoli’r siop yn Uned 16B Canolfan y Rhosyn Gwyn, y Rhyl o 18 Tachwedd tan Noswyl Nadolig 2021.

Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch ac i fanteisio ar yr adnoddau marchnata rhad ac am ddim, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

Mae’r Tŷ Gwyrdd yn gwneud siopa ecogyfeillgar yn haws i bawb

Mae canolbwynt cymunedol Sir Ddinbych yn darparu cefnogaeth gynaliadwy i siopwyr ecogyfeillgar.

Mae’r Tŷ Gwyrdd, a sefydlwyd ym mis Mehefin 2021 ac a agorodd ar Lôn Cefn, Dinbych yn ystod mis Mehefin 2021, yn ysbrydoli lefel newydd o gyfrifoldeb ecolegol ymhlith y gymuned leol.

Mae’r Canolbwynt Cymunedol yn cynnwys siop ail-lenwi ecogyfeillgar ar y llawr cyntaf, gyda gofod stiwdio ychwanegol ar y llawr cyntaf a’r ail lawr. 

Meddai Marguerite Pearce, Cyfarwyddwr Y Tŷ Gwyrdd: “Rydym yn gwerthu cynnyrch ail-lenwi ar gyfer y tŷ, cynnyrch garddio a bwyd, rydym hefyd yn ceisio sicrhau eu bod yn cael eu cynhyrchu’n lleol lle bo modd.  Rydym yn cefnogi ac yn darparu prosiectau gwyrdd sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles, gan gydweithio gydag artistiaid lleol, mentrau cymunedol a sefydliadau cyhoeddus a phreifat.

“Rydym yn gwneud siopa ecogyfeillgar yn haws i bawb.  Rydym yn cynnig ystod eang o eitemau sylfaenol a fforddiadwy ar gyfer y tŷ sy’n helpu i leihau’r defnydd o becynnau a gwastraff bwyd a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. Rydym yn gwrando ar gwsmeriaid ac yn ymateb i’w gofynion er mwyn darparu’r cynnyrch y mae arnynt eu heisiau, gan ddefnyddio cyflenwyr a chynhyrchwyr lleol ac ecogyfeillgar sy’n cynnig system dolen gaeedig (ailddefnyddio yn hytrach nag ailgylchu).”

Mae’r sefydliad yn Ninbych yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Mae’r Tŷ Gwyrdd yn falch iawn o’u harwyddair, ‘ysbrydoli newid i greu dyfodol cynaliadwy’. 

Ychwanegodd Marguerite: “Mae gennym ethos o ‘addasu nid taflu’ ac rydym yn gwerthfawrogi popeth.  Rydym yn ceisio bod yn greadigol, dychmygol a dyfeisgar ym mhopeth a wnawn, y rheol allweddol yw lleihau gwastraff a phrynu diangen (prynwch yr hyn sydd ei angen arnoch), ailddefnyddio (ail-lenwi cynwysyddion, prynu pethau ail law, rhoi eitemau nad oes arnoch chi eu heisiau i elusen, atgyweirio eitemau sydd wedi torri), ac ailgylchu pan fetho popeth arall. 

Mae’r canolbwynt wedi cofrestru ar gyfer rhai cynlluniau TerraCycle, ac yn cyfeirio cwsmeriaid at leoliadau eraill sy’n dilyn cynlluniau TerraCycle. 

Eglurodd Marguerite: “Mae ein cyflenwyr ail-lenwi hylif yn cynnig system dolen gaeedig sy’n golygu eu bod y cymryd y cynhwysydd yn ôl, yn ei olchi a’i ail-lenwi.    Rydym yn ceisio cynnig cynnyrch lleol ac o’r DU er mwyn lleihau ein hôl troed carbon. Mae gennym gyflenwr ynni adnewyddadwy.

Mae mewnbwn y gymuned leol yn hanfodol i sicrhau bod y fenter yn gallu parhau nawr ac i’r dyfodol.”

Meddai Marguerite: “Rydym yn ymgysylltu â’r gymuned i ddeall a chefnogi’r mentrau a’r gweithgareddau sy’n digwydd yn lleol, i wrando ar syniadau a phryderon, a nodi beth hoffai pobl ei weld yn digwydd yn y dyfodol. 

“Fel cymdeithas mantais gymunedol, y gymuned sy’n ein cynnal ac yn berchen arnom.  Rydym yn gwahodd y gymuned leol i gymryd rhan yn Y Tŷ Gwyrdd. Er mwyn sicrhau bod y canolbwynt a’r gweithgareddau’n gynaliadwy, rydym yn credu y dylai’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma helpu i’w harwain a’u siapio. 

Cynhaliodd Y Tŷ Gwyrdd eu cynnig cyfranddaliadau cyntaf ym mis Mehefin a chroesawyd 50 o fudd-ddeiliaid. Mae’r canolbwynt hefyd yn gweithio gyda chwmnïau buddiannau cymunedol reSource a Drosi Bikes ar brosiect cydweithredol i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd uchel. 

Mae’r cynlluniau ar gyfer y canolbwynt i’r dyfodol yn cynnwys datblygu gweithdy atgyweirio yn Ninbych, darparu calendr o ddigwyddiadau gan weithio mewn partneriaeth ag unigolion a sefydliadau lleol, a pharhau i chwilio am safle sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau, gyda lleoedd newid a chyfleusterau newid babanod neillryw.

Beth oedd eu neges i’r rheiny sy’n ystyried siopa’n lleol yn eu cymunedau?

Ychwanegodd Marguerite: “Cefnogwch eich siopau lleol, helpwch y stryd fawr i ffynnu, a chadwch ein hysbryd creadigol, cyfeillgar a chymunedol yn fyw.”

Gall siopwyr helpu drwy rannu profiadau a chynnyrch da ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn ac yn argymell fod pobl eraill hefyd yn #CaruBusnesauLleol.

Gallwch gymryd rhan trwy fynd i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

 

Gall hen ddodrefn crand helpu’r amgylchedd

Os prynwch chi hen greiriau neu ddodrefn ail law y Nadolig hwn gallech fod yn helpu’r amgylchedd wrth ychwanegu rhywfaint o steil i’ch cartref, meddai un gwerthwr dodrefn yn Sir Ddinbych.

Mae Carole Derbyshire-Styles wedi bod yn berchen ar y Vintage Home Styles Emporium yng Nghorwen ers chwe blynedd ac mae’n cynnig amrywiaeth fendigedig o hen greiriau, hen ddodrefn crand a phethau i’r cartref.

Ar ôl bod ar gau am gyfnod oherwydd y pandemig Covid-19, aeth Carole ati i ehangu ei siop wreiddiol i le mwy ar Heol Llundain sydd hefyd â chaffi erbyn hyn.

Yn ogystal â chynnig dewis mwy helaeth o eitemau, mae Carole yn cynnal marchnad ar ddydd Sul cyntaf bob mis gan roi lle i werthwyr dodrefn a chrefftwyr yn ogystal â therapydd harddwch a hyfforddwr personol, ac fe gynhelir y digwyddiadau nesaf ar 5 Rhagfyr.

Arferai Carole fod yn nyrs yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae’n dweud: “Dwi wastad wedi bod efo diddordeb mewn prynu a gwerthu dodrefn, mi ddechreuais i fynd i ocsiynau efo fy nhad pan oeddwn i’n byw yn Lerpwl. 

 “Mi symudais i Gorwen dri deg un o flynyddoedd yn ôl efo babi deg diwrnod oed a phlentyn arall oedd yn bedair. Roedden ni’n adeiladu tŷ ein hunain ac roedd pres yn brin, ond mi ddechreuais i fynd i ocsiynau i brynu dodrefn i’r tŷ a wnes i byth roi’r gorau iddi.

 “Ar ôl i’r genod adael cartref mi ddaeth hi’n amser imi drio gwireddu fy mreuddwyd ac agor siop fy hun, a dyna lle ddechreuodd y Vintage Home Styles Emporium.

“Rydyn ni’n cynnig lle braf i bobl ddod i chwilota drwy hen greiriau, hen ddodrefn crand, pethau i’r cartref a chrefftau, i gyd o ansawdd da, ac mae’n lle cysurus i gwrdd efo ffrindiau, cael paned neu damaid o ginio a sgwrs.”

Mae Carole yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Mae Carole yn dweud y gall prynu hen greiriau a hen ddodrefn ac anrhegion crand gael effaith gadarnhaol ar newid hinsawdd.

Meddai: “Mae ailgylchu’n rhan fawr o fy musnes i, mae uwchgylchu ac ailddefnyddio dodrefn yn hytrach na’i fod yn cael ei gladdu o dan ddaear yn rhan fawr o fy ethos gwaith.

“Mae prynu hen greiriau a hen ddodrefn crand yn rhoi steil unigryw i’r cartref, ond mae hefyd yn golygu nad ydi’r eitemau’n mynd i safleoedd tirlenwi a bod dim angen gwneud dodrefn newydd, ac felly mae’n osgoi’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n digwydd wrth gynhyrchu pethau newydd, eu pecynnu, eu cludo a chael gwared arnyn nhw.”

Mae Vintage Home Styles Emporium yn un o blith nifer o fusnesau annibynnol lleol ledled Sir Ddinbych ac mae Carole yn annog siopwyr i ymweld â threfi’r Sir y Nadolig hwn.

Meddai: “Dwi wrth fy modd yn sôn wrth bobl am Gorwen, y llefydd braf i fynd am dro a phethau fel yr amgueddfa, y trên stêm a holl hanes difyr y dref. Mae yma lwyth o siopau, caffis, bwytai a thafarndai gwerth chweil, ac ar ôl y deunaw mis diwethaf mae’n bwysig fod pobl leol yn ein cefnogi ni’r gaeaf yma.

 “Mae siopa’n lleol yn rhoi hwb aruthrol i fusnesau lleol ac mae’n helpu i gynnal ein economi a chreu swyddi yma yn Sir Ddinbych. Dwi’n annog pawb yn y sir i ymweld â’u trefi lleol i weld beth sydd ar gael.”

Gall siopwyr helpu drwy rannu profiadau a chynnyrch da ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn rhoi gwybod i bobl eich bod wedi siopa’n lleol y gaeaf hwn ac yn argymell fod pobl eraill hefyd yn #CaruBusnesauLleol.

Gallwch gymryd rhan drwy fynd i www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cymorth-busnes/caru-busnesau-lleol.aspx

 

Salon harddwch yn Rhuthun yn falch o’r gefnogaeth gan y gymuned

Mae harddwr o Sir Ddinbych yn dweud bod prynu’r peth lleiaf yn rhoi gwên fawr ar wyneb masnachwyr lleol.

Mae busnes harddwch a thrin gwallt Beauty on the Square wedi bod yn agored yn Rhuthun ers dros bedair blynedd ond fel y rhan fwyaf, roedd y pandemig byd-eang wedi amharu ar eu ffordd arferol o fasnachu, felly roedd yn rhaid i berchennog busnes a gweithiwr proffesiynol gwallt a harddwch Kara Tyrrell feddwl ar ei thraed ac addasu. 

Dywedodd Kara a fynychodd Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun ac yna mynd ymlaen i hyfforddi fel harddwr: “Yn ystod y cyfnod clo, roeddwn yn sylwi fod pobl yn awyddus i ofalu am eu hunain gartref, yn arbennig o ran gofalu am eu hiechyd, gan gynnwys gofalu am y croen. 

 ‘Doeddwn i ddim yn gallu cynnig gwasanaethau corfforol felly defnyddiais fy ngwybodaeth broffesiynol i greu tiwtorial gofalu am y croen ac yna uwchlwytho’r fideos ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

“Ar ôl ychwanegu siop ar-lein, roedd gwylwyr cyfryngau cymdeithasol wedi troi’n gwsmeriaid ac yn manteisio ar ein gwasanaeth clicio a chasglu a chludo – roedd y gefnogaeth yn anhygoel.”

Roedd Beauty on the Square wedi dechrau cynnig eitemau rhodd fel canhwyllau, bagiau colur yn ogystal â hamperi rhodd mwytho a ‘phecynnau cartref’.

Mae Kara yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesau Lleol gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda’r nod i annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Meddai: “Mae yna dybiaeth nad yw busnesau bach mor gystadleuol o ran prisiau â siopau ar-lein, nid yw hyn bob amser yn wir.  Y gwahaniaeth yw, drwy gefnogi’n lleol rydych yn diogelu busnesau lleol ac yn y pen draw eich stryd fawr.

 “Mae yna gymaint i’w gynnig ar eich stryd fawr leol, byddwn yn annog pobl i archwilio beth sydd ar eu carreg drws.”

Mae Kara sy’n byw yn Rhuthun wedi buddsoddi mewn hyfforddiant arbenigol i roi rhywbeth yn ôl i’w chymuned.

Meddai: “Rydym yn cymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian lleol ac yn mynychu cyrsiau hyfforddi i wella’r salon er budd ein cwsmeriaid, fel hyfforddiant dementia i sicrhau bod y salon yn deall dementia.

“Mae yna gymuned gref, gan gynnwys gyda’n busnesau cyfagos.  Gofalwch am eich busnes lleol a gallwn ni ofalu amdanoch chi.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, dilynwch gyfrifon Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook a Twitter, yn ogystal â chyfrif cyfryngau cymdeithasol #CaruBusnesauLleol

Siop flodau yn Rhuddlan yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar

Mae perchennog siop flodau yn dweud bod siopa’n lleol yn cynnig profiad cyfeillgar na ellir ei gynnig wrth bori ar-lein.

Bu i Jacqui Bell sefydlu The Little Flowermonger yn Rhuddlan yn Hydref 2019, ac mae hi’n canolbwyntio ar ddarparu profiad cwsmer gwych yn ogystal â bod yn gynaliadwy, yn gwerthu blodau Prydeinig yn bennaf a defnyddio deunydd pecynnu bioddiraddiadwy.

Mae The Little Flowermonger hefyd yn gwerthu torchau drws Nadolig pwrpasol a wnaed â llaw ac addurniadau blodau i’r cartref a all roi teimlad Nadoligaidd cyfoes a naturiol. 

Dywedodd Jacqui, cyn ddisgybl yn Ysgol Howell’s, Dinbych: “Rwy’n gwerthu blodau ffres a sych ac rwy’n ceisio prynu blodau a deiliach a dyfwyd ym Mhrydain ble’n bosib a defnyddio’r siop fel llwyfan i ddangos y stoc wych a dyfir yn y wlad. Mae ein stoc yn cael ei dorri a’i anfon i mi yn uniongyrchol gan y tyfwyr o fewn 24 awr.

“Rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth eang o fasau gwydr a ailgylchwyd, canhwyllau a wnaed â llaw ac anrhegion eraill gan gyflenwyr sy'n cyd-fynd ag ethos cynaliadwy Little Flowermonger.”

Symudodd Jacqui i Lundain i hyfforddi i fod yn werthwr blodau ac yna gweithiodd gyda gwerthwyr blodau i enwogion yn dylunio digwyddiadau ar raddfa fawr cyn agor ei siop ei hun yn darparu blodau i nifer o gynyrchiadau ffilm gan gynnwys Spiderman a Batman yn nechrau’r 2000au, Yn ogystal â llu o ddramâu BBC a digwyddiadau ar gyfer lansio llyfrau, cyngherddau cefn llwyfan, cylchgrawn Hello a Radio Capital.

Defnyddiwyd ei thorchau drws Nadolig gan nifer o westai yn Llundain fel rhan o’u haddurniadau Nadoligaidd.

Ar ôl symud i Ogledd Cymru, agorodd Jacqui The Little Flowermonger a bellach yn cefnogi’r ymgyrch #CaruBusnesauLleol dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, sydd â’r nod o annog mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Meddai: “Rwy’n meddwl fod nifer o fusnesau gwych ar garreg ein drws. Credaf y dylem ddefnyddio ein siopau lleol, mae’n llawer mwy personol o gymharu â hwylustod clicio ar ddolen.

“Mae Rhuddlan yn bentref gwych ac mae nifer o fasnachwyr annibynnol yma sy’n darparu cynnyrch ardderchog a gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Fel cwsmer, teimlaf ein bod eisiau teimlo'n dda am wario arian. Dylai siopa fod yn brofiad pleserus na all unrhyw gyfrifiadur ei ailgynhyrchu, nid yn aml mae cyfrifiadur yn gofyn sut ddiwrnod rydych yn ei gael neu’n cynnig paned o de a sgwrs i chi.”

Mae Jacqui yn mynychu marchnadoedd blodau ei hun i brynu stoc, gan ddileu’r angen ar gyfer faniau a lorïau danfon.

Meddai: “Mae fy musnes cyfan yn ymwneud â cheisio bod mor gynaliadwy â phosib, fel arall nid oedd pwrpas agor fel siop flodau arall yn gwerthu'r un fath, pan gall y cwsmer fynd ar-lein ac archebu a chael tusw ‘paentio yn ôl rhif' gyda llawer o ategolion plastig.

“Mae fy neunydd pecynnu yn syml iawn, mae’n bioddiraddiadwy i gyd, mae hyd yn oed fy mwydydd blodau mewn bagiau compostadwy. Rwy’n ailddefnyddio cymaint â phosib ac yn ymchwilio yn ddyddiol i syniadau newydd i wella yn gyson."

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, dilynwch gyfrifon Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook a Twitter, yn ogystal â chyfrif cyfryngau cymdeithasol #CaruBusnesauLleol / #LoveLiveLocal.

Cynllun Corfforaethol

Sgwrs Sirol: Beth ddylai ein dyheadau fod?

Yn ystod haf 2021, gofynnodd y Cyngor i bobl am eu dyheadau tymor hir ar gyfer eu cymunedau yn y dyfodol.

Bydd hyn, ynghyd ag ystadegau, yn ein galluogi i ddrafftio rhestr o'r hyn yr oeddech chi'n meddwl oedd yn bwysig. 

Ar ôl i ni gael y rhestr ddrafft, hoffem wybod a ydych chi'n credu bod hyn yn iawn.

Byddwn yn gofyn ichi eu graddio ar lefel o bwysigrwydd, i'n helpu i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein Cynllun Corfforaethol nesaf ar y meysydd cywir.

Cadwch lygad am ein harolwg ar-lein a'n cyhoeddiadau

 

Cymeradwyo datblygiad cartrefi cymdeithasol ym Mhrestatyn

Disgwylir i’r gwaith ddechrau’n fuan ar adeiladu rhandai newydd ym Mhrestatyn ar gyfer tenantiaid ag anawsterau symud o gwmpas.

Mae aelodau Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar benodi contractwr i ddechrau  gwaith adeiladu ar 15 o randai'r Cyngor ar gyfer rhent cymdeithasol yn The Dell ym Mhrestatyn.

Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer dyluniad manwl y datblygiad ar dir sy’n perthyn i’r Cyngor ei gymeradwyo ym Mhwyllgor Cynllunio fis Medi.

Bydd adeiladwyr lleol i Ogledd Cymru, RL Davies & Sons Cyf yn gyfrifol am adeiladu’r datblygiad ar ran y Cyngor.

Bydd pum rhandy sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn yn cael eu hadeiladu ar y llawr gwaelod, ac ar y lloriau uwch bydd cyfanswm o ddeg rhandy, a fydd yn hygyrch gan lifft, ac wedi’u haddasu ar gyfer tenantiaid ag anawsterau symud. Bydd saith rhandy un ystafell wely ac wyth rhandy dwy ystafell wely yn y bloc.

Bydd lle parcio ar gyfer pob fflat, a thri lle i ymwelwyr hefyd.

Bydd y fflatiau’n gweithredu'n garbon isel, trwy gynnwys ynni adnewyddadwy a thechnolegau gwresogi, a byddant yn helpu i gyflawni Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecoleg Sir Ddinbych. Caiff hyn ei gyflawni drwy osgoi defnyddio hydrocarbon ar gyfer gwresogi’r gofod a'r dŵr o fewn y datblygiad.

Mae’r penderfyniad yn cefnogi blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor i sicrhau y cefnogir pawb i fyw mewn cartrefi sy’n diwallu eu hanghenion.

Bydd yn cyfrannu at gyflawni'r Strategaeth Tai a Digartrefedd hefyd gan alluogi gwaith adeiladu cartrefi hygyrch ar gyfer rhent cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, aelod arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae’r Cyngor yn falch o allu symud y datblygiad hwn ymlaen, gan ein bod yn llwyr ymwybodol o’r rhestr aros am dai yn Sir Ddinbych bod angen o ran rhandai ym Mhrestatyn sy'n addas ar gyfer pobl hŷn.

”Mae darn o dir sy’n eiddo i’r Cyngor yn lleoliad addas i ddatblygiad o’r fath gan fod tir gwastad o’r safle at y siopau a’r gwasanaethau ger llaw yng nghanol y dref.

“Drwy greu llety fel hyn, gallwch gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Mae hyn yn rhan o’r ymrwymiad yn ein Cynllun Corfforaethol i weithio gyda phobl a chymunedau i ddarparu rhagor o dai a magu annibyniaeth a gwydnwch.”

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle yn fuan gyda’r gwaith yn cael ei gwblhau yn hydref 2022.

Tai Sir Ddinbych

Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Datblygu Tai

Llys Llên, yr hen lyfrgell, Prestatyn

Rydym wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygu’r hen lyfrgell ar Ffordd Llys Nant ym Mhrestatyn. Byddwn yn adeiladu pedwar ar ddeg o fflatiau Cyngor newydd yn ogystal â dwy o unedau busnes ar y llawr gwaelod.

Bydd cyfle hefyd inni wella’r fynedfa a’r trefniadau parcio yn ein fflatiau presennol yn Llys Bodnant y drws nesaf i’r hen lyfrgell. Bwriedir dechrau’r gwaith ar y safle yn y Flwyddyn Newydd a gorffen tua diwedd 2022. Enw’r datblygiad newydd fydd Llys Llên i gofio am y llyfrgell a fu yma am flynyddoedd maith.

Llwyn Eirin, Dinbych

 

Mae gennym newyddion cyffrous ynglŷn â Llwyn Eirin, y datblygiad o ddau ar hugain o dai Cyngor sy’n defnyddio ynni’n effeithlon rydym yn ei adeiladu ar dir uwchlaw Tan y Sgubor yn Ninbych. Mae’r contractwr yn dod ymlaen yn dda wrth godi’r tai newydd! Yn y gwanwyn daethpwyd ag injan dyllu arbenigol i’r safle i wneud tyllau lle fydd dŵr yn tynnu gwres naturiol o’r ddaear i wresogi’r tai. Rydyn ni ar y trywydd iawn i gwblhau’r rhain erbyn gwanwyn 2022 ac rydyn ni ar bigau’r drain i weld y gymuned newydd o denantiaid yn setlo i mewn.

Fe rannwn y newyddion am ein holl brosiectau â chi yn y rhifyn nesaf, ond mae’n fendigedig gweld tai cymdeithasol newydd sbon yn cael eu hadeiladu yn Sir Ddinbych!

Amlennu Allanol a Gwaith i Ddefnyddio Ynni’n Fwy Effeithlon

Rydym yn ymrwymo i ostwng biliau tanwydd ein tenantiaid ac inswleiddio ein cartrefi’n well. I helpu gyda hyn aethom ati yn yr haf i gwblhau ein darn cyntaf o waith ôl-osod er mwyn defnyddio ynni’n fwy effeithlon, yng Ngallt Melyd. Mae’r cynllun hwn wedi gwella’r tu allan i 55 o gartrefi ar Ffordd Tŷ Newydd ac ystadau eraill yn y cyffiniau.

Fel rhan o’r contract, a gyda chymorth drwy grant Ôl-osod Llywodraeth Cymru, rydym hefyd wedi gosod technoleg ddyfeisgar yn y cartrefi hyn er mwyn defnyddio ynni'n fwy effeithlon. Mae hyn wedi cynnwys paneli solar ffotofoltaig integredig, inswleiddio’r tu allan i waliau a thechnoleg batris. Rydym hefyd wedi rhoi to newydd ar bob tŷ, ail-rendro a gosod cafnau a phibellau glaw newydd.

Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig dros ben, ac mae’r rhaglen yn un o blith nifer fechan o gynlluniau peilot sydd ar waith yng Nghymru. Bu modd inni osod synwyryddion yn y cartrefi hyn er mwyn creu System Ynni Ddeallus. Mae’r synwyryddion yn mesur tymheredd a lleithder yn y cartrefi sy’n eu gwneud yn lleoedd brafiach i fyw ynddynt. Maent hefyd yn ein helpu i gadw golwg ar ein cynnydd wrth leihau ôl troed carbon stoc Tai Sir Ddinbych. Mae’r data y mae’r system yn eu casglu hefyd yn rhoi gwybodaeth inni am faint o ynni a gynhyrchir oddi ar y grid ymhob tŷ, sy’n gostwng eich biliau.

Cyflawnwyd y rhaglen mewn partneriaeth â Sustainable Building Services sydd wedi gweithio â Tai Sir Ddinbych ar nifer o brosiectau buddsoddi mawr. Rydym yn bwriadu dechrau cam nesaf y gwaith yn y misoedd nesaf, gan gynnwys gwella 55 o gartrefi yn y Rhyl. Mae arolygon yn cael eu cynnal ar hyn o bryd a gobeithiwn fedru gwneud gwaith tebyg yn y fan honno er mwyn defnyddio ynni'n fwy effeithlon.

Byddwn yn gosod chwe chant o Systemau Ynni Deallus mewn cartrefi ledled Sir Ddinbych fel rhan o’r gwelliannau’r ydym wedi’u cynllunio ar gyfer y 3-5 mlynedd nesaf drwy’r fframwaith amlennu allanol.

Cydweithio ar gyfer dyfodol cymuned Pengwern

Yn yr haf cynhaliwyd cyfres o weithgareddau cymunedol er mwyn meithrin cyswllt â phreswylwyr a hybu lles y gymuned. Cynhaliwyd y gweithgareddau mewn partneriaeth â Hwb Cymunedol Pengwern, Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Tai Cymunedol Sir Ddinbych, Chwarae Actif, Cymunedau Bywiog, y Gwasanaeth Ieuenctid, Grŵp Cynefin, CAD a sefydliadau lleol eraill.

Helpodd Hwb Pengwern 80 o oedolion a 205 o blant i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn Llangollen.

Roedd y gweithgareddau a’r gwasanaethau i breswylwyr yn cynnwys:

  • Gweithdai beics
  • Sesiynau chwarae actif a chwaraeon
  • Twrio am fwyd i’r teulu
  • Gwau a sgwrsio
  • Gweithdy macrame
  • Gweithdy Byd Natur a Bywyd Gwyllt
  • Sesiwn sydyn gwisg ysgol
  • Adrodd straeon i’r teulu
  • Sesiynau galw heibio Cyngor ar Bopeth.

Dosbarthwyd 179 o becynnau byrbryd i blant yn ystod gwyliau’r haf diolch i roddion gan gwmnïau lleol.

Ar sail yr hyn a ddywedodd y preswylwyr bu’r gweithgareddau o gymorth iddynt gael mynediad i’r gymuned a theimlo mwy o gysylltiad. Mae’r Cydlynydd ym Mhengwern wrthi’n cynllunio gweithgareddau eraill ar gyfer y misoedd i ddod, gan gynnwys gweithio gydag ysgolion wrth gynnal cystadleuaeth i ddylunio logo Hwb Cymunedol Pengwern yn ogystal â digwyddiadau Calan Gaeaf a’r Nadolig.

Rydym wrthi’n paratoi a chynllunio’r digwyddiadau hyn felly cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.

Preswylydd Pengwern

“Fe aethon ni i dwrio am fwyd a gwneud bara yn y goedwig. Roedd hi’n fendigedig crwydro drwy’r coed a chael gwerthfawrogi beth sydd gennym ar garreg y drws. Roedd hi’n braf iawn hefyd i gwrdd â chymdogion nad oedden ni wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Roedd y staff yn wybodus ac yn amyneddgar dros ben gyda phobl o bob oedran a gallu yn y sesiwn, ac yn goron ar y cyfan fe gawson ni fwyta’r bara a wnaethon ni wrth y tân.

Fe gymeron ni ran mewn digwyddiad chwaraeon amrywiol ym mharc Pengwern, roedd y mab wrth ei fodd â’r amrywiaeth o gampau a’r gwahanol blant na fyddai wedi cwrdd â nhw fel arall, gan ei fod yn mynd i ysgol arall. Roedd y staff yn fendigedig ac wedi cofio’i enw ers un o’r gweithgareddau cynt. Fe gawson ni becyn byrbryd wrth adael ac roedd hynny’n beth da iawn.”

Bob dydd Llun rhwng 10am a hanner dydd bydd y ganolfan ar agor i bobl ddod i siarad â Cyngor ar Bopeth ar ffurf sesiwn galw heibio ar-lein. I gael mwy o wybodaeth neu drefnu apwyntiad cysylltwch ag office@sdcp.org neu ffonio 01490 266004 i gael sgwrs ag aelod o’r tîm cyfeillgar.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid