llais y sir

Tai Sir Ddinbych

Y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Datblygu Tai

Llys Llên, yr hen lyfrgell, Prestatyn

Rydym wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygu’r hen lyfrgell ar Ffordd Llys Nant ym Mhrestatyn. Byddwn yn adeiladu pedwar ar ddeg o fflatiau Cyngor newydd yn ogystal â dwy o unedau busnes ar y llawr gwaelod.

Bydd cyfle hefyd inni wella’r fynedfa a’r trefniadau parcio yn ein fflatiau presennol yn Llys Bodnant y drws nesaf i’r hen lyfrgell. Bwriedir dechrau’r gwaith ar y safle yn y Flwyddyn Newydd a gorffen tua diwedd 2022. Enw’r datblygiad newydd fydd Llys Llên i gofio am y llyfrgell a fu yma am flynyddoedd maith.

Llwyn Eirin, Dinbych

 

Mae gennym newyddion cyffrous ynglŷn â Llwyn Eirin, y datblygiad o ddau ar hugain o dai Cyngor sy’n defnyddio ynni’n effeithlon rydym yn ei adeiladu ar dir uwchlaw Tan y Sgubor yn Ninbych. Mae’r contractwr yn dod ymlaen yn dda wrth godi’r tai newydd! Yn y gwanwyn daethpwyd ag injan dyllu arbenigol i’r safle i wneud tyllau lle fydd dŵr yn tynnu gwres naturiol o’r ddaear i wresogi’r tai. Rydyn ni ar y trywydd iawn i gwblhau’r rhain erbyn gwanwyn 2022 ac rydyn ni ar bigau’r drain i weld y gymuned newydd o denantiaid yn setlo i mewn.

Fe rannwn y newyddion am ein holl brosiectau â chi yn y rhifyn nesaf, ond mae’n fendigedig gweld tai cymdeithasol newydd sbon yn cael eu hadeiladu yn Sir Ddinbych!

Amlennu Allanol a Gwaith i Ddefnyddio Ynni’n Fwy Effeithlon

Rydym yn ymrwymo i ostwng biliau tanwydd ein tenantiaid ac inswleiddio ein cartrefi’n well. I helpu gyda hyn aethom ati yn yr haf i gwblhau ein darn cyntaf o waith ôl-osod er mwyn defnyddio ynni’n fwy effeithlon, yng Ngallt Melyd. Mae’r cynllun hwn wedi gwella’r tu allan i 55 o gartrefi ar Ffordd Tŷ Newydd ac ystadau eraill yn y cyffiniau.

Fel rhan o’r contract, a gyda chymorth drwy grant Ôl-osod Llywodraeth Cymru, rydym hefyd wedi gosod technoleg ddyfeisgar yn y cartrefi hyn er mwyn defnyddio ynni'n fwy effeithlon. Mae hyn wedi cynnwys paneli solar ffotofoltaig integredig, inswleiddio’r tu allan i waliau a thechnoleg batris. Rydym hefyd wedi rhoi to newydd ar bob tŷ, ail-rendro a gosod cafnau a phibellau glaw newydd.

Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig dros ben, ac mae’r rhaglen yn un o blith nifer fechan o gynlluniau peilot sydd ar waith yng Nghymru. Bu modd inni osod synwyryddion yn y cartrefi hyn er mwyn creu System Ynni Ddeallus. Mae’r synwyryddion yn mesur tymheredd a lleithder yn y cartrefi sy’n eu gwneud yn lleoedd brafiach i fyw ynddynt. Maent hefyd yn ein helpu i gadw golwg ar ein cynnydd wrth leihau ôl troed carbon stoc Tai Sir Ddinbych. Mae’r data y mae’r system yn eu casglu hefyd yn rhoi gwybodaeth inni am faint o ynni a gynhyrchir oddi ar y grid ymhob tŷ, sy’n gostwng eich biliau.

Cyflawnwyd y rhaglen mewn partneriaeth â Sustainable Building Services sydd wedi gweithio â Tai Sir Ddinbych ar nifer o brosiectau buddsoddi mawr. Rydym yn bwriadu dechrau cam nesaf y gwaith yn y misoedd nesaf, gan gynnwys gwella 55 o gartrefi yn y Rhyl. Mae arolygon yn cael eu cynnal ar hyn o bryd a gobeithiwn fedru gwneud gwaith tebyg yn y fan honno er mwyn defnyddio ynni'n fwy effeithlon.

Byddwn yn gosod chwe chant o Systemau Ynni Deallus mewn cartrefi ledled Sir Ddinbych fel rhan o’r gwelliannau’r ydym wedi’u cynllunio ar gyfer y 3-5 mlynedd nesaf drwy’r fframwaith amlennu allanol.

Cydweithio ar gyfer dyfodol cymuned Pengwern

Yn yr haf cynhaliwyd cyfres o weithgareddau cymunedol er mwyn meithrin cyswllt â phreswylwyr a hybu lles y gymuned. Cynhaliwyd y gweithgareddau mewn partneriaeth â Hwb Cymunedol Pengwern, Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Tai Cymunedol Sir Ddinbych, Chwarae Actif, Cymunedau Bywiog, y Gwasanaeth Ieuenctid, Grŵp Cynefin, CAD a sefydliadau lleol eraill.

Helpodd Hwb Pengwern 80 o oedolion a 205 o blant i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn Llangollen.

Roedd y gweithgareddau a’r gwasanaethau i breswylwyr yn cynnwys:

  • Gweithdai beics
  • Sesiynau chwarae actif a chwaraeon
  • Twrio am fwyd i’r teulu
  • Gwau a sgwrsio
  • Gweithdy macrame
  • Gweithdy Byd Natur a Bywyd Gwyllt
  • Sesiwn sydyn gwisg ysgol
  • Adrodd straeon i’r teulu
  • Sesiynau galw heibio Cyngor ar Bopeth.

Dosbarthwyd 179 o becynnau byrbryd i blant yn ystod gwyliau’r haf diolch i roddion gan gwmnïau lleol.

Ar sail yr hyn a ddywedodd y preswylwyr bu’r gweithgareddau o gymorth iddynt gael mynediad i’r gymuned a theimlo mwy o gysylltiad. Mae’r Cydlynydd ym Mhengwern wrthi’n cynllunio gweithgareddau eraill ar gyfer y misoedd i ddod, gan gynnwys gweithio gydag ysgolion wrth gynnal cystadleuaeth i ddylunio logo Hwb Cymunedol Pengwern yn ogystal â digwyddiadau Calan Gaeaf a’r Nadolig.

Rydym wrthi’n paratoi a chynllunio’r digwyddiadau hyn felly cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.

Preswylydd Pengwern

“Fe aethon ni i dwrio am fwyd a gwneud bara yn y goedwig. Roedd hi’n fendigedig crwydro drwy’r coed a chael gwerthfawrogi beth sydd gennym ar garreg y drws. Roedd hi’n braf iawn hefyd i gwrdd â chymdogion nad oedden ni wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Roedd y staff yn wybodus ac yn amyneddgar dros ben gyda phobl o bob oedran a gallu yn y sesiwn, ac yn goron ar y cyfan fe gawson ni fwyta’r bara a wnaethon ni wrth y tân.

Fe gymeron ni ran mewn digwyddiad chwaraeon amrywiol ym mharc Pengwern, roedd y mab wrth ei fodd â’r amrywiaeth o gampau a’r gwahanol blant na fyddai wedi cwrdd â nhw fel arall, gan ei fod yn mynd i ysgol arall. Roedd y staff yn fendigedig ac wedi cofio’i enw ers un o’r gweithgareddau cynt. Fe gawson ni becyn byrbryd wrth adael ac roedd hynny’n beth da iawn.”

Bob dydd Llun rhwng 10am a hanner dydd bydd y ganolfan ar agor i bobl ddod i siarad â Cyngor ar Bopeth ar ffurf sesiwn galw heibio ar-lein. I gael mwy o wybodaeth neu drefnu apwyntiad cysylltwch ag office@sdcp.org neu ffonio 01490 266004 i gael sgwrs ag aelod o’r tîm cyfeillgar.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid