Cludiant Di-Garbon Ffosil
Cynhaliwyd y digwyddiad undydd hwn drwy garedigrwydd Castell y Waun yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thîm AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Daeth gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr ynghyd i archwilio’r dewisiadau di-danwydd ffosil (FFF) ar gyfer rheoli glaswellt, prysgwydd, dail a choed, yn ogystal ag ystod o ddewisiadau cludiant ar gyfer dyletswyddau personol, proffesiynol ac oddi ar y ffordd.
Daeth dros 60 o weithwyr proffesiynol a myfyrwyr o gynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Sir Gâr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Coleg Amaethyddol Llysfasi (Coleg Cambria), Brighter Green Engineering, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda staff Cyngor Sir Gâr yn teithio dros 4 awr ar gyfer y digwyddiad, ymroddiad yn wir.
Gyda chyfarpar ac arbenigedd Clwyd Agri, Stihl UK, Avant Techno, Drosi Bikes a Sustrans ar gael, treuliodd y mynychwyr y bore yn symud rhwng y gweithdai, gan dreulio amser yn dod i ddeall y dewisiadau FFF ar gyfer mynd i’r afael â’r tasgau dydd i ddydd yng nghefn gwlad a chadwraeth. Roedd y rhain yn cynnwys edrych ar y defnydd o dechnegau traddodiadol megis pladuro, ochr yn ochr â thorwyr gwair batri modern, strimwyr, peiriannau torri gwair, offer torri gwrych, peiriannau chwythu dail a llifiau cadwyn. Ym maes cludiant, roedd modd i’r mynychwyr roi cynnig ar yr e-feiciau a’r beiciau cargo trydan ar gyfer cymudo a theithio rhwng swyddfeydd a chyfarfodydd a siarad â gweithwyr proffesiynol sy’n defnyddio faniau, cerbydau tir pob pwrpas a llwythwyr trydan am eu profiadau’n defnyddio’r cyfarpar yn y maes. Roedd yr Avant e6 yn profi’n gyfarpar poblogaidd, wrth i’r mynychwyr gael cyfle i dreialu’r peiriant torri gwair, y bwced a’r atodiadau ffyrch codi, gan roi profiad ymarferol iddynt o allu’r peiriant. Yn y gweithdai rheoli coed, roedd modd i’r mynychwyr weld a rhoi cynnig ar lif gadwyn betrol a thrydan ochr yn ochr, er mwyn rhoi hyder iddynt i wybod y gellir nawr cyfnewid peiriannau petrol am ddewisiadau FFF amgen, heb unrhyw newid yn eu gallu gweithredol.
Dros ginio, cafwyd cipolwg gan Stihl UK ar wefru a thechnoleg batri a chynhaliwyd sesiwn Holi ac Ateb, lle’r oedd modd i’r mynychwyr gael atebion i’r cwestiynau cyffredin a oedd ganddynt am fatris, megis oes, gallu / gwahanol fathau, cyflymderau a chyfnodau ail-lenwi batris, dysgu am rywfaint o’r dechnoleg newydd sy’n dod i’r farchnad a beth y gellir ei ddisgwyl ar gyfer y dyfodol o ran technoleg batri.
Cymerwch gam yn ôl mewn amser gydag Ein Tirlun Darluniadwy
Ydych chi erioed wedi ystyried sut brofiad fyddai ymweld â Chastell Dinas Brân yn y bedwaredd ganrif ar ddeg neu weld yr olygfa o Drefor o’r awyr ym 1795?
Mae tîm Ein Tirlun Darluniadwy wedi comisiynu ‘Hanes Bywluniedig Dyffryn Dyfrdwy’, ffilm brydferth a llawn gwybodaeth sy’n dangos holl ehangder Dyffryn Dyfrdwy. Mae’n dangos y newidiadau i’r tirwedd dros y blynyddoedd, gan ddangos y newid o fugeiliol i ddinesig dros y canrifoedd gyda dyfodiad diwydiant i’r ardal, y gamlas a ffordd yr A5 a oedd yn agor Dyffryn Dyfrdwy i dwristiaid. Mae cyfres o ffilmiau byrrach yn dangos tirweddau penodol Llangollen, Trefor a Chastell Dinas Brân hefyd ar gael ar dudalen Vimeo AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: www.vimeo.com/showcase/9859162
Ochr yn ochr â’r ffilmiau animeiddiad, mae cyfres gyffrous o ffilmiau Rhith-Wirionedd (VR) wedi cael eu cynhyrchu gyda’r nod o anfon gwylwyr yn ôl i ganrifoedd y gorffennol a lleoliadau o amgylch Dyffryn Dyfrdwy. Trwy sgrolio o amgylch a rhyngweithio â’r fideo, gall y gwyliwr ymgolli yn lleoliad Castell Dinas Brân yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r Cyfnod Fictoraidd, adeiladu Traphont Ddŵr Pontcysyllte ym 1795, Abaty Glyn y Groes yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a Phlas Newydd gyda Merched Llangollen ym 1805. Gellir gweld y ffilmiau 360 yma: www.vimeo.com/showcase/9859071
Os hoffech brofi potensial llawn y ffilmiau hyn, bydd tîm Ein Tirlun Darluniadwy yn mynd â phensetiau VR gyda nhw i ddigwyddiadau yn y dyfodol er mwyn i’r cyhoedd allu gweld y tirweddau hanesyddol. Gallwch weld ein digwyddiadau nesaf yma:
www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/news-events/?lang=cy
Efallai y gwelwch y codau QR sydd wedi cael eu gosod ger lleoliad pob fideo, gan ganiatáu i ymwelwyr ymgolli yn hanes y tirwedd yn defnyddio eu dyfeisiau symudol eu hunain.
Croesawu aelodau newydd cyd-bwyllor
Mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn falch o gyhoeddi bod aelodaeth y Pwyllgor ar gyfer y pedair blynedd nesaf wedi’i gytuno arno. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys Aelodau Cabinet o’r tri Awdurdod Lleol o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a bydd fel a ganlyn:
Cyngor Sir y Fflint
- Y Cynghorydd David Hughes (Cadeirydd)
- Y Cynghorydd David Healey
Cyngor Sir Ddinbych
- Y Cynghorydd Win Mullen-James
- Y Cynghorydd Emrys Wynne
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Y Cynghorydd Hugh Jones
- Y Cynghorydd Nigel Williams (Is-gafeirydd)
Bydd yr aelodau hyn yn gweithredu ar ran eu Hawdurdodau Lleol er mwyn darparu dibenion yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ynghyd â datblygu a darparu’r Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd newydd ei gyhoeddi.