llais y sir

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Y Baddonau Rhufeinig: Dirgelwch Rhufeinig ym Mhrestatyn?

Fe wyddom ers y 1930au am fodolaeth y Baddondy Rhufeinig ym Mhrestatyn, ond yr hyn na wyddom yw pwy yr oedd yn ei wasanaethu.

  • Oedd yna anheddiad Rhufeinig coll rhwng Caer a Chonwy?
  • Ai baddondy perchennog tir Rhufeinig cyfoethog ydi o, a’i fila heb ei darganfod eto?
  • Ai baddondy Mansio (gwesty Rhufeinig) ydi o?

Dewch i ddysgu mwy drwy brosiect adnewyddu ac ymgysylltu cymunedol Cyngor Sir Ddinbych ym Maddonau Rhufeinig Prestatyn ar ben Melyd Avenue. Dyma un o ‘drysorau cudd’ y dref yr hoffem ei warchod at y dyfodol er mwynhad cenedlaethau i ddod. Ariennir y prosiect gan Grant Henebion Cadw a Chronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd.

Darganfuwyd Baddondy Rhufeinig Prestatyn gyntaf yn ystod gwaith cloddio yn y 1930au. Cafodd ei ail orchuddio ac yna ei gloddio eto yn y 1980au, pan adeiladwyd y stad dai gyfagos. Mae’r safle bellach yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ddinbych. Adeiladwyd y Baddondy yn tua 120 OC, yna ei ymestyn yn 150 OC. Mae yna rywfaint o ddadlau ynglŷn â’r rheswm dros ei leoliad ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, credir fod yna gysylltiad rhyngddo â’r llengoedd Rhufeinig yng Nghaer a Chaernarfon, gan ei fod yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng y ddau. Gallai fod yn gysylltiedig â harbwr cyfagos, oherwydd ei leoliad arfordirol.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio codi proffil y Baddonau Rhufeinig, gan ei fod yn safle go anhysbys. Hoffem gynyddu niferoedd yr ymwelwyr â’r Baddonau ac ennyn diddordeb mewn hanes lleol. Bydd y prosiect yn cynnwys:

  • Gwaith i sefydlogi’r gwaith cerrig sydd wedi dod yn rhydd dros amser.
  • Gwaith ar y llwybr o amgylch y baddondy.
  • Paneli gwybodaeth newydd.
  • Creu border berlysiau.
  • Plannu blodau gwyllt.
  • Gweithdai celf gydag ysgolion lleol.
  • Diwrnod agored i’r cyhoedd i ddathlu cwblhau’r prosiect.
  • Cysylltiadau â sefydliadau lleol i hyrwyddo’r Baddondy.
  • Cynnydd hirdymor mewn gwybodaeth leol am y Baddondy, ac yn nifer yr ymwelwyr â’r safle.

Pan gafodd ei gloddio yn y 1980au, ymwelodd plant ysgol lleol â’r Baddondy. Hoffem gysylltu â’r bobl a ymwelodd â’r safle yn y cyfnod hwnnw i drefnu iddyn nhw gael dod draw eto. Cysylltwch â Claudia Smith ar claudia.smith@sirddinbych.gov.uk / 07785517398 os oeddech chi’n un o ymwelwyr gwreiddiol y Baddondy, os oes gennych chi grŵp a hoffai ymweld neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect.

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid