llais y sir

Dim mwy o ddirwyon yn llyfrgelloedd y sir

Mae gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych wedi cyhoeddi ei fod yn dileu dirwyon llyfrau lyfrgell traddodiadol - a bydd yn lansio menter i annog mwy o bobl i ymweld â’u llyfrgell leol.

Gwnaed y cyhoeddiad am y dirwyon i gyd-fynd ag Wythnos Llyfrgelloedd Cenedlaethol 2022 lle roedd canolbwynt ar bobl yn defnyddio eu llyfrgelloedd i barhau dysgu gydol oes.

Mae holl ddirwyon hanesyddol wedi cael eu canslo a gall ddefnyddwyr y llyfrgell sydd â llyfrau yn eu cartref sydd tu hwnt i’w dyddiadau dychwelyd, ddod â nhw yn ôl i’w llyfrgell leol heb orfod poeni.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Cabinet Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae cael gwared â’n system dirwyon yn sicr y ffordd ymlaen. Mae’n hen system sydd wedi dyddio ac ystyrir ei fod yn rhwystr arwyddocaol i ddefnyddio’r llyfrgell. Mae hyn yn cael effaith ar bobl i allu cael mynediad am ddim i adnoddau a chyfleusterau i gefnogi eu llythrennedd, dysgeidiaeth, sgiliau a lles.

“Rŵan bod gwasanaethau wedi dychwelyd yn ôl i’r arfer yn dilyn Covid, mae wedi rhoi cyfle gwych i ni ail-adeiladu’r cynnig llyfrgell yn bersonol gan annog pobl i ymweld a defnyddio eu llyfrgell leol a’i ystod eang o wasanaethau.

“Mae dirwyon yn rhywbeth o’r gorffennol a gall bobl ddychwelyd llyfrau heb boeni, yn arbennig yn yr hinsawdd bresennol o ran costau byw. Bydd ein timoedd yn y llyfrgelloedd yn falch o weld mwy o bobl yn dod drwy’r drysau i gael mynediad at gyfoeth o wybodaeth a digwyddiadau am ddim sydd ar gael iddynt.”

Bydd taliadau am eitem newydd yn parhau am eitemau na chânt eu dychwelyd. Mae'r rhain yn wahanol i ddirwyon a chânt eu codi pan na chaiff eitem ei dychwelyd, ei cholli neu ei difrodi gan y benthyciwr.

Ewch i'n gwefan i ddarganfod mwy am yr holl wasanaethau a gwasanaethau mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn ei gynnig drwy gydol y flwyddyn i ymgysylltu â’n cymuned amrywiol. I dderbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch @DenbsLibs a Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ar Facebook ac Instagram.

Dyma'r Cynghorydd Emrys Wynne yn egluro’r penderfyniad ...

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid