llais y sir

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Prosiect e-feiciau yn hybu gostwng carbon

Mae staff y Cyngor yn cymryd rhan mewn prosiect pŵer pedlo i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae'r Cyngor ar y cyd â Sustrans yn rhoi’r cyfle i staff roi tro ar ddefnyddio e-feic yn hytrach na’u dull arferol o deithio.

Mae'r fenter yn rhan o gynllun benthyg E-Symud Sustrans, prosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd ar gael i breswylwyr y Rhyl a rhai o’r ardaloedd cyfagos.

Mae Sustrans yn gweithio i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi trafnidiaeth ac i annog unigolion a sefydliadau i leihau eu heffaith carbon wrth i staff gymudo ac o ganlyniad i filltiredd fflyd.

Fe ddatganodd y Cyngor Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i fod yn Gyngor Di-garbon Net ac yn fwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae rhan o’r ymgyrch i leihau allbwn carbon drwy’r Cyngor yn cynnwys annog gostwng nifer y cerbydau, sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil, a ddefnyddir at ddibenion gwaith a defnydd y cyhoedd.

Mae’r fenter e-feiciau’n parhau tan fis Ionawr, gan ganiatáu i aelodau staff sy’n cymryd rhan gael beic ar fenthyciad wythnosol. Mae’r cynllun yn caniatáu i’r rheiny sy’n cymryd rhan gymharu’r defnydd o e-feic ar gyfer cymudo a theithiau eraill gyda’u cerbyd arferol i weld a allant gwtogi eu defnydd o bŵer tanwydd ffosil.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yr ydym yn ddiolchgar i Sustrans am y cyfle hwn i gynorthwyo ein staff i ddeall y buddion gwyrdd y gall e-feic eu rhoi. Yr ydym yn gweithio tuag at leihau ein dibyniaeth ar bŵer tanwydd ffosil er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac mae cyflwyno elfennau mwy gwyrdd i deithio yn rhan bwysig o hyn.

“Byddwn hefyd yn annog unrhyw breswylydd yn ardal y Rhyl sydd â diddordeb i gymryd y cyfle o roi tro ar e-feic, er mwyn gweld a allai fod o gymorth i leihau eich ôl troed carbon a chostau dyddiol yn ymwneud â chludiant.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â benthyg beic at ddefnydd y cyhoedd, ewch i gwefan Sustrans.  

Tynnu sylw at ddatblygiad coetir i gefnogi bioamrywiaeth

Mae hen gae ysgol wedi’i groesawu am ei gyfraniad i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn lleol. 

Yn ddiweddar bu i gynrychiolwyr y Cyngor ymweld â hen gae ysgol gynradd yn Stryd Llanrhydd, Rhuthun, ar gyfer lansiad swyddogol y safle coetir newydd ar y tir.

Roedd disgyblion o Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yno hefyd.

Plannwyd 800 o goed gan Brosiect Creu Coetir y Cyngor ar y safle yn gynharach eleni fel rhan o ymdrech barhaus i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth.

Yn ogystal â’r coed hyn cafodd 18,000 o goed eu plannu ar hyd a lled y sir fel rhan o ffocws Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2017-22 i warchod yr amgylchedd naturiol a hefyd cynnal a gwella bioamrywiaeth yn y sir.

Bu i nifer o blant ysgol dorchi eu llewys i helpu i blannu coed yn hen gae’r ysgol yn Rhuthun.

Ac i gadw at thema ysgolion, adeiladwyd ardal ystafell ddosbarth awyr agored ar y safle i helpu plant i ddysgu am fioamrywiaeth ac i roi help llaw i breswylwyr y nos lleol.

Mae’r ystafell ddosbarth wedi’i hadeiladu o goed gan grefftwr lleol, Huw Noble, sydd wedi cynnwys ‘To i Ystlumod’ a ddyluniwyd yn arbennig i ddarparu nodweddion y mae ystlumod eu hangen i glwydo yn ystod y dydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn i lansio’r safle’n swyddogol, gan ddarparu gwir berl ar gyfer y gymuned leol.  

“Mae’n wych gweld bod y thema addysg yn parhau ar y safle gyda’r ystafell ddosbarth awyr agored ac rwy’n gobeithio y bydd nifer yn dysgu pa mor bwysig yw’r safle ar gyfer diogelu bioamrywiaeth.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr, disgyblion ac aelodau lleol sydd wedi gweithio ar safle Llanrhydd.  Mae eu hymrwymiad wedi’n galluogi i roi bioamrywiaeth wrth wraidd y gymuned a darparu safle cymunedol i fod yn falch ohono am genedlaethau i ddod. “

Agor canolbwynt gwefru cerbydau trydan y Rhyl

Mae canolbwynt gwefru cerbydau trydan yn y Rhyl bellach ar agor i yrwyr.

Mae’r safle maes parcio yng Ngorllewin Cinmel, y canolbwynt gwefru mwyaf yng Nghymru, bellach ar agor i berchnogion cerbydau trydan.

Mae agor y canolbwynt 36 cerbyd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn llwyddiant gosod pwyntiau gwefru ym maes parcio Kings Avenue ym Mhrestatyn yn yr haf.

Mae safle newydd y Rhyl yn gymysgedd o fannau gwefru 7kwh ‘cyflym’ ar gyfer defnyddwyr lleol sydd heb le i barcio oddi ar y stryd, a mannau gwefru 50kw ‘chwim’ ar gyfer gwefru’n gyflym ac i annog gyrwyr tacsis lleol i ddefnyddio cerbydau trydan drwy leihau’r amhariad i’w hamser gweithio.

Mae’r holl fannau gwefru yn y canolbwynt ar agor i’r cyhoedd.

Mae tri o’r mannau parcio ac unedau gwefru yn benodol ar gyfer defnyddwyr anabl.

Mae’r unedau gwefru hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau talu dwyieithog gan gynnwys, cerdyn digyswllt, ar Ap a Cherdyn RFID.

Bydd defnyddwyr yn ystod y dydd ac adegau prysur dal yn talu am le parcio ar y safle, fodd bynnag ni fydd rhaid talu am y mannau cerbydau trydan rhwng 17:00 a 08:00 yn unol â gweddill y maes parcio.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn o gael agor safle gwefru newydd yn y Rhyl a diolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd yr adnodd hwn yn helpu’r rhai yn yr ardal nad oes ganddynt le i barcio oddi ar y stryd ac eisiau symud at gael cerbyd trydan.

“Bydd ymwelwyr yn gallu gwefru eu cerbydau yma a fydd yna’n cefnogi cymuned fusnes y dref. Bydd hefyd yn dod yn adnodd defnyddiol i’r rhai sy’n teithio yn yr ardal sydd angen gwefru eu ceir, gan ddenu mwy o bobl i ddarganfod beth sydd gan y Rhyl a’r cymunedau cyfagos i’w gynnig.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm sydd wedi gwneud y safle hwn yn bosib, sy’n cynnwys  Cyngor Sir Ddinbych, Rhwydweithiau Ynni Scottish Power, SWARCO, A Parry Construction, MEGA Electrical ac O’Connor Utilities sydd i gyd wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu’r prosiect cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru mewn modd amserol ac effeithlon.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid