llais y sir

Prosiect e-feiciau yn hybu gostwng carbon

Mae staff y Cyngor yn cymryd rhan mewn prosiect pŵer pedlo i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae'r Cyngor ar y cyd â Sustrans yn rhoi’r cyfle i staff roi tro ar ddefnyddio e-feic yn hytrach na’u dull arferol o deithio.

Mae'r fenter yn rhan o gynllun benthyg E-Symud Sustrans, prosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd ar gael i breswylwyr y Rhyl a rhai o’r ardaloedd cyfagos.

Mae Sustrans yn gweithio i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi trafnidiaeth ac i annog unigolion a sefydliadau i leihau eu heffaith carbon wrth i staff gymudo ac o ganlyniad i filltiredd fflyd.

Fe ddatganodd y Cyngor Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i fod yn Gyngor Di-garbon Net ac yn fwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae rhan o’r ymgyrch i leihau allbwn carbon drwy’r Cyngor yn cynnwys annog gostwng nifer y cerbydau, sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil, a ddefnyddir at ddibenion gwaith a defnydd y cyhoedd.

Mae’r fenter e-feiciau’n parhau tan fis Ionawr, gan ganiatáu i aelodau staff sy’n cymryd rhan gael beic ar fenthyciad wythnosol. Mae’r cynllun yn caniatáu i’r rheiny sy’n cymryd rhan gymharu’r defnydd o e-feic ar gyfer cymudo a theithiau eraill gyda’u cerbyd arferol i weld a allant gwtogi eu defnydd o bŵer tanwydd ffosil.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yr ydym yn ddiolchgar i Sustrans am y cyfle hwn i gynorthwyo ein staff i ddeall y buddion gwyrdd y gall e-feic eu rhoi. Yr ydym yn gweithio tuag at leihau ein dibyniaeth ar bŵer tanwydd ffosil er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac mae cyflwyno elfennau mwy gwyrdd i deithio yn rhan bwysig o hyn.

“Byddwn hefyd yn annog unrhyw breswylydd yn ardal y Rhyl sydd â diddordeb i gymryd y cyfle o roi tro ar e-feic, er mwyn gweld a allai fod o gymorth i leihau eich ôl troed carbon a chostau dyddiol yn ymwneud â chludiant.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â benthyg beic at ddefnydd y cyhoedd, ewch i gwefan Sustrans.  

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid