llais y sir

Newyddion

Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Am yr holl wybodaeth am ein gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ewch i'n gwefan.

Cyngor yn annog ceidwaid adar i fod yn ymwybodol o ofynion newydd

Mae'r Cyngor yn annog pobl i fod yn ymwybodol bod gofynion gorfodol newydd mewn lle ar fannau cadw dofednod ac adar yng Nghymru.

O ddydd Gwener 2 Rhagfyr, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob ceidwad gadw eu hadar dan do neu wedi’u gwahanu fel arall oddi wrth adar gwyllt. Mae ceidwaid adar yn cael eu hannog i baratoi at y mesurau newydd, gan sicrhau bod eu cytiau’n addas a’u bod wedi’u gwella i helpu i warchod lles adar.

Dylai ceidwaid gysylltu â’u milfeddyg am gyngor lle bo angen ac maent yn cael eu hannog i gofrestru eu hadar gyda’r awdurdodau priodol.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r mesurau yma’n hanfodol bwysig i helpu i atal yr haint. Rydyn ni’n annog ceidwaid adar i ddarllen y canllawiau diweddaraf i gadw eu hadar nhw, ac eraill, yn ddiogel dros y gaeaf.

“Mae cofrestru eich adar yn hollbwysig, hyd yn oed os oes gennych chi ond llond llaw.”

Mae ffurflen hunanasesu y gall ceidwaid dofednod ei llenwi eu hunain i wirio beth sydd ganddyn nhw yn ei le a mae nhw ar gael yma

I gofrestru eich adar, ewch i wefan y Llywodraeth neu ffoniwch Linell Gymorth cofrestr Dofednod Prydain Fawr, ar 0800 634 1112.

I roi gwybod am adar marw a chael gwared arnynt, ffoniwch linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 os dewch o hyd i un neu fwy o adar ysglyfaethus neu dylluan farw; tri neu fwy o wylanod marw neu adar dŵr gwyllt (elyrch, gwyddau a hwyaid) neu bump neu fwy o adar marw o unrhyw fanylion.

Cysylltwch hefyd â llinell gymorth Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000. Cynghorir pobl i beidio â chyffwrdd na chodi unrhyw adar gwyllt marw neu sâl y maent yn dod o hyd iddynt. Dylid hysbysu'r RSPCA am unrhyw adar sâl neu anafus ar 0300 1234 999  fel y gallant gynnig cymorth.

Gofynnir i unrhyw un sy'n cadw dofednod neu adar hela gofrestru gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, er mwyn iddynt gael gwybod am unrhyw achosion o glefyd yn eu hardal. Byddant yn derbyn diweddariadau trwy e-bost neu neges destun, a fydd yn caniatáu iddynt amddiffyn eu praidd cyn gynted â phosibl. 

Diweddariad y Gronfa Ffyniant Bro

Fel rhan o Rownd 1 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, mae'r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Bwriedir y Gronfa Ffyniant Bro i fuddsoddi mewn isadeiledd sy’n gwella bywyd bob dydd ar draws y DU. Mae’r gronfa yn cefnogi adfywio canol tref a’r stryd fawr, prosiectau cludiant lleol ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Mae’r Gronfa Ffyniant Bro a ddyrannwyd i Sir Ddinbych yn £3.8miliwn a bydd o fudd i gymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

Mae yna nifer o brosiectau cyffrous yn cael eu darparu yn y cymunedau hyn, y byddwch yn dechrau gweld tystiolaeth ohonynt yn fuan yn 2023, a disgwylir cwblhau pob prosiect erbyn Mawrth 2024. 

Beth sy’n cael ei gynllunio?

Llangollen / Llantysilio

  • Gwella mynediad o amgylch Pedwar Priffordd hanesyddol (Camlas, Rheilffordd, Afon Dyfrdwy a’r A5)
  • Gwella profiad ymwelwyr ym Mhlas Newydd gan wella mynediad i amrywiol rannau o’r atyniad
  • Llwybrau mynediad yng ngwarchodfa natur Wenffrwd gan gynnwys cysylltu llwybr tynnu’r gamlas i’r warchodfa natur.   Mae un llwybr eisoes wedi’i gwblhau gan gysylltu’r warchodfa natur i’r ganolfan iechyd.   
  • Gwelliannau i brofiad ymwelwyr yn Rhaeadr y Bedol a mesurau i ddiogelu’r amgylchedd naturiol
Rhaeadr y Bedol

Corwen

  • Gosod canopi platfform i gwblhau’r Orsaf newydd yng Nghorwen, darperir gan Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen
  • Gwelliannau i ymddangosiad Stryd Fawr Corwen gan gynnwys adnewyddu meinciau, biniau a’r parth cyhoeddus ar hyd y stryd fawr. Hefyd wedi’i gynnwys mae gwaith adnewyddu allanol yn Llys Owain (yr hen fanc HSBC), bydd yr elfen hon yn cael ei darparu gan sefydliad menter gymdeithasol leol, Cadwyn Adfywio
  • Gwelliannau i Faes Parcio Lôn Las fydd yn cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac adfywio’r bloc toiledau
  • Llwybr teithio llesol 1 cilomedr o Lôn Las i fyny at yr A5.
Bloc toiledau yng Nghorwen

Rhannwch eich syniadau

Y Dull Ymgysylltu Pedwar Priffordd Gwych

Mae Burroughs a The Urbanists wedi eu penodi gan y Cyngor i ddatblygu dyluniad y Prosiect Pedwar Priffordd Gwych. Bydd y prosiect yn ceisio ailgysylltu rhannau allweddol o’r dref drwy amrywiol welliannau i’r parth cyhoeddus fel arwyddion gwell a dehongliad o’r dreftadaeth leol, cyfleoedd/profiadau chwarae naturiol, seddi a mynediad gwell i fannau i bawb. Y flaenoriaeth fydd gwella mynediad rhwng y Gamlas, Canol y Dref, Afon Dyfrdwy a’r Orsaf Reilffordd.

Oherwydd treftadaeth gyfoethog Llangollen, byddwn yn ceisio adborth gan ystod eang o’r gymuned leol, plant ysgol i fusnesau lleol, pobl ar draws y grwpiau oed o fewn y gymuned ac ymwelwyr hefyd.

Bydd dyddiadau a gwybodaeth allweddol ar sut y gallwch gymryd rhan yn cael eu rhannu ar wefan Sir Ddinbych a phosteri o fewn y gymuned ac yn edrych ar gysylltu ag ysgolion lleol, digwyddiadau cyhoeddus a gweithdai a dargedwyd, yn bersonol ac ar-lein, i roi cyfle i holl aelodau o’r gymuned i ddweud eu dweud. 

Am fwy o wybodaeth ar y prosiectau, ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/cronfa-codir-gwastad

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiectau Ffyniant Bro De Clwyd, gallwch gysylltu â codirgwastad@sirddinbych.gov.uk

Partneriaid yn dod at ei gilydd i nodi dechrau gwaith gwerth £12.2 miliwn yn Rhuthun

Daeth holl bartneriaid cynllun gwerth £12.2miliwn i ehangu tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn Llys Awelon, Rhuthun, at ei gilydd i dorri tywarchen i nodi dechrau’r gwaith.

Bu Prif Weithredwr Grŵp Cynefin Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr y Cyngor Graham Boase, Cyfarwyddwr Read Constructions Wiliam Jones, a swyddogion allweddol eraill sy’n ymwneud â’r prosiect uchelgeisiol, yn dathlu’r seremoni ar y safle ger canol tref Rhuthun.

Yn y llun: (blaen Ch/Dd) Graham Boase; Prif weithredwr y Cyngor; Wil Jones, Cyfarwyddwr Masnachol Read Construction a Shan Lloyd-Williams Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Cynefin. Credyd llun: Mandy Jones

Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r Llys Awelon presennol yn llwyr i greu cynllun modern, carbon isel, pwrpasol i gwrdd ag anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych. Bydd yn cynnig 35 o fflatiau un a dwy ystafell wely yn ychwanegol i’r 21 fflat presennol, o fewn adeilad pwrpasol gydag ardaloedd cymunedol megis gerddi, lolfeydd, bwyty a salon trin gwallt.

Mae'r prosiect yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â'r cyfleuster presennol, gan achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl i'r preswylwyr a'r staff, ac yn y pen draw, diweddaru'r cyfleuster hwnnw i'r un safon uchel, carbon isel.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng y Cyngor, Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru a chaiff ei gefnogi gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gyda chynlluniau yng Nghaergybi, Y Bala, Porthmadog, Dinbych a Rhuthun, mae Cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn cynnig ffordd annibynnol o fyw i drigolion, gyda chefnogaeth a gofal ychwanegol pe bai angen.

Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Rydym yn falch o allu gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i gynnig gwasanaeth o’r safon uchaf yn Llys Awelon, Rhuthun. Bydd yn adnodd modern a gwerthfawr i’r ardal. Mae Read Constructions wedi chwarae rhan o’r dechrau oherwydd cymhlethdod y prosiect ac mae’n profi i fod yn gydweithio cynhyrchiol, gyda’r holl dimau’n gweithio’n arbennig o dda i wireddu’r prosiect uchelgeisiol hwn.

“Mae prosiectau o’r fath yn dod â rhinweddau gorau Grŵp Cynefin at ei gilydd – arbenigedd mewn Tai Gofal Ychwanegol ac egwyddorion pwysig – arloesedd yn ein dulliau adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a thechnoleg i gyflawni carbon isel neu ddi-garbon, a’n gallu i ddod â phartneriaid ynghyd i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ac arloesol er budd ein cymunedau.”

Meddai y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Grŵp Cynefin ar brosiect mor bwysig â Llys Awelon, Rhuthun, i helpu a chefnogi trigolion Sir Ddinbych.

“Mae’n fraint wirioneddol nodi dechrau prosiect mor bwysig a buddiol a fydd yn cefnogi ein trigolion trwy roi’r modd iddynt fyw’n annibynnol a darparu tai o ansawdd uchel iddynt sy’n cwrdd ag ystod eang o anghenion.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith hwn wedi’i gwblhau a gweld y manteision a ddaw yn ei sgil i’n preswylwyr.”

Meddai Wiliam Jones, Cyfarwyddwr Read Constructions: “Fel cwmni o Ogledd Ddwyrain Cymru, mae Read yn falch iawn o fod wedi dechrau gweithio ar ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf ar gyfer Grŵp Cynefin. Mae’r ailddatblygiad gwerth £12m hwn o’u safle yn Llys Awelon yn Rhuthun â phwyslais lleol cryf gyda’r tîm dylunio lleol a phartneriaid cadwyn gyflenwi. Drwy gydol y cynllun, mae Read wedi ymrwymo i gefnogi’r dref leol a’r cymunedau cyfagos drwy ail-fuddsoddi’r bunt leol a chyfleoedd gwaith.”

 

Cadwch yn iach, cadwch yn gynnes y Gaeaf hwn

Gyda dyfodiad y gaeaf, rydym yn annog pobl i fod yn gymdogion da a chadw golwg ar yr henoed a phobl sy’n agored i niwed.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Cabinet Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydyn ni’n gofyn i bobl ofalu am y rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy gadw llygad arnyn nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn.

“Os oes gan bobl gymdogion, ffrindiau neu berthnasau sy'n wael, rydyn ni'n eu hannog i ymweld â nhw, gan ofalu bod ganddyn nhw bopeth maent ei angen a chynnig help gyda phethau fel siopa. Mae hi hefyd yn bwysig gweld a ydyn nhw’n bwyta’n iawn ac yn cadw eu cartref yn gynnes.

“Efallai mai chi fydd yr unig ymwelydd fydd ganddyn nhw, felly mae’n fater o fod yn glên ac ystyriol. Mae'r tywydd garw yn agosáu ac mae'n debygol o bara am ddeuddydd neu dri arall, felly rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo'n agored i niwed nac yn unig.

“Bydd dangos gofal a thrugaredd tuag at yr henoed neu bobl sy’n agored i niwed wir yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.”

“Mae’r neges hon yn ingol iawn yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig wrth i’r Nadolig agosáu, gall fod yn amser unig iawn i’r unigolion hynny sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Os ydych chi’n pryderu am unigolyn sy’n agored i niwed, ffoniwch y Tîm Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1000, neu’r Tîm Dyletswydd Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa ar 0345 0533116. 

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan.

 

Ymgyrch Gwnewch i Bobl Wenu yn parhau – ac mae arnom ni eisiau clywed gennych chi

Ydych chi erioed wedi ystyried gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi gweigion ym maes gofal cymdeithasol, yn enwedig yn ystod COVID pan gynyddodd y galw am ofal cymdeithasol.

Lansiwyd ymgyrch Gwnewch i Bobl Wenu yn gynharach eleni i godi proffil gyrfaoedd gofal cymdeithasol ac i hysbysebu swyddi gwag yn y sir.

Mae’n bosib eich bod chi wedi gweld ei hysbysebion ar gludiant cyhoeddus, baneri mewn lleoliadau cyhoeddus, hysbysebion ar y cyfryngau lleol, gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol a brandio ar rai o gerbydau’r Cyngor. Mae’r Cyngor hefyd wedi bod allan o gwmpas mewn digwyddiadau a lleoliadau amrywiol i gynnal sioeau teithiol a gweithdai recriwtio.

Ar ben hynny mae’r Cyngor wedi ailwampio ei wybodaeth ar ei wefan, ac wedi cynnwys astudiaethau achos a fideos i geisio annog mwy o bobl i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae adran Cwestiynau Cyffredin hefyd wedi’i chreu i ddarparu atebion i rai o’r cwestiynau a ofynnir yn aml.

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r ymgyrch yma’n ymwneud â gwerthu manteision gweithio i’r Cyngor a chychwyn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

“Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd yn anrhydedd ac mae ein timau yn gwneud i bobl wenu bob diwrnod. Mae helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl, a derbyn y gofal a’r gefnogaeth angenrheidiol mewn amrywiaeth o leoliadau yn eu DNA.

“Does dim angen cymwysterau bob tro ac mae yna ddigon o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau drwy’r gweithlu. Mae gan y Cyngor raglen o gefnogaeth i bob gweithiwr ac mae yna nifer o fanteision i weithio i’r Cyngor. Mae’r rhain yn cynnwys polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd a dull hyblyg ar gyfer patrymau sifft.

“Yr hyn sydd ei angen yn fwy na dim byd ydi’r gallu i wneud i bobl wenu, empathi a natur ofalgar. Bydd popeth arall yn syrthio i’w le.”

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb dilyn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ymweld â’r wefan: www.sirddinbych.gov.uk/swyddi-gofal.

Dechrau'n Deg

Mae Dechrau'n Deg Sir Ddinbych yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu teuluoedd mewn ardaloedd penodol o'r sir. 

Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:

  • gofal plant rhan-amser am ddim i blant rhwng 2 a 3 oed
  • help, cymorth a chyngor i rieni
  • cefnogaeth ychwanegol i blant ddysgu siarad a chyfathrebu
  • gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell

Yn Sir Ddinbych, mae Dechrau'n Deg ar gael mewn rhannau o'r Rhyl, Prestatyn a Dinbych ac o fis Medi 2022 ymlaen mae bellach ar gael yn Nwyrain y Rhyl a Dwyrain Prestatyn.

I weld a ydych chi'n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg, ewch i'n gwefan >>> Dechrau'n Deg | Cyngor Sir Ddinbych

Mae nhw hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol:

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid