llais y sir

Ymgyrch Gwnewch i Bobl Wenu yn parhau – ac mae arnom ni eisiau clywed gennych chi

Ydych chi erioed wedi ystyried gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi gweigion ym maes gofal cymdeithasol, yn enwedig yn ystod COVID pan gynyddodd y galw am ofal cymdeithasol.

Lansiwyd ymgyrch Gwnewch i Bobl Wenu yn gynharach eleni i godi proffil gyrfaoedd gofal cymdeithasol ac i hysbysebu swyddi gwag yn y sir.

Mae’n bosib eich bod chi wedi gweld ei hysbysebion ar gludiant cyhoeddus, baneri mewn lleoliadau cyhoeddus, hysbysebion ar y cyfryngau lleol, gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol a brandio ar rai o gerbydau’r Cyngor. Mae’r Cyngor hefyd wedi bod allan o gwmpas mewn digwyddiadau a lleoliadau amrywiol i gynnal sioeau teithiol a gweithdai recriwtio.

Ar ben hynny mae’r Cyngor wedi ailwampio ei wybodaeth ar ei wefan, ac wedi cynnwys astudiaethau achos a fideos i geisio annog mwy o bobl i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae adran Cwestiynau Cyffredin hefyd wedi’i chreu i ddarparu atebion i rai o’r cwestiynau a ofynnir yn aml.

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r ymgyrch yma’n ymwneud â gwerthu manteision gweithio i’r Cyngor a chychwyn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

“Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd yn anrhydedd ac mae ein timau yn gwneud i bobl wenu bob diwrnod. Mae helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl, a derbyn y gofal a’r gefnogaeth angenrheidiol mewn amrywiaeth o leoliadau yn eu DNA.

“Does dim angen cymwysterau bob tro ac mae yna ddigon o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau drwy’r gweithlu. Mae gan y Cyngor raglen o gefnogaeth i bob gweithiwr ac mae yna nifer o fanteision i weithio i’r Cyngor. Mae’r rhain yn cynnwys polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd a dull hyblyg ar gyfer patrymau sifft.

“Yr hyn sydd ei angen yn fwy na dim byd ydi’r gallu i wneud i bobl wenu, empathi a natur ofalgar. Bydd popeth arall yn syrthio i’w le.”

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb dilyn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ymweld â’r wefan: www.sirddinbych.gov.uk/swyddi-gofal.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid