Mae Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref y Rhyl, AGB y Rhyl, a Chadwch Gymru'n Daclus wedi cael peiriant cribo traeth a gaiff ei ddefnyddio i glirio sbwriel o draethau’r Rhyl.
Ym mis Mai derbyniodd traeth y Rhyl statws Gwobr Glan y Môr am flwyddyn arall, sef safon genedlaethol a roddir i’r traethau gorau yn y DU, gan ei wneud yn lle poblogaidd iawn gydag ymwelwyr.
Bydd y cribyn traeth newydd yn galluogi safon well o lanhau, gan adael traeth y Rhyl yn rhydd rhag sigaréts, plastig, gwydr a gweddillion eraill drwy gydol misoedd yr haf, gan ddiogelu harddwch naturiol yr ardal rhag tocsinau gwenwynig i sicrhau bod safon uchel o lanweithdra yn cael ei gynnal ar gyfer pobl leol a thwristiaid i fwynhau’r traeth yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch fod ein partneriaid wedi cydweithio er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, mae’n bwysig ein bod yn glanhau ein traethau rhag sbwriel gan gynnwys sigaréts oherwydd gallent lygru’r dŵr, achosi tanau a niweidio plant a’n bywyd gwyllt.”
“Diogelu ein cyhoedd a’r amgylchedd yw ein prif flaenoriaeth ac mae’r teclyn gwych hwn yn ein helpu ni i gynnal safonau uchel ar gyfer traeth y Rhyl dros fisoedd yr haf pan rydym yn derbyn niferoedd uchel o ymwelwyr.”
Dywedodd Gareth Jones, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus: “Roeddem yn gyffrous i allu cefnogi Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref y Rhyl ac AGB y Rhyl i brynu’r peiriant hwn, bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ardal arfordirol boblogaidd hon yn y Rhyl”
“Mae ein prosiect Caru Cymru yn ymwneud â dileu sbwriel a gwastraff ac mae hwn yn esiampl berffaith o ardal leol yn gweithredu er mwyn gofalu am eu hamgylchedd lleol a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Maer y Rhyl a’r Cynghorydd Mrs Diane King: “Un o brif atyniadau’r Rhyl yw ei draeth tywod eang.”
“Bydd y cribyn traeth o’r radd flaenaf yn darparu ffordd effeithiol a hyfedrus o gynnal a chadw traeth y Rhyl yn rheolaidd, ac mae Cyngor Tref y Rhyl wedi ymrwymo ac yn falch o gefnogi hyn ar y cyd â chyfranwyr eraill, fel y gall bawb fwynhau’r traeth ar ei orau.”
Bydd y cribyn traeth yn gweithredu yn gynnar yn y bore os fydd y llanw’n caniatáu hynny, trwy gydol tymor yr haf er mwyn sicrhau na fydd gormod o ymyrraeth i ddefnyddwyr y traeth.
Dywedodd Nadeem Ahmed, Cadeirydd Ardal Gwella Busnes y Rhyl: “Rydym yn croesawu’r cyfle i gyfrannu tuag at brynu’r cribyn traeth a fydd yn cyd-fynd â’r gwaith gwych sy’n digwydd eisoes i gadw traeth y Rhyl yn daclus gan grwpiau cymuned gwirfoddol, megis Surfers Against Sewage, gyda’u sesiynau glanhau traeth rheolaidd.”
“Bydd defnydd rheolaidd o’r Cribyn Traeth yn sicrhau traeth deniadol, mwy diogel, wedi’i lanhau i’r safonau uchaf. Bydd hyn yn ei dro, yn annog ymwelwyr i ddychwelyd a chryfhau ein masnach twristiaeth.
Yn ogystal â’r cribyn traeth, mae’r adran Gwasanaethau Stryd gyda chyfraniadau gan bartneriaid allweddol, wedi prynu certi casglu gwastraff trydan a fydd yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd poblogaidd i gerddwyr i gario gwastraff lle mae cerbydau traddodiadol yn cael anawsterau, yn ystod cyfnodau prysur ac yn ystod digwyddiadau megis Sioe Awyr y Rhyl. Rydym hefyd wedi ariannu glanhawr stryd Glutton trydan a ddefnyddir yn ardal canol tref y Rhyl.