llais y sir

Newyddion

Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Am yr holl wybodaeth am ein gwasanaethau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ewch i'n gwefan.

Cyngor yn annog ceidwaid adar i fod yn ymwybodol o ofynion newydd

Mae'r Cyngor yn annog pobl i fod yn ymwybodol bod gofynion gorfodol newydd mewn lle ar fannau cadw dofednod ac adar yng Nghymru.

O ddydd Gwener 2 Rhagfyr, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob ceidwad gadw eu hadar dan do neu wedi’u gwahanu fel arall oddi wrth adar gwyllt. Mae ceidwaid adar yn cael eu hannog i baratoi at y mesurau newydd, gan sicrhau bod eu cytiau’n addas a’u bod wedi’u gwella i helpu i warchod lles adar.

Dylai ceidwaid gysylltu â’u milfeddyg am gyngor lle bo angen ac maent yn cael eu hannog i gofrestru eu hadar gyda’r awdurdodau priodol.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae’r mesurau yma’n hanfodol bwysig i helpu i atal yr haint. Rydyn ni’n annog ceidwaid adar i ddarllen y canllawiau diweddaraf i gadw eu hadar nhw, ac eraill, yn ddiogel dros y gaeaf.

“Mae cofrestru eich adar yn hollbwysig, hyd yn oed os oes gennych chi ond llond llaw.”

Mae ffurflen hunanasesu y gall ceidwaid dofednod ei llenwi eu hunain i wirio beth sydd ganddyn nhw yn ei le a mae nhw ar gael yma

I gofrestru eich adar, ewch i wefan y Llywodraeth neu ffoniwch Linell Gymorth cofrestr Dofednod Prydain Fawr, ar 0800 634 1112.

I roi gwybod am adar marw a chael gwared arnynt, ffoniwch linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 os dewch o hyd i un neu fwy o adar ysglyfaethus neu dylluan farw; tri neu fwy o wylanod marw neu adar dŵr gwyllt (elyrch, gwyddau a hwyaid) neu bump neu fwy o adar marw o unrhyw fanylion.

Cysylltwch hefyd â llinell gymorth Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000. Cynghorir pobl i beidio â chyffwrdd na chodi unrhyw adar gwyllt marw neu sâl y maent yn dod o hyd iddynt. Dylid hysbysu'r RSPCA am unrhyw adar sâl neu anafus ar 0300 1234 999  fel y gallant gynnig cymorth.

Gofynnir i unrhyw un sy'n cadw dofednod neu adar hela gofrestru gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, er mwyn iddynt gael gwybod am unrhyw achosion o glefyd yn eu hardal. Byddant yn derbyn diweddariadau trwy e-bost neu neges destun, a fydd yn caniatáu iddynt amddiffyn eu praidd cyn gynted â phosibl. 

Diweddariad y Gronfa Ffyniant Bro

Fel rhan o Rownd 1 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, mae'r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Bwriedir y Gronfa Ffyniant Bro i fuddsoddi mewn isadeiledd sy’n gwella bywyd bob dydd ar draws y DU. Mae’r gronfa yn cefnogi adfywio canol tref a’r stryd fawr, prosiectau cludiant lleol ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Mae’r Gronfa Ffyniant Bro a ddyrannwyd i Sir Ddinbych yn £3.8miliwn a bydd o fudd i gymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

Mae yna nifer o brosiectau cyffrous yn cael eu darparu yn y cymunedau hyn, y byddwch yn dechrau gweld tystiolaeth ohonynt yn fuan yn 2023, a disgwylir cwblhau pob prosiect erbyn Mawrth 2024. 

Beth sy’n cael ei gynllunio?

Llangollen / Llantysilio

  • Gwella mynediad o amgylch Pedwar Priffordd hanesyddol (Camlas, Rheilffordd, Afon Dyfrdwy a’r A5)
  • Gwella profiad ymwelwyr ym Mhlas Newydd gan wella mynediad i amrywiol rannau o’r atyniad
  • Llwybrau mynediad yng ngwarchodfa natur Wenffrwd gan gynnwys cysylltu llwybr tynnu’r gamlas i’r warchodfa natur.   Mae un llwybr eisoes wedi’i gwblhau gan gysylltu’r warchodfa natur i’r ganolfan iechyd.   
  • Gwelliannau i brofiad ymwelwyr yn Rhaeadr y Bedol a mesurau i ddiogelu’r amgylchedd naturiol
Rhaeadr y Bedol

Corwen

  • Gosod canopi platfform i gwblhau’r Orsaf newydd yng Nghorwen, darperir gan Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen
  • Gwelliannau i ymddangosiad Stryd Fawr Corwen gan gynnwys adnewyddu meinciau, biniau a’r parth cyhoeddus ar hyd y stryd fawr. Hefyd wedi’i gynnwys mae gwaith adnewyddu allanol yn Llys Owain (yr hen fanc HSBC), bydd yr elfen hon yn cael ei darparu gan sefydliad menter gymdeithasol leol, Cadwyn Adfywio
  • Gwelliannau i Faes Parcio Lôn Las fydd yn cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac adfywio’r bloc toiledau
  • Llwybr teithio llesol 1 cilomedr o Lôn Las i fyny at yr A5.
Bloc toiledau yng Nghorwen

Rhannwch eich syniadau

Y Dull Ymgysylltu Pedwar Priffordd Gwych

Mae Burroughs a The Urbanists wedi eu penodi gan y Cyngor i ddatblygu dyluniad y Prosiect Pedwar Priffordd Gwych. Bydd y prosiect yn ceisio ailgysylltu rhannau allweddol o’r dref drwy amrywiol welliannau i’r parth cyhoeddus fel arwyddion gwell a dehongliad o’r dreftadaeth leol, cyfleoedd/profiadau chwarae naturiol, seddi a mynediad gwell i fannau i bawb. Y flaenoriaeth fydd gwella mynediad rhwng y Gamlas, Canol y Dref, Afon Dyfrdwy a’r Orsaf Reilffordd.

Oherwydd treftadaeth gyfoethog Llangollen, byddwn yn ceisio adborth gan ystod eang o’r gymuned leol, plant ysgol i fusnesau lleol, pobl ar draws y grwpiau oed o fewn y gymuned ac ymwelwyr hefyd.

Bydd dyddiadau a gwybodaeth allweddol ar sut y gallwch gymryd rhan yn cael eu rhannu ar wefan Sir Ddinbych a phosteri o fewn y gymuned ac yn edrych ar gysylltu ag ysgolion lleol, digwyddiadau cyhoeddus a gweithdai a dargedwyd, yn bersonol ac ar-lein, i roi cyfle i holl aelodau o’r gymuned i ddweud eu dweud. 

Am fwy o wybodaeth ar y prosiectau, ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/cronfa-codir-gwastad

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiectau Ffyniant Bro De Clwyd, gallwch gysylltu â codirgwastad@sirddinbych.gov.uk

Partneriaid yn dod at ei gilydd i nodi dechrau gwaith gwerth £12.2 miliwn yn Rhuthun

Daeth holl bartneriaid cynllun gwerth £12.2miliwn i ehangu tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn Llys Awelon, Rhuthun, at ei gilydd i dorri tywarchen i nodi dechrau’r gwaith.

Bu Prif Weithredwr Grŵp Cynefin Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr y Cyngor Graham Boase, Cyfarwyddwr Read Constructions Wiliam Jones, a swyddogion allweddol eraill sy’n ymwneud â’r prosiect uchelgeisiol, yn dathlu’r seremoni ar y safle ger canol tref Rhuthun.

Yn y llun: (blaen Ch/Dd) Graham Boase; Prif weithredwr y Cyngor; Wil Jones, Cyfarwyddwr Masnachol Read Construction a Shan Lloyd-Williams Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Cynefin. Credyd llun: Mandy Jones

Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r Llys Awelon presennol yn llwyr i greu cynllun modern, carbon isel, pwrpasol i gwrdd ag anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych. Bydd yn cynnig 35 o fflatiau un a dwy ystafell wely yn ychwanegol i’r 21 fflat presennol, o fewn adeilad pwrpasol gydag ardaloedd cymunedol megis gerddi, lolfeydd, bwyty a salon trin gwallt.

Mae'r prosiect yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â'r cyfleuster presennol, gan achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl i'r preswylwyr a'r staff, ac yn y pen draw, diweddaru'r cyfleuster hwnnw i'r un safon uchel, carbon isel.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng y Cyngor, Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru a chaiff ei gefnogi gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Gyda chynlluniau yng Nghaergybi, Y Bala, Porthmadog, Dinbych a Rhuthun, mae Cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn cynnig ffordd annibynnol o fyw i drigolion, gyda chefnogaeth a gofal ychwanegol pe bai angen.

Meddai Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Rydym yn falch o allu gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i gynnig gwasanaeth o’r safon uchaf yn Llys Awelon, Rhuthun. Bydd yn adnodd modern a gwerthfawr i’r ardal. Mae Read Constructions wedi chwarae rhan o’r dechrau oherwydd cymhlethdod y prosiect ac mae’n profi i fod yn gydweithio cynhyrchiol, gyda’r holl dimau’n gweithio’n arbennig o dda i wireddu’r prosiect uchelgeisiol hwn.

“Mae prosiectau o’r fath yn dod â rhinweddau gorau Grŵp Cynefin at ei gilydd – arbenigedd mewn Tai Gofal Ychwanegol ac egwyddorion pwysig – arloesedd yn ein dulliau adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a thechnoleg i gyflawni carbon isel neu ddi-garbon, a’n gallu i ddod â phartneriaid ynghyd i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ac arloesol er budd ein cymunedau.”

Meddai y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Grŵp Cynefin ar brosiect mor bwysig â Llys Awelon, Rhuthun, i helpu a chefnogi trigolion Sir Ddinbych.

“Mae’n fraint wirioneddol nodi dechrau prosiect mor bwysig a buddiol a fydd yn cefnogi ein trigolion trwy roi’r modd iddynt fyw’n annibynnol a darparu tai o ansawdd uchel iddynt sy’n cwrdd ag ystod eang o anghenion.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith hwn wedi’i gwblhau a gweld y manteision a ddaw yn ei sgil i’n preswylwyr.”

Meddai Wiliam Jones, Cyfarwyddwr Read Constructions: “Fel cwmni o Ogledd Ddwyrain Cymru, mae Read yn falch iawn o fod wedi dechrau gweithio ar ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf ar gyfer Grŵp Cynefin. Mae’r ailddatblygiad gwerth £12m hwn o’u safle yn Llys Awelon yn Rhuthun â phwyslais lleol cryf gyda’r tîm dylunio lleol a phartneriaid cadwyn gyflenwi. Drwy gydol y cynllun, mae Read wedi ymrwymo i gefnogi’r dref leol a’r cymunedau cyfagos drwy ail-fuddsoddi’r bunt leol a chyfleoedd gwaith.”

 

Cadwch yn iach, cadwch yn gynnes y Gaeaf hwn

Gyda dyfodiad y gaeaf, rydym yn annog pobl i fod yn gymdogion da a chadw golwg ar yr henoed a phobl sy’n agored i niwed.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Cabinet Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydyn ni’n gofyn i bobl ofalu am y rhai sydd fwyaf agored i niwed drwy gadw llygad arnyn nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn.

“Os oes gan bobl gymdogion, ffrindiau neu berthnasau sy'n wael, rydyn ni'n eu hannog i ymweld â nhw, gan ofalu bod ganddyn nhw bopeth maent ei angen a chynnig help gyda phethau fel siopa. Mae hi hefyd yn bwysig gweld a ydyn nhw’n bwyta’n iawn ac yn cadw eu cartref yn gynnes.

“Efallai mai chi fydd yr unig ymwelydd fydd ganddyn nhw, felly mae’n fater o fod yn glên ac ystyriol. Mae'r tywydd garw yn agosáu ac mae'n debygol o bara am ddeuddydd neu dri arall, felly rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo'n agored i niwed nac yn unig.

“Bydd dangos gofal a thrugaredd tuag at yr henoed neu bobl sy’n agored i niwed wir yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.”

“Mae’r neges hon yn ingol iawn yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig wrth i’r Nadolig agosáu, gall fod yn amser unig iawn i’r unigolion hynny sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Os ydych chi’n pryderu am unigolyn sy’n agored i niwed, ffoniwch y Tîm Un Pwynt Mynediad ar 0300 456 1000, neu’r Tîm Dyletswydd Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa ar 0345 0533116. 

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan.

 

Ymgyrch Gwnewch i Bobl Wenu yn parhau – ac mae arnom ni eisiau clywed gennych chi

Ydych chi erioed wedi ystyried gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych?

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r Cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer y swyddi gweigion ym maes gofal cymdeithasol, yn enwedig yn ystod COVID pan gynyddodd y galw am ofal cymdeithasol.

Lansiwyd ymgyrch Gwnewch i Bobl Wenu yn gynharach eleni i godi proffil gyrfaoedd gofal cymdeithasol ac i hysbysebu swyddi gwag yn y sir.

Mae’n bosib eich bod chi wedi gweld ei hysbysebion ar gludiant cyhoeddus, baneri mewn lleoliadau cyhoeddus, hysbysebion ar y cyfryngau lleol, gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol a brandio ar rai o gerbydau’r Cyngor. Mae’r Cyngor hefyd wedi bod allan o gwmpas mewn digwyddiadau a lleoliadau amrywiol i gynnal sioeau teithiol a gweithdai recriwtio.

Ar ben hynny mae’r Cyngor wedi ailwampio ei wybodaeth ar ei wefan, ac wedi cynnwys astudiaethau achos a fideos i geisio annog mwy o bobl i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae adran Cwestiynau Cyffredin hefyd wedi’i chreu i ddarparu atebion i rai o’r cwestiynau a ofynnir yn aml.

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r ymgyrch yma’n ymwneud â gwerthu manteision gweithio i’r Cyngor a chychwyn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

“Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd yn anrhydedd ac mae ein timau yn gwneud i bobl wenu bob diwrnod. Mae helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl, a derbyn y gofal a’r gefnogaeth angenrheidiol mewn amrywiaeth o leoliadau yn eu DNA.

“Does dim angen cymwysterau bob tro ac mae yna ddigon o gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau drwy’r gweithlu. Mae gan y Cyngor raglen o gefnogaeth i bob gweithiwr ac mae yna nifer o fanteision i weithio i’r Cyngor. Mae’r rhain yn cynnwys polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd a dull hyblyg ar gyfer patrymau sifft.

“Yr hyn sydd ei angen yn fwy na dim byd ydi’r gallu i wneud i bobl wenu, empathi a natur ofalgar. Bydd popeth arall yn syrthio i’w le.”

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb dilyn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ymweld â’r wefan: www.sirddinbych.gov.uk/swyddi-gofal.

Dechrau'n Deg

Mae Dechrau'n Deg Sir Ddinbych yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu teuluoedd mewn ardaloedd penodol o'r sir. 

Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:

  • gofal plant rhan-amser am ddim i blant rhwng 2 a 3 oed
  • help, cymorth a chyngor i rieni
  • cefnogaeth ychwanegol i blant ddysgu siarad a chyfathrebu
  • gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell

Yn Sir Ddinbych, mae Dechrau'n Deg ar gael mewn rhannau o'r Rhyl, Prestatyn a Dinbych ac o fis Medi 2022 ymlaen mae bellach ar gael yn Nwyrain y Rhyl a Dwyrain Prestatyn.

I weld a ydych chi'n gymwys ar gyfer rhaglen Dechrau'n Deg, ewch i'n gwefan >>> Dechrau'n Deg | Cyngor Sir Ddinbych

Mae nhw hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol:

Gwastraff ac Ailgylchu

Ydych chi'n gwybod beth a sut i ailgylchu?

Ydych chi’n gwybod sut i ailgylchu eich hen feic, neu sut i gael gwared ar eich llenni rholer?

Mae'r Cyngor wedi lansio Canllaw Ailgylchu defnyddiol i’ch helpu chi ailgylchu cymaint â gallwch chi a chael gwared ar eich gwastraff yn ddiogel.

Mae’r canllaw sy’n hawdd ei ddefnyddio, yn cynnwys gwybodaeth yn nhrefn yr wyddor ar sut i ailgylchu neu gael gwared ar bron i bob eitem y gallwch feddwl amdanynt yn ddiogel.

Rydym yn taflu pob mathau o eitemau o’n cartrefi bob diwrnod, ac mae nifer o’r pethau hyn sy’n cael eu taflu i’r bin yn gallu cael eu hailgylchu, megis dillad ac eitemau trydanol. Mae’r unigolyn cyffredin yn creu oddeutu 7 gwaith eu pwysau mewn gwastraff bob blwyddyn, felly mae’n bwysig bod y gwastraff hwn yn cael ei ailgylchu cymaint â phosibl.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r canllaw hwn yn hawdd ei ddefnyddio ac yn darparu gwybodaeth wych ar sut i ailgylchu neu gael gwared ar bron i unrhyw wastraff cartref y gallwch feddwl amdanynt. 

Mae hyn yn ein helpu ni i greu Sir Ddinbych mwy gwyrdd ac yn ein helpu i egluro unrhyw ddryswch o ran ailgylchu rhai o’r eitemau mwyaf cymhleth”.

Llyfrgelloedd a Siop Un Alwad

Dim mwy o ddirwyon yn llyfrgelloedd y sir

Mae gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych wedi cyhoeddi ei fod yn dileu dirwyon llyfrau lyfrgell traddodiadol - a bydd yn lansio menter i annog mwy o bobl i ymweld â’u llyfrgell leol.

Gwnaed y cyhoeddiad am y dirwyon i gyd-fynd ag Wythnos Llyfrgelloedd Cenedlaethol 2022 lle roedd canolbwynt ar bobl yn defnyddio eu llyfrgelloedd i barhau dysgu gydol oes.

Mae holl ddirwyon hanesyddol wedi cael eu canslo a gall ddefnyddwyr y llyfrgell sydd â llyfrau yn eu cartref sydd tu hwnt i’w dyddiadau dychwelyd, ddod â nhw yn ôl i’w llyfrgell leol heb orfod poeni.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Cabinet Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae cael gwared â’n system dirwyon yn sicr y ffordd ymlaen. Mae’n hen system sydd wedi dyddio ac ystyrir ei fod yn rhwystr arwyddocaol i ddefnyddio’r llyfrgell. Mae hyn yn cael effaith ar bobl i allu cael mynediad am ddim i adnoddau a chyfleusterau i gefnogi eu llythrennedd, dysgeidiaeth, sgiliau a lles.

“Rŵan bod gwasanaethau wedi dychwelyd yn ôl i’r arfer yn dilyn Covid, mae wedi rhoi cyfle gwych i ni ail-adeiladu’r cynnig llyfrgell yn bersonol gan annog pobl i ymweld a defnyddio eu llyfrgell leol a’i ystod eang o wasanaethau.

“Mae dirwyon yn rhywbeth o’r gorffennol a gall bobl ddychwelyd llyfrau heb boeni, yn arbennig yn yr hinsawdd bresennol o ran costau byw. Bydd ein timoedd yn y llyfrgelloedd yn falch o weld mwy o bobl yn dod drwy’r drysau i gael mynediad at gyfoeth o wybodaeth a digwyddiadau am ddim sydd ar gael iddynt.”

Bydd taliadau am eitem newydd yn parhau am eitemau na chânt eu dychwelyd. Mae'r rhain yn wahanol i ddirwyon a chânt eu codi pan na chaiff eitem ei dychwelyd, ei cholli neu ei difrodi gan y benthyciwr.

Ewch i'n gwefan i ddarganfod mwy am yr holl wasanaethau a gwasanaethau mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn ei gynnig drwy gydol y flwyddyn i ymgysylltu â’n cymuned amrywiol. I dderbyn y newyddion diweddaraf, dilynwch @DenbsLibs a Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ar Facebook ac Instagram.

Dyma'r Cynghorydd Emrys Wynne yn egluro’r penderfyniad ...

Twristiaeth

Canolfan Gwybodaeth Llangollen

Ydych chi'n chwilio am anrhegion Nadolig sydd wedi eu gwneud yn lleol?

Galwch draw i Ganolfan Wybodaeth Llangollen i bori trwy'r dewis gwych o anrhegion Cymreig.

 

Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae rhiant sengl yn sicrhau gwaith mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol

Mae ‘H’ yn rhiant sengl i ddau o blant ifanc. Cafodd ei rhoi mewn cysylltiad â Chymunedau am Waith a Mwy i gael cefnogaeth i’w helpu hi i symud tuag at gael gwaith.   Roedd hi hefyd yn awyddus i gwblhau ychydig o hyfforddiant i helpu i gryfhau ei CV a cheisiadau am swyddi yn y dyfodol.   Mae H yn unigolyn ifanc a chwrtais iawn sydd wedi bod yn bleser ei chefnogi. Mae hi wedi cadw mewn cysylltiad bob amser ac wedi dod i apwyntiadau ar amser.

Mynegodd H ei hawydd o gael gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol oherwydd ei bod hi’n teimlo mai dyma ble mae ei chryfderau a’i thosturi.  Roedd Tom yn gallu cynorthwyo H i wneud cais ar gyfer rhaglen Camu mewn i Waith y GIG (Cylchoedd Mentora) sy’n cynnwys sesiynau grŵp ar-lein a gaiff eu cyflwyno drwy MS Teams, ac yna ymgymryd â phrofiad gwaith mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lleol.  Trefnodd Tom bod H yn cael benthyg gliniadur Chromebook er mwyn iddi allu bod yn bresennol yn y sesiynau, oherwydd heb y gliniadur ni fyddai hi wedi gallu gwneud hynny. Tua’r un amser roedd H hefyd wedi cofrestru ar gwrs hyfforddi symud a chodi pobl ar-lein i roi gwybodaeth a dealltwriaeth iddi o hyn fel ei bod hi’n gallu ei wneud yn gywir pan fo angen mewn swydd.

Roedd H yn rhagweithiol iawn ei hun a chwblhaodd dros 20 o dystysgrifau ar-lein yn ei hamser rhydd ar ôl i’w phlant fynd i’r gwely, a buodd mor garedig â rhoi copïau o’r tystysgrifau hyn i Tom.

Rai wythnosau’n ddiweddarach rhoddodd Tom wybod i H am raglen ‘Get Into Social Care’ Ymddiriedolaeth y Tywysog a oedd hefyd i fod i gael ei chyflwyno dros MS Teams.  Manteisiodd H ar y cyfle o gael cynnig lle ar y rhaglen hon, a mynychodd hi drwy ddefnyddio’r Chromebook. Cyn bo hir bydd H’n ymgymryd â gwaith banc gyda’r GIG yn rhan o raglen Cylchoedd Mentora mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n debygol o fod yn Ysbyty Glan Clwyd neu leoliad yn y gymuned.

Cafodd H gymorth i gael ffôn newydd gan fod ei ffôn ei hun yn hen iawn ac nid oedd apiau’n fodlon llwytho ar y sgrin, ac ni fyddai’n canu’n aml. Felly, prynwyd ffôn newydd iddi a oedd yn golygu y gallai ddychwelyd y Chromebook ar ôl deufis ac mae hi bellach yn gallu defnyddio’r ffôn ar gyfer llawer o bethau na allai ei wneud cyn hynny. Nid oedd hi’n gallu fforddio prynu ffôn newydd.

Ddechrau mis Medi, ymgeisiodd H am swydd (drwy ei ffôn newydd) gyda siop The Range yn y Rhyl. Aeth H i gyfweliad ddydd Gwener 2 Medi a chafodd gynnig swydd yno am 20 awr yr wythnos am 3 mis, ac yna ar ôl 3 mis y gobaith yw y gallai efallai weithio’n llawn amser. Mae hyn yn golygu y dylai hi allu cwblhau ei phrofiad gwaith banc gyda Chylchoedd Mentora’r GIG hefyd.

Yn garedig iawn, rhannodd H y canlynol - “Mae’r prosiect Cymunedau am Waith a Mwy wedi fy helpu i’n enfawr! Roeddwn i dan straen a phwysau ac yn ansicr o ba yrfa yr oeddwn i eisiau ei dilyn pan ddechreuais i. Roedd yn syml ers cysylltu â nhw fod gen i gefnogaeth gan un o’r hyfforddwyr gwaith, Tom, sydd wedi bod yn anhygoel o ran gwneud i mi deimlo’n gyfforddus i fynegi fy newisiadau gyrfa heb feirniadaeth.  Roeddwn i wedi cofrestru ar Raglen Cylchoedd Mentora’r GIG ac roedd fy ffôn yn hen iawn ac nid oeddwn yn gallu prynu un newydd. Helpodd y prosiect yn syth ac roeddwn i’n gallu cael ffôn newydd sbon a pharhau â fy nghwrs GIG. Rydw i wedi ennill dros 30 o dystysgrifau bellach pan ddechreuais heb unrhyw un.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi bod yn gymaint o help i mi o ran fy nghadw i’n brysur a fy helpu i gyrraedd ble yr ydw i nawr, drwy fenthyg gliniadur i mi er mwyn i mi allu cwblhau fy nghyrsiau ar-lein. Ni fyddwn wedi gallu fforddio bod ble yr ydw i nawr na bod â’r hyder sydd gen i oni bai am y prosiect.  Rydw i bellach yn gweithio’n rhan amser mewn swydd yr ydw i’n teimlo’n fwyaf hyderus tra fy mod hefyd yn gwneud gwaith banc yn ysbyty Glan Clwyd sydd â hyfforddiant yn dal i fynd rhagddo. A byddwn yn awgrymu’n fawr i unrhyw un sydd efallai’n teimlo’n ansicr o ran ble i fynd nesaf pan fo gennych chi blant neu am unrhyw reswm arall, i gysylltu.”

Ffair swyddi yn cefnogi cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc

Daeth bron 30 o arddangoswyr at ei gilydd yn ddiweddar i gefnogi help cyflogaeth i bobl ifanc.

Yn Ffair Gyrfaoedd Sir Ddinbych yn Gweithio a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref y Rhyl, cafodd bron 100 o breswylwyr ifanc 16 oed a hŷn gyngor a help gwerthfawr am gyflogaeth.

Yn y digwyddiad, roedd yr arddangoswyr yn cynnwys amrywiaeth o gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, darparwyr addysg a gwasanaethau cefnogaeth.

Roedd modd dysgu am gyfleoedd gwaith ym maes Gweinyddu a Chyllid, Adeiladu, Addysg, Peirianneg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gyrru a Logisteg, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gofal Plant, Tecstiliau, Tai, Gweithgynhyrchu, Gemau a Digidol. Roedd y rhai a oedd yn ystyried bod yn hunangyflogedig yn gallu cael cyngor yn y digwyddiad hefyd.

Roedd cyfle i ddarganfod elfennau rhyngweithiol y digwyddiad hefyd, a oedd yn cynnwys Fan Gemau, lle’r oedd cyfle i bobl roi cynnig ar rai o’r gemau diweddaraf. Roedd cerbydau’r Gwasanaethau Brys wedi’u parcio y tu allan er mwyn i bobl eu gweld hefyd.

Mae’r Digwyddiad Gyrfaoedd hwn yn rhan o raglen Sir Ddinbych yn Gweithio, a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi Pobl Ifanc sy’n byw yn Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant a chymorth i gael gwaith neu i fod yn hunangyflogedig.

Ariannwyd y digwyddiad gyrfaoedd hwn drwy’r Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, a gaiff ei ddarparu’n rhannol drwy’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy sy’n helpu’r bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith drwy gynnig cymorth a chefnogaeth un i un. Mae Cymunedau am Waith a Mwy’n rhan o raglen Sir Ddinbych yn Gweithio, a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi Pobl Ifanc sy’n byw yn y sir, gyda chefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant a chymorth i gael gwaith neu i fod yn hunangyflogedig.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, “Roeddwn wrth fy modd o fynychu’r digwyddiad hwn a gweld amrywiaeth mor wych o gefnogaeth a chyngor cyflogaeth sydd ar gael i bawb a ddaeth trwy’r drws.

“Rwy’n falch iawn o weld Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cymorth i’n preswylwyr iau yn ystod cyfnod mor anodd. Rydym yn hynod o falch o gael y gwasanaeth hwn, sy’n ceisio trechu tlodi trwy gyflogaeth.

“Dyma’r holl syniad y tu ôl i Sir Ddinbych yn Gweithio - helpu pobl. “Wrth i gostau byw gynyddu, mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu’r gefnogaeth hon am ddim lle bo’n bosibl, er mwyn helpu pobl iau i ganfod y gyflogaeth orau i weddu iddyn nhw.”

Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan neu i gael cefnogaeth cyflogaeth, ewch i working.denbighshire.gov.uk/.

Canolbwynt Cyflogaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio

Canolbwynt Cyflogaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio

Pob dydd Llun rhwng 10.30am a 4.00pm

yn

Llyfrgell Rhyl

Os ydych rhwng 16 a 24 oed, dewch draw i Ganolbwynt Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio; y lle i ddod am wybodaeth, offer, cyngor a chymorth am gyflogaeth, gyrfaeoedd, lles a llawer mwy.

01745 331438 / 07342 070635

Newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth

Prosiect e-feiciau yn hybu gostwng carbon

Mae staff y Cyngor yn cymryd rhan mewn prosiect pŵer pedlo i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae'r Cyngor ar y cyd â Sustrans yn rhoi’r cyfle i staff roi tro ar ddefnyddio e-feic yn hytrach na’u dull arferol o deithio.

Mae'r fenter yn rhan o gynllun benthyg E-Symud Sustrans, prosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd ar gael i breswylwyr y Rhyl a rhai o’r ardaloedd cyfagos.

Mae Sustrans yn gweithio i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi trafnidiaeth ac i annog unigolion a sefydliadau i leihau eu heffaith carbon wrth i staff gymudo ac o ganlyniad i filltiredd fflyd.

Fe ddatganodd y Cyngor Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 ac mae wedi ymrwymo i fod yn Gyngor Di-garbon Net ac yn fwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae rhan o’r ymgyrch i leihau allbwn carbon drwy’r Cyngor yn cynnwys annog gostwng nifer y cerbydau, sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil, a ddefnyddir at ddibenion gwaith a defnydd y cyhoedd.

Mae’r fenter e-feiciau’n parhau tan fis Ionawr, gan ganiatáu i aelodau staff sy’n cymryd rhan gael beic ar fenthyciad wythnosol. Mae’r cynllun yn caniatáu i’r rheiny sy’n cymryd rhan gymharu’r defnydd o e-feic ar gyfer cymudo a theithiau eraill gyda’u cerbyd arferol i weld a allant gwtogi eu defnydd o bŵer tanwydd ffosil.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Yr ydym yn ddiolchgar i Sustrans am y cyfle hwn i gynorthwyo ein staff i ddeall y buddion gwyrdd y gall e-feic eu rhoi. Yr ydym yn gweithio tuag at leihau ein dibyniaeth ar bŵer tanwydd ffosil er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ac mae cyflwyno elfennau mwy gwyrdd i deithio yn rhan bwysig o hyn.

“Byddwn hefyd yn annog unrhyw breswylydd yn ardal y Rhyl sydd â diddordeb i gymryd y cyfle o roi tro ar e-feic, er mwyn gweld a allai fod o gymorth i leihau eich ôl troed carbon a chostau dyddiol yn ymwneud â chludiant.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â benthyg beic at ddefnydd y cyhoedd, ewch i gwefan Sustrans.  

Tynnu sylw at ddatblygiad coetir i gefnogi bioamrywiaeth

Mae hen gae ysgol wedi’i groesawu am ei gyfraniad i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn lleol. 

Yn ddiweddar bu i gynrychiolwyr y Cyngor ymweld â hen gae ysgol gynradd yn Stryd Llanrhydd, Rhuthun, ar gyfer lansiad swyddogol y safle coetir newydd ar y tir.

Roedd disgyblion o Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos yno hefyd.

Plannwyd 800 o goed gan Brosiect Creu Coetir y Cyngor ar y safle yn gynharach eleni fel rhan o ymdrech barhaus i leihau allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth.

Yn ogystal â’r coed hyn cafodd 18,000 o goed eu plannu ar hyd a lled y sir fel rhan o ffocws Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2017-22 i warchod yr amgylchedd naturiol a hefyd cynnal a gwella bioamrywiaeth yn y sir.

Bu i nifer o blant ysgol dorchi eu llewys i helpu i blannu coed yn hen gae’r ysgol yn Rhuthun.

Ac i gadw at thema ysgolion, adeiladwyd ardal ystafell ddosbarth awyr agored ar y safle i helpu plant i ddysgu am fioamrywiaeth ac i roi help llaw i breswylwyr y nos lleol.

Mae’r ystafell ddosbarth wedi’i hadeiladu o goed gan grefftwr lleol, Huw Noble, sydd wedi cynnwys ‘To i Ystlumod’ a ddyluniwyd yn arbennig i ddarparu nodweddion y mae ystlumod eu hangen i glwydo yn ystod y dydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn i lansio’r safle’n swyddogol, gan ddarparu gwir berl ar gyfer y gymuned leol.  

“Mae’n wych gweld bod y thema addysg yn parhau ar y safle gyda’r ystafell ddosbarth awyr agored ac rwy’n gobeithio y bydd nifer yn dysgu pa mor bwysig yw’r safle ar gyfer diogelu bioamrywiaeth.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn ddiolchgar i’r holl wirfoddolwyr, disgyblion ac aelodau lleol sydd wedi gweithio ar safle Llanrhydd.  Mae eu hymrwymiad wedi’n galluogi i roi bioamrywiaeth wrth wraidd y gymuned a darparu safle cymunedol i fod yn falch ohono am genedlaethau i ddod. “

Agor canolbwynt gwefru cerbydau trydan y Rhyl

Mae canolbwynt gwefru cerbydau trydan yn y Rhyl bellach ar agor i yrwyr.

Mae’r safle maes parcio yng Ngorllewin Cinmel, y canolbwynt gwefru mwyaf yng Nghymru, bellach ar agor i berchnogion cerbydau trydan.

Mae agor y canolbwynt 36 cerbyd, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn llwyddiant gosod pwyntiau gwefru ym maes parcio Kings Avenue ym Mhrestatyn yn yr haf.

Mae safle newydd y Rhyl yn gymysgedd o fannau gwefru 7kwh ‘cyflym’ ar gyfer defnyddwyr lleol sydd heb le i barcio oddi ar y stryd, a mannau gwefru 50kw ‘chwim’ ar gyfer gwefru’n gyflym ac i annog gyrwyr tacsis lleol i ddefnyddio cerbydau trydan drwy leihau’r amhariad i’w hamser gweithio.

Mae’r holl fannau gwefru yn y canolbwynt ar agor i’r cyhoedd.

Mae tri o’r mannau parcio ac unedau gwefru yn benodol ar gyfer defnyddwyr anabl.

Mae’r unedau gwefru hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau talu dwyieithog gan gynnwys, cerdyn digyswllt, ar Ap a Cherdyn RFID.

Bydd defnyddwyr yn ystod y dydd ac adegau prysur dal yn talu am le parcio ar y safle, fodd bynnag ni fydd rhaid talu am y mannau cerbydau trydan rhwng 17:00 a 08:00 yn unol â gweddill y maes parcio.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn o gael agor safle gwefru newydd yn y Rhyl a diolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd yr adnodd hwn yn helpu’r rhai yn yr ardal nad oes ganddynt le i barcio oddi ar y stryd ac eisiau symud at gael cerbyd trydan.

“Bydd ymwelwyr yn gallu gwefru eu cerbydau yma a fydd yna’n cefnogi cymuned fusnes y dref. Bydd hefyd yn dod yn adnodd defnyddiol i’r rhai sy’n teithio yn yr ardal sydd angen gwefru eu ceir, gan ddenu mwy o bobl i ddarganfod beth sydd gan y Rhyl a’r cymunedau cyfagos i’w gynnig.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm sydd wedi gwneud y safle hwn yn bosib, sy’n cynnwys  Cyngor Sir Ddinbych, Rhwydweithiau Ynni Scottish Power, SWARCO, A Parry Construction, MEGA Electrical ac O’Connor Utilities sydd i gyd wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu’r prosiect cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru mewn modd amserol ac effeithlon.”

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cludiant Di-Garbon Ffosil

Cynhaliwyd y digwyddiad undydd hwn drwy garedigrwydd Castell y Waun yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thîm AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Daeth gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr ynghyd i archwilio’r dewisiadau di-danwydd ffosil (FFF) ar gyfer rheoli glaswellt, prysgwydd, dail a choed, yn ogystal ag ystod o ddewisiadau cludiant ar gyfer dyletswyddau personol, proffesiynol ac oddi ar y ffordd. 

Daeth dros 60 o weithwyr proffesiynol a myfyrwyr o gynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Sir Gâr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Coleg Amaethyddol Llysfasi (Coleg Cambria), Brighter Green Engineering, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda staff Cyngor Sir Gâr yn teithio dros 4 awr ar gyfer y digwyddiad, ymroddiad yn wir.  

Gyda chyfarpar ac arbenigedd Clwyd Agri, Stihl UK, Avant Techno, Drosi Bikes a Sustrans ar gael, treuliodd y mynychwyr y bore yn symud rhwng y gweithdai, gan dreulio amser yn dod i ddeall y dewisiadau FFF ar gyfer mynd i’r afael â’r tasgau dydd i ddydd yng nghefn gwlad a chadwraeth.  Roedd y rhain yn cynnwys edrych ar y defnydd o dechnegau traddodiadol megis pladuro, ochr yn ochr â thorwyr gwair batri modern, strimwyr, peiriannau torri gwair, offer torri gwrych, peiriannau chwythu dail a llifiau cadwyn. Ym maes cludiant, roedd modd i’r mynychwyr roi cynnig ar yr e-feiciau a’r beiciau cargo trydan ar gyfer cymudo a theithio rhwng swyddfeydd a chyfarfodydd a siarad â gweithwyr proffesiynol sy’n defnyddio faniau, cerbydau tir pob pwrpas a llwythwyr trydan am eu profiadau’n defnyddio’r cyfarpar yn y maes. Roedd yr Avant e6 yn profi’n gyfarpar poblogaidd, wrth i’r mynychwyr gael cyfle i dreialu’r peiriant torri gwair, y bwced a’r atodiadau ffyrch codi, gan roi profiad ymarferol iddynt o allu’r peiriant. Yn y gweithdai rheoli coed, roedd modd i’r mynychwyr weld a rhoi cynnig ar lif gadwyn betrol a thrydan ochr yn ochr, er mwyn rhoi hyder iddynt i wybod y gellir nawr cyfnewid peiriannau petrol am ddewisiadau FFF amgen, heb unrhyw newid yn eu gallu gweithredol. 

Dros ginio, cafwyd cipolwg gan Stihl UK ar wefru a thechnoleg batri a chynhaliwyd sesiwn Holi ac Ateb, lle’r oedd modd i’r mynychwyr gael atebion i’r cwestiynau cyffredin a oedd ganddynt am fatris, megis oes, gallu / gwahanol fathau, cyflymderau a chyfnodau ail-lenwi batris, dysgu am rywfaint o’r dechnoleg newydd sy’n dod i’r farchnad a beth y gellir ei ddisgwyl ar gyfer y dyfodol o ran technoleg batri.

Cymerwch gam yn ôl mewn amser gydag Ein Tirlun Darluniadwy

Ydych chi erioed wedi ystyried sut brofiad fyddai ymweld â Chastell Dinas Brân yn y bedwaredd ganrif ar ddeg neu weld yr olygfa o Drefor o’r awyr ym 1795?

Mae tîm Ein Tirlun Darluniadwy wedi comisiynu ‘Hanes Bywluniedig Dyffryn Dyfrdwy’, ffilm brydferth a llawn gwybodaeth sy’n dangos holl ehangder Dyffryn Dyfrdwy. Mae’n dangos y newidiadau i’r tirwedd dros y blynyddoedd, gan ddangos y newid o fugeiliol i ddinesig dros y canrifoedd gyda dyfodiad diwydiant i’r ardal, y gamlas a ffordd yr A5 a oedd yn agor Dyffryn Dyfrdwy i dwristiaid. Mae cyfres o ffilmiau byrrach yn dangos tirweddau penodol Llangollen, Trefor a Chastell Dinas Brân hefyd ar gael ar dudalen Vimeo AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: www.vimeo.com/showcase/9859162

Ochr yn ochr â’r ffilmiau animeiddiad, mae cyfres gyffrous o ffilmiau Rhith-Wirionedd (VR) wedi cael eu cynhyrchu gyda’r nod o anfon gwylwyr yn ôl i ganrifoedd y gorffennol a lleoliadau o amgylch Dyffryn Dyfrdwy. Trwy sgrolio o amgylch a rhyngweithio â’r fideo, gall y gwyliwr ymgolli yn lleoliad Castell Dinas Brân yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r Cyfnod Fictoraidd, adeiladu Traphont Ddŵr Pontcysyllte ym 1795, Abaty Glyn y Groes yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a Phlas Newydd gyda Merched Llangollen ym 1805. Gellir gweld y ffilmiau 360 yma: www.vimeo.com/showcase/9859071

Os hoffech brofi potensial llawn y ffilmiau hyn, bydd tîm Ein Tirlun Darluniadwy yn mynd â phensetiau VR gyda nhw i ddigwyddiadau yn y dyfodol er mwyn i’r cyhoedd allu gweld y tirweddau hanesyddol. Gallwch weld ein digwyddiadau nesaf yma:

www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/news-events/?lang=cy

Efallai y gwelwch y codau QR sydd wedi cael eu gosod ger lleoliad pob fideo, gan ganiatáu i ymwelwyr ymgolli yn hanes y tirwedd yn defnyddio eu dyfeisiau symudol eu hunain.

Croesawu aelodau newydd cyd-bwyllor

Mae’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn falch o gyhoeddi bod aelodaeth y Pwyllgor ar gyfer y pedair blynedd nesaf wedi’i gytuno arno.  Mae’r Pwyllgor yn cynnwys Aelodau Cabinet o’r tri Awdurdod Lleol o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a bydd fel a ganlyn:

Cyngor Sir y Fflint

  • Y Cynghorydd David Hughes (Cadeirydd)
  • Y Cynghorydd David Healey

Cyngor Sir Ddinbych

  • Y Cynghorydd Win Mullen-James
  • Y Cynghorydd Emrys Wynne

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  • Y Cynghorydd Hugh Jones
  • Y Cynghorydd Nigel Williams (Is-gafeirydd)

Bydd yr aelodau hyn yn gweithredu ar ran eu Hawdurdodau Lleol er mwyn darparu dibenion yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ynghyd â datblygu a darparu’r Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sydd newydd ei gyhoeddi.  

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Y Baddonau Rhufeinig: Dirgelwch Rhufeinig ym Mhrestatyn?

Fe wyddom ers y 1930au am fodolaeth y Baddondy Rhufeinig ym Mhrestatyn, ond yr hyn na wyddom yw pwy yr oedd yn ei wasanaethu.

  • Oedd yna anheddiad Rhufeinig coll rhwng Caer a Chonwy?
  • Ai baddondy perchennog tir Rhufeinig cyfoethog ydi o, a’i fila heb ei darganfod eto?
  • Ai baddondy Mansio (gwesty Rhufeinig) ydi o?

Dewch i ddysgu mwy drwy brosiect adnewyddu ac ymgysylltu cymunedol Cyngor Sir Ddinbych ym Maddonau Rhufeinig Prestatyn ar ben Melyd Avenue. Dyma un o ‘drysorau cudd’ y dref yr hoffem ei warchod at y dyfodol er mwynhad cenedlaethau i ddod. Ariennir y prosiect gan Grant Henebion Cadw a Chronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd.

Darganfuwyd Baddondy Rhufeinig Prestatyn gyntaf yn ystod gwaith cloddio yn y 1930au. Cafodd ei ail orchuddio ac yna ei gloddio eto yn y 1980au, pan adeiladwyd y stad dai gyfagos. Mae’r safle bellach yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ddinbych. Adeiladwyd y Baddondy yn tua 120 OC, yna ei ymestyn yn 150 OC. Mae yna rywfaint o ddadlau ynglŷn â’r rheswm dros ei leoliad ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, credir fod yna gysylltiad rhyngddo â’r llengoedd Rhufeinig yng Nghaer a Chaernarfon, gan ei fod yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng y ddau. Gallai fod yn gysylltiedig â harbwr cyfagos, oherwydd ei leoliad arfordirol.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio codi proffil y Baddonau Rhufeinig, gan ei fod yn safle go anhysbys. Hoffem gynyddu niferoedd yr ymwelwyr â’r Baddonau ac ennyn diddordeb mewn hanes lleol. Bydd y prosiect yn cynnwys:

  • Gwaith i sefydlogi’r gwaith cerrig sydd wedi dod yn rhydd dros amser.
  • Gwaith ar y llwybr o amgylch y baddondy.
  • Paneli gwybodaeth newydd.
  • Creu border berlysiau.
  • Plannu blodau gwyllt.
  • Gweithdai celf gydag ysgolion lleol.
  • Diwrnod agored i’r cyhoedd i ddathlu cwblhau’r prosiect.
  • Cysylltiadau â sefydliadau lleol i hyrwyddo’r Baddondy.
  • Cynnydd hirdymor mewn gwybodaeth leol am y Baddondy, ac yn nifer yr ymwelwyr â’r safle.

Pan gafodd ei gloddio yn y 1980au, ymwelodd plant ysgol lleol â’r Baddondy. Hoffem gysylltu â’r bobl a ymwelodd â’r safle yn y cyfnod hwnnw i drefnu iddyn nhw gael dod draw eto. Cysylltwch â Claudia Smith ar claudia.smith@sirddinbych.gov.uk / 07785517398 os oeddech chi’n un o ymwelwyr gwreiddiol y Baddondy, os oes gennych chi grŵp a hoffai ymweld neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect.

 

Priffyrdd

Pa ffyrdd sy'n cael eu graeanu?

Mae'r Cyngor yn graeanu rhai ffyrdd rhag ofn rhew. Mae hyn yn golygu ein bod yn halltu’r ffyrdd naill ai am 6am neu 6pm, fel ein bod yn osgoi amseroedd brig traffig.

Rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r mathau hyn o ffyrdd:

  • Prif lwybrau dosbarthedig (ffyrdd A a B)
  • Prif lwybrau bysiau
  • Llwybrau mynediad i ysbytai, ysgolion a mynwentydd
  • Mynediad i wasanaethau’r heddlu, tân, ambiwlans ac achub
  • Prif lwybrau sy'n gwasanaethu pentrefi / cymunedau mawr
  • Prif lwybrau diwydiannol sy'n bwysig i'r economi leol
  • Prif lwybrau mynediad i ardaloedd siopa
  • Ardaloedd lle mae problemau hysbys yn bodoli, fel ardaloedd agored, llethrau serth a ffyrdd eraill sy'n dueddol o rewi.

I fod yn effeithiol, rhaid i’r halen gael ei wasgu gan draffig.

Yn anffodus, mae rhai adegau pan na allwn halltu’r ffyrdd cyn iddi ddechrau rhewi, er enghraifft:

  • Pan fo awyr las yn syth ar ôl glaw, caiff yr halen ei daenu fel arfer ar ôl i’r glaw stopio i’w atal rhag cael ei olchi i ymaith.
  • Mae 'rhew ben bore' yn digwydd ar ffyrdd sych wrth i wlith ben bore syrthio ar ffordd oer a rhewi'n syth. Mae'n amhosibl gwybod yn iawn lle a phryd y bydd hyn yn digwydd.
  • Eira'n syrthio yn ystod oriau brig. Pan fo glaw'n troi'n eira, sy'n gallu digwydd yn ystod oriau brig weithiau, ni all graeanu ddigwydd ben bore, gan y byddai'r glaw yn ei olchi i ffwrdd, a gall fod yn anodd i gerbydau graeanu wneud eu gwaith oherwydd traffig.

Dyma'r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yn siarad am graeanu yn Sir Ddinbych.

Cwblhau Gwaith Cylchol ar yr A525

Fel rhan o fenter newydd, cwblhaodd y tîm priffyrdd waith draenio angenrheidiol ar yr A525 yn ddiweddar, yr holl ffordd o Ddinbych i Ruthun.

Roedd y gwaith yn cynnwys cynnal a chadw draeniau ac ymylon priffyrdd, cloddio ffosydd ac ysgubo’r briffordd. Dros y blynyddoedd diwethaf, roedd llystyfiant wedi tyfu i’r sianelau, gan orchuddio nifer o fannau draenio ac achosi merddwr, a oedd yn berygl posibl. Aethpwyd i’r afael â’r holl faterion hyn dros y 10 diwrnod a gymerwyd i gwblhau’r gwaith, a’r cynllun nawr yw gwerthuso’r gost ac effeithiolrwydd, er mwyn ystyried a ellid cyflwyno’r fenter hon mewn lleoliadau eraill yn y sir.

Lluniau cyn ac ar ôl y gwaith

 

Yn ystod y gwaith

 

Ar ôl y gwaith  

 

Mae peiriant cribyn wedi ei brynu i helpu i gadw traeth y Rhyl yn lân

Mae peiriant cribyn wedi ei brynu i helpu cadw traeth y Rhyl yn lân

Mae Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref y Rhyl, AGB y Rhyl, a Chadwch Gymru'n Daclus wedi cael peiriant cribo traeth a gaiff ei ddefnyddio i glirio sbwriel o draethau’r Rhyl.

Ym mis Mai derbyniodd traeth y Rhyl statws Gwobr Glan y Môr am flwyddyn arall, sef safon genedlaethol a roddir i’r traethau gorau yn y DU, gan ei wneud yn lle poblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

Bydd y cribyn traeth newydd yn galluogi safon well o lanhau, gan adael traeth y Rhyl yn rhydd rhag sigaréts, plastig, gwydr a gweddillion eraill drwy gydol misoedd yr haf, gan ddiogelu harddwch naturiol yr ardal rhag tocsinau gwenwynig i sicrhau bod safon uchel o lanweithdra yn cael ei gynnal ar gyfer pobl leol a thwristiaid i fwynhau’r traeth yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n falch fod ein partneriaid wedi cydweithio er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, mae’n bwysig ein bod yn glanhau ein traethau rhag sbwriel gan gynnwys sigaréts oherwydd gallent lygru’r dŵr, achosi tanau a niweidio plant a’n bywyd gwyllt.”

“Diogelu ein cyhoedd a’r amgylchedd yw ein prif flaenoriaeth ac mae’r teclyn gwych hwn yn ein helpu ni i gynnal safonau uchel ar gyfer traeth y Rhyl dros fisoedd yr haf pan rydym yn derbyn niferoedd uchel o ymwelwyr.”

Dywedodd Gareth Jones, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus: “Roeddem yn gyffrous i allu cefnogi Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Tref y Rhyl ac AGB y Rhyl i brynu’r peiriant hwn, bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ardal arfordirol boblogaidd hon yn y Rhyl”

“Mae ein prosiect Caru Cymru yn ymwneud â dileu sbwriel a gwastraff ac mae hwn yn esiampl berffaith o ardal leol yn gweithredu er mwyn gofalu am eu hamgylchedd lleol a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Maer y Rhyl a’r Cynghorydd Mrs Diane King: “Un o brif atyniadau’r Rhyl yw ei draeth tywod eang.”

“Bydd y cribyn traeth o’r radd flaenaf yn darparu ffordd effeithiol a hyfedrus o gynnal a chadw traeth y Rhyl yn rheolaidd, ac mae Cyngor Tref y Rhyl wedi ymrwymo ac yn falch o gefnogi hyn ar y cyd â chyfranwyr eraill, fel y gall bawb fwynhau’r traeth ar ei orau.”

Bydd y cribyn traeth yn gweithredu yn gynnar yn y bore os fydd y llanw’n caniatáu hynny, trwy gydol tymor yr haf er mwyn sicrhau na fydd gormod o ymyrraeth i ddefnyddwyr y traeth.

Dywedodd Nadeem Ahmed, Cadeirydd Ardal Gwella Busnes y Rhyl: “Rydym yn croesawu’r cyfle i gyfrannu tuag at brynu’r cribyn traeth a fydd yn cyd-fynd â’r gwaith gwych sy’n digwydd eisoes i gadw traeth y Rhyl yn daclus gan grwpiau cymuned gwirfoddol, megis Surfers Against Sewage, gyda’u sesiynau glanhau traeth rheolaidd.”

“Bydd defnydd rheolaidd o’r Cribyn Traeth yn sicrhau traeth deniadol, mwy diogel, wedi’i lanhau i’r safonau uchaf. Bydd hyn yn ei dro, yn annog ymwelwyr i ddychwelyd a chryfhau ein masnach twristiaeth.

Yn ogystal â’r cribyn traeth, mae’r adran Gwasanaethau Stryd gyda chyfraniadau gan bartneriaid allweddol, wedi prynu certi casglu gwastraff trydan a fydd yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd poblogaidd i gerddwyr i gario gwastraff lle mae cerbydau traddodiadol yn cael anawsterau, yn ystod cyfnodau prysur ac yn ystod digwyddiadau megis Sioe Awyr y Rhyl. Rydym hefyd wedi ariannu glanhawr stryd Glutton trydan a ddefnyddir yn ardal canol tref y Rhyl. 

Prosiect i ostwng carbon goleuadau stryd

Mae prosiect wedi ei gwblhau i ostwng carbon goleuadau stryd y sir.

Mae'r Cyngor wedi gorffen prosiect gostwng ynni i newid ei holl oleuadau stryd i rai LED sydd â watedd is.

Mae’r Cyngor yn cynnal cyfanswm o 11,690 o oleuadau stryd ac yn dilyn rhai rhaglenni prawf bychan, penderfynwyd gosod goleuadau LED ynni isel dros brosiect 7 mlynedd er mwyn cyflawni arbedion o ran allbynnau carbon a chostau trydan.

 

Mae tîm goleuadau stryd y Cyngor wedi cwblhau’r prosiect yn ei gyfanrwydd o gaffael a dylunio i osod.

Mae’r prosiect wedi gostwng carbon o oleuadau stryd dros y cyfnod o saith mlynedd o 1,800 tunnell yn flynyddol yn ystod 2015/16 i 400 tunnell yn 2021/22.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bu i ni ddatgan yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac rydym wedi bod yn datblygu cynlluniau i ddod yn gyngor ecolegol gadarnhaol a di-garbon net erbyn 2030.

“Rwy’n falch o weld canlyniad y prosiect hwn sy’n cefnogi ein blaenoriaeth i fynd i'r afael â gostwng carbon ledled y sir.

“Mae’r offer goleuo a osodwyd wedi defnyddio’r dechnoleg ac offer arbed ynni diweddaraf gan gynnwys pylu yn rhannol yn ystod y nos a disgleirdeb cyson. Mae’r prosiect a gwblhawyd wedi cyflawni gostyngiadau sylweddol yn y defnydd o drydan, allbwn carbon a biliau ynni.”

Adran Busnes

Cylchlythyr Datblygiad Economaidd a Busnes

Cliciwch yma ar gyfer rhifyn diweddaraf y cylchlythyr Datblygu Economaidd a Busnes

Addysg

Ydych erioed wedi meddwl am fod yn Lywodraethwr Ysgol?

Hoffech chi fod yn Lywodraethwr ysgol?

Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth fyddai bod yn rhan o dîm, gan gael effaith gadarnhaol ar ein hysgolion?

 Os credwch fod gennych yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth, yna ewch i'n gwefan a cofrestrwch eich diddordeb i fod yn lywodraethwr ysgol.

Cynllun Corfforaethol

Helpwch ni i wella ein gwasanaethau!

Hoffem glywed eich barn am y gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu, a’ch barn am Sir Ddinbych a’ch ardal chi.

Pa un ai ydych yn byw neu’n gweithio yn Sir Ddinbych, llenwch ein harolwg a dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei feddwl!

Fe fydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu defnyddio i’n helpu ni i wella gwasanaethau sy’n bwysig i chi, yn ogystal â monitro cynnydd ein Cynllun Corfforaethol.

I gymryd rhan a dweud eich dweud, ewch i sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk neu sganiwch y cod QR isod:

Mae’r arolwg ar-lein ar agor hyd at 27 Chwefror, 2023.

Er mwyn gweld ein Cynllun Corfforaethol cyfredol, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/CynllunCorfforaethol.

Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i borthol Sgwrs y Sir, http://sgwrsysir.sirddinbych.gov.uk, a chofrestrwch ar gyfer Y Panel!

Bydd copïau papur o’r arolwg ar gael hefyd yn Llyfrgelloedd / Siopau Un Alwad Sir Ddinbych.

Nodweddion

Parcio am ddim ar ôl 3pm tan y Nadolig

Fel rhan o’r ymgyrch #carubusnesaulleol blynyddol, mae'r Cyngor unwaith eto’n cynnig parcio am ddim yn ei feysydd parcio ar ôl 3pm tan 31 Rhagfyr.

Mae’r ymgyrch #carubusnesaulleol yn annog rhagor o bobl i siopa’n lleol a chefnogi masnachwyr a busnesau lleol, a bydd menter ‘Am Ddim Ar Ôl Tri’ yn cynnig parcio am ddim yn y mwyafrif o feysydd parcio y Cyngor.

Nod yr ymgyrch yw annog pobl i wario eu harian yn Sir Ddinbych, gan annog siopwyr a busnesau i ddefnyddio eu sianeli cyfryngau cymdeithasol i rannu eu profiadau cadarnhaol gan ddefnyddio hashnod #CaruBusnesauLleol - y mwyaf y mae pobl allan yn siopa ac yn dweud wrth bawb amdano, y gorau yw’r awyrgylch i bawb wrth i’r Nadolig agosáu.

Gweler y rhestr isod i weld y cyfyngiadau sydd ar waith a gwybodaeth am y meysydd parcio sydd wedi’u cynnwys a’r rheiny heb eu cynnwys yn y fenter:

  • Corwen: Maes Parcio Lôn Las
  • Dinbych: Maes parcio Lôn Ffynnon Barcermaes parcio Lôn CrownWard y FfatriLôn y PostStryd y Dyffryn
  • Llangollen: Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd, Heol y Farchnad, Heol y Felin
  • Prestatyn: Rhodfa’r Brenin, Rhan Isaf y Stryd Fawr, gorsaf rheilffordd Prestatyn
  • Rhuddlan: Stryd y Senedd
  • Y Rhyl: Canolog, Ffordd Morley, llyfrgell y Rhyl (gofodau parcio i bobl anabl yn unig), Gorsaf Reilffordd y Rhyl, maes parcio Tŵr Awyr y Rhyl, Gorllewin Stryd Cinmel ** Sylwer, nid yw maes parcio preifat Neuadd y Morfa, Y Rhyl yn rhan o’r fenter. **
  • Rhuthun: Crispin Yard (Cae Ddol), Lôn Dogfael, Stryd y Farchnad, Ffordd y Parc, Stryd y Rhos, Sgwâr Sant Pedr, Troed y Rhiw
  • Llanelwy: Lawnt Fowlio

Dywedodd y Cynghorydd, Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Am Ddim Ar Ôl Tri wedi bod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd diwethaf gan ei fod yn gynllun gwych sy’n galluogi trigolion i gefnogi eu cymunedau lleol, ac mae pob mymryn yn help gyda’r problemau costau byw y mae bob un ohonom yn eu hwynebu ar hyn o bryd.”

“Gobeithiwn y bydd pawb yn cefnogi eu stryd fawr a’u busnesau lleol, yn arbennig yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, ac yn cymryd mantais o’r cynllun gan ddefnyddio meysydd parcio canol trefi’r sir yn rhad ac am ddim.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Parcio am ddim ar ôl 3pm | Cyngor Sir Ddinbych

Atal Cymru rhag Llosgi: Cymorth i dirfeddianwyr

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru wedi lansio fideo newydd sy'n rhoi canllawiau cam wrth gam i dirfeddianwyr ar sut i gynnal llosgi dan reolaeth yn ddiogel. 

Sganiwch y cod QR a fydd yn mynd â chi i'r fideo.

Mae'n werth gwylio!

Hysbysiad Ffliw Adar

Erioed wedi meddwl rhoi gwaed?

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wastad yn chwilio am roddwyr newydd.

Gallwch drefnu apwyntiad yma https://wbs.wales/DenbighshireCCouncil 

Erioed wedi meddwl am fod yn ofalwr maeth?

Mae gofalwyr maeth yn chwarae rhan mor bwysig ym mywyd plant a bobl ifanc.

Rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o'r rôl bwysig y mae plant gofalwyr maeth yn ei chwarae mewn cartref maethu.

Un teulu lleol sydd yn maethu gyda’u awdurdod lleol yn Sir Ddinbych yw Manon a Huw, a’u plant Mabli, Boas ac Ethni.

Darllenwch y blog diweddaraf lle mae Manon yn esbonio sut beth yw bod yn rhan o deulu maethu a sut mae pob aelod o’r teulu yn chwarae rhan mor bwysig wrth groesawu plant newydd i’w cartref a’u bywydau >>> http://ow.ly/aOYm50LbAnl.

Mae llawer mwy o wybodaeth ar ein gwefan ac hefyd ar wefan Maethu Cymru.

Tai Sir Ddinbych

Cyhoeddi Enillwyr Gwobr Tenant Tai Sir Ddinbych eleni!

Roedd ein hail wobrau Tenant Tai Sir Ddinbych yn dathlu cyflawniadau a chyfranogiad ein tenantiaid, y gwaith o fewn cymunedau ac arddangos prosiectau sydd wedi eu cynnal ar draws Sir Ddinbych.  

Roedd dros 95 o westeion wedi mynychu’r digwyddiad hwn ym Mwyty 1891, Y Rhyl, gan gynnwys tenantiaid, noddwyr busnes lleol a gweithwyr proffesiynol allweddol tai a’r cyngor.   Hoffem ddiolch i’n prif noddwr, Brenig Construction a TPAS Cymru am arwain y gwobrau, yn gwneud i bawb deimlo yn gartrefol a mwynhau’r noson.

Rydym mor falch i gyhoeddi ein hail enillwyr Gwobr Tenantiaid Tai Sir Ddinbych!! Llongyfarchiadau mawr i:

  • Tenant y Flwyddyn - Gwenda Williams
  • Tenant Ifanc y Flwyddyn (o dan 25 oed) - Makayla Flynn
  • Cymydog Da y Flwyddyn - Gwyndaf ‘Jock’ Davies
  • Preswylydd Tai / Grŵp Cymunedol y Flwyddyn - Canolfan Gymunedol Trem y Foel, Rhuthun
  • Gwobr Gwasanaethau Cwsmeriaid ar ran Tai Sir Ddinbych - Owen Evans
  • Prosiect Cymunedol y Flwyddyn - Hwb Cymunedol Pengwern, Llangollen
  • Arwr Cymunedol - Jonathan Lawton
  • Gardd y Flwyddyn - ardal gymunedol - Gellifor a Llangynhafal
  • Gardd y Flwyddyn - Tenant/unigolyn - Carolyn Philips ac Alun Scourfield
  • Gardd y flwyddyn – Ardal gymunedol - Llys Offa
  • Arwr Cyfnod Clo - Debbie Holmes
  • Gwobr Tai Sir Ddinbych - Adam Garvey a Richard Jones, Gwasanaethau Gwresogi GCS

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae Gwobrau Tai Sir Ddinbych yn mynd o nerth i nerth.   Mae’n wych dod â chymunedau ac unigolion ynghyd i ddathlu beth maent i gyd wedi’i gyflawni drwy waith caled, penderfyniad ac yn syml bod yn denantiaid gwych. 

“Rydym yn gweld llawer iawn o waith cadarnhaol yn digwydd yn ein cymunedau o ddydd i ddydd, o dan arweiniad ein tenantiaid i helpu i gefnogi a gwella ansawdd bywyd pawb. 

“Mae bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr yn anrhydedd i’r grwpiau ac unigolion hynny a diolch iddynt am eu hymdrechion yn eu cymunedau lleol.”

Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau i’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei fod yn gweithredu newidiadau i’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae hyn yn effeithio ar ein cytundebau tenantiaeth o 1 Rhagfyr 2022.   Rydym wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i helpu i egluro beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i’n tenantiaid.

Deddf Rhentu Tai (Cymru) 2016 - beth ydyw a beth mae’n ei olygu?

  • O 1 Rhagfyr 2022, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu’r Ddeddf Rhentu Tai. Bydd hyn yn newid y ffordd yr ydym yn rhentu ein cartrefi, gan wella’r profiad rhentu i chi.  
  • Bydd y ddeddf newydd yn gwella’r ffordd yr ydym yn rhentu, rheoli a sut rydych yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

Beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i chi?

  • Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Byddwn yn darparu contractau/cytundebau newydd i chi yn y 6 mis nesaf.
  • O dan y gyfraith newydd, byddwch yn cael eich adnabod fel ‘deiliaid contract’. Byddwn yn disodli cytundebau tenantiaeth gyda ‘chontractau galwedigaeth’. 
  • Ar gyfer ‘deiliaid contract’ (chi) bydd hyn yn golygu:
    • Derbyn contract ysgrifenedig yn gosod eich hawliau a chyfrifoldebau.
    • Hawliau olyniaeth gwell, mae’r rhain yn nodi pwy sydd â hawl i barhau i fyw yn yr annedd, er enghraifft, ar ôl i’r tenant presennol farw.
    • Trefniadau mwy hyblyg i ddeiliaid cyd-gontract, yn ei gwneud yn haws ychwanegu neu ddileu eraill i gontract meddiannaeth.

Sut fydd hyn yn effeithio arnoch chi?

  • Byddwch yn derbyn contract meddiannaeth newydd o fewn 6 mis o 1 Rhagfyr.
  • Bydd tenantiaid newydd ar ôl 1 Rhagfyr yn llofnodi’r contract meddiannaeth newydd yn y ffordd arferol ac yn derbyn copi o fewn 14 diwrnod.
  • Bydd y contract meddiannaeth wedi’i gynnwys mewn ‘datganiad ysgrifenedig’. Bydd y datganiad hwn yn cadarnhau telerau’r contract ac yn cynnwys yr holl delerau contract gofynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Sef:
    • Materion allweddol: Er enghraifft, enwau’r landlord a deiliad contract a chyfeiriad yr eiddo.  Mae’n rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract. 
    • Telerau Sylfaenol: Mae’n cynnwys agweddau pwysicaf y contract, gan gynnwys sut rydym yn meddiannu a’n rhwymedigaethau o ran atgyweiriadau. 
    • Telerau Atodol: Siarad am y materion mwy ymarferol, o ddydd i ddydd sy’n berthnasol i’r contract meddiannaeth.  Er enghraifft, y gofyniad i’n hysbysu os bydd yr eiddo yn cael ei adael yn wag am bedair wythnos neu fwy. 
    • Telerau Ychwanegol: Mynd i’r afael â materion penodol eraill y cytunwyd arnynt, er enghraifft, telerau sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes. 

A fyddaf yn parhau’n denant o dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi?

Byddwch yn parhau’n denant. Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn cael ei alw’n gontract meddiannaeth.

Beth sy’n digwydd i fy nghytundeb tenantiaeth presennol ar ôl 1 Rhagfyr?

Bydd ein cytundebau tenantiaeth presennol yn newid i ‘gontract meddiannaeth’, fydd yn disodli’r cytundeb tenantiaeth.   Bydd llawer o’n telerau presennol yn aros yr un fath ond bydd rhai pethau yn newid e.e.rydym angen rhoi mwy o rybudd am gynyddu’r rhent.

Fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar fy rhent?

Na, nid yw hyn yn effeithio ar eich rhent nac yn costio unrhyw beth i chi.

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud?

Pan fyddwch yn derbyn eich Contract Meddiannaeth newydd, byddwch angen ei ddarllen, a gwneud yn siŵr eich bod yn deall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau. 

 

Cefnogir y newidiadau hyn gan sefydliadau tenant fel TPAS Cymru ac mewn partneriaeth gyda Shelter Cymru.  

 

Am fwy o wybodaeth a rhai cwestiynau cyffredin gan Lywodraeth Cymru ewch ihttps://gov.wales/renting-homes-frequently-asked-questions-tenants

Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Rhaglen Ôl-osod

Cam 2 - Rhodfa Rhydwen, Y Rhyl

Mae gwaith wedi dechrau ar raglen gwella ynni a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i weddill ein heiddo ar Rodfa Rhydwen, Y Rhyl. 

Mae’r gwelliannau yn cynnwys:

  • Gosod paneli solar - bydd y rhain yn cynhyrchu trydan ac yn ei storio mewn batris cysylltiedig er mwyn galluogi defnydd ynni yn ystod y nosweithiau.
  • Gwaith inswleiddio waliau allanol gwell - bydd hyn yn helpu i leihau drafft a’r ynni sydd ei angen i gynhesu bob cartref, yn arbennig yn ystod y gaeaf.

Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych gweld dechrau ail gam y gwaith gwelliannau ynni yn Rhodfa Rhydwen.

“Ar ôl cwblhau’r gwaith bydd y cartrefi hyn â gwell effeithlonrwydd ynni yn ystod cyfnod o gostau tanwydd cynyddol, a bydd hefyd yn cefnogi gwaith y Cyngor i leihau ein hôl-troed carbon ar draws y sir.”

Canol y Dre, Rhuthun:

Mae ein hail raglen, fydd yn dechrau’r hydref hwn, ar 17 eiddo yng Nghanol y Dre, Rhuthun.  

Bydd y prosiect hwn yn gwella:

  • Ymddangosiad, toeau a rendro. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i leihau drafft a’r ynni sydd ei angen i wresogi cartrefi, yn arbennig yn ystod y gaeaf.  
  • Gwella mesurau ynni, gan gynnwys paneli solar, batris ac inswleiddio waliau allanol cartrefi pedwar o denantiaid. Bydd y paneli solar yn cynhyrchu trydan ac yn ei storio yn y batris, er mwyn galluogi i denantiaid ddefnyddio ynni yn ystod y nosweithiau.

Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym ni’n falch o gyflwyno ein gwaith gwella ynni i’n cartrefi cyngor yng Nghanol-y-Dre.

“Ar ôl cwblhau’r gwaith bydd y cartrefi hyn â gwell effeithlonrwydd ynni yn ystod cyfnod o gostau tanwydd cynyddol, a bydd hefyd yn cefnogi gwaith parhaus y Cyngor i leihau ein hôl-troed carbon ar draws y sir.

Aberadda, Llangollen - Cynllun Newid To Fflat

Mae Tai Sir Ddinbych wedi dechrau gweithio ar newid y to fflat yn fflatiau Aberadda, Llangollen.  Cafodd y fflatiau eu hadeiladu yn wreiddiol yn y 1960au, pan oedd toeau fflat yn boblogaidd.   Rydym wedi atgyweirio’r to yn y gorffennol, ond mae yna bob amser ddiffygion yn nyluniad gwreiddiol y fflatiau. Bellach, rydym yn gweithio i wella’r to ac ymddangosiad cyffredinol y fflatiau.  

Rydym yn adeiladu dros y to presennol, gyda tho ar ongl ffrâm ddur. Bydd y math yma o do yn cael gwared ar holl broblemau gyda’r hen do, yn ogystal â gwella’r effeithlonrwydd thermol y fflatiau gan y byddwn yn gallu ei inswleiddio yn well. Bydd y to tebyg i lechi newydd hefyd yn toddi i mewn yn well gyda’r eiddo cyfagos. 

Fel rhan o’r prosiect, rydym hefyd yn uwchraddio ac yn gwella ymddangosiad allanol y fflatiau.  Bydd hyn yn moderneiddio edrychiad a theimlad yn ogystal â gwella inswleiddio cyffredinol yr adeilad. Rydym yn gyffrous iawn am y prosiect hwn a phrosiectau tebyg a drefnwyd ar draws Sir Ddinbych i wella effeithiolrwydd ynni cartrefi ein tenantiaid. 

 

 

Y wybodaeth ddiweddaraf ar gartrefi newydd

Prestatyn:

Yn ein newyddlen diwethaf, gwnaethom rannu rhai lluniau o’n datblygiad fflatiau newydd ar safle’r hen lyfrgell ar Ffordd Llys Nant ym Mhrestatyn.   Ers hynny, mae ein contractwr wedi bod yn gwneud cynnydd da gyda’r gwaith adeiladu ac mae’r ffrâm ddur nawr yn ei lle. Mae hyn yn rhoi argraff dda o ba mor fawr fydd y datblygiad ar ôl ei orffen. Bydd gwaith adeiladu’r pedair ar ddeg o fflatiau yn cael ei gwblhau’r gwanwyn nesaf. 

Y Rhyl:

Y llynedd gwnaethom ddweud wrthych ein bod wedi prynu’r hen swyddfa dreth ar Ffordd Churton, Y Rhyl i’w drosi yn fflatiau. Mae gwaith bellach wedi dechrau ar y safle a bydd deuddeg o fflatiau yn barod i denantiaid yr haf nesaf. 

Dyserth:

Y llynedd gwnaethom brynu tai fforddiadwy newydd ar ddatblygiad Cysgod y Graig yn Nyserth, a restrir ar Tai Teg.   Rydym wedi cael y cyfle i brynu mwy eleni, ac mae’r rhain yn cynnwys tri thŷ ar wahân a fflatiau pedair ystafell wely.   Rydym yn gobeithio gallu dweud mwy wrthych yn rhifyn y gwanwyn a bydd ar gael ar Tai Teg yn fuan. 

  

Cartrefi Goddefol:

Yn ein newyddlen nesaf, byddwn yn gallu rhannu gwybodaeth am ein cartrefi goddefol a fflatiau effeithlon o ran ynni a adeiladwyd yn Ninbych a Phrestatyn.  Gyda phrisiau ynni yn codi, bydd manteision adeiladu’r math yma o dai hyd yn oed yn fwy pwysig yn y dyfodol.   Cadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf. 

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Ddatblygu Cymunedol

Mae ein tîm datblygu cymunedol (gwytnwch) wedi bod yn brysur dros yr haf, yn darparu cefnogaeth, cyngor a rhaglenni gweithgaredd hwyliog o fewn ein cymunedau.   Mae'r rhain yn cynnwys:

Gadewch i ni chwarae allan

Yn ystod gwyliau’r haf, roeddem yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Hamdden Sir Ddinbych Cyf a Sir Ddinbych yn Chwarae.  Gyda’n gilydd gwnaethom ddarparu sesiynau Gadewch i Ni Chwarae Allan yng Nghorwen (dydd Mercher, 10.30am-12.30pm) a Llangollen (dydd Mercher 2.00pm-3.00pm) i dros 100 o bobl!  Roedd y gweithgareddau'n cynnwys chwaraeon, chwarae blêr, celf a chrefftau. Roedd teuluoedd yn dweud eu bod wirioneddol yn mwynhau’r sesiynau wythnosol ac yn methu aros iddynt gael eu cynnal yn ystod pob gwyliau ysgol.   Cadwch olwg ar dudalen Facebook SCDP am fwy o wybodaeth https://www.facebook.com/SouthDenbighshireCommunityPartnership

   

Sioeau Teithiol Costau Byw

Gweithio mewn partneriaeth gyda Dŵr Cymru, Nest, Cymru Gynnes, Undeb Credyd Cambrian, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, Uned Benthyg Arian Anghyfreithiol Cymru a Sir Ddinbych yn Gweithio, mae ein tîm wedi bod ar daith ar draws y sir, yn cynghori pobl am yr argyfwng costau byw. 

Roeddem eisiau ymweld â’n cymunedau, gwrando ar bobl am eu pryderon, cynnig cyngor a chefnogaeth am gostau cynyddol ynni, tanwydd a bwyd.  Roedd partneriaid yn gallu rhannu syniadau, cyngor ac awgrymiadau sut i helpu yn ystod y misoedd i ddod.  

Roedd 450 o breswylwyr wedi dod draw i’n sioeau teithiol, gyda 26 yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer mwy o gefnogaeth.   Roedd adborth o’r digwyddiadau yn dangos bod hyn yn rhywbeth mae cymunedau eisiau ac rydym yn gobeithio bod o gwmpas eto’n fuan.  Cadwch olwg ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Prosiect Bwyta’n Dda, Coginio’n Araf

Yn dilyn peilot llwyddiannus yn 2020/2021, daeth Tai Sir Ddinbych a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ynghyd eto i ddarparu poptai araf i’n tenantiaid.

Syniad y prosiect oedd cysylltu â thenantiaid oedd mewn perygl o ddioddef tlodi bwyd a thanwydd y gaeaf hwn.  Derbyniodd 66 o denantiaid bopty araf, cynhwysion ffres, llyfr rysáit a dolen i arddangosiadau ar-lein ar sut i baratoi prydau, ynghyd â mesurau arbed ynni.

Gwnaethom holi’r tenantiaid sut oeddent yn dod ymlaen, yn ogystal â chael sgwrs am wneud y mwyaf o incwm aelwyd, lleihau costau ble gallent, datrys materion dyled, cyngor am ynni a chyfleustodau a sut i ymgeisio am grantiau a hawliadau.

Gan fod hwn yn brosiect mor llwyddiannus, byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn y dyfodol, i helpu ein tenantiaid. 

Agoriad Swyddogol Canolbwynt Cymunedol Pengwern:

Ym mis Awst, agorwyd Canolbwynt Cymunedol newydd Pengwern yn swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych.   Roedd teuluoedd o’r gymuned leol wedi dod draw i fwynhau gweithgareddau gan gynnwys celf, crefft, natur, plethu gwallt, breichledau a llawer mwy. Roedd yna wiriadau beics hefyd, adloniant a lluniaeth. 

Mae’r ganolfan yn gweithio i gynyddu cyfleoedd i wella sgiliau a dyheadau, ynghyd ag adnoddau i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau i gefnogi pobl.

Dywedodd y Cynghorydd. Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Rydym yn falch iawn o barhau i weithio gyda’n sefydliadau partner i gefnogi gwaith parhaus y ganolfan i wella lles cyffredinol y gymuned leol.”

Dywedodd Margaret Sutherland, Prif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych (SDCP):  “Mae SDCP yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a Chyfeillion Pengwern ar ddatblygiad y ganolfan gymunedol, a fydd yn darparu gwell gweithgareddau a gwasanaethau ar gyfer cymuned Llangollen.

“Nododd ymgynghoriad yn ystod haf 2021 y gwasanaethau a’r gweithgareddau yr oedd y gymuned yn teimlo eu bod eu hangen.  Mae gan bob partner ddyheadau clir iawn ar gyfer y canolbwynt i ddarparu lle y bydd Cymuned Llangollen yn ei chroesawu ac yn cyfrannu at ei rheoli a’i chyfeirio.”

Cadwch olwg ar dudalen Facebook y Canolbwynt am y gweithgareddau diweddaraf a drefnwyd. 

Cyngor ar yr Argyfwng Costau Byw

Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith andwyol ar bob un ohonom.   Mae pris bwyd a nwyddau yn uwch, mae costau gwresogi ein cartrefi wedi cynyddu (gyda’r cap ar brisiau ynni yn cynyddu eto yn ddiweddarach eleni), mae tanwydd yn fwy drud, ac nid yw incwm pobl yn ymestyn mor bell ag yr oedd yn arfer gwneud. 

Os ydych yn ei chael hi’n anodd dal i fyny gyda’ch biliau, yn ei chael hi’n anodd gyda rheoli dyledion, ddim yn siŵr a yw eich cartref mor effeithlon o ran ynni â phosibl, neu eisiau tawelwch meddwl yn gwybod eich bod yn hawlio popeth sydd gennych hawl iddo, mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yma i’ch helpu chi.

Rydym yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth cyfrinachol, diduedd am ddim.  

Gyda sesiwn gwneud yn fawr o incwm, byddwn yn helpu i sicrhau eich bod yn hawlio’r hyn sydd piau chi a’ch bod yn derbyn y swm cywir o fudd-dal, byddwn yn helpu i nodi a rheoli unrhyw ddyledion ac ôl-daliadau sydd gennych, gallwn eich atgyfeirio ymlaen i gynlluniau a phrosiectau mwy (boed ar gyfer boeleri newydd neu inswleiddio drwy Nest, neu gymorth gyda pha bynnag grantiau sydd ar gael), a byddwn yn eich helpu gyda chyngor ymarferol a mesurau bach effeithlon o ran ynni. 

Os ydych yn aelod o’r gymuned Lluoedd Arfog, mae gennym ymgynghorwyr ynni arbenigol yn barod i helpu.   Diolch i’n partneriaeth gyda Woody’s Lodge, gyda chyllid o’r Cynllun Unioni Ynni, mae ein Prosiect Ynni yn gallu cynnig ymweliad â’r cartref - ynghyd â’n cynnig arferol o gyngor, cefnogaeth ac atgyfeiriad - i asesu pa un a yw eich cartref yn effeithlon o ran ynni â phosibl a chynnig mesurau bach i helpu tuag at hynny. 

Gyda chostau byw yn cynyddu, mae’n bwysig fod gennych fynediad i’r holl gefnogaeth rydych ei hangen cyn argyfwng, felly cysylltwch heddiw am gyngor annibynnol, diduedd a chyfrinachol am ddim. 

Ffoniwch: 08082 787 933

E-bost: advice@dcab.co.uk

Gallwch weld ymgynghorydd yn ein hystafell aros ar-lein (dydd Llun-dydd Gwener, 9.30am - 4.30pm) https://attenduk.vc/area-1

Dyma rai gwefannau defnyddiol am gyngor a chefnogaeth bellach:

Cyngor Sir Ddinbych - www.sirddinbych.gov.uk/cymorth-costau-byw  

Money Helper UK - https://www.moneyhelper.org.uk/cy

Mae MoneyHelper yn uno canllawiau arian a phensiynau i’w gwneud yn gynt ac yn haws i ganfod y cyngor iawn, mae MoneyHelper yn dod â’r gefnogaeth a gwasanaethau tri darparwr arweiniad ariannol a gefnogir gan y llywodraeth, y Gwasanaeth Cyngor Ariannol, y Gwasanaeth Cyngor ar Bensiynau a Pension Wise.

Turn2us - https://www.turn2us.org.uk/

Mae Turn2us yn elusen genedlaethol, sy’n mynd i’r afael ag ansicrwydd ariannol.   Mae’n cynnig gwasanaethau i gyfrif pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt ac mae’n cynnal llinell gymorth i roi cefnogaeth a gwybodaeth i bobl sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd neu’n ei chael hi’n anodd mynd ar-lein.   Rhif eu llinell gymorth yw 0808 802 2000

StepChange - https://www.stepchange.org/

Mae StepChange yn cynnig cyngor arbenigol, am ddim am ddyledion naill ai ar-lein neu dros y ffôn. Gallwch siarad gyda nhw am eich dyledion, a byddant yn edrych ar eich sefyllfa ariannol a’ch cynghori am yr hyn y gallwch ei wneud nesaf.   Eu llinell gymorth cyngor ar ddyledion 0800 138 111

Iechyd Meddwl – Samariaid - https://www.samaritans.org/?nation=wales

Os ydych yn meddwl ei fod yn argyfwng neu os hoffech siarad gyda rhywun ar y ffôn, ffoniwch y Samariaid. Gallwch ffonio llinell gymorth y Samariaid 116 123 dydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg, mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinell dir.

Cadw’n gynnes y gaeaf hwn - cyngor ar fudd-daliadau gwresogi

Oeddech chi'n gwybod bod nifer o daliadau, cyngor a chefnogaeth ar gael ichi dros fisoedd y gaeaf?  Dyma ychydig o bethau i’w hystyried:

Taliad Tanwydd y Gaeaf:

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1956, fe allech chi gael rhwng £250 - £600 i'ch helpu i dalu'ch biliau gwresogi.  Fel rheol, byddech chi'n cael Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydych chi'n gymwys a'ch bod chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (nid Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Gyngor, Budd-dal Plant na Chredyd Cynhwysol).  I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 0800 731 0160 neu ewch i https://www.gov.uk/taliad-tanwydd-gaeaf

Taliad Tywydd Oer:

Gallech chi gael taliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.  Rhaid i gofnod y tymheredd cyfartalog neu'r rhagolygon ar gyfer eich ardal fod yn sero gradd neu lai am 7 diwrnod yn olynol. Os ydych chi’n cael un o’r budd-daliadau isod, yna dylai’r taliad hwn ddod i chi yn awtomatig.

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais

I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â https://www.gov.uk/taliad-tywydd-oer)

Cynllun Tanwydd Consesiynol Cenedlaethol:

Gallech chi gael tanwydd solet neu lwfans arian parod am ddim os ydych chi'n gyn-weithiwr i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB) neu Gorfforaeth Glo Prydain (BCC).  Mae angen i chi fod yn gymwys i gael y lwfans tanwydd trwy'r Cynllun Tanwydd Consesiwn Cenedlaethol (NCFS), a dim ond os ydych chi eisoes yn cael tanwydd trwy'r cynllun y gallwch chi gael y lwfans arian parod.  I weld a ydych chi’n gymwys, cysylltwch â’r Cynllun ar 0345 759 0529.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o'r budd-daliadau gwresogi hyn, ewch i https://www.gov.uk/national-concessionary-fuel-scheme neu siaradwch â'ch swyddog tai ar 01824 706000.

I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau cefnogi sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/budd-daliadau-grantiau-a-chyngor-arian/budd-daliadau-grantiau-a-chyngor-ar-arian.aspx )

Nodweddion Nadolig

Hylendid Bwyd dros y Nadolig

Amcangyfrifir bod 2.4 miliwn o achosion o wenwyn bwyd yn y Deyrnas Unedig (DU) bob blwyddyn. P’un a ydych chi’n coginio gartref, neu’n ailddefnyddio bwyd dros ben, mae’n bwysig cynnal hylendid bwyd da adeg y Nadolig trwy ddilyn hanfodion hylendid bwyd, sef glanhau, oeri, coginio ac atal croeshalogi.

Mae’r Nadolig yn gyfnod o wastraff bwyd sylweddol. Mae Love Food Hate Waste yn amcangyfrif bod dros 100,000 tunnell o ddofednod bwytadwy, 96,000 tunnell o foron a 710,000 tunnell o datws yn cael eu taflu bob blwyddyn yn y DU.

Bydd meddwl am hylendid wrth storio, coginio, ailddefnyddio a rhewi bwyd yn helpu i gadw eich Nadolig yn ddiogel a lleihau gwastraff bwyd dros gyfnod yr ŵyl.

Bydd meddwl am hylendid wrth storio, coginio, ailddefnyddio a rhewi bwyd yn helpu i gadw eich Nadolig yn ddiogel a lleihau gwastraff bwyd dros gyfnod yr ?yl.

Siopa am fwyd dros y Nadolig

Ewch â digon o fagiau gyda chi wrth siopa am fwyd dros y Nadolig fel y gallwch chi gadw bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta ar wahân. Er mwyn atal croeshalogi, gwnewch yn siwr eich bod chi’n storio cig, pysgod a physgod cregyn amrwd ar wahân i fwyd a llysiau parod i’w bwyta.

Cofiwch orchuddio bwydydd amrwd a’u cadw ar silff waelod eich oergell.

Wrth siopa am fwyd dros y Nadolig, mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ a ‘defnyddio erbyn’ er mwyn cynllunio’ch prydau yn effeithiol, cael bwyd i bara’n hirach, a sicrhau nad ydych chi’n taflu bwyd yn ddiangen.

Gair i gall

Mae dyddiadau ar ei orau cyn yn ymwneud ag ansawdd: bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad hwn, ond efallai na fydd bellach ar ei orau.

Mae dyddiadau defnyddio erbyn yn ymwneud â diogelwch: ni ddylid bwyta, coginio na rhewi bwyd ar ôl y dyddiad hwn, gan ei fod yn gallu bod yn anniogel.

Gwiriwch fod tymheredd eich oergell yn 5°C neu’n is. Gallwch chi brofi hyn gyda thermomedr oergell. Os yw eich bwyd yn cael ei storio ar y tymheredd cywir, dylai bara hyd at y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Er mwyn i’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ fod yn ganllaw dilys, mae’n rhaid i chi ddilyn cyfarwyddiadau storio yn ofalus.

Sut i ddadmer eich twrci

Os yw eich twrci wedi’i rewi, gwiriwch y canllawiau ar y deunydd pecynnu ymlaen llaw. Mae modd coginio ambell i dwrci yn syth o’r rhewgell os yw cyfarwyddiadau’r cynhyrchwr yn dweud hynny.

Fodd bynnag, bydd angen dadmer mwyafrif y tyrcwn sydd wedi’u rhewi. Cofiwch gynllunio hyn ymlaen llaw, oherwydd gall twrci cyfan gymryd rhwng 3 a 5 diwrnod i ddadmer yn iawn.

Peidiwch â dadrewi'ch twrci ar dymheredd yr ystafell. Yn hytrach, dylech chi ddadmer eich twrci yn yr oergell. Cofiwch bob amser ddadmer eich twrci mewn cynhwysydd sy’n ddigon mawr i ddal yr hylif sy’n dod allan wrth ei ddadmer. Mae hyn er mwyn osgoi croeshalogi. Defnyddiwch ddysgl wedi’i gorchuddio ar waelod yr oergell fel na all ddiferu ar fwydydd eraill. Golchwch eich dwylo’n drylwyr bob amser ar ôl trin unrhyw ran o’r twrci amrwd.

Gallai twrci mawr arferol sy’n pwyso 6-7 cilogram gymryd mor hir â 4 diwrnod i’w ddadmer yn llawn yn yr oergell. Os nad oes cyfarwyddiadau dadmer ar eich twrci, gallwch chi ddarganfod drosoch chi eich hunan pa mor hir y bydd yn cymryd i’w ddadmer yn llwyr. Mewn oergell, caniatewch tua 10-12 awr y cilogram.

Os nad yw eich twrci wedi’i ddadmer yn llawn cyn coginio, efallai na fydd yn coginio’n gyson. Mae hyn yn golygu y gall bacteria niweidiol oroesi’r broses goginio a byddwch mewn perygl o wenwyn bwyd.

Sut i goginio eich twrci

Peidiwch â golchi twrci amrwd cyn ei goginio. Mae golchi cig amrwd yn lledaenu germau ar eich dwylo, dillad, offer cegin ac arwynebau. Bydd coginio’n drylwyr yn lladd unrhyw facteria sy’n bresennol.

Wrth goginio’ch twrci, cymerwch gip ar y cyngor ar y deunydd pecynnu gan ddilyn y cyfarwyddiadau coginio. Bydd y canllawiau coginio yn seiliedig ar dwrci nad yw wedi’i stwffio.

Ar ôl cyffwrdd â dofednod amrwd, mae’n bwysig golchi’ch dwylo’n drylwyr. Hefyd, cofiwch lanhau unrhyw arwynebau, byrddau torri neu offer cegin y mae dofednod amrwd wedi dod i gysylltiad â nhw.

Coginiwch eich stwffin mewn tun rhostio ar wahân, nid y tu mewn i’r twrci. Bydd twrci wedi’i stwffio yn cymryd mwy o amser i’w goginio ac efallai na fydd yn coginio’n drylwyr os nad yw wedi cyrraedd y tymheredd cywir drwyddo draw.

Darllenwch y cyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu eich twrci er mwyn canfod pa mor hir y bydd yn cymryd i’w goginio. Os nad oes unrhyw gyfarwyddiadau coginio, coginiwch y twrci mewn ffwrn sydd wedi’i chynhesu ymlaen llaw i 180ºC (350ºF neu Farc Nwy 4):

  • dylech ganiatáu 45 munud y cilogram, ac 20 munud ychwanegol ar gyfer twrci sy’n pwyso o dan 4.5 cilogram
  • dylech ganiatáu 40 munud y cilogram ar gyfer twrci sydd rhwng 4.5 cilogram a 6.5 cilogram
  • dylech ganiatáu 35 munud y cilogram ar gyfer twrci sy'n pwyso mwy na 6.5 cilogram

Mae angen gwahanol amseroedd coginio a thymereddau ar adar eraill:

  • dylech goginio gwyddau mewn ffwrn wedi’i chynhesu ymlaen llaw i 200ºC (400ºF neu Farc Nwy 6) am 35 munud y cilogram
  • dylech goginio hwyaden mewn ffwrn wedi’i chynhesu ymlaen llaw i 200ºC (400ºF neu Farc Nwy 6) am 45 munud y cilogram
  • dylech goginio cyw iâr mewn ffwrn wedi’i chynhesu ymlaen llaw i 180ºC (350ºF neu Farc Nwy 4) am 45 munud y cilogram, ac yna am 20 munud ychwanegol

Sicrhewch fod eich twrci yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio drwyddo draw.

Os nad oes thermomedr cig neu chwiliedydd (probe) tymheredd gennych chi, torrwch i mewn i ddarn mwyaf trwchus y cig, gwirio nad oes dim o’r cig yn binc a bod unrhyw suddion yn glir.

Rhan fwyaf trwchus cig aderyn cyfan yw’r darn rhwng y goes a’r fron.

Os oes prob tymheredd gennych chi, gwiriwch ddarn mwyaf trwchus y cig; mae angen iddo gyrraedd un o’r cyfuniadau canlynol i sicrhau ei fod wedi’i goginio’n iawn:

60°C am 45 munud 65°C am 10 munud 70°C am 2 funud 75°C am 30 eiliad 80°C am 6 eiliad

Cofiwch lanhau’r chwiliedydd tymheredd neu’r thermomedr coginio yn drylwyr ar ôl ei ddefnyddio er mwyn atal croeshalogi.

Ailddefnyddio eich bwyd dros ben

Ewch ati i ailddefnyddio ac ailddyfeisio eich bwyd dros ben mewn gwahanol ffyrdd. Cofiwch oeri a gorchuddio eich bwyd dros ben, a’i roi yn yr oergell neu’r rhewgell o fewn awr neu ddwy. Bydd rhannu bwyd dros ben yn ddognau llai yn ei oeri’n gyflymach ac yn helpu i reoli dognau.

Gallwch chi rewi twrci, cigoedd eraill a phrydau bwyd sy’n cynnwys cigoedd sydd wedi’u coginio a’u rhewi’n flaenorol. Bydd y bwyd yn ddiogel i’w fwyta am amser hir, ond efallai y bydd yr ansawdd yn gwaethygu ar ôl 3-6 mis.

Unwaith iddo ddadmer, dylech chi fwyta’r bwyd o fewn 24 awr. Hefyd, gallwch chi ddefnyddio twrci sydd wedi'i goginio'n flaenorol a'i rewi er mwyn creu pryd newydd, fel cyri twrci.

Mae gan Love Food Hate Waste amrywiaeth o ryseitiau a syniadau creadigol ar gyfer gwneud i’ch bwyd dros ben fynd ymhellach y Nadolig hwn.

Rhewi eich bwyd dros ben

Cofiwch rewi a dadrewi unrhyw fwyd dros ben ar gyfer prydau yn y dyfodol. Mae’r rhewgell fel ‘botwm oedi’. Mae’n ddiogel rhewi bwyd hyd at y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.

Gallwch chi rewi’r rhan fwyaf o fwydydd. Mae hyn yn cynnwys cigoedd amrwd a chigoedd wedi’u coginio, ffrwythau, tatws (ar ôl berwi am bum munud), caws wedi’i gratio, ac wyau. Mae gan Love Food Hate Waste restr ar storio bwyd sy’n cynnwys gwybodaeth ar sut i rewi gwahanol fathau o fwyd.

Pan fydd bwyd yn dadmer, mae ei dymheredd craidd yn codi. Mae hyn yn rhoi’r amgylchiadau delfrydol i facteria dyfu os cânt eu gadael ar dymheredd yr ystafell. Y peth gorau yw dadmer bwyd yn araf ac yn ddiogel yn yr oergell.

Gallwch chi hefyd ddadmer eich bwyd dros ben yn drylwyr mewn micro-don. Cofiwch sicrhau eich bod yn ailgynhesu’r bwyd nes ei fod yn stemio’n boeth. Unwaith y bydd y bwyd wedi'i ddadmer, cofiwch ei fwyta o fewn 24 awr.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid