llais y sir

Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae rhiant sengl yn sicrhau gwaith mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol

Mae ‘H’ yn rhiant sengl i ddau o blant ifanc. Cafodd ei rhoi mewn cysylltiad â Chymunedau am Waith a Mwy i gael cefnogaeth i’w helpu hi i symud tuag at gael gwaith.   Roedd hi hefyd yn awyddus i gwblhau ychydig o hyfforddiant i helpu i gryfhau ei CV a cheisiadau am swyddi yn y dyfodol.   Mae H yn unigolyn ifanc a chwrtais iawn sydd wedi bod yn bleser ei chefnogi. Mae hi wedi cadw mewn cysylltiad bob amser ac wedi dod i apwyntiadau ar amser.

Mynegodd H ei hawydd o gael gyrfa mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol oherwydd ei bod hi’n teimlo mai dyma ble mae ei chryfderau a’i thosturi.  Roedd Tom yn gallu cynorthwyo H i wneud cais ar gyfer rhaglen Camu mewn i Waith y GIG (Cylchoedd Mentora) sy’n cynnwys sesiynau grŵp ar-lein a gaiff eu cyflwyno drwy MS Teams, ac yna ymgymryd â phrofiad gwaith mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lleol.  Trefnodd Tom bod H yn cael benthyg gliniadur Chromebook er mwyn iddi allu bod yn bresennol yn y sesiynau, oherwydd heb y gliniadur ni fyddai hi wedi gallu gwneud hynny. Tua’r un amser roedd H hefyd wedi cofrestru ar gwrs hyfforddi symud a chodi pobl ar-lein i roi gwybodaeth a dealltwriaeth iddi o hyn fel ei bod hi’n gallu ei wneud yn gywir pan fo angen mewn swydd.

Roedd H yn rhagweithiol iawn ei hun a chwblhaodd dros 20 o dystysgrifau ar-lein yn ei hamser rhydd ar ôl i’w phlant fynd i’r gwely, a buodd mor garedig â rhoi copïau o’r tystysgrifau hyn i Tom.

Rai wythnosau’n ddiweddarach rhoddodd Tom wybod i H am raglen ‘Get Into Social Care’ Ymddiriedolaeth y Tywysog a oedd hefyd i fod i gael ei chyflwyno dros MS Teams.  Manteisiodd H ar y cyfle o gael cynnig lle ar y rhaglen hon, a mynychodd hi drwy ddefnyddio’r Chromebook. Cyn bo hir bydd H’n ymgymryd â gwaith banc gyda’r GIG yn rhan o raglen Cylchoedd Mentora mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n debygol o fod yn Ysbyty Glan Clwyd neu leoliad yn y gymuned.

Cafodd H gymorth i gael ffôn newydd gan fod ei ffôn ei hun yn hen iawn ac nid oedd apiau’n fodlon llwytho ar y sgrin, ac ni fyddai’n canu’n aml. Felly, prynwyd ffôn newydd iddi a oedd yn golygu y gallai ddychwelyd y Chromebook ar ôl deufis ac mae hi bellach yn gallu defnyddio’r ffôn ar gyfer llawer o bethau na allai ei wneud cyn hynny. Nid oedd hi’n gallu fforddio prynu ffôn newydd.

Ddechrau mis Medi, ymgeisiodd H am swydd (drwy ei ffôn newydd) gyda siop The Range yn y Rhyl. Aeth H i gyfweliad ddydd Gwener 2 Medi a chafodd gynnig swydd yno am 20 awr yr wythnos am 3 mis, ac yna ar ôl 3 mis y gobaith yw y gallai efallai weithio’n llawn amser. Mae hyn yn golygu y dylai hi allu cwblhau ei phrofiad gwaith banc gyda Chylchoedd Mentora’r GIG hefyd.

Yn garedig iawn, rhannodd H y canlynol - “Mae’r prosiect Cymunedau am Waith a Mwy wedi fy helpu i’n enfawr! Roeddwn i dan straen a phwysau ac yn ansicr o ba yrfa yr oeddwn i eisiau ei dilyn pan ddechreuais i. Roedd yn syml ers cysylltu â nhw fod gen i gefnogaeth gan un o’r hyfforddwyr gwaith, Tom, sydd wedi bod yn anhygoel o ran gwneud i mi deimlo’n gyfforddus i fynegi fy newisiadau gyrfa heb feirniadaeth.  Roeddwn i wedi cofrestru ar Raglen Cylchoedd Mentora’r GIG ac roedd fy ffôn yn hen iawn ac nid oeddwn yn gallu prynu un newydd. Helpodd y prosiect yn syth ac roeddwn i’n gallu cael ffôn newydd sbon a pharhau â fy nghwrs GIG. Rydw i wedi ennill dros 30 o dystysgrifau bellach pan ddechreuais heb unrhyw un.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi bod yn gymaint o help i mi o ran fy nghadw i’n brysur a fy helpu i gyrraedd ble yr ydw i nawr, drwy fenthyg gliniadur i mi er mwyn i mi allu cwblhau fy nghyrsiau ar-lein. Ni fyddwn wedi gallu fforddio bod ble yr ydw i nawr na bod â’r hyder sydd gen i oni bai am y prosiect.  Rydw i bellach yn gweithio’n rhan amser mewn swydd yr ydw i’n teimlo’n fwyaf hyderus tra fy mod hefyd yn gwneud gwaith banc yn ysbyty Glan Clwyd sydd â hyfforddiant yn dal i fynd rhagddo. A byddwn yn awgrymu’n fawr i unrhyw un sydd efallai’n teimlo’n ansicr o ran ble i fynd nesaf pan fo gennych chi blant neu am unrhyw reswm arall, i gysylltu.”

Ffair swyddi yn cefnogi cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc

Daeth bron 30 o arddangoswyr at ei gilydd yn ddiweddar i gefnogi help cyflogaeth i bobl ifanc.

Yn Ffair Gyrfaoedd Sir Ddinbych yn Gweithio a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref y Rhyl, cafodd bron 100 o breswylwyr ifanc 16 oed a hŷn gyngor a help gwerthfawr am gyflogaeth.

Yn y digwyddiad, roedd yr arddangoswyr yn cynnwys amrywiaeth o gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, darparwyr addysg a gwasanaethau cefnogaeth.

Roedd modd dysgu am gyfleoedd gwaith ym maes Gweinyddu a Chyllid, Adeiladu, Addysg, Peirianneg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gyrru a Logisteg, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gofal Plant, Tecstiliau, Tai, Gweithgynhyrchu, Gemau a Digidol. Roedd y rhai a oedd yn ystyried bod yn hunangyflogedig yn gallu cael cyngor yn y digwyddiad hefyd.

Roedd cyfle i ddarganfod elfennau rhyngweithiol y digwyddiad hefyd, a oedd yn cynnwys Fan Gemau, lle’r oedd cyfle i bobl roi cynnig ar rai o’r gemau diweddaraf. Roedd cerbydau’r Gwasanaethau Brys wedi’u parcio y tu allan er mwyn i bobl eu gweld hefyd.

Mae’r Digwyddiad Gyrfaoedd hwn yn rhan o raglen Sir Ddinbych yn Gweithio, a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi Pobl Ifanc sy’n byw yn Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant a chymorth i gael gwaith neu i fod yn hunangyflogedig.

Ariannwyd y digwyddiad gyrfaoedd hwn drwy’r Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, a gaiff ei ddarparu’n rhannol drwy’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy sy’n helpu’r bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith drwy gynnig cymorth a chefnogaeth un i un. Mae Cymunedau am Waith a Mwy’n rhan o raglen Sir Ddinbych yn Gweithio, a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi Pobl Ifanc sy’n byw yn y sir, gyda chefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant a chymorth i gael gwaith neu i fod yn hunangyflogedig.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, “Roeddwn wrth fy modd o fynychu’r digwyddiad hwn a gweld amrywiaeth mor wych o gefnogaeth a chyngor cyflogaeth sydd ar gael i bawb a ddaeth trwy’r drws.

“Rwy’n falch iawn o weld Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cymorth i’n preswylwyr iau yn ystod cyfnod mor anodd. Rydym yn hynod o falch o gael y gwasanaeth hwn, sy’n ceisio trechu tlodi trwy gyflogaeth.

“Dyma’r holl syniad y tu ôl i Sir Ddinbych yn Gweithio - helpu pobl. “Wrth i gostau byw gynyddu, mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu’r gefnogaeth hon am ddim lle bo’n bosibl, er mwyn helpu pobl iau i ganfod y gyflogaeth orau i weddu iddyn nhw.”

Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan neu i gael cefnogaeth cyflogaeth, ewch i working.denbighshire.gov.uk/.

Canolbwynt Cyflogaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio

Canolbwynt Cyflogaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio

Pob dydd Llun rhwng 10.30am a 4.00pm

yn

Llyfrgell Rhyl

Os ydych rhwng 16 a 24 oed, dewch draw i Ganolbwynt Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio; y lle i ddod am wybodaeth, offer, cyngor a chymorth am gyflogaeth, gyrfaeoedd, lles a llawer mwy.

01745 331438 / 07342 070635

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid