llais y sir

Tai Sir Ddinbych

Cyhoeddi Enillwyr Gwobr Tenant Tai Sir Ddinbych eleni!

Roedd ein hail wobrau Tenant Tai Sir Ddinbych yn dathlu cyflawniadau a chyfranogiad ein tenantiaid, y gwaith o fewn cymunedau ac arddangos prosiectau sydd wedi eu cynnal ar draws Sir Ddinbych.  

Roedd dros 95 o westeion wedi mynychu’r digwyddiad hwn ym Mwyty 1891, Y Rhyl, gan gynnwys tenantiaid, noddwyr busnes lleol a gweithwyr proffesiynol allweddol tai a’r cyngor.   Hoffem ddiolch i’n prif noddwr, Brenig Construction a TPAS Cymru am arwain y gwobrau, yn gwneud i bawb deimlo yn gartrefol a mwynhau’r noson.

Rydym mor falch i gyhoeddi ein hail enillwyr Gwobr Tenantiaid Tai Sir Ddinbych!! Llongyfarchiadau mawr i:

  • Tenant y Flwyddyn - Gwenda Williams
  • Tenant Ifanc y Flwyddyn (o dan 25 oed) - Makayla Flynn
  • Cymydog Da y Flwyddyn - Gwyndaf ‘Jock’ Davies
  • Preswylydd Tai / Grŵp Cymunedol y Flwyddyn - Canolfan Gymunedol Trem y Foel, Rhuthun
  • Gwobr Gwasanaethau Cwsmeriaid ar ran Tai Sir Ddinbych - Owen Evans
  • Prosiect Cymunedol y Flwyddyn - Hwb Cymunedol Pengwern, Llangollen
  • Arwr Cymunedol - Jonathan Lawton
  • Gardd y Flwyddyn - ardal gymunedol - Gellifor a Llangynhafal
  • Gardd y Flwyddyn - Tenant/unigolyn - Carolyn Philips ac Alun Scourfield
  • Gardd y flwyddyn – Ardal gymunedol - Llys Offa
  • Arwr Cyfnod Clo - Debbie Holmes
  • Gwobr Tai Sir Ddinbych - Adam Garvey a Richard Jones, Gwasanaethau Gwresogi GCS

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae Gwobrau Tai Sir Ddinbych yn mynd o nerth i nerth.   Mae’n wych dod â chymunedau ac unigolion ynghyd i ddathlu beth maent i gyd wedi’i gyflawni drwy waith caled, penderfyniad ac yn syml bod yn denantiaid gwych. 

“Rydym yn gweld llawer iawn o waith cadarnhaol yn digwydd yn ein cymunedau o ddydd i ddydd, o dan arweiniad ein tenantiaid i helpu i gefnogi a gwella ansawdd bywyd pawb. 

“Mae bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr yn anrhydedd i’r grwpiau ac unigolion hynny a diolch iddynt am eu hymdrechion yn eu cymunedau lleol.”

Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau i’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei fod yn gweithredu newidiadau i’r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Mae hyn yn effeithio ar ein cytundebau tenantiaeth o 1 Rhagfyr 2022.   Rydym wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn i helpu i egluro beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i’n tenantiaid.

Deddf Rhentu Tai (Cymru) 2016 - beth ydyw a beth mae’n ei olygu?

  • O 1 Rhagfyr 2022, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu’r Ddeddf Rhentu Tai. Bydd hyn yn newid y ffordd yr ydym yn rhentu ein cartrefi, gan wella’r profiad rhentu i chi.  
  • Bydd y ddeddf newydd yn gwella’r ffordd yr ydym yn rhentu, rheoli a sut rydych yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

Beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i chi?

  • Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Byddwn yn darparu contractau/cytundebau newydd i chi yn y 6 mis nesaf.
  • O dan y gyfraith newydd, byddwch yn cael eich adnabod fel ‘deiliaid contract’. Byddwn yn disodli cytundebau tenantiaeth gyda ‘chontractau galwedigaeth’. 
  • Ar gyfer ‘deiliaid contract’ (chi) bydd hyn yn golygu:
    • Derbyn contract ysgrifenedig yn gosod eich hawliau a chyfrifoldebau.
    • Hawliau olyniaeth gwell, mae’r rhain yn nodi pwy sydd â hawl i barhau i fyw yn yr annedd, er enghraifft, ar ôl i’r tenant presennol farw.
    • Trefniadau mwy hyblyg i ddeiliaid cyd-gontract, yn ei gwneud yn haws ychwanegu neu ddileu eraill i gontract meddiannaeth.

Sut fydd hyn yn effeithio arnoch chi?

  • Byddwch yn derbyn contract meddiannaeth newydd o fewn 6 mis o 1 Rhagfyr.
  • Bydd tenantiaid newydd ar ôl 1 Rhagfyr yn llofnodi’r contract meddiannaeth newydd yn y ffordd arferol ac yn derbyn copi o fewn 14 diwrnod.
  • Bydd y contract meddiannaeth wedi’i gynnwys mewn ‘datganiad ysgrifenedig’. Bydd y datganiad hwn yn cadarnhau telerau’r contract ac yn cynnwys yr holl delerau contract gofynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Sef:
    • Materion allweddol: Er enghraifft, enwau’r landlord a deiliad contract a chyfeiriad yr eiddo.  Mae’n rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract. 
    • Telerau Sylfaenol: Mae’n cynnwys agweddau pwysicaf y contract, gan gynnwys sut rydym yn meddiannu a’n rhwymedigaethau o ran atgyweiriadau. 
    • Telerau Atodol: Siarad am y materion mwy ymarferol, o ddydd i ddydd sy’n berthnasol i’r contract meddiannaeth.  Er enghraifft, y gofyniad i’n hysbysu os bydd yr eiddo yn cael ei adael yn wag am bedair wythnos neu fwy. 
    • Telerau Ychwanegol: Mynd i’r afael â materion penodol eraill y cytunwyd arnynt, er enghraifft, telerau sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes. 

A fyddaf yn parhau’n denant o dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi?

Byddwch yn parhau’n denant. Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn cael ei alw’n gontract meddiannaeth.

Beth sy’n digwydd i fy nghytundeb tenantiaeth presennol ar ôl 1 Rhagfyr?

Bydd ein cytundebau tenantiaeth presennol yn newid i ‘gontract meddiannaeth’, fydd yn disodli’r cytundeb tenantiaeth.   Bydd llawer o’n telerau presennol yn aros yr un fath ond bydd rhai pethau yn newid e.e.rydym angen rhoi mwy o rybudd am gynyddu’r rhent.

Fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar fy rhent?

Na, nid yw hyn yn effeithio ar eich rhent nac yn costio unrhyw beth i chi.

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud?

Pan fyddwch yn derbyn eich Contract Meddiannaeth newydd, byddwch angen ei ddarllen, a gwneud yn siŵr eich bod yn deall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau. 

 

Cefnogir y newidiadau hyn gan sefydliadau tenant fel TPAS Cymru ac mewn partneriaeth gyda Shelter Cymru.  

 

Am fwy o wybodaeth a rhai cwestiynau cyffredin gan Lywodraeth Cymru ewch ihttps://gov.wales/renting-homes-frequently-asked-questions-tenants

Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Rhaglen Ôl-osod

Cam 2 - Rhodfa Rhydwen, Y Rhyl

Mae gwaith wedi dechrau ar raglen gwella ynni a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i weddill ein heiddo ar Rodfa Rhydwen, Y Rhyl. 

Mae’r gwelliannau yn cynnwys:

  • Gosod paneli solar - bydd y rhain yn cynhyrchu trydan ac yn ei storio mewn batris cysylltiedig er mwyn galluogi defnydd ynni yn ystod y nosweithiau.
  • Gwaith inswleiddio waliau allanol gwell - bydd hyn yn helpu i leihau drafft a’r ynni sydd ei angen i gynhesu bob cartref, yn arbennig yn ystod y gaeaf.

Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych gweld dechrau ail gam y gwaith gwelliannau ynni yn Rhodfa Rhydwen.

“Ar ôl cwblhau’r gwaith bydd y cartrefi hyn â gwell effeithlonrwydd ynni yn ystod cyfnod o gostau tanwydd cynyddol, a bydd hefyd yn cefnogi gwaith y Cyngor i leihau ein hôl-troed carbon ar draws y sir.”

Canol y Dre, Rhuthun:

Mae ein hail raglen, fydd yn dechrau’r hydref hwn, ar 17 eiddo yng Nghanol y Dre, Rhuthun.  

Bydd y prosiect hwn yn gwella:

  • Ymddangosiad, toeau a rendro. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i leihau drafft a’r ynni sydd ei angen i wresogi cartrefi, yn arbennig yn ystod y gaeaf.  
  • Gwella mesurau ynni, gan gynnwys paneli solar, batris ac inswleiddio waliau allanol cartrefi pedwar o denantiaid. Bydd y paneli solar yn cynhyrchu trydan ac yn ei storio yn y batris, er mwyn galluogi i denantiaid ddefnyddio ynni yn ystod y nosweithiau.

Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym ni’n falch o gyflwyno ein gwaith gwella ynni i’n cartrefi cyngor yng Nghanol-y-Dre.

“Ar ôl cwblhau’r gwaith bydd y cartrefi hyn â gwell effeithlonrwydd ynni yn ystod cyfnod o gostau tanwydd cynyddol, a bydd hefyd yn cefnogi gwaith parhaus y Cyngor i leihau ein hôl-troed carbon ar draws y sir.

Aberadda, Llangollen - Cynllun Newid To Fflat

Mae Tai Sir Ddinbych wedi dechrau gweithio ar newid y to fflat yn fflatiau Aberadda, Llangollen.  Cafodd y fflatiau eu hadeiladu yn wreiddiol yn y 1960au, pan oedd toeau fflat yn boblogaidd.   Rydym wedi atgyweirio’r to yn y gorffennol, ond mae yna bob amser ddiffygion yn nyluniad gwreiddiol y fflatiau. Bellach, rydym yn gweithio i wella’r to ac ymddangosiad cyffredinol y fflatiau.  

Rydym yn adeiladu dros y to presennol, gyda tho ar ongl ffrâm ddur. Bydd y math yma o do yn cael gwared ar holl broblemau gyda’r hen do, yn ogystal â gwella’r effeithlonrwydd thermol y fflatiau gan y byddwn yn gallu ei inswleiddio yn well. Bydd y to tebyg i lechi newydd hefyd yn toddi i mewn yn well gyda’r eiddo cyfagos. 

Fel rhan o’r prosiect, rydym hefyd yn uwchraddio ac yn gwella ymddangosiad allanol y fflatiau.  Bydd hyn yn moderneiddio edrychiad a theimlad yn ogystal â gwella inswleiddio cyffredinol yr adeilad. Rydym yn gyffrous iawn am y prosiect hwn a phrosiectau tebyg a drefnwyd ar draws Sir Ddinbych i wella effeithiolrwydd ynni cartrefi ein tenantiaid. 

 

 

Y wybodaeth ddiweddaraf ar gartrefi newydd

Prestatyn:

Yn ein newyddlen diwethaf, gwnaethom rannu rhai lluniau o’n datblygiad fflatiau newydd ar safle’r hen lyfrgell ar Ffordd Llys Nant ym Mhrestatyn.   Ers hynny, mae ein contractwr wedi bod yn gwneud cynnydd da gyda’r gwaith adeiladu ac mae’r ffrâm ddur nawr yn ei lle. Mae hyn yn rhoi argraff dda o ba mor fawr fydd y datblygiad ar ôl ei orffen. Bydd gwaith adeiladu’r pedair ar ddeg o fflatiau yn cael ei gwblhau’r gwanwyn nesaf. 

Y Rhyl:

Y llynedd gwnaethom ddweud wrthych ein bod wedi prynu’r hen swyddfa dreth ar Ffordd Churton, Y Rhyl i’w drosi yn fflatiau. Mae gwaith bellach wedi dechrau ar y safle a bydd deuddeg o fflatiau yn barod i denantiaid yr haf nesaf. 

Dyserth:

Y llynedd gwnaethom brynu tai fforddiadwy newydd ar ddatblygiad Cysgod y Graig yn Nyserth, a restrir ar Tai Teg.   Rydym wedi cael y cyfle i brynu mwy eleni, ac mae’r rhain yn cynnwys tri thŷ ar wahân a fflatiau pedair ystafell wely.   Rydym yn gobeithio gallu dweud mwy wrthych yn rhifyn y gwanwyn a bydd ar gael ar Tai Teg yn fuan. 

  

Cartrefi Goddefol:

Yn ein newyddlen nesaf, byddwn yn gallu rhannu gwybodaeth am ein cartrefi goddefol a fflatiau effeithlon o ran ynni a adeiladwyd yn Ninbych a Phrestatyn.  Gyda phrisiau ynni yn codi, bydd manteision adeiladu’r math yma o dai hyd yn oed yn fwy pwysig yn y dyfodol.   Cadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf. 

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Ddatblygu Cymunedol

Mae ein tîm datblygu cymunedol (gwytnwch) wedi bod yn brysur dros yr haf, yn darparu cefnogaeth, cyngor a rhaglenni gweithgaredd hwyliog o fewn ein cymunedau.   Mae'r rhain yn cynnwys:

Gadewch i ni chwarae allan

Yn ystod gwyliau’r haf, roeddem yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Hamdden Sir Ddinbych Cyf a Sir Ddinbych yn Chwarae.  Gyda’n gilydd gwnaethom ddarparu sesiynau Gadewch i Ni Chwarae Allan yng Nghorwen (dydd Mercher, 10.30am-12.30pm) a Llangollen (dydd Mercher 2.00pm-3.00pm) i dros 100 o bobl!  Roedd y gweithgareddau'n cynnwys chwaraeon, chwarae blêr, celf a chrefftau. Roedd teuluoedd yn dweud eu bod wirioneddol yn mwynhau’r sesiynau wythnosol ac yn methu aros iddynt gael eu cynnal yn ystod pob gwyliau ysgol.   Cadwch olwg ar dudalen Facebook SCDP am fwy o wybodaeth https://www.facebook.com/SouthDenbighshireCommunityPartnership

   

Sioeau Teithiol Costau Byw

Gweithio mewn partneriaeth gyda Dŵr Cymru, Nest, Cymru Gynnes, Undeb Credyd Cambrian, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, Uned Benthyg Arian Anghyfreithiol Cymru a Sir Ddinbych yn Gweithio, mae ein tîm wedi bod ar daith ar draws y sir, yn cynghori pobl am yr argyfwng costau byw. 

Roeddem eisiau ymweld â’n cymunedau, gwrando ar bobl am eu pryderon, cynnig cyngor a chefnogaeth am gostau cynyddol ynni, tanwydd a bwyd.  Roedd partneriaid yn gallu rhannu syniadau, cyngor ac awgrymiadau sut i helpu yn ystod y misoedd i ddod.  

Roedd 450 o breswylwyr wedi dod draw i’n sioeau teithiol, gyda 26 yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer mwy o gefnogaeth.   Roedd adborth o’r digwyddiadau yn dangos bod hyn yn rhywbeth mae cymunedau eisiau ac rydym yn gobeithio bod o gwmpas eto’n fuan.  Cadwch olwg ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Prosiect Bwyta’n Dda, Coginio’n Araf

Yn dilyn peilot llwyddiannus yn 2020/2021, daeth Tai Sir Ddinbych a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ynghyd eto i ddarparu poptai araf i’n tenantiaid.

Syniad y prosiect oedd cysylltu â thenantiaid oedd mewn perygl o ddioddef tlodi bwyd a thanwydd y gaeaf hwn.  Derbyniodd 66 o denantiaid bopty araf, cynhwysion ffres, llyfr rysáit a dolen i arddangosiadau ar-lein ar sut i baratoi prydau, ynghyd â mesurau arbed ynni.

Gwnaethom holi’r tenantiaid sut oeddent yn dod ymlaen, yn ogystal â chael sgwrs am wneud y mwyaf o incwm aelwyd, lleihau costau ble gallent, datrys materion dyled, cyngor am ynni a chyfleustodau a sut i ymgeisio am grantiau a hawliadau.

Gan fod hwn yn brosiect mor llwyddiannus, byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn y dyfodol, i helpu ein tenantiaid. 

Agoriad Swyddogol Canolbwynt Cymunedol Pengwern:

Ym mis Awst, agorwyd Canolbwynt Cymunedol newydd Pengwern yn swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych.   Roedd teuluoedd o’r gymuned leol wedi dod draw i fwynhau gweithgareddau gan gynnwys celf, crefft, natur, plethu gwallt, breichledau a llawer mwy. Roedd yna wiriadau beics hefyd, adloniant a lluniaeth. 

Mae’r ganolfan yn gweithio i gynyddu cyfleoedd i wella sgiliau a dyheadau, ynghyd ag adnoddau i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau i gefnogi pobl.

Dywedodd y Cynghorydd. Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Rydym yn falch iawn o barhau i weithio gyda’n sefydliadau partner i gefnogi gwaith parhaus y ganolfan i wella lles cyffredinol y gymuned leol.”

Dywedodd Margaret Sutherland, Prif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych (SDCP):  “Mae SDCP yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a Chyfeillion Pengwern ar ddatblygiad y ganolfan gymunedol, a fydd yn darparu gwell gweithgareddau a gwasanaethau ar gyfer cymuned Llangollen.

“Nododd ymgynghoriad yn ystod haf 2021 y gwasanaethau a’r gweithgareddau yr oedd y gymuned yn teimlo eu bod eu hangen.  Mae gan bob partner ddyheadau clir iawn ar gyfer y canolbwynt i ddarparu lle y bydd Cymuned Llangollen yn ei chroesawu ac yn cyfrannu at ei rheoli a’i chyfeirio.”

Cadwch olwg ar dudalen Facebook y Canolbwynt am y gweithgareddau diweddaraf a drefnwyd. 

Cyngor ar yr Argyfwng Costau Byw

Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith andwyol ar bob un ohonom.   Mae pris bwyd a nwyddau yn uwch, mae costau gwresogi ein cartrefi wedi cynyddu (gyda’r cap ar brisiau ynni yn cynyddu eto yn ddiweddarach eleni), mae tanwydd yn fwy drud, ac nid yw incwm pobl yn ymestyn mor bell ag yr oedd yn arfer gwneud. 

Os ydych yn ei chael hi’n anodd dal i fyny gyda’ch biliau, yn ei chael hi’n anodd gyda rheoli dyledion, ddim yn siŵr a yw eich cartref mor effeithlon o ran ynni â phosibl, neu eisiau tawelwch meddwl yn gwybod eich bod yn hawlio popeth sydd gennych hawl iddo, mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yma i’ch helpu chi.

Rydym yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth cyfrinachol, diduedd am ddim.  

Gyda sesiwn gwneud yn fawr o incwm, byddwn yn helpu i sicrhau eich bod yn hawlio’r hyn sydd piau chi a’ch bod yn derbyn y swm cywir o fudd-dal, byddwn yn helpu i nodi a rheoli unrhyw ddyledion ac ôl-daliadau sydd gennych, gallwn eich atgyfeirio ymlaen i gynlluniau a phrosiectau mwy (boed ar gyfer boeleri newydd neu inswleiddio drwy Nest, neu gymorth gyda pha bynnag grantiau sydd ar gael), a byddwn yn eich helpu gyda chyngor ymarferol a mesurau bach effeithlon o ran ynni. 

Os ydych yn aelod o’r gymuned Lluoedd Arfog, mae gennym ymgynghorwyr ynni arbenigol yn barod i helpu.   Diolch i’n partneriaeth gyda Woody’s Lodge, gyda chyllid o’r Cynllun Unioni Ynni, mae ein Prosiect Ynni yn gallu cynnig ymweliad â’r cartref - ynghyd â’n cynnig arferol o gyngor, cefnogaeth ac atgyfeiriad - i asesu pa un a yw eich cartref yn effeithlon o ran ynni â phosibl a chynnig mesurau bach i helpu tuag at hynny. 

Gyda chostau byw yn cynyddu, mae’n bwysig fod gennych fynediad i’r holl gefnogaeth rydych ei hangen cyn argyfwng, felly cysylltwch heddiw am gyngor annibynnol, diduedd a chyfrinachol am ddim. 

Ffoniwch: 08082 787 933

E-bost: advice@dcab.co.uk

Gallwch weld ymgynghorydd yn ein hystafell aros ar-lein (dydd Llun-dydd Gwener, 9.30am - 4.30pm) https://attenduk.vc/area-1

Dyma rai gwefannau defnyddiol am gyngor a chefnogaeth bellach:

Cyngor Sir Ddinbych - www.sirddinbych.gov.uk/cymorth-costau-byw  

Money Helper UK - https://www.moneyhelper.org.uk/cy

Mae MoneyHelper yn uno canllawiau arian a phensiynau i’w gwneud yn gynt ac yn haws i ganfod y cyngor iawn, mae MoneyHelper yn dod â’r gefnogaeth a gwasanaethau tri darparwr arweiniad ariannol a gefnogir gan y llywodraeth, y Gwasanaeth Cyngor Ariannol, y Gwasanaeth Cyngor ar Bensiynau a Pension Wise.

Turn2us - https://www.turn2us.org.uk/

Mae Turn2us yn elusen genedlaethol, sy’n mynd i’r afael ag ansicrwydd ariannol.   Mae’n cynnig gwasanaethau i gyfrif pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt ac mae’n cynnal llinell gymorth i roi cefnogaeth a gwybodaeth i bobl sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd neu’n ei chael hi’n anodd mynd ar-lein.   Rhif eu llinell gymorth yw 0808 802 2000

StepChange - https://www.stepchange.org/

Mae StepChange yn cynnig cyngor arbenigol, am ddim am ddyledion naill ai ar-lein neu dros y ffôn. Gallwch siarad gyda nhw am eich dyledion, a byddant yn edrych ar eich sefyllfa ariannol a’ch cynghori am yr hyn y gallwch ei wneud nesaf.   Eu llinell gymorth cyngor ar ddyledion 0800 138 111

Iechyd Meddwl – Samariaid - https://www.samaritans.org/?nation=wales

Os ydych yn meddwl ei fod yn argyfwng neu os hoffech siarad gyda rhywun ar y ffôn, ffoniwch y Samariaid. Gallwch ffonio llinell gymorth y Samariaid 116 123 dydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg, mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinell dir.

Cadw’n gynnes y gaeaf hwn - cyngor ar fudd-daliadau gwresogi

Oeddech chi'n gwybod bod nifer o daliadau, cyngor a chefnogaeth ar gael ichi dros fisoedd y gaeaf?  Dyma ychydig o bethau i’w hystyried:

Taliad Tanwydd y Gaeaf:

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1956, fe allech chi gael rhwng £250 - £600 i'ch helpu i dalu'ch biliau gwresogi.  Fel rheol, byddech chi'n cael Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydych chi'n gymwys a'ch bod chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (nid Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Gyngor, Budd-dal Plant na Chredyd Cynhwysol).  I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 0800 731 0160 neu ewch i https://www.gov.uk/taliad-tanwydd-gaeaf

Taliad Tywydd Oer:

Gallech chi gael taliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.  Rhaid i gofnod y tymheredd cyfartalog neu'r rhagolygon ar gyfer eich ardal fod yn sero gradd neu lai am 7 diwrnod yn olynol. Os ydych chi’n cael un o’r budd-daliadau isod, yna dylai’r taliad hwn ddod i chi yn awtomatig.

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais

I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â https://www.gov.uk/taliad-tywydd-oer)

Cynllun Tanwydd Consesiynol Cenedlaethol:

Gallech chi gael tanwydd solet neu lwfans arian parod am ddim os ydych chi'n gyn-weithiwr i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB) neu Gorfforaeth Glo Prydain (BCC).  Mae angen i chi fod yn gymwys i gael y lwfans tanwydd trwy'r Cynllun Tanwydd Consesiwn Cenedlaethol (NCFS), a dim ond os ydych chi eisoes yn cael tanwydd trwy'r cynllun y gallwch chi gael y lwfans arian parod.  I weld a ydych chi’n gymwys, cysylltwch â’r Cynllun ar 0345 759 0529.

I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o'r budd-daliadau gwresogi hyn, ewch i https://www.gov.uk/national-concessionary-fuel-scheme neu siaradwch â'ch swyddog tai ar 01824 706000.

I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau cefnogi sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/budd-daliadau-grantiau-a-chyngor-arian/budd-daliadau-grantiau-a-chyngor-ar-arian.aspx )

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid