Darpariaeth Dillad Isaf Mislif ar gyfer Ymarfer Corff am ddim
Mae'r Cyngor, drwy grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, wedi sicrhau cyllid i ddarparu dillad isaf mislif ar gyfer ymarfer corff i’w defnyddio gan breswylwyr yn rhad ac am ddim.
Gan weithio gyda’r darparwr Hey Girls, mae 100 o dalebau ar gael i’w hawlio ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o gyhoeddi mwy yn ddibynnol ar y galw.
Mae’r Cyngor hefyd yn cydweithio gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf (HSDd) gan y bydd y cynnig yn cael ei hyrwyddo i bob aelod a defnyddiwr gwasanaeth HSDd.
Gellir gwisgo’r dillad isaf mislif ar gyfer ymarfer corff am hyd at 12 awr ac mae ganddynt nodweddion amsugno lleithder er mwyn sicrhau eu bod yn gyfforddus i’r sawl sy’n eu gwisgo.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol: “Bydd y cynnig hwn yn sicrhau fod y cynnyrch hanfodol hwn ar gael am ddim i’r rheiny sydd eu hangen yn ystod gweithgareddau chwaraeon.
"Bydd hyn yn lleddfu pryderon ac yn rhoi hwb i hyder y rheiny sydd eu hangen, ac mae’n bleser gweld eu bod ar gael ac yn hygyrch.”
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd: “Bydd HSDd yn cefnogi Cyngor Sir Ddinbych â’r prosiect pwysig hwn, nid yn unig drwy hyrwyddo’r talebau i’n haelodau a’n cwsmeriaid, ond hefyd drwy rannu’r neges â chlybiau a phartneriaid lleol drwy ein tîm Cymunedau Bywiog.
"Mae trechu tlodi mislif drwy godi ymwybyddiaeth a darparu mynediad at gynnyrch o ansawdd uchel yn nod gwerthfawr, ac mae’n bleser gennym fod ynghlwm â’r fenter hon.”
Gall cyfranogwyr gofrestru ar gyfer taleb drwy mynd i'r ddolen urddas mislif.
Ydych chi erioed wedi meddwl am fod yn llywodraethwr ysgol?

Mae llywodraethwyr ysgolion yn gweithio i gynllunio cyfeiriad strategol yr ysgol, goruchwylio cyllidebau, a chefnogi a herio'r pennaeth. Fel rhan o'r bwrdd llywodraethu, mae llywodraethwyr yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu ysgolion i redeg yn effeithlon ac yn effeithiol er mwyn rhoi'r addysg orau bosibl i blant.
Mae ysgolion sydd â byrddau llywodraethu cryf mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar yr addysg maen nhw'n ei darparu ar gyfer eu disgyblion.
Os ydych yn meddwl bod gennych yr ymrwymiad a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth, yna cofrestrwch eich diddordeb ar ein gwefan.