Cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Cynhaliwyd cyfarfod o Bartneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ym mis Hydref yng Goleg Cambria Llysfasi.
Mae’r cyfarfodydd yn dod â phrif fuddiannau ynghyd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ystyried a chynghori ar gadwraeth a gwella harddwch naturiol a chymeriad nodedig lleol y dirwedd, gan gynnwys ei agweddau ffisegol, ecolegol a diwylliannol. Mae Partneriaeth AHNE yn adrodd i, ac yn cynghori’r Cyd-bwyllgor o ran datblygu a darparu Cynllun Rheoli AHNE.
Yn y cyfarfod, cafwyd cyflwyniadau ar:
- Prosiect Cymunedol Pentre Dŵr - Diwrnod ym Mywyd Ffermwr
- Dŵr Cymru - • Proseswyr trin dŵr gwastraff a rheoleiddwyr
- Prosiect Parc Cenedlaethol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru
Dywedodd Cadeirydd y Bartneriaeth, Andrew Worthington OBE bod Partneriaeth yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn bwysig iawn wrth gefnogi gwaith yr AHNE gan eu bod nhw’n darparu arweiniad gan grŵp ymroddgar o aelodau gwirfoddol sy’n cynrychioli amrywiaeth o elfennau o reolaeth cefn gwlad, maen nhw hefyd yn ystyried y ‘Camau Gweithredu' o Gynllun Rheoli’r AHNE.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod o Gydbwyllgor yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth y Cabinet: “Mae hwn yn gyfarfod pwysig a buddiol iawn ar gyfer datblygu’r gwaith o amddiffyn a gwella tirwedd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, diolch i gyfraniad gwych yr aelodau gwirfoddol sy’n ffurfio’r bartneriaeth.”
Dywedodd Swyddog AHNE, Howard Sutcliffe bod gan Bartneriaeth AHNE bob amser awydd clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn yr AHNE, ac a hoffai ymuno â’r Bartneriaeth. Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at Karen.Weaver@sirddinbych.gov.uk
O’r chwith Swyddog AHNE, Howard Sutcliffe, Cadeirydd Cydbwyllgor AHNE, y Cynghorydd Dave Hughes (CSFf), Aelod o Gydbwyllgor AHNE y Cynghorydd Emrys Wynne, Cadeirydd Partneriaeth AHNE, Andrew Worthington MBE.