Yma i helpu gyda chostau byw
Gall Llywodraeth Cymru ac Advicelink Cymru eich helpu i hawlio eich arian.

Mae angen ychydig o gymorth a chefnogaeth ar bob un ohonom o bryd i’w gilydd, a gyda chostau byw yn cynyddu mae angen cymorth ar lawer o bobl yng Nghymru nawr.
Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl.
Os nad ydych chi’n siŵr pa gymorth sydd ar gael, gall Advicelink Cymru eich helpu i hawlio eich arian.
Ffoniwch y llinell gymorth ‘Hawlio eich arian’ am gyngor cyfrinachol am ddim ar eich hawl i arian ychwanegol o:
- Fudd-daliadau llesiant, fel Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Gofalwyr a Chredyd Pensiwn.
- Cymorth Llywodraeth Cymru.
Gall cynghorydd hefyd drefnu i chi gael cymorth â dyledion a materion ariannol personol.
Pan fyddwch yn cysylltu ag Advicelink Cymru, bydd ymgynghorydd hyfforddedig yn siarad â chi am eich amgylchiadau ac yn eich helpu i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael.
Bydd yr ymgynghorydd yn eich cefnogi drwy gydol y broses hawlio ac yn eich helpu i lenwi unrhyw ffurflenni hawlio.
Gallant hefyd gynghori ar ba dystiolaeth y mae angen i chi ei rhoi i gefnogi’ch cais.
Cysylltwch ag ymgynghorydd heddiw drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim ar 0808 250 5700 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm neu ewch i'w gwefan.