llais y sir

Gofal Cymdeithasol

Sesiynau Realiti Rhithwir yn cael eu cynnig i staff Gofal Cymdeithasol

Fel rhan o wythnos diogelu, roedd aelodau o staff Cyngor Sir Ddinbych yn y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd wedi cymryd rhan mewn sesiynau Realiti Rhithwir unigryw er mwyn trochi eu hunain mewn meysydd fel trawma a diogelu.

Trwy ddechrau ar daith trwy Realiti Rhithwir, bydd ymarferwyr yn profi cyfres o ffilmiau Realiti Rhithwir gan ddilyn bywydau plant a phobl ifanc yn agos o’r cyfnod cyn geni at y glasoed, gan eu helpu i gael dealltwriaeth well o feysydd fel trawma ac esgeulustod a sut gallai hyn gael effaith ar eu bywyd yn nes ymlaen.

clustffonau VR

Mae’r dechnoleg hon yn caniatáu amgylchedd dysgu sy’n trochi a helpu i hyrwyddo dysgu a datblygu, gan gryfhau empathi a chanolbwyntio ar ganlyniadau unigol.

Defnyddir yr hyfforddiant Realiti Rhithwir fel adnodd ymyrraeth hefyd mewn unrhyw gyd-destun diogelu er mwyn gwella bywydau plant a phobl ifanc ac mae’n rhoi safbwynt unigryw i weithwyr proffesiynol, rhieni, gwarcheidwaid neu ddarparwyr gofal o brofiad go iawn rhywun sy’n gweithio i reoli trawma.

Dywedodd Kevin Jarvis, Rheolwr Tîm, Cymorth i Fusnesau: “Mae’r dull unigryw hwn o ddysgu yn seiliedig ar brofiad uniongyrchol o ofal cymdeithasol a’r materion allweddol sy’n wynebu unigolion sydd wedi profi digwyddiadau bywyd trawmatig, ac mae’n boblogaidd gan ymgysylltu pobl a sefydlu fforwm cryf ar gyfer trafodaeth a myfyrdod ar wraidd trawma.

"Yn Sir Ddinbych, rydym yn ystyried defnyddio Realiti Rhithwir fel dull blaengar o ddysgu a datblygu a fydd yn ategu ein modelau darparu presennol a hyrwyddo trafodaeth am sut gallwn ni i gyd fod yn fwy ymwybodol o drawma wrth i ni weithio.”

Dywedodd Laurel Morgan, Rheolwr y Tîm Therapiwtig: “Mae wedi bod yn ddefnyddiol defnyddio Realiti Rhithwir i wella arfer myfyriol, creu rhagor o fewnwelediad a datblygu ein ffordd o feddwl o ran arfer a gaiff ei lywio gan drawma.

"Rydym wedi defnyddio Realiti Rhithwir yn y Gwasanaethau Plant, gydag asiantaethau partner a gyda’r teuluoedd yn Sir Ddinbych.

"Mae wedi bod yn adnodd defnyddiol i hyrwyddo ymgysylltiad a dealltwriaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’n bwysig bod gan ein staff y ddealltwriaeth orau o’u meysydd arbenigol.

"Bydd yr hyfforddiant Realiti Rhithwir hwn yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth staff ymhellach wrth weithio gydag unigolion mwy diamddiffyn, gan helpu i feithrin ymatebion gwell a mwy deallus.”

Cerbydau trydan ar gyfer staff gofal cymdeithasol

Mae'r Cyngor wedi bod yn helpu’r sector gofal cymdeithasol a lleihau ei ôl-troed carbon drwy hwyluso’r defnydd o gerbydau trydan yn ogystal â darparu mynediad at wersi gyrru i staff sy’n darparu gofal yn y cartref.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor erbyn hyn wedi caffael 10 cerbyd trydan sydd ar gael i staff sy’n darparu gofal ac wedi dyfarnu grantiau i ddarparwyr ar gyfer gwersi gyrru.

Yn dilyn proses ymgeisio, mae dau ddarparwr gofal yn y cartref, Co-options a ThÅ· Alexandra, wedi cael dau gerbyd trydan ar brydles bum mlynedd heb unrhyw gost. Mae’r Cyngor hefyd wedi rhoi beic trydan i Co-options at ddefnydd staff gofal nad ydyn nhw’n gyrru.

Mae’r cerbydau eraill yn cael eu defnyddio gan staff gofal yn y cartref y Cyngor.

Mae’r cerbydau trydan, yn ogystal â’r grantiau gwersi gyrru sydd wedi’u dyfarnu i staff gofal, yn cefnogi gweithwyr gofal yn y cartref i ddarparu gofal sydd wir ei angen i ddinasyddion y sir.

Cerbydau gofal cymdeithasol

Mae cerbydau fflyd y Cyngor yn cael eu newid am gerbydau trydan wrth iddyn nhw ddod i ddiwedd eu hoes. Maen nhw’n cael eu disodli gan gerbydau sy’n allyrru llai o garbon.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y cerbydau hyn yn helpu’r amgylchedd yn ogystal â helpu’r staff sydd yn eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau pwysig a gofal i bobl Sir Ddinbych.

"Mae’n wych bod darparwyr gofal yn y cartref annibynnol yn cael mynediad at y cerbydau hyn, gan fod defnyddio cerbydau trydan yn helpu i leihau’r carbon sy’n cael ei gynhyrchu.”

Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid hwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru gan fod cludiant dibynadwy ar gyfer ein timau gofal cymdeithasol yn hanfodol.

"Maent yn chwarae rhan enfawr wrth gefnogi a gofalu am y bobl yn ein sir.

"Nid yn unig y mae’r fenter hon yn cefnogi ein cenhadaeth i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i’n cymuned, mae o hefyd yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar i’n gwlad sy’n hanfodol.”

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid