Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych wedi helpu canolbwynt cymunedol i fod yn fwy effeithlon o ran ei ddefnydd o ynni.
Gyda chymorth staff y Cyngor mae gwaith wedi’i wneud yn Ysgol Dyffryn Iâl i leihau’r defnydd o ynni a chostau ynni i’r disgyblion ac aelodau'r gymuned sy’n defnyddio’r ysgol a’r neuadd goffa.
Mae Tîm Ynni’r Cyngor yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a chefnogi gostyngiad mewn costau yn yr hirdymor. Mae’r gwaith hwn yn digwydd yn ystâd adeiladau annomestig y Cyngor sy’n cyfrif am dros 60 y cant o allyriadau carbon y Cyngor.
Mae staff y tîm ynni ar hyn o bryd yn gweithio i wella effeithlonrwydd ac amgylchedd adeiladau’r ysgol drwy orffen y gwaith o osod y panel solar PV 4kw ar y to i ddarparu trydan adnewyddadwy. Bydd goleuadau LED a gwresogydd dŵr pwmp gwres ffynhonnell aer yn cael eu cyflwyno i’r safle yn y flwyddyn newydd er mwyn lleihau defnydd a chostau ynni.
Yn ogystal llwyddodd y gymuned leol i gael cyllid grant ar gyfer y Neuadd Goffa ar safle’r ysgol er mwyn gwneud gwaith effeithlonrwydd ynni ar yr adeilad a ddefnyddir gan drigolion o bob oed.
Wedi clywed bod y gymuned yn buddsoddi mewn gwella’r ganolfan bentref bwysig, helpodd Tîm Ynni’r Cyngor nhw i ddod o hyd i’r system orau iddyn nhw er mwyn sicrhau gostyngiad yn nefnydd a chostau ynni’r adeiladau.
Meddai Robert Jones, y Prif Reolwr Ynni: “Wrth i ni weithio ar Ysgol Dyffryn Iâl, cawsom wybod gan y gymuned am y cynlluniau ar gyfer y Neuadd Goffa sydd ar yr un safle. Cawsom olwg ar y cynlluniau gan eu cynghori i addasu’r manylebau i osod system PV 18kw gyda batri 18kw a fydd yn eu helpu i storio’r ynni ychwanegol a gynhyrchir gan yr haul i helpu i redeg yr adeilad yn fwy effeithlon a lleihau allyriadau carbon.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon a’r defnydd o ynni ar draws ein holl adeiladau drwy ymgymryd â phrosiectau a fydd yn arwain at leihad mewn costau yn yr hirdymor.
“Mae in tîm ynni yn gwneud llawer o waith ar draws cymunedau ac rwy’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw am helpu’r canolbwynt cymunedol pwysig hwn i sicrhau fod y gwaith effeithlonrwydd ynni yno o’r math mwyaf priodol."