Mae digwyddiad cyhoeddus yn Ninbych wedi helpu i greu syniadau newydd i fynd i’r afael â materion newid hinsawdd sirol.
Bu i dros 50 o bobl ddod i’r digwyddiad Adolygu Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol Cyngor Sir Ddinbych yn Neuadd y Dref Dinbych.
Mae’r Cyngor yn diweddaru eu cynlluniau ar hyn o bryd i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.
Bu budd-ddeiliad o’r Sir yn rhannu eu barn ar sut y gall y Cyngor weithio gyda a hefyd cefnogi cymunedau i ostwng carbon, storio carbon, gwytnwch hinsawdd ac adferiad natur leded Sir Ddinbych.
Cafodd y digwyddiad rhyngweithiol ei arwain gan Dr Alan Netherwood o Netherwood Sustainable Futures a Dafydd Thomas o The Wellbeing Planner.
Roedd cynrychiolwyr o Gyfeillion y Ddaear Sir Ddinbych, Caffi Trwsio Rhuthun, Cyngor Tref Dinbych, Cyngor Tref Prestatyn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Extinction Rebellion, Cyfoeth Naturiol Cymru, Elwy Working Wood, Cyngor Cymuned Nercwys, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru ymysg y rhai oedd yn bresennol.
Roedd themâu a drafodwyd, ar gyfer symud mentrau ymlaen yn y sir i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac amddiffyn natur, yn cynnwys mwy o gydweithio rhwng y Cyngor a budd-ddeiliad eraill i rannu sgiliau i gefnogi mentrau lleol i ddatblygu a chymunedau a chyrff sector cyhoeddus i gydweithio i fynd i’r afael â materion hinsawdd a natur sy’n bresennol ar hyn o bryd ac i addasu i broblemau’r dyfodol sy’n debygol o godi.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roeddwn yn bresennol yn y digwyddiad ac roedd yn braf iawn clywed sgwrs mor fanwl ynglŷn â sut gallwn symud ymlaen trwy weithio gyda chymunedau ledled Sir Ddinbych i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am yr adborth a gawsom yn ystod y sesiwn trwy sianeli eraill i ymdrin â’r materion pwysig hyn gan fod y Cyngor yn awyddus i wrando ar drigolion, grwpiau a chymunedau ledled y sir er mwyn i ni fynd i’r afael â newid hinsawdd gyda’n gilydd i roi gwell cefnogaeth i genedlaethau'r dyfodol yn Sir Ddinbych.”
Bydd gwybodaeth o’r digwyddiad yn ffurfio rhan o Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor a fydd yn arwain gwaith y Cyngor ar weithredu ar hinsawdd ac adferiad natur hyd at 2030. Gallwch glywed y diweddaraf am ein gwaith hinsawdd a natur trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio trwy https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/kms/news.aspx?strTab=PublicEntry