Disgyblion Dinbych yn camu ymlaen i helpu bioamrywiaeth leol i ffynnu
Mae disgyblion cynradd Dinbych wedi rhoi hwb i fioamrywiaeth dôl blodau gwyllt lleol i’r dyfodol.
Bu disgyblion Ysgol y Parc yn brysur yn plannu blodau gwyllt yn nôl Parc Alafowlia.
Treuliodd bron i 50 o ddisgyblion blwyddyn 2 fore gyda thîm Bioamrywiaeth y Cyngor a gwirfoddolwyr eraill, gan helpu i wella’r safle presennol drwy dyfu bron i 1,700 o blanhigion ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy.
Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn 2019 ac mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi yn y safleoedd cysylltiedig i gyd hyd yma.
Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ledled y sir i blannu plygiau blodau mewn dolydd.
Bydd plannu mwy o flodau’n helpu i greu dolydd mwy lliwgar ac amrywiol a chefnogi mwy ar fioamrywiaeth ein natur a’n cymunedau lleol.
Mae dôl Dinbych eisoes wedi cymryd rhan mewn cynllun llwyddiannus i gyflwyno cribell felen sydd wedi lleihau hyd y glaswellt ar y safle gan alluogi’r planhigion presennol i ffynnu’n gryfach.
Bydd y blodau gwyllt ychwanegol a blannwyd gan y disgyblion yn golygu y bydd mwy o fwyd ar gael yn y ddôl i wenyn a pheillwyr eraill sy’n cefnogi ein cadwyn fwyd. Bydd rhagor o flodau gwyllt hefyd yn cefnogi natur leol drwy ddarparu rhagor o bryfaid i fwydo anifeiliaid megis adar, gan ddarparu bywyd gwyllt i’w fwynhau gan y gymuned ehangach.
Meddai Evie Challinor, Swyddog Bioamrywiaeth: “Roedd yn wych gweithio gyda disgyblion i blannu blodau gwyllt yn y ddôl. Roedd y plant yn hynod frwdfrydig i’n helpu ni i gefnogi natur leol a gobeithiaf y byddant yn dychwelyd i’r safle'r flwyddyn nesaf i weld y twf.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Rwy’n hynod o falch o sut mae disgyblion Ysgol y Parc wedi camu ymlaen i roi cymorth gwerthfawr i’r natur leol sydd ar eu carreg drws.
“Mae ein hecosystemau ar draws Cymru a’r ardal ehangach yn dirywio yn anffodus, ac felly mae’n bwysig ein bod yn ceisio atal hyn a rhoi cyfle i’n plant a’n hwyrion a’n hwyresau i brofi a chefnogi bywyd gwyllt a natur i’r dyfodol… ni ddylen nhw orfod colli allan ar yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd.
“Mae’n braf iawn gweld y disgyblion hyn yn gweithio’n galed i ddysgu am y gefnogaeth sydd ei hangen ar ein natur a gobeithiaf y byddan nhw eu hunain yn falch o’r gwaith y maent wedi’i wneud pan fyddant yn ymweld â’r safle yn y dyfodol.”
Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth gyda'r Cyngor: “Roedd yn bleser cael gweithio gydag Ysgol y Parc ar y prosiect yma. Roedd y plant mor frwdfrydig ac rwy’n gobeithio eu bod yn teimlo perchnogaeth dros y ddôl brydferth hon sydd mor agos i’w hysgol.”