llais y sir

Dymuniad ar gyfer y Nadolig ..........

Mae’r Nadolig yn amser ar gyfer teulu, ffrindiau a hwyl, ond gall roi straen ar yr amgylchedd hefyd. Wrth i ni i gyd ddechrau cynllunio ar gyfer y diwrnod mawr a dewis anrhegion ar gyfer ein hanwyliaid, mae’n amser da i gadw’r amgylchedd mewn cof.

Mae llawer o fuddion i fod yn gynaliadwy, ac fe allai’r newidiadau syml yma dros gyfnod y Nadolig wneud gwahaniaeth mawr i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd a sicrhau ein bod yn amddiffyn ein planed ar gyfer cenedlaethau i ddod. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau mai hwn yw’r Nadolig mwyaf eco-gyfeillgar eto!

Mae’r Tîm Newid Hinsawdd yn barod i’ch helpu i gael Nadolig Eco-gyfeillar! Dyma ein hawgrymiadau gwych:

“O Goeden Hardd a Chynaliadwy .......…”

  • Os nad oes gennych chi goeden artiffisial yn barod, ceisiwch osgoi plastig. Mae coed Nadolig go iawn yn llawer mwy cynaliadwy na rhai artiffisial.  Daeth un astudiaeth i’r casgliad y byddai angen i chi ddefnyddio coeden ffug am 20 mlynedd iddi fod yn fwy “gwyrdd”.
  • Wedi dweud hynny, cofiwch ailgylchu eich coeden go iawn ar ôl cyfnod y Nadolig. Mae tua saith miliwn o goed go iawn yn debygol o gael eu taflu ym mis Ionawr!  Os oes gennych chi gasgliad gwastraff gwyrdd, fe fydd y Cyngor yn casglu eich coeden ac yn ei hailgylchu i chi, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi. Fe allwch chi drefnu i fynd â’ch coeden i’r gwastraff gwyrdd yn eich depo gwastraff, neu fel arall, gallwch ei thorri i fyny a phentyrru’r coed yn eich gardd er mwyn i’r adar a’r trychfilod eu mwynhau.  
  • Sicrhewch fod eich coeden go iawn yn dod gan werthwr cynaliadwy lleol sy’n cyfrannu at eich ardal leol.

“O Deuwch, Ailgylchwch”

  • Credir fod tua 1.5 biliwn o gardiau Nadolig yn cael eu taflu gan aelwydydd y DU bob blwyddyn (sydd tua 33 miliwn o goed). Beth am anfon e-gerdyn at ffrindiau a theulu eleni? Neu fel arall gallech anfon cardiau Nadolig y gellir eu plannu y gall eich anwyliaid sy’n eu derbyn eu hau yn y gwanwyn a mwynhau llysiau neu flodau gwyllt yn eu gardd y flwyddyn nesaf.
  • Mae calendrau Adfent tafladwy yn cynnwys llawer iawn o blastig ac ychydig iawn o siocled. Mae calendr y mae modd ei ailddefnyddio yn gyfle i chi roi danteithion eich hunain ynddynt a’u defnyddio eto bob blwyddyn.

“Pwy sy’n Dŵad Dros y Bryn”

  • Mae prynu anrhegion rydych chi’n gwybod y bydd pobl yn eu mwynhau a’u defnyddio am gyfnod hir yn ymddangos yn amlwg, ond trwy beidio â phrynu’r anrhegion gwirion nad ydynt yn para ar ôl wythnos y Nadolig, rydych yn arbed gwastraff.
  • Cadwch lygad am siopau a chwmnïau sy’n gwerthu anrhegion ecogyfeillgar. Efallai y gallech chi brynu potel y gellir ei hailddefnyddio, mabwysiadu anifail, prynu aelodaeth ar gyfer yr RSPB neu’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt neu ddod o hyd i anrhegion mwy gwyrdd megis dillad, esgidiau, pethau ymolchi moesegol a llawer o bethau eraill.
  • Siopwch yn lleol! Cefnogwch y siopau annibynnol yn eich ardal leol a lleihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.
  • Beth am gael Nadolig crefftus. Mae anrhegion cartref bob amser yn cael eu croesawu a’u trysori.  Mae torch Nadolig naturiol, danteithion i’w bwyta neu galendr Adfent cartref i’w mwynhau dros y Nadolig yn syniadau carbon isel.  
  • Ceisiwch lapio’r anrhegion gyda phapur wedi’i ailgylchu neu mewn ffabrig lliwgar y gellir ei ailddefnyddio – fe allai hyn fod yn anrheg yn ei hun, yn ogystal ag edrych yn hardd!

“Mae’r Twrci ‘Leni Werth Ei Weld…”

  • Ceisiwch brynu yr hyn rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n eu bwyta’n unig a dewiswch eitemau sydd heb lawer o ddeunydd pacio. Os bydd gennych chi fwyd dros ben, fe ellir eu defnyddio i greu prydau bwyd ar gyfer rhywbryd eto er mwyn arbed arian a lleihau gwastraff.  Mae awgrymiadau sut i siopa a choginio’n gynaliadwy i’w gweld yma https://food-drink.wales/cy/home/.
  • Oes gennych chi westai fegan yn galw? Peidiwch â phoeni, mae llawer o ryseitiau fegan blasus ar gael ar-lein. Beth am roi cynnig ar un fel newid bach?
  • Ceisiwch brynu cynnyrch cig gan siopau cigydd lleol neu’n uniongyrchol gan eich ffermwr lleol er mwyn lleihau nifer y milltiroedd mae eich cig yn teithio a chefnogi busnesau lleol.
    • Y tractor coch – mae’n ardystio Safonau Cynhyrchu Bwyd Prydeinig.
    • Nod LEAF – mae’n dangos bod cynnyrch wedi dod gan ffermwyr sy’n canolbwyntio ar ddulliau ffermio cynaliadwy.
    • Masnach Deg – mae’n mynd i’r afael ag anghyfiawnder trwy sicrhau bod ffermwyr dan anfantais yn ne’r byd yn cael prisiau teg am eu cynnyrch.
    • Organig – gallwch fod yn ffyddiog bod y ffermwr yn dilyn set gaeth o reolau a chanllawiau wrth gynhyrchu bwyd.Mae rhai labeli’n dangos safonau a chynaliadwyedd eich bwyd.

Amser Parti

  • Efallai bod dillad newydd ar gyfer parti Nadolig yn swnio’n gyffrous, ond mae ffasiwn yn cyfrannu at 8-10% o allyriadau carbon byd-eang. Beth am drefnu i gyfnewid dillad gyda ffrindiau neu brynu dillad ail-law, er enghraifft o siopau elusen lleol neu wefannau dillad ail-law fel Vinted? Os byddwch chi’n penderfynu prynu dillad newydd, defnyddiwch siopau sy’n agored o ran sut a lle caiff eu heitemau eu cynhyrchu.

Nadolig Llawen Eco a Blwyddyn Newydd Dda Gynaliadwy i chi i gyd!

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid