Mae myfyrwyr yn Y Rhyl wedi torchi’u llawes i roi help llaw i natur yn lleol.

Yn ddiweddar fe ymunodd tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych â myfyrwyr ôl-16 Ysgol Tir Morfa, i’w helpu i greu ardal newydd o flodau gwyllt a fydd yn addas i wenyn, ar eu safle ar Grange Road.

Gyda chefnogaeth eu hathrawon, mae’r myfyrwyr eisoes wedi creu ardal amaethyddol brysur y tu allan i’w hysgol, drwy dyfu llysiau, blodau lluosflwydd a choed ffrwythau.

Bellach, maent wedi ennill statws Cyfeillgar i Wenyn ar y safle drwy ddatblygu ardal blodau gwyllt gyda chymorth tîm Bioamrywiaeth y Cyngor.

Nod cynllun Cyfeillgar i Wenyn Llywodraeth Cymru yw cefnogi adferiad gwenyn a pheillwyr eraill.

Bydd yr holl flodau gwyllt a blannwyd gan y myfyrwyr yn helpu i greu bioamrywiaeth sydd yn fwy lliwgar, yn amrywiol a chryfach o amgylch y safle er mwyn i natur lleol, myfyrwyr a staff ei fwynhau.

Dywedodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Rydw i’n falch ein bod wedi gallu ymgysylltu â’r myfyrwyr i greu’r ardal Cyfeillgar i Wenyn yma ar safle’r ysgol, mae’n ymddangos eu bod wedi mwynhau’r diwrnod yn plannu, ac fe fyddant yn gweld yr ardal yn newid ac yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig iawn creu’r cynefinoedd yma o fewn ysgolion, er mwyn cefnogi poblogaethau o beillwyr a bywyd gwyllt eraill ar draws ein hardaloedd trefol, ac ar gyfer y manteision iechyd meddwl y bydd hyn yn ei gynnig i fyfyrwyr - mae wedi cael ei brofi bod cyn lleied â 5 munud o gyswllt gyda natur yn gwella lles meddyliol. Fe hoffwn i annog ysgolion eraill i gysylltu â ni os hoffen nhw ymgeisio am statws Cyfeillgar i Wenyn, neu gael cyngor o ran sut i gynyddu bioamrywiaeth ar safle eu hysgol.”

Dywedodd disgyblion o’r grŵp a fu’n gweithio ar yr ardal blodau gwyllt: “Fe weithion ni’n galed heddiw ond fe aeth yr amser yn gyflym iawn oherwydd ei bod hi’n hwyl bod yn yr awyr agored a dysgu am yr ardd. Fe wnaethom ddysgu nad ydi blodau gwyllt yn hoffi cael maeth yn y pridd a gobeithio y bydd y blodau yn gwahodd gwenyn a gloÿnnod byw i’r ardd. Rydym ni’n falch iawn o’r gwaith rydym ni wedi’i wneud ac rydym yn mwynhau treulio amser yn yr ardd gan wybod ei fod yn dda i’r amgylchedd.

Dywedodd yr Athrawes, Sara Griffiths: “Mae cael y gefnogaeth yma i blannu gardd blodau gwyllt wedi bod yn gyfle gwych i’n disgyblion ddysgu am fioamrywiaeth, peillwyr a chreu man digynnwrf. Fe wnaethom ni fwynhau creu gardd blodau gwyllt ac rydym ni rŵan yn edrych ymlaen at weld y blodau’n tyfu, gweld y peillwyr a rheoli’r ardal.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Dyma waith gwych gan y myfyrwyr, bydd eu hymdrechion yn wirioneddol helpu natur i dyfu o amgylch safle’r ysgol. Maent wedi creu ardal bioamrywiaeth gwych a fydd yn cefnogi natur i ddod yn ôl i’r ardal leol, a rhoi rhywbeth iddynt fod yn falch ohono pan fyddant yn ei weld yn tyfu ac yn ffynnu.”